RSS

Golwg360

MwyCau 

Adolygiad: Pokémon Go

Cyhoeddwyd Gorffennaf 13, 2016 gan Ifan Morgan Jones.


Daliwch hwynt oll
Ifan Morgan Jones sy’n mwynhau Diwygiad Mawr Pokémon 2016.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd cwmni Nintendo y gêm Pokémon ddiweddaraf, ac mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn syfrdanol, gan godi gwerth chyfranddaliadau’r cwmni dros 50%.

Nid yw’r diwygiad cyfoes yn syndod o ystyried bod y genhedlaeth sydd bellach fwyaf tebygol o feddu ar ffonau clyfar wedi tyfu i fyny yn ystod twymyn Pokémon y 90au.

Mae gen i atgofion hiraethus o hyfforddi fy Charizard a brwydro yn erbyn Blastoise fy nghefnder (roedd o bob tro’n curo yn anffodus – rywbeth i’w wneud â dŵr yn maeddu tân) ac wedi bachu’r cyfle i ail-fyw’r profiad drwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf.

Ond mae’r gêm ddiweddaraf ychydig yn wahanol i’r hyn a ddaeth o’r blaen. Tra bod gemau’r gorffennol yn annog y chwaraewr i archwilio byd rhithiol o fewn y cyfrifiadur, mae Pokémon Go yn troi’n byd go-iawn yn gêm gyfrifiadur.

Rywle allan fan yna yn y byd mae yna 150 o Pokémon yn cuddio. Mae rhaid yn gyffredin iawn, ond bydd angen chwilio ym mhob twll a chornel am rai ohonynt.

Os ydych chi’n anwybyddu’r delweddau lliwgar, bwriad y gêm yw annog pobl i anturio o amgylch eu bro yn chwilio am y Pokémon prin rheini sydd ddim ar eu rhestr.

Rwyf eisoes wedi bod o hyd i eglwys ger fy nghartref nad oeddwn i’n gwybod oedd yno, a llecyn coedwigol braf ger afon, a’r cyfan wrth chwilio am y Pokémon gwibiog.

Bydd rhai Pokémon yn gyffredin iawn mewn gwahanol ardaloedd, yn dibynnu ar yr hinsawdd – e.e. ymddengys bod Pokémon gwair a dŵr yn gyffredin o amgylch fy nghartref yn Nyffryn Teifi.

Os yw pobl am gael gafael ar Pokémon fwy anghyffredin, rhaid mentro ymhellach eto – i’r traeth, i goedwig, i wlad arall hyd yn oed er mwyn cael gafael ar Pokémon sy’n byw yn yr anialwch neu mewn eira neu ddinasoedd mawr.

Mae yna son hefyd am rai Pokémon sy’n bodoli mewn un lleoliad yn y byd yn unig – a fydd yn sicr yn hwb twristiaeth i’r mannau rheini sydd ddigon lwcus i fod wedi eu dynodi yn y fath fodd.

Fel sawl un arall o fy nghenhedlaeth mae’n siŵr rwy’n edrych ymlaen at chwarae’r gêm gyda fy mhlant – gyda gwyliau’r haf yn dechrau mewn ychydig wythnosau, dyma’r esgus perffaith i’w cael nhw allan o’r tŷ ac i dreulio ychydig o amser yn yr awyr agored!

Nid yw’r gêm yn berffaith eto – mae’n torri yn gyson, a hynny mae’n debyg am nad oedd Nintendo wedi rhagweld cymaint o bobl fyddai yn ceisio ei chwarae ar unwaith.

Maent hefyd angen ychwanegu nifer o’r nodweddion rheini a wnaeth y gwreiddiol yn gymaint o hwyl – fel y gallu i gyfnewid Pokémon â ffrindiau a’u brwydro i weld pwy sydd â’r Pokémon cryfaf.

Fel un sydd yn byw ynghanol cefn gwlad, rydw i hefyd yn credu bod chwaraewyr sydd yn byw mewn ardaloedd dinesig yn mwynhau mantais sylweddol.

Rhaid i fi yrru i mewn i’r dref agosaf er mwyn dod o hyd i ‘gym’ – lle y gall chwaraewyr frwydro Pokémon eraill – tra eu bod ar stepen drws rhai o’m cyfeillion.

Ond cwynion bychain yw’r rhain, ac fel pob gêm arall erbyn hyn fe fydd y gwneuthurwyr yn parhau i gyhoeddi diweddariadau er mwyn gwella’r profiad o’i chwarae.

Mae’r gêm am ddim (rhaid talu os am gyflymu’r broses o hyfforddi Pokémon) ac felly’n ffordd hynod o rad o ddifyrru’ch hunain ac eraill dros y misoedd nesaf.

Ysgwn i pa Pokémon fydd ar faes y Steddfod?

Mae disgwyl y bydd Pokémon Go ar gael i’w lawr lwytho yng Nghymru yn y dyddiau nesaf.

Adolygiad #Cymuned Hywel Williams

Cyhoeddwyd Mehefin 23, 2015 gan Ifan Morgan Jones.


Hywel Williams
Ifan Morgan Jones sy’n trafod rhaglen y hanesydd a ddarllenwyd ar S4C ddydd Mawrth…

Dyma raglen anodd iawn ei gwylio, nid oherwydd y deunydd heriol, ond o ganlyniad i’r ffaith bod y golygu yn hynod o araf a chlogyrnaidd, ac mai un llais soniarus a geir drwyddi draw.

Nid trafodaeth ar ‘gymuned’ a geir yma mewn gwirionedd, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, ond ar genedlaetholdeb.

Yn nhyb Hywel Williams, byddai Cymru yn genedl llawer fwy llwyddiannus pe bai, wel, yn rhoi’r gorau i fod yn genedl. H.y. yn troi cefn ar y pethau plentynnaidd megis diwylliant sy’n ei gosod ar wahân i weddill y byd.

Diddorol oedd gwylio’r rhaglen hon yn syth ar ôl darllen Pam na fu Cymru? gan Simon Brooks.

Yn y bôn mae dadansoddiad y ddau yn gymharol, sef bod Cymru yn wlad Ryddfrydol na arddelai genedlaetholdeb yn yr 19eg ganrif, cyn datblygu cenedlaetholdeb ethnig yn yr 20fed ganrif.

Ond tra bod Simon Brooks yn ystyried agwedd Cymry’r 19eg ganrif fel methiant, ac arwydd o ddiffyg hunan-barch ar eu rhan, mae Hywel Williams yn hiraethu am y dyddiau rheini.

Soniodd Simon Brooks yn lansiad ei gyfrol newydd yng Nghlynnog Fawr yr wythnos diwethaf bod y Gymru gyfoes yn debyg iawn i Gymru ail hanner yr 19eg ganrif.

Mae’r un agweddau Rhyddfrydol, neu efallai neo-Ryddfrydol erbyn hyn, ar droed. Efallai bod Hywel Williams yn profi ei bwynt.

Un o wendidau’r rhaglen hon yw ei fod mor ddibynnol ar ddeunydd o archif y Llyfrgell Genedlaethol wrth ddarlunio Cymru.

Os mai dadl Hywel Williams yw bod yr ymwybyddiaeth hon o genedlaetholdeb Cymreig yn bodoli yng Nghymru heddiw, dylid bod wedi defnyddio dyfyniadau a darluniau cyfoes.

Yr argraff a geir o weld darluniau a lleisiau o’r 50au yw mai ef ei hun yn unig sy’n parhau i gredu yn y Gymru ‘mytholegol’ hwn y mae’n son amdano.

Gwendid arall yw ei fod yn dewis cyfosod y deunydd hwn o’r archif gyda delweddau cyfoes o Lundain.

Y diben mae’n siŵr oedd dangos beth allai Cymru ymgeisio tuag ato petai’n troi cefn ar sosialaeth ac yn cofleidio neo-Ryddfrydiaeth.

Y broblem yw bod nifer o’r delweddau a ddewisir yn rai sy’n datgelu arwyddion o genedlaetholdeb Seisnig.

Hynny yw, nid cefnu ar ein hanes a’n diwylliant er mwyn bod yn ddinasyddion y byd fydden ni, ond wfftio cenedlaetholdeb ethnig Cymreig er mwyn cofleidio cenedlaetholdeb ‘sifig’ (h.y. ethnig) ‘Prydeinig’ (h.y. Seisnig).

Gwendid neo-Ryddfrydiaeth yw gwybod pris popeth ond gwerth dim byd. Anwybyddir y posibilrwydd bod iaith a diwylliant yn eu hunain yn gallu rhoi cysur a phleser i bobol Cymru – diwedd y gân yw’r geiniog wedi’r cwbl!

Gŵyl Jâms Niclas: argraffiadau ar achlysur i gofio Archdderwydd

Cyhoeddwyd Hydref 24, 2014 gan Adolygiadau.

Tagiau: gwyl jams niclas


Y Parchedig Wiliam Owen o Gaerfarchell oedd un o drefnwyr Gŵyl Jâms Niclas yn Nhyddewi dros y penwythnos. Thema’r ŵyl oedd cadwyn o englynion y cyn-Archdderwydd, ‘Ffordd y Pererinion’ …

Wy’n teimlo ar ben fy nigon. Roedd ewyllys da o blaid yr ŵyl ac fe ddisgleiriodd hwnna drwy’r holl weithgareddau.

Yn ei ddarlith nos Wener, fe gydiodd T James Jones, Jim Parc Nest, yn yr elfennau sylfaenol ym meddylfryd ac yng ngweledigaeth Jâms Niclas, a darlunio’i bersonoliaeth e yn fyw iawn, ei berthynas gyda Hazel ei wriag a’r ffordd yr oedd yn gallu ymroi i dasg ac efallai colli golwg ar bopeth oedd yn mynd rownd iddo fe wrth wneud! A’r dewrder eithriadol oedd gydag e pan aeth e i Gymreigio’r Ygsol Uwchradd y Preseli yng Nghrymych. Mae effaith y peth i’w weld heddiw. Ro’n i lan yna yn ddiweddar yn mynd â phosteri; ro’n i’n gallu mynd i unrhyw siop yn yr ardal yna a siarad unai yn syth yn uniaith Gymraeg gyda phwy bynnag oedd tu ôl i’r cownter, a hyd yn oed os oedden nhw’n ateb yn Saesneg ro’n nhw yn ateb yn ystyrlon. Mae rhai yn cofio Jâms fel prifathro arnyn nhw.

Wêdd rhai o’r bobol sy’n cystadlu yn Eisteddfod Tyddewi – mae hi’n Eisteddfod ddwyieithog – yn dweud ‘so ni di cael gwersi ffurfiol yn sgrifennu’. Eto maen nhw’n blawdo arni ac yn cael hwyl anghyffredin ac fe gawson nhw’r syniad o gael sesiwn safonol mewn sgrifennu. Fe gawson ni hynny gan Mererid Hopwood. Aeth hi â ni drwy reolau sylfaenol y gynghanedd. Fe roddodd hi weithdy yn ei ffordd ei hun – yn trafod pethe astrus yn syml eglur, yn llwyddiannus iawn.

Hanesion lleol

Wedyn roedd Hedydd Hughes o Ben-caer [Strumblehead] yn sôn am storiau o’r ardal. Fel y gwenynwr Myddyfnog a oedd yn fynach gyda Dewi Sant, a hwnnw wedi dod i Iwerddon yn perthyn i deulu uchel yr O’Neills. Bob tro’r oedd e’n mynd yn ôl i Iwerddon roedd y gwenyn yn ei ddilyn e, ac fe aeth e nôl deirgwaith i fynd â’r gwenyn yn ôl at Dewi. A Dewi’n gorfod dweud yn y diwedd, ‘cer gatre gwboi a cher â’r gwenyn ‘da ti.’ A stori arall am y rhocesi yn Nhrefin ryw ganrif yn ôl a llongddrylliad. Fe ffurfion nhw raff trwy blethu’u breichiau allan i ganol y ddrycin at y llong ac fe lwyddon nhw i achub ryw 32 o forwyr. Fe ganwyd cân o fawl iddyn nhw, gan fardd o Lynebwy.

Mae Hedydd yn un o tua 8 yn y pwyllgor; gyda Glenys James a’i gŵr John, Gwenan a finne, Gareth Evans yn cynorthwyo gyda’r stiwardio ac yn cyflwyno ambell i beth; Anne Watts sydd wedi gadael bod yn ddysgwraig erbyn hyn ac mae hi’n siarad ac yn gweithredu’n Gymraeg i raddau helaeth; Rebecca Thornton, y trysorydd, ac roedd hi fel y banc, yn gadarn iawn.

Wedyn wêdd Eleri Roberts yn canu fersiynau Sir Benfro o alawon gwerin. Roedd Trefor Pugh wedi dod efo hi, a Peter Rees o Drefochlyd, canwr lleol. Er enghraifft, mae alaw leol ‘Ar Lan y Môr’ yn hollol wahanol, ond yr un geiriau yn union. Fe gofnodwyd fersiwn arbennig o’r alaw ‘Mwmba’ ddim yn bell o Drefin, ac fe ganwyd honno. Fe ganon ni ‘Y Mochyn Du’ a mynd drwy holl drafferthion angladdol y mochyn…. Ac wedyn mae fersiwn Saesneg o’r geiriau sy’n anhygoel o ddigrif.

Roedd Dyfed Elis Gruffydd yn sôn am agweddau daearegol y golygfeydd roedd Jâms wedi’u gweld a’r ffordd roedd y rheiny wedi gosod strwythur ar gyfer y golygfeydd.

Lawr ar waelod y ddinas, yn festri Capel y Tabernacl, roedd plant o bum ysgol cynradd o’r ardal – Cas-mael, Llanerchllwydog, Bro Dewi, Solfach a Chroes Goch – yn gwneud gwaith celf gyda Sarah Young ac Aelwen Lee. Yn y p’nawn fe wnaeth plant o Ysgol Bro Gwaun ruban hir llydan o bapur llwyd a dilyn y ffordd o gyfeiriad Abergwaun draw i Dyddewi, a darnau o farddoniaeth, darnau o luniau, pethau oedd yn esbonio y gwahanol feini a’r camau ar y ffordd. Ro’n i’n teimlo bod yna wefr wedi bod lawr yn y gwaelod.

A’r cwbwl yn dod lan i’r seremoni glo – John Evans, dyn o Dyddewi a hen ffrind i Jâms Niclas yn darllen yr englyn ola’ o’r gadwyn ‘Ffordd y Pererinion’ a dwyn ei atgofion o Jâms. Ac wedyn gyda’r hwyr, twmpath i fennu gyda’r Gower Allsters, bachgen o Fro Gŵyr a merch o Estonia. Roedden nhw’n chwarae’n wych. Mae yna dwmpathwyr wrth reddf, yn does e.

Pam gŵyl ddwyieithog?

Roedd y cwbwl yn Oriel y Parc, ac fe gymeron ni’r tŵr ar gyfer grŵp Saesneg dysgwyr dwyieithog a grŵp uniaith Gymraeg wedyn. Roedd dwy reswm am greu gŵyl ddwyieithog; fe allen ni ei ’neud e’n uniaith Gymraeg, ond wedyn fe fydden ni’n gosod ein hunen mewn bocs. Fe fyddai lot yn Nhyddewi sy’n dysgu’r Gymraeg, â diddordeb neu yn gefnogol i’r Gymraeg – a shwd y’ch chi yn creu darpariaeth iddyn nhw, a thrwy hynny yn amddiffyn y ddarpariaeth uniaith Gymraeg y Cymry Cymraeg? Cymerwch Mererid Hopwood er enghraifft, roedd hi mewn un stafell yn ’neud y Gymraeg, tra’r oedd Eleri yn gwneud y Saesneg mewn stafell arall. Ro’n nhw’n twclo (cyfnewid) wedyn, ac Eleri yn dod at y grŵp Cymraeg a Mererid yn mynd i’r grŵ Saesneg yn stafell y tŵr. Gawson ni ymateb cadarnhaol iawn; roedd pawb yn teimlo eu bod nhw wedi cael gwefr. Pan y’ch chi’n cael pobol o safon Jim Parc Nest, Mererid Hopwood, Hedydd Hughes, a Dyfed Elis Gruffydd yn dod â rhannu gwybodaeth a phrofiad gyda chi … roedd hi’n troi yn rhyw fath o seiat erbyn diwedd.

Roedd pawb yn teimlo ac yn cofio am weddw Jâms, nad yw yn yr iechyd gorau ar hyn o bryd. Ond roedd ei deulu fe, ei ferched e a’u teuluoedd, wedi dod i gefnogi.

Y cam nesa’ sy’ gyda ni nawr yw anelu am Eisteddfod Tyddewi 2015 a fydd yn cael ei chynnal ar Chwefror 28. Ble ond yn Nhyddewi y gallwch chi ddathlu Gŵyl Dewi Sant? Mae hi’n orlawn – fe gewch chi tua 400 i 500 o bobol yn Neuadd y Ddinas. Yn fwy na hynna, ar y Sadwrn, mae parêd y dreigiau a phawb yn gwisgo lan fel dreigiau ac yn cerdded lawr y brif ffordd, ac mae oedfa’r Cyngor y Sul wedyn. R’yn ni’n gobeithio lledu’r Eisteddfod i’r gymuned gyfan maes o law.

Dair blynedd yn ôl roedd y gystadleuaeth adrodd, a dyma merch o’r enw Maud yn dod i fyny yn ei chadair olwyn. Gyda’r llais clir tawel yma, dyma hi’n adrodd cerdd Dewi Emrys, ‘Pwllderi’. Fe ddaeth hi i stop ryw ddwy ran o dair o’r ffordd ymlaen, a dyma’r arweinydd yn meddwl ‘dyna fe te’, a dyma fe’n mynd ati a d’wedodd hi, ‘na, sa i wedi bennu ‘to’. Wedi iddi gael ei hanadl fe aeth hi ymlaen i’r diwedd. Allech chi ddim rhoi llai na’r wobr gynta i fenyw 98 oed am adrodd ‘Pwllderi’. Roedd hi wedi marw cyn yr Eisteddfod wedyn, a phan aethon ni i’r angladd beth oedd yno ar ei harch hi mewn ffrâm oedd y dystysgrif yr oedd hi wedi’i hennill, a’r deyrnged fel pennill bach a sgrifennodd y beirniad iddi. Dyna’r munudau arbennig ry’ch chi’n eu cael.

Adolygiad Gŵyl Gwydir

Cyhoeddwyd Medi 1, 2014 gan Adolygiadau.

Tagiau: Ciron Gruffydd, Gŵyl Gwydir


Y dorf yn mwynhau set Gruff Rhys nos Wener
Ciron Gruffydd sy’n bwrw golwg nol dros uchafbwyntiau’r penwythnos…

Ar dir Clwb Rygbi Nant Conwy yng nghesail Coedwig Gwydir yn Nyffryn Conwy, cafodd chweched Ŵyl Gwydir ei chynnal dros y penwythnos.

Mae trefnwyr yr ŵyl i’w canmol oherwydd ei bod hi’n gyfan gwbl annibynnol heb arian cyhoeddus yn agos ati. Oherwydd hynny, mae’r criw o wirfoddolwyr sy’n ymwneud a hi yn gallu llwyfannu’r bandiau maen nhw’n hoffi yn hytrach na chael eu caethiwo gan fiwrocratiaeth.

Ar y nos Wener, yn dilyn perfformiadau gan Y Cledrau, Yr Eira, Memory Clinic, Cowbois Rhos Botwnnog a Trwbador, y prif atyniad oedd set gan Gruff Rhys.

Mae Gruff wedi bod yn teithio sioe un dyn yn ddiweddar sy’n adrodd hanes John Evans – anturiaethwr o Gymru wnaeth deithio i America yn y deunawfed ganrif i chwilio am lwyth o Americanwyr brodorol oedd yn ddisgynyddion i’r Tywysog Madog.

Braf iawn felly oedd ei weld gyda band llawn unwaith yn rhagor – er y byddai’n well gan y gynulleidfa, ar y cyfan, glywed rhagor o ganu yn hytrach na chael darlith hanesyddol rhwng pob cân.

Ond yr uchafbwynt, heb os, oedd gweld Kliph Scurlock, cyn ddrymiwr un o fandiau mwya’r byd, The Flaming Lips, yn chwarae gyda Gruff… yn Llanrwst, o bob man.

Yn dilyn set Gruff Rhys, roedd Saron yn chwarae tu mewn i’r Clwb Rygbi, ac er bod beirniadaeth wedi bod am ei setiau nhw yng Ngŵyl Gardd Goll a’r Eisteddfod, roedden nhw’n dda iawn yma gyda’u pastiche o fandiau pop Cymru’r 70au.

Cyfareddu’r gynulleidfa

Ar y dydd Sadwrn roedd y cyfan yn dechrau gyda set gan Ysgol Sul cyn i Plu, Chris Jones a Seazoo o brosiect Gorwelion BBC Cymru ddod i’r llwyfan.

Yna, wedi i Siddi ganu, cafwyd set llawn awyrgylch gan Carw, pop ysgafn gan Palenco, a chydig o roc gan Y Reu.
Sen Segur oedd nesa gyda’u sain seicadelig cyn i HMS Morris ddod i’r llwyfan ac yna Keys.

Wedi i Sŵnami a Gwenno ganu daeth uchafbwynt y diwrnod wrth i Houdini Dax wneud i bawb fynd yn wyllt. Roedd canwr y band yn dda iawn am gysylltu gyda’r dorf ac er bod Keys wedi bod yn wych yn gynharach, does ganddyn nhw ddim aelod o’r band gyda’r un swyn sy’n gallu cyfareddu’r gynulleidfa fel Houdini Dax.

Roedd hynny wedyn yn arwain y ffordd yn wych i Candelas a daeth y cyfan i ben gyda pherfformiad hynod arall gan R Seiliog.

‘Anodd denu’r torfeydd’

Fodd bynnag, dros yr haf, mae un cwestiwn mawr wedi dod i’r amlwg wrth i mi fynd o ŵyl i ŵyl. Oes diffyg bandiau yng Nghymru i gynnal yr holl wyliau sy’n cael eu cynnal erbyn hyn?

Er bod cynulleidfa dda wedi mynychu Gŵyl Gwydir dros y penwythnos (a faint o ddiolch sydd i Gruff Rhys am hynny ‘sgwn i?) mae gwyliau eraill, fel Gŵyl Gardd Goll, wedi ei chael hi’n anodd denu’r torfeydd.

Yn bersonol, dwi’n ffan fawr o Sen Segur ond ddydd Sadwrn roedd fy meddwl i hyd yn oed yn dechrau crwydro wrth glywed yr un set unwaith eto.

Yn Lloegr, mae gwyliau mawr yn gallu fforddio talu digon i fandiau fel eu bod nhw ddim ond yn chwarae yn ei gŵyl nhw. Mae’r ystod eang o fandiau o wahanol genres hefyd yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw dargedu cynulleidfaoedd gwahanol.

Yma yng Nghymru, does gennym ni ddim yr un dewis. Candelas a Sŵnami yw dau o fandiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd ac mae un o’r ddau ac, yn amlach na pheidio, y ddau fand, yn chwarae yn y mwyafrif o wyliau cerddorol.

Ond beth yw’r ateb? Mae mentergarwch pobl sy’n cychwyn gwyliau cerddorol i’w ganmol, ac mae hi’n destament i’r bandiau eu bod nhw’n cael cynnig chwarae yn yr holl wyliau.

Rwy’n teimlo ein bod ni ar ryw fath o drobwynt ar hyn o bryd ble mae’r farchnad gwyliau yn llawn i’r ymylon. Bydd rhai ohonynt yn byw ac yn ffynnu i’r dyfodol a bydd eraill yn dod i ben.

Ond o weld sut oedd hi’n Llanrwst dros y penwythnos, mae gen i deimlad y bydd Gŵyl Gwydir yn parhau am dipyn eto.

Candelas yn cloi eu set yng Ngŵyl Gwydir gyda’r gân ‘Anifail’:

35 Diwrnod: Pennod pump yn llusgo eto

Cyhoeddwyd Ebrill 22, 2014 gan Adolygiadau.

Tagiau: 35 Diwrnod, Drama, S4/C


Rhybudd: Mae’r darn yma’n trafod pumed pennod ‘35 Diwrnod’ ar S4C. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gwylio’r bennod.

Ciron Gruffudd sydd wedi bod yn gwylio…

Dyw Jan ddim yn gweithio i gwmni awyrennau wedi’r cwbl; mae Tony yn ddyn drwg iawn, iawn; mae Cerian wedi gwneud rhywbeth ofnadwy ac mae Beti’n honco bost.

Ond be ddysgon ni ym mhennod ddiweddaraf ‘35 Diwrnod’? Llawer o ddim byd newydd.

Ac yn dilyn pennod dda iawn yr wythnos diwethaf, mae’r ddrama unwaith eto’n llusgo fel malwen dros gol-tar.

Jan

Dwi wedi dweud a dweud bod angen iddi uwchraddio ei system diogelwch ac roeddwn i’n dweud hynny oherwydd fy mod i’n gwybod ei bod hi’n mynd i gael ei lladd.

Ond ymddengys mai llofruddiaeth yw’r lleiaf o’i phroblemau wedi iddi gael ei threisio gan Tony. Perfformiad cryf gan Lois Jones fel Jan yn dilyn yr ymosodiad ond, yn anffodus, does dim digon o gig a gwaed ar y cymeriad i wneud i ni boeni amdani.

Roedd y bennod wedi dechrau’n addawol serch hynny wrth i ni weld ei bod hi’n nyrs ac yn byw gyda rhywun sydd wedi dod allan o’r carchar yn ddiweddar. Ond beth mae o yn ei wneud yn derbyn gwn ben bore a beth mae Jan am ei wneud gyda’r gwn nawr ei fod yn ei meddiant?

Mae hynny’n cymhlethu pethau rhywfaint ac yn gwneud i ni amau ai ar ôl Richard y mae hi wedi’r cwbl, gan fod Huw James yn gweithio mewn carchar. Ond gawn ni weld am hynny decini.

Y Teulu Jenkins

Mae’r mab afradlon yn ei ôl! Wrth gwrs mai yn ei stafell wely’n gwrando ar gerddoriaeth oedd o, nid yn cuddio yn y cysgodion yn nhŷ Jan.

Dw i’n ei gweld hi’n od bod Sali wedi gwahodd Jan am swper ond mae’n siŵr bod ganddi ei rhesymau – amau ei gŵr o fod yn anffyddlon eto yw un ohonyn nhw mae’n siŵr.

Ac mae ganddi le i boeni ynghylch Richard. Mae’r wobr am hyfdra’r wythnos yn mynd iddo am roi cusan i Jan wrth ei ddrws ffrynt a’i wraig yn y gegin, gwta droedfeddi i ffwrdd.

Daeth hi i’r amlwg eto eu bod nhw’n ffans mawr iawn o Steve Eaves yn eu tŷ nhw. Does dim rhyfedd bod y mab yn cuddio yn ei ystafell wely a bod pawb mor anhapus osdyna y maen nhw’n gwrando arno wrth y bwrdd bwyd pob nos.

Ond beth yw cyfrinach Cerian? Be mae hi wedi ei wneud sy’n gwneud iddi deimlo mor ofnadwy? Oes gennych chi unrhyw syniadau?

Y Morisiaid

Does ryfedd bod Ben druan wedi bod yn dioddef o anhwylder meddwl. Doedd ei dad o ddim yn un i ddelio a phwysau’n dda iawn ac mae ei fam rŵan yn gweld a chlywed pethau.

Yn amlwg, mae meddwl Ben mewn gwell lle. Rydan ni’n gwybod hynny oherwydd ei fod o wedi cadw drws ei loft ar agor yn hytrach na’i gau – sytl iawn.

Dw i ddim yn siŵr beth oedd y shots agos o wyneb Beti cyn iddi fynd i gnocio ar ddrws ffrynt Jan chwaith. Dw i’n cymryd mai ffordd o ddangos ei dirywiad hi mewn cyfnod byr oedd o ond roedd y canlyniad yn edrych fel fideo cerddoriaeth i gân drist am henaint gan Steve Eaves.

Huw a Caroline James

Mae Huw wedi cadw ei swydd ac mae pethau’n edrych ar i fyny iddo. Ond mae Caroline, ar y llaw arall, mewn trafferthion dybryd.

Ond, os ydych chi’n taro bargen â’r diafol, mae pethau’n siŵr o fynd o chwith. Gwers i bawb i beidio ag ymddiried yn Tony.

Ond wn i ddim pam ei bod hi’n poeni cymaint am golli’r tŷ beth bynnag. Rŵan bod Huw wedi penderfynu peidio gwerthu cyffuriau i wneud arian ychwanegol, siawns y bydd rhaid iddyn nhw symud i gartref llai maes o law?

Tony, Pat a Linda

Tony, Tony, Tony. Y dyn mwya’ drwg welodd ystâd Crud yr Awel erioed. Rydan ni’n gwybod ei fod o’n ddrwg ers y bennod gyntaf – a pheidiwch ag ymddiried yn unrhyw un sydd ag offer codi pwysau yn ei garej  – ond mae treisio’r ddynes drws nesa yn dangos ffieidd-dra newydd yn ei gymeriad.

O leia’ mi gawson ni wybod pam fod merch mor ddiniwed a chlên a Linda yn ymwneud ag o. Mae o’n amlwg yn mynd am ferched sydd mewn gwendid ac yn manteisio ar hynny.

Un peth yr hoffwn i ei weld cyn diwedd y gyfres yw ffeit rhwng Tony a Pat. Dyrnau allan a phaffio fel oedden nhw erstalwm. Mi fyddai hynny’n gwneud y gyfres i mi.

Ond beth am Pat? Mae hi’n dechrau amau ei hun a phwy yw hi ond yw hynny oherwydd ei bod hi’n caru Linda? Dyna dwi’n ei feddwl beth bynnag.

Hefyd, os mai Patrick oedd ei henw hi cyn byw fel dynes, pam dewis Patricia fel enw wedyn? Hawdd i bobl eraill gofio debyg.

Moment yr wythnos

Dim ond meddwl am Caroline yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd sydd raid i mi a dwi’n gwenu fel giât. Ar wahân i hynny, roedd hi’n dlawd iawn yr wythnos hon.

Adolygiad: Undeniable

Cyhoeddwyd Ebrill 22, 2014 gan Adolygiadau.


Dw i’n aml yn cael fy nenu at ddramâu teledu sy’n llawn dirgelwch, cyfrinachau ac amwysedd. Maen nhw’n caniatáu i fi geisio datrys problemau wrth i’r plot ddatblygu.

Wrth ddarllen synopsis ar gyfer drama newydd ITV, ‘Undeniable’, oedd yn cael ei darlledu mewn dwy ran, dyw hi ddim yn syndod felly iddi ddal fy sylw.

Roedd disgrifiad y ddrama yn argoeli llond trol o ddirgelwch a gwrthdaro wrth i ddynes gredu ei bod wedi gweld llofrudd ei mam 23 o flynyddoedd wedi’r digwyddiad.

Camgymeriad Jane?

Roedd rhan gyntaf y ddrama’n ddifyr iawn gyda dynes, Jane, yn benderfynol ei bod wedi gweld llofrudd ei mam, ar ôl iddi dystio’r digwyddiad pan oedd hi’n saith oed. Oncolegydd proffesiynol, parchus sydd wedi ennill OBE yn ei faes yw’r dyn sy’n cael ei gyhuddo o fod yn llofrudd, sef Andrew Rawlins.

Cawn wybod o’r dechrau hefyd fod Jane yn osgoi cymryd ei thabledi sy’n trin ei iselder. Gall hyn achosi dryswch a pharanoia. Roedd hyn i gyd yn awgrymu i’r gynulleidfa fod Jane wedi drysu ac nid Andrew Rawlins oedd gwir lofrudd ei mam.

Gwelwn effaith hyn ar Jane wrth i’w bywyd chwalu. Mae’r heddlu a’i theulu’n amau fod ei stad feddyliol yn fregus. Yn wir, erbyn diwedd y rhan gyntaf doeddwn wir methu rhagweld sut roedd y ddrama am ddatblygu, gan fod prawf DNA wedi profi nad Andrew Rawlins oedd y llofrudd. Pwy felly oedd y llofrudd iawn?

Y ddrama’n dirywio

Drwy’r ddrama, gwelwn effaith galar Jane arni. Mae poen ei cholled yn ei gyrru i geisio darganfod llofrudd ei Mam. Roedd perfformiad Claire Goose, a actia Jane, yn emosiynol a chredadwy, ac fe wnes i fwynhau ei gwylio.

Er i mi fwynhau rhan gyntaf y ddrama, doeddwn i ddim yn gweld yr ail ran mor afaelgar. Roedd datguddiad y plot erbyn y diwedd yn eithaf amlwg ac roeddwn wedi rhagweld beth fyddai’n digwydd.

Roedd hefyd wedi digwydd mor ddisymwth gyda chymeriad newydd, na fu’n rhan o’r ddrama ar y dechrau, yn datgan wrth Jane beth ddigwyddodd i’w mam.

Ar y cyfan ro’n i’n teimlo’n siomedig ag ail hanner y ddrama. Erbyn diwedd y rhan gyntaf roedd y ddrama’n llawn dirgelwch, ond erbyn yr ail roedd wedi colli’r naws hwnnw.

Hefyd, teimlais fod datguddiad y plot lle cawsom wybod am lofruddiaeth mam Jane yn digwydd yn rhy sydyn ac yn frysiog. Felly, er bod syniad y stori’n un gwreiddiol, ni chyrhaeddodd y ddrama ei photensial.

Marc: 6/10

Gallwch ddilyn Mirain ar Twitter ar @MirainAlaw.

Noson Mr Phormula yn Aberystwyth

Cyhoeddwyd Ebrill 2, 2014 gan Adolygiadau.

Tagiau: Ed Hold, Mr Phormula


Ed Holden a.k.a. Mr Phormula
Mared Llywelyn fu draw yn noson gerddoriaeth hip-hop yr Angel i wylio Mr Phormula yn ddiweddar …

Boomin’ yw’r unig air y medraf feddwl i ddisgrifio tafarn Yr Angel nos Wener ddiwethaf. Y digwyddiad? Noson wyllt wedi ei threfnu gan Buzz – cymdeithas cerddoriaeth ddawns answyddogol y Brifysgol o dan arweiniad Gwion Llŷr, sydd wrthi’n gwneud enw iddo’i hun yn y sîn gerddoriaeth ddawns.

Yng nghefn y dafarn enigmatig roedd y noson yn cynnig amrywiaeth o genres megis House, Hip Hop, D’n’B a Jungle. Nid trwy ddamwain y gwelais fy hun yn dawnsio a siglo fy mhen yno, gan fod y posteri yn hysbysebu’r nosweithiau yma yn frith drwy strydoedd Aberystwyth.

Roedd y marchnata’n amlwg wedi gweithio gan i’r dafarn fod yn llawn o ddilynwyr brwd y gymdeithas erbyn set Mr Phormula a.k.a Ed Holden am hanner nos.

Nid yw’n gyfrinach mai Ed Holden yw brenin hip hop Cymraeg, ac mae’r sgiliau y mae’n meddu wrth berfformio’r bît-bocsio wir yn anhygoel. Ni chawsom ein siomi gyda’i berfformiad nos Wener felly.

Perfformiodd ganeuon oddi ar ei albwm newydd Cymud, albwm dwyieithog a gafodd ei ryddhau yn ddiweddar, a dangosodd i bawb sut ma’i gneud hi’n iawn ar y bît-bocs!

Ond yr hyn a fy synnodd oedd pa mor angerddol yw’r rhai sydd yn mwynhau’r math yma o gerddoriaeth, ac roedd y rapiwr yn amlwg yn bwydo oddi ar egni’r dyrfa eiddgar, gan awgrymu hyd yn oed mai dyna gig orau ei daith hyd yn hyn!

Dwi wedi bod i nifer o nosweithiau tebyg yn yr Angel o’r blaen – er hynny, rhaid cyfaddef nad ydwyf mor hyddysg â hynny â cherddoriaeth y sîn a tydw i ddim yn mynd i wneud unrhyw ymgais ar y jargon chwaith!

Ond nes i a’r ffrindiau nes i lusgo draw efo fi wir fwynhau’r noson, a byddaf yn sicr yn nigwyddiad nesaf Buzz, gan obeithio gweld mwy o bobl yno hefyd – mae wir yn fyd gwahanol lawr yng nghrombil yr Angel … Sick!

Gallwch ddilyn Mared ar Twitter ar @maredllywelyn.

Vaughan Roderick a ‘propaganda’ Russia Today

Cyhoeddwyd Mawrth 21, 2014 gan Hefin Jones.

Tagiau: Bahrain, BBC, Vaughan Roderick



Mae Hefin Jones wedi ei ysbrydoli gan un o negeseuon trydar y newyddiadurwr Vaughan Roderick…

Yn gyntaf, diolch i Vaughan Roderick am y blog yma, canys efe a’i ysbrydolodd wrth drydar nad ydi Russia Today yn sianel newyddion go-iawn, fel y BBC a CNN sydd gyda’u newyddiadurwyr yn gwneud dim ond eu gorau glas.

Felly beth am olwg ar enghreifftiau o newyddiaduraeth ddim-o-gwbl-yn-bropaganda gytbwys y ddwy sianel bur a theg hynny?

Yr Iwcrain

Mae’r bloeddio fod Rwsia wedi goresgyn, bygwth a sicrhau pleidlais Crimea’n dal i droi ymysg cyfryngau a gwleidyddion Lloegr ac America. Prin iawn yw’r son fod cytundeb gan Rwsia i ymsefydlu hyd at 25,000 o filwyr yno ers iddynt roi Crimea i’r Iwcrain yn 1954, sy’n golygu fod llai yno nag sy’n hollol gyfreithlon iddyn nhw ei gael. A fod yr 16,000 oedd yn Sevastopol yno cyn y coup yn Kiev.

Dim son am hapusrwydd yr arolygwyr rhyngwladol oedd yn Nghrimea’n arolygu’r etholiadau, ond digon o gwyno gan John Simpson ar y BBC fod y bocsys yn glir (oedd yn sicrhau nad oedd pleidleisiau wedi eu stwffio iddo o flaen llaw). Pam fyddai bocsys nad oedd yn wydr clir yn gwneud y canlyniad yn decach, ni fedrai ymhelaethu.

Roedd araith Yatsenuyk, ‘arweinydd’ amheus newydd Yr Iwcrain, y diwrnod wedi’r canlyniad yn y Crimea yn cynnwys y syniadau: ‘Gyda help y gorllewin daw cyfiawnder i ran pob ymgyrchwr dros annibyniaeth (Donetsk a Crimea)….mi cawn ni nhw, boed mewn blwyddyn, ddwy…bydd y ddaear yn llosgi o dan eu traed a does nunlle’n y byd lle byddent yn saff..a ni fydd neb, yn cynnwys Rwsia, yn medru eu hachub’. Ond, fel dangosodd y BBC, roedd ei ysgwyd llaw â Barak Obama lot mwy o stori na’i sylwadau.

Cafwyd eitem yn clodfori’r Saeson oedd yn rhan o’r arolygwyr rhyngwladol oedd yn ymchwilio i’r saethu, ac yn rhagflaenu ei ganlyniadau wrth feio heddlu’r Iwcrain ar y sgwar. Dim son yn rhyfedd am ganlyniadau eu hymchwiliadau, oedd yn dangos fod y bwledi oedd wedi taro’r heddlu a’r protestwyr wedi saethu o’r un lleoliadau, a hefyd yr un math o fwledi yn union.

At y cefndryd dros yr Iwerydd – yr wythnos yma dangosodd CNN luniau o danciau Rwsia’n croesi’r ffin i’r Iwcrain. Er nad oedd y fath beth yn digwydd – roedd y tanciau 300 milltir i ffwrdd yng nghrombil Rwsia, a’r lluniau o’r archif. Dyna pam na ddefnyddiodd yr un orsaf arall y fath luniau digamsyniol a phwysig.

Syria

Ymlaen a ni i’r BBC a Syria. Yn enghraifft amlwg mae’r llun roddwyd ar y stori ar wefan y BBC o’r gyflafan yn Houla, a feiwyd yn llwyr ar Assad ond a brofwyd i’r gwrthwyneb gan newyddiaduraeth llawer mwy trylwyr gan Almaenwyr a Rwsiaid, yn cynnwys llygaid dystion ac enwau’r teuluoedd y targedwyd oedd yn gefnogol i’r llywodraeth. Cafodd y celwydd/camgymeriad eithriadol yma ei ddiosg gan Marco Di Lauro, yr union berson dynnodd y llun yn 2003 wedi i’r Americanwyr wneud diwrnod o waith yn Irac. Dyma’r stori o ddau begwn, Y Daily Telegraph a Press TV:

http://www.telegraph.co.uk/culture/tvandradio/bbc/9293620/BBC-News-uses-Iraq-photo-to-illustrate-Syrian-massacre.html

http://www.presstv.com/detail/2012/05/29/243579/bbc-uses-iraq-photo-for-houla-massacre/

Yna cafwyd adroddiad Ian Pannell, gafodd wobr Emmy am y ffilm (nid dan y categori ffuglen), o ymosodiad Napalm ar bobl gyffredin yn Syria. Roedd yr eitem yn llawn amheuon, a’r hyn fedrid ei ddehongli fel actio eitha gwael gan rai ynddo. Mae’r fideo gwreiddiol yn anoddach i’w ddarganfod heddiw am ryw reswm. Fel gwelir ar y linc yma, sy’n gofyn yn ddiniwed os fyddai’r stori wedi newid pleidlais i ymosod ar Syria, nid yw’r fideo hwnnw ar gael bellach. http://www.theweek.co.uk/middle-east/syria/54901/napalm-attack-might-earlier-disclosure-have-changed-vote

Ond dyma ddadansoddiadau trylwyr o’i ffaeleddau:

http://syrianfreepress.wordpress.com/2013/11/20/fake-journalism-the-role-of-the-bbc-in-the-syrian-conflict/

http://doyouwearblack.blogspot.co.uk/2013/09/bbc-news-panorama-dodgy-school-napalm.html

Er, daeth rhywun i’r fei i’w ailadfer er mwyn ei sarhau felly dyma’r gwreiddiol i chi benderfynu drostoch eich hunain – http://www.youtube.com/watch?v=vUPf3jebaPI

Awgrymaf y darn ar 3.30. Bron y gellir clywed y gair ‘Action!’

Mae eu hailadrodd o sbîl llywodraethau Prydain ac America yn rheolaidd ar Syria, ond mae hyn yn mynd yn bellach. Dyma ddau enghraifft plaen wedi eu diosg o wthio’r agenda dros y llywodraethau hynny. Ond pa mor bell yw’r berthynas rhwng y llywodraeth a’r BBC? Oes cytundebau mwy clos na wyddwn amdani? Gallai cliw fod yn y ffaith i’r BBC redeg cwrs tair blynedd ar dechnegau newyddiadura yn Syria. Dechreuwyd y cwrs ym Mawrth 2008. Dair blynedd union yn ddiweddarach mi ddechreuodd y dinistr yn Syria, fel oedd y cwrs yn gorffen digwydd bod. Mi ddaeth cais rhyddid gwybodaeth am gynnwys y cwrs a’r ateb yma gan y BBC:

Any such courses offered in Syria would have been carried out by BBC Media Action which is a charity and not subject to the FOI Act. This means the BBC is not obliged to supply you with the information.

Sy’n hynod gyfleus, ac ar yr un pryd yn codi’r cwestiwn a’n rhoi’r ateb pam gebyst fod BBC Media Action yn elusen.

At CNN. Yn nechrau’r llanast yn 2011 roedd adroddiadau wythnosol gan Syriad ifanc yn cael eu darlledu ar CNN – ‘Syria Danny’ fel cafodd ei alw. Roedd yn dipyn o drafferth i ddarganfod ‘Danny’ wrth ei waith gwreiddiol erbyn hyn, gan fod cannoedd o fideos yn ei ddiosg fel yr actor cyflog yr ydoedd, a dyma un http://www.youtube.com/watch?v=3oOpBThJWh0

Un pwynt i’w gofio yma ydi nad oedd ‘Danny’, sy’n Sais o Cambridge, yn ei wneud am ddim – cafodd ei dalu gan rywun, boed yn CNN neu breichiau’r llywodraeth. Yr hyn sy’n sicr yw fod CNN yn gwybod mai nonsens oedd ei adroddiadau fel gwelir yma:

http://www.youtube.com/watch?v=3lWB5ssifTg

Libya

Awn yn ôl at lwyddiant cynt y democratwyr mawr. Wrth i’r propaganda ar Muammar Gaddafi gynyddu a chynyddu, roedd rhaid gorfoleddu wrth i’r dyn farw dan ddwylo’r gwrthryfelwyr honedig gyda help 55,000 o daflegrau Ffrainc, Prydain ac America. Felly yn fyw a ni i’r Sgwar Gwyrdd yn y brifddinas Tripoli lle dathlai’r miloedd ar y stryd!

http://www.youtube.com/watch?v=amtTCP91IDY

Fel dangosir yn y ddolen nesaf, yn anffodus roedd trafferth i ddarganfod pobl yn Tripoli felly rhaid oedd bod yn greadigol http://www.indymedia.ie/article/100404

Ymgais lew chwarae teg. Mae lliwiau baneri’r gwledydd yn eitha tebyg, a mae Libiaid yn eithaf brown. Wnaiff neb sylwi siwr.

Ond dyma raliau o’r Sgwar Gwyrdd oedd y BBC’n methu eu hadrodd http://www.voltairenet.org/article170829.html

Yn yr un anian, cafwyd y straeon am Gaddafi ddrwg yn bomio Benghazi yn racs, oedd yn profi fod angen ymyrraeth gwâr bomiau’r Gorllewin. Hyd yn oed yn yr oes hwn o gamerâu ar bob ffôn, Google Earth a lloeren sy’n gweld popeth o fry, ni chafwyd yr un dystiolaeth o’r ddinas, ond mi oedd geiriau William Hague yn ddigon gan y BBC. I gymharu, dyma Sirte ar ôl i fomiau’r Gorllewin achub y dref.

http://resources0.news.com.au/images/2011/10/23/1226174/477448-111024-sirte-damage.jpg

Wedi’r disodli gwelwyd Benghazi yn hynod o gyfan ar ôl i fomiau Ffrainc a Phrydain ac America ryddhau Libya o grafangau’r dyn dieflig oedd yn sicrhau iechyd ac addysg am ddim i bawb, arian i bob pâr priod ac i bob plentyn newydd anedig, sicrwydd o dŷ i bawb yn y wlad, oedd hefyd yn cael bod gyfranddalwyr yn niwydiant olew Libya.

Cafwyd digon ar y nonsens yna, roedd democratiaeth ar gyrraedd. Dyma’r BBC yn esbonio hynny wrth sôn am ymweliad Mr Hague a Benghazi ar droed yr achubiaeth fawr.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-13659852

Yma gwelir gwaith newydd BBC Media Action yn Libya sy’n esbonio eu bod am roi ar ddeall i’r Libiaid naïf sut bydd eu gwlad newydd yn gweithio. Y BBC fydd yn hyfforddi sianeli newyddion Libya o hyn ymlaen.

http://www.bbc.co.uk/mediaaction/where_we_work/middle_east/libya

Doedd CNN ddim yn rhy swil am ffugio adroddiadau o Libya ychwaith, yma yn smalio eu bod dan ymsodiad gan fyddin Gaddafi ddrwg http://www.youtube.com/watch?v=TPPzRWqljnY

Bahrain

Un wlad llawer mwy gormesol nag oedd Syria a Libya cyn y gwanwyn arabaidd honedig, ond sydd gyda’u holl fusnes arfau ac olew â’r ‘gorllewin’ yw Bahrain.

Yma gwelir eitem ar Russia Today yn amlinellu partneriaeth hynod amheus CNN a chyfundrefn Bahrain.

http://www.youtube.com/watch?v=CFDC7zmJgQg

Ac i leddfu pryderon y gwybodusion mai dim ond y Rwsiaid a’u propaganda sy’n meddwl y fath beth dyma erthygl gan Glenn Greenwald yn y Guardian yn manylu yr un fath, a sut mae CNN yn fusnes cyn pob dim arall.

http://www.theguardian.com/commentisfree/2012/sep/04/cnn-business-state-sponsored-news

Yr wythnos nesaf bydd Hefin Jones yn pigo tylla’ yn newyddiadura’r BBC a CNN yn Irac, Venezuela, Iwerddon a Lloegr…

Blodeuwedd boddhaol – 6/10

Cyhoeddwyd Mawrth 7, 2014 gan Adolygiadau.

Tagiau: blodeuwedd, rhian blythe, Saunders Lewis, Theatr Genedlaethol Cymru


Megan Morgans
Megan Morgans sy’n teimlo na wnaeth drama ddiweddara’r Theatr Genedlaethol gydio ynddi cymaint ac yr oedd wedi’i ddisgwyl …

‘Boddhaol’ yw’r gair sy’n dod i’r meddwl wrth ddisgrifio perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama eiconig Saunders Lewis, Blodeuwedd.

Ni chefais fy siomi gan y cynhyrchiad, ond ni chefais fy ngwefreiddio chwaith. Ar ôl clywed am lwyddiant y cynhyrchiad awyr agored y llynedd ac ar ôl darllen am yr actorion talentog, roeddwn yn edrych ymlaen yn arw i’w gwylio yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

Rhian rhagorol

Fe’m plesiwyd yn fawr gan gyfraniad yr actores Rhian Blythe a ymgymerodd â rôl heriol Blodeuwedd.

Llwyddodd i gyfleu holl elfennau gwrthgyferbyniol a berthynai i bersonoliaeth Blodeuwedd – ei natur serchus a nwydus yn ogystal â’i chreulondeb anystyriol. Ond rhywsut galluogwyd i ni gydymdeimlo â hi gan iddi fod yn gymeriad unig a thruenus.

Er bod iaith Saunders Lewis yn y ddrama’n annaturiol braidd ac yn farddonol ei naws, roedd mor naturiol ac ystyriol ym mherfformiad Rhian Blythe. Yn sicr, serennodd yr actores wrth lwyr ymroi i rôl Blodeuwedd.

Rhys rhwystredig

Er hyn teimlais fod yr actor Rhys Bidder, a chwaraeodd rôl Gronw Pebr yn y ddrama, yn cyfyngu ar berfformiad Rhian Blythe. Ni welwyd perthynas y ddau’n datblygu fel y dychmygais wrth ddarllen y ddrama.

Yn fy marn i roedd Rhys Bidder yn anghredadwy a braidd yn lletchwith. Yn ogystal, ni glywais holl linellau’r actor, ac oherwydd hyn collwyd ychydig o ystyr y ddrama.

Yn sicr uchafbwynt y ddrama oedd y diweddglo effeithiol, gyda chwerthiniad erchyll Blodeuwedd yn troi’n sgrech tylluan, ac yna tylluan wen yn hedfan ar draws y llwyfan. Clywyd ochneidio o blith y gynulleidfa!

Dyma ddiweddglo cofiadwy a thrawiadol, ond nid yw diweddglo yn unig yn ddigon i sicrhau drama lwyddiannus.

Cyfnod yn cymhlethu

Un o’r elfennau nad oeddwn yn sicr fy marn amdani oedd cyfnod y ddrama. Roedd y gwisgoedd, y set a’r gerddoriaeth i gyd yn perthyn i gyfnod y 1940au.

Ar yr un llaw roedd hyn yn ddiddorol, gyda’r lliwiau llachar a’r gerddoriaeth ramoffonaidd yn ychwanegiadau unigryw a ffres.

Ond fe’m cymhlethwyd gan gyffyrddiadau fel synau ceir yn lle meirch, a’r defnydd o ddryll yn lle saeth, er iddyn nhw lynu at sgript wreiddiol Saunders Lewis.

Deallaf mai’r bwriad oedd dangos bod themâu’r chwedl yn rhai oesol a throsglwyddadwy, ond roedd newid cyfnod y ddrama’n aneffeithiol.

Disgwyl gormod?

Fel y dywedais uchod, roedd gen i ddisgwyliadau uchel cyn mynd i weld y ddrama, yn enwedig gan i’r fersiwn awyr agored a gafodd ei berfformio yn Nhrawsfynydd ennill gwobr y ddrama orau yn yr iaith Gymraeg yng Ngwobrau’r Beirniaid Theatr ym mis Ionawr.

Byddai wedi bod yn ddiddorol gweld y ddrama awyr agored er mwyn ei chymharu â’r cynhyrchiad theatr.

Byddai’r cynhyrchiad wedi gallu bod yn un ardderchog, ond roedd gormod o elfennau israddol a oedd yn amharu ar rediad y ddrama a mwynhad y gwyliwr, felly ni chefais y profiad dramatig a ddisgwyliais.

A dyna pam y defnyddiais y gair ‘boddhaol’ fel y disgrifiad mwyaf addas i’r ddrama.

Marc: 6/10

Gallwch ddilyn Megan ar Twitter ar @MeganHaf6.

Adolygiad: Doppler – R. Seiliog

Cyhoeddwyd Rhagfyr 15, 2013 gan Adolygiadau.

Tagiau: Lois Gwenllian, R. Seiliog


Lois Gwenllian sydd wedi bod yn gwrando ar albwm yr artist electroneg R. Seiliog ar gyfer Y Selar

’Dw i wedi clywed llawer o sôn am R. Seiliog ond erioed wedi ei glywed tan i mi dderbyn Doppler.

Mae’r albwm yn agor gyda thrac byr electronig sy’n swnio fel bod rhywun yn chwarae xylophone mewn twnnel carthffosiaeth.

Yn syth, gwyddwn fod hyn am fod yn brofiad cerddorol newydd i mi.

Un o fy hoff draciau yw’r ail, ‘Ostisho’, sy’n swnio fel cân a fyddai’n cael ei defnyddio ar deitlau agoriadol cyfres deledu Americanaidd.

Nid dyna’r rheswm ’dw i’n ei hoffi hi gymaint, ond yn hytrach, oherwydd y cyffro a’r stori sy’n datblygu ynddi. Mae hyn ychydig yn wahanol i rai o’r traciau eraill sydd ar brydiau yn swnio’n ailadroddus.

Dyna steil R. Seiliog o’r hyn dw i wedi’i glywed (mi wnes i fy ngwaith cartref wedyn a gwrando ar Shuffles EP) a’r hyn sy’n gwneud ei sŵn mor unigryw.

Ar ôl gwrando ar Doppler unwaith roeddwn i o’r farn mai albwm i’w chlywed yn fyw oedd hi.

Ond erbyn hyn dw i’n dechrau gwerthfawrogi beth ydy R. Seiliog ac yn clywed rhywbeth newydd pob tro.

Yng nghanol yr holl loops ailadroddus mae ‘na felodïau gwerth eu clywed a chyffyrddiadau electronig sy’n eich tywys i fyd rhythmig, arallfydol. Ac mae’n fyd reit braf i fod ynddo…

7/10

Mae hwn yn adolygiad o rifyn mis Rhagfyr 2013 o gylchgrawn Y Selar. Mae modd darllen fersiwn digidol o’r rhifyn yma.