Coroni Vettel yn India?

 


Vettel
Mae rownd nesaf y bencampwriaeth byd F1 yn mynd i India’r penwythnos yma, i’w rhedeg ar y ‘Buddh International Circuit’ yn Greater Noida, Delhi Newydd.

Trafferth y trac

Mae hon yn ras arall gafodd ei chomisiynu mewn gwlad Asiaidd gyda mwy o olwg ar arian na phoblogrwydd, gyda’r ras gyntaf yn cael ei chynnal yno yn 2011.

Eisoes mae wedi ei dynnu oddi ar galendr 2014 oherwydd anghytundeb gyda Bernie Ecclestone, gan ei fod yntau eisiau cynnal y ras yn gynharach yn y flwyddyn tra bod trefnwyr y digwyddiad yn dadlau nad ydy hynny’n bosib gyda chyn lleied o fwlch rhwng ras 2013 a 2014.

Y tebygrwydd felly yw y bydd y ras nesaf ar y trac yma’n digwydd yn 2015.

Coroni Vettel?

Gyda bwlch o 90 pwynt rhwng Vettel  ac Alonso, a dim ond 100 pwynt dal ar gael,  y tebygrwydd yw y bydd yr Almaenwr yn cael ei goroni ‘n bencampwr y byd ar ôl y ras yma.

Os nad oes gan Vettel eisoes ddigon o fantais, fo sydd wedi arwain pob lap o’r dair ras sydd wedi eu cynnal ar y trac yma hyd yn hyn.

Ac mae’r trac ei hun wedi derbyn sylwadau positif gan y gyrwyr, gyda chorneli heriol a rhannau cyflym iddo.

Pencampwriaeth y timau

Gyda’r tymor yn tynnu tua’i derfyn bydd Lotus yn edrych i gau’r bwlch ymhellach ar Mercedes ym mhencampwriaeth y timau.

Lleoliad ym mhencampwriaeth y timau yw beth fydd yn penderfynu faint o arian gwobr bydd pob tîm yn cael y tymor nesaf, felly gallai pwyntiau ychwanegol fod yn werthfawr iawn nawr. Mae’n creu sefyllfa ryfedd ble mae rhai gyrwyr yn poeni fwy am un tlws, a rhai am y llall.

Ond yn groes i bopeth dw i wedi ei ddweud  hyd yma, dw i ddim yn credu y bydd Vettel yn ennill y tro yma – dw i’n rhagweld damwain neu fethiant ar y car, a’r bencampwriaeth yn dal yn fyw am o leiaf un ras arall!

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd