Adolygiad O’r Nyth

Diweddarwyd  



Pur anaml y rhyddheir albwm ac arni gasgliad o artistiaid amrywiol yn y Gymraeg – ac eithrio label Recordiau Lliwgar, gallaf ond enwi llond llaw o albyms o’r fath.

Wrth gwrs, cawsom wledd ar ffurf Deuddeg y llynedd a ddaeth am ddim gyda chylchgrawn Y Selar, ac mae Sain yn rhyddhau nifer o gasgliadau o’r golden oldies bob nawr ac yn y man i blesio Mam-gu.  Efallai wir, ei bod hi’n hen bryd i ni dderbyn casgliad aml-gyfrannog newydd…

Lwcus felly, bod Nyth ar fin rhyddhau eu record gyntaf, O’r Nyth.

Mae Nyth yn gyfarwydd fel trefnwyr digwyddiadau byw yng Nghymru, gan roi llwyfan i nifer o artistiaid a bandiau Cymraeg, boed hen neu newydd, gan hefyd bwysleisio’r angen i greu naws ac ychwanegu elfen weledol gref i’w llwyfannau.

Nifer o gigs yn ddiweddarach, a llwyfannau llwyddiannus yng ngwyliau megis Gŵyl Gwydir dros yr haf, maent yn barod i ryddhau eu record finyl gyntaf, sy’n gasgliad o ganeuon gan naw artist amrywiol.

Rhestr odidog o enwau

Ymhlith y rhestr odidog honno o gerddorion mae Afal Drwg Efa, Violas, Sen Segur, Casi Wyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Alun Gaffey a Plyci.

Wrth edrych arnynt yn enwau ar sgrin, ni fyddent yn gasgliad y byddem wedi eu grwpio gyda’i gilydd ar albwm, ond mae’n gyfuniad sy’n gweithio yn hynod o dda. Mae’n gybolfa ryfeddol o reggae, cerddoriaeth electronig a roc sy’n arddangos rhai o’r goreuon ymhlith cerddorion Cymreig cyfoes.

Cân newydd, ‘Unreal or is it?’, gan Sen Segur sy’n ein croesawu i’r casgliad ar yr ochr gyntaf. Cân ag iddi naws acwstig Americanaidd yn llais dwfn Ben Elis wedi ei osod ar gefndir o synths hudolus sy’n nodweddiadol o arddull unigryw Sen Segur.

Maent yn fand sy’n eich swyno a’ch hudo… ac nid yw’r gân hon yn ddim gwahanol. Mae’n ddewis gwych ar gyfer trac gyntaf. Dilynir gan ‘Hardd’ gan Casi Wyn – cân gref arall gan y gerddores ifanc â llais swynol a phersain, a chân farddonol sy’n gyrru ias i lawr eich cefn – mewn ffordd dda, wrth gwrs!

Yn dilyn hyn, newidir yr awyrgylch yn llwyr gan Gwyllt, a’u cyfraniad hwythau, ‘Dyffryn Nunlle’. Cân reggae yw hon, sy’n adleisio Anweledig gynt, ac yn gweddu’n berffaith i’w stori am fywyd caled unigolyn. Trac syml, ac elfen gritty a thlawd iddi, a rhaid cyfaddef, fy mod i’n dal i glywed fy hun yn canu’r cytgan bachog wedi iddi orffen.

Uchafbwynt

Osian Howells, un o aelodau Yr Ods, sydd yn ein harwain at, o bosib, uchafbwynt yr ochr gyntaf. Mae ‘Rhywbeth Gwell’ yn “epig”, fel y disgrifiwyd hi ar raglen ddiweddar Lisa Gwilym, ac yn dystiolaeth ddigon clir (os oedd ei angen) o ddawn y cantor yma i lunio riffs gitâr ac alawon cofiadwy. Diwedd teilwng iawn i’r ochr gyntaf.

Sain hen gyfarwydd Cowbois Rhos Botwnnog sy’n dechrau ail ochr y record. Sain werinol, ar ffurf y gân ‘Tyrd Olau Gwyn’, ac mae iddi naws agos-atoch a theimladwy.

Cân wirioneddol hyfryd – ac yn wrthgyferbyniad llwyr i’r trac sy’n ei dilyn, sef ‘Ebol Ebol’ gan Plyci. Mae’n floedd electronig sy’n cosi eich clustiau, gan arwain at guriad Frankenstein-aidd, sinistr erbyn y diwedd.

Pe baech yn mynnu lladd o gwbl ar y casgliad hwn, gallwn ddadlau nad yw’r trac hwn yn gweddu i sŵn cynnes record finyl – credaf y byddai’n drac sy’n gweddu’n well i glwb nos anferth yn Ibiza, ond manylyn bach yw hyn mewn gwirionedd.

Cân gref Gaff

‘Fy Natur Ddeuol’, cân gan un o drefnwyr Nyth a chyn-aelod o Racehorses, Alun Gaffey, yw’r cyfraniad nesaf – ac o bosib, un o ganeuon cryfaf y casgliad. Mae dylanwad Racehorses yn amlwg yn y gân chwareus hon, a byddwn wrth fy modd yn ei chlywed yn cael ei pherfformio’n fyw.

Clywn awgrym o ffync ac awgrym electrig gyda dôs go hegar o indie-pop – ac mae’n comeback teilwng iddo fel artist unigol.

Rwyf hefyd yn hoff iawn o gyfraniad Violas, ‘Glide’ – roc ag iddo naws tipyn tywyllach na gweddill y casgliad, yn debyg iawn i waith tawelach Funeral For a Friend. Mae’r llais cefndirol a’r ynganiad brawychus “Too young to die…” ar ddiwedd y gân yn crisialu elfen iasoer y darn.

Ac felly yn arwain at y trac olaf sy’n cloi’r cwbl – ‘Gwyll. Gwawr.” gan Afal Drwg Efa. Mae’n gân electronig sy’n dirwyn yr albwm i ddiwedd pwrpasol – yn unol â’r teitl, mae’n gân sy’n cyfleu’r elfen o nos yn esblygu’n ddydd.

Cyfraniadau gwych

Felly, wedi traethu am bob cân, gan na theimlwn y gallwn adael yr un o’r caneuon allan o’r adolygiad hwn â hwythau oll yn gyfraniadau gwych gan ddetholiad arbennig o artistiaid, gwn nad yw pwt o frawddeg am bob un ohonynt yn gwneud teilyngdod â’r casgliad hwn.

Gobeithiaf fy mod wedi eich argyhoeddi bod hwn yn gasgliad gwirioneddol wych, sy’n arddangos amrywiaeth y dalent ifanc, gyfoes sy’n ffurfio ein sin gerddorol Gymraeg. Bydd cyfle i weld rhai o’r cyfranwyr hyn ar eu gorau yn lansiad y record, dydd Sadwrn yma (y 19eg o Hydref), yn Gwdihŵ yng Nghaerdydd, fel rhan o Ŵyl Sŵn.

Fis Tachwedd y rhyddheir y casgliad O’r Nyth, ac mae modd ei rag-archebu ar wefan Nyth. Yn sicr, mae’n gasgliad aml-gyfrannog werth ei berchen a mawr ddiolch i griw Nyth am ei rhoi’n rhodd i ni, yn ogystal â gweithio’n ddiwyd i hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg.

Hir oes iddynt fel  criw – yn enwedig os ydynt yn bwriadu rhyddhau casgliadau mor gyfoethog â hyn eto yn y dyfodol.

Mae modd gwrando ar ragor o draciau’r casgliad ar eu Soundcloud.

Gallwch ddilyn Miriam ar ei blog neu ar Twitter ar @miriamelin23.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd