Rhagolwg Grand Prix Siapan

 



Ein gohebydd F1, Phil Kynaston, sydd yn edrych ymlaen at y ras yn Suzuka

Mae Fformiwla 1 yn symud ymlaen i Siapan y penwythnos yma, i gwrs Suzuka gafodd ei adeiladu yn y 60au. Cwmni Honda sydd yn berchen arno – ac mae parc thema ar y safle hefyd!

Y trac

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gyrsiau Asia, mae Suzuka yn gwrs poblogaidd, gyda’r gyrwyr a’r cefnogwyr. Mae ganddo gorneli cyflym a heriol i’r gyrwyr fwynhau, megis 130R (sydd yn cymryd ei enw gan nifer y graddau yn ei radiws), sy’n cael ei drafod yn yr un modd a’r enwog Eau Rouge yn y Wlad Belg. Hefyd, yn eithaf unigryw, mae o’n drac ffigwr 8 gydag un darn, ar dir uwch, yn pasio dros y darn arall.

Ras 2012

Hefyd yn wahanol i’r rhan fwyaf o wledydd Asia, mae cefnogwyr F1 Siapan ymysg y mwyaf brwd yn y byd.

Does dim ond angen edrych yn ôl i ras flwyddyn ddiwethaf pan gafodd y Siapanewr Kamui Kobayashi ei unig bodiwm, pan oedd modd clywed y cefnogwyr yn gweiddi yn ystod seremoni’r tri uchaf “KAMUI, KAMUI, KAMUI!”.

Yn ogystal â dathlu ei lwyddiant, roeddynt yn ceisio annog ei dîm – yn aflwyddiannus fel y trodd allan – i beidio â’i ollwng ar gyfer 2013. (Gyda llaw dydi Kobayashi heb wneud daioni i’w obeithion o ddychwelyd i sedd ras F1 gyda’r ddamwain yma mewn digwyddiad PR tu ôl i olwyn Ferrari! – <http://www.youtube.com/watch?v=sRDBcdlo4JY>).

Roedd y ras honno’n un o drobwyntiau’r tymor wrth i Vettel ennill ar ôl i Alonso ymddeol o’r ras, gyda’r Almaenwr yn torri’r bwlch ar Alonso am y bencampwriaeth i bedwar pwynt.

Y Dyfodol a’r Gorffennol

Ond i adio at y cynnwrf F1 yn Siapan, mae Honda yn dychwelyd fel darparwyr injan i McLaren yn 2015 am y tro cyntaf ers iddynt adael gyda phroblemau ariannol yn 2008 – dim ond i weld Jenson Button (gyrrwr presennol i McLaren) yn ennill pencampwriaeth yn y car a adeiladodd Honda (ond o dan yr enw ‘Brawn GP’)!

Y ffordd mae’r cytundebau yma’n gallu gweithio, gall hyn olygu y bydd yna le i yrrwr o Siapan gyda McLaren yn y dyfodol. Cafodd tîm Super Aguri ei sefydlu yn 2006 am y rheswm bod Honda eisiau symud Takuma Sato o’r prif dîm, ond hefyd eisiau cadw’r cefnogwyr yn hapus!

Mae Suzuka wedi bod trac sydd wedi penderfynu’r bencampwriaeth yn y gorffennol hefyd, gan gynnwys dau drawiad enwog rhwng Alain Prost ac Ayrton Senna ym 1989 ac 1990.

Rhagolygon

Mae’n bosib y gall Suzuka benderfynu ffawd y bencampwriaeth eto yn 2013, ond dim ond os ydi Vettel yn ennill (tebyg iawn o ddigwydd!) ac Alonso yn gorffen dim uwch na 9fed (ddim mor debyg o ddigwydd!).

Bydd Lewis Hamilton hefyd yn edrych i gau’r bwlch eto rhyngddo fo a Raikkonen yn y trydydd safle ar ôl i’r gŵr o’r Ffindir orffen ar y podiwm yn y ras ddiwethaf.

Eto, fy nhyb i yw bydd Red Bull yn gwneud yn dda, gyda’r car a ddyfeisiwyd gan Adrian Newey yn gryf iawn mewn ‘downforce’, a Mark Webber yn awyddus iawn i wneud yn dda ar drac mor hanesyddol gyda’i yrfa’n tynnu tua’i derfyn.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd