Tair rheol anhrefn … tri argyfwng Boris

Diweddarwyd am  

Boris Johnson

Llun parth cyhoeddus

Dylan Iorwerth sy’n ystyried oblygiadau trafferthion y tri diwrnod a’r tair blynedd ddiwetha’…

Mae’n ymddangos bod Boris mewn twll. Os nac oes ganddo fo rhyw ystryw rhyfeddol dan ei lawes, mae ganddo fo bedwar posibilrwydd yn y tymor byr. Dyna ydi …

Argyfwng Un

Cael cytundeb efo’r Undeb Ewropeaidd cyn diwedd Hydref, cael Etholiad Cyffredinol cyn diwedd Hydref, ufuddhau i orchymyn y Senedd a gofyn am estyniad … neu ymddiswyddo.

Mae’r ddau gynta’n edrych yn annhebyg. Siawns y bydd y gwrthbleidiau’n aros yn gry’ – ym mis Tachwedd, mi fydd Boris Johnson wedi methu â chyflawni ei addewid mawr a Phlaid Brexit yn barod i chwalu’r bleidlais Geidwadol.

Gobeithio hefyd y byddan nhw’n pwysleisio bod etholiad am lawer mwy nag un pwnc; nid pleidlais ar Brexit fyddai hi, ond pleidlais i ddewis pwy sy’n ein llywodraethu ni am bum mlynedd. Dydi etholiad ac un cwestiwn syml ddim yn cymysgu. (Mwy am hyn yn Argyfwng Tri)

Pe bai Boris Johnson yn ymddiswyddo, mi allai fod yn bosib wedyn i’r gwrthbleidiau a’r gwrthryfelwyr ffurfio llywodraeth tros dro i atal Brexit di-gytundeb a chynnal refferendwm … os byddan nhw’n aros ynghyd.

Dyna’r argyfwng cynta’ – tactegau gwleidyddol y funud a’r ystrywiau Seneddol ac anseneddol sy’n cael eu defnyddio. (Mwy am hyn hefyd yn Argyfwng Tri).

Argyfwng Dau

Yr ail argyfwng, wrth gwrs, ydi Brexit ei hun. Mae’n bosib iawn na fydd Etholiad Cyffredinol yn arwain at sefyllfa glir, gydag un blaid yn rheoli. Mi fyddai’r merddwr mor ddwfn ag erioed.

Fydd y dewisiadau ddim yn haws chwaith; mi fyddai refferendwm yn creu rhagor o wrthdaro; mi allai pleidlais i aros achosi cythrwfl difrifol.

(Un elfen sy’n croesi’r ddau argyfwng cynta’ ydi tynged Gogledd Iwerddon, nid dim ond y peryg o ffin galed eto ond, fel y gwyddon ni bellach, y peryg y bydd Llundain yn dechrau rheoli’r dalaith yn uniongyrchol … mi allai’r ymateb fod yn ffyrnig).

Argyfwng Tri

Er mor ddifrifol ydi’r rhain, mae yna drydydd argyfwng a hwnnw, yn y pen draw, ydi’r un mwya’ difrifol i’r ‘Deyrnas Unedig’. Yn syml, mae helyntion yr ychydig wythnosau ers i Boris Johnson ddod i rym wedi dangos nad ydi’r system yn gweithio.

Os oes yna Lywodraeth sy’n ddi-hid o gonfensiynau’r Senedd ac o ysbryd y gyfraith, mae’r cyfansoddiad yn chwalu. Os bydd Boris Johnson yn gwrthod gweithredu gorchymyn y Senedd, mi fydd yn gorfodi’r cwestiwn pwy sy’ drecha … y Senedd neu’r Llywodraeth.

Ar lefel is, mae helyntion ceisio cael etholiad wedi dangos pa mor ddiffygiol ydi’r Ddeddf Seneddau Hyd Penodol – deddf a gafodd ei phasio ar frys i rwystro’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Torïaid rhag bradychu’i gilydd adeg eu clymblaid.

Mae yna gwestiynau anferth am rôl y Frenhines. Ei braint hi – y pŵer gwleidyddol cwbl annemocrataidd sy’n parhau yn ei dwylo – sydd wedi ei gwneud yn bosib i Boris Johnson atal y Senedd dros dro, yn groes i fuddiannau’r bobol.

Ar ben hyn i gyd, ac ar lefel fwy sylfaenol fyth, mae’r refferendwm wedi chwalu sylfaen democratiaeth draddodiadol gwledydd Prydain … chwalu’r hyn y mae Brexitwyr wedi bod yn clochdar yn ei gylch, Democratiaeth Seneddol.

Wrth gynnal y bleidlais a derbyn y canlyniadau, mi osodwyd Democratiaeth Boblogaidd yn erbyn Democratiaeth Seneddol … be sy bwysica’, llais y bobol mewn pleidlais unigol neu lais eu cynrychiolwyr etholedig?

Pan ddaw diwedd Brexit, mi fydd rhaid datrys y problemau yma. Mae’n bosib iawn y bydd yna ymchwiliadau a hyd yn oed gomisiynau i ystyried rhai ohonyn nhw. Ac, os bydd yna ‘Deyrnas Unedig’ ar ôl hyn, mi fydd rhaid cael newidiadau.

Mae’n bosib mai Boris Johnson ydi’r Diwygiwr Mawr … yn gyfangwbl trwy ddamwain.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd