Dylan Iorwerth yn cefnogi’r alwad am Faes di-dâl, ond dim ond fel man cychwyn

Mi fyddai pawb yn licio Eisteddfod am ddim bob blwyddyn heb orfod talu am ddim ond y Pafiliwn, efallai, a’r cyngherddau fin nos.

Mi fyddai’r sawl sy’n gallu fforddio yn croesawu’r syniad llawn cymaint â’r llai cefnog, gan werthfawrogi’r cyfle i wario ychydig yn rhagor ar nwyddau moethus ar y Maes.

Dan yr amgylchiadau iawn, mi allai agor drysau’r brifwyl a denu pobol o bob math o gefndiroedd i fwynhau a gwerthfawrogi diwylliant Cymraeg. Dan yr amgylchiadau iawn.

Wyddon ni ddim yn iawn faint o effaith a gafodd maes rhad-ac-am-ddim Bae Caerdydd. Roedd yna amrywiaeth braf o bobol o gwmpas y lle, ond wyddon ni ddim yn union be welson nhw na beth oedd natur eu profiad.

Mi welson nhw stondinau a llefydd bwyd; mi welson nhw fandiau Cymraeg yn perfformio ar y llwyfan agored ac mi glywson nhw lawer o sŵn y Gymraeg. Ond wyddon ni ddim pa argraff barhaol wnaeth hynny arnyn nhw.

Mi fyddai Maes am ddim yn Nhregaron yn fater gwahanol iawn.

Tregaron – nid y Bae

Does yna ddim poblogaeth fawr ar garreg y drws i grwydro draw fin nos a chael profiad annisgwyl o’n diwylliant ni a fydd hi ddim yn hawdd i bobol lai cefnog gyrraedd yr Eisteddfod petaen nhw eisio gwneud hynny. Mi fydd dod i Eisteddfod Ceredigion yn benderfyniad mawr.

Y nod yng nghefn gwlad Ceredigion fyddai denu tair carfan o bobol newydd – siaradwyr Cymraeg nad ydyn nhw’n uniaethu â’r Eisteddfod ar hyn o bryd (gan gynnwys rhai o bobol y Sioe Fawr), trigolion rhai o’r trefi llai-Cymraeg eu hiaith a’r boblogaeth newydd anferth ddi-Gymraeg sydd bellach yn byw yn y sir.

Mi allai Maes am ddim apelio at y garfan gynta’; mi fyddai angen bysus am ddim i helpu pobol ddi-fraint ac mi fyddai angen llawer rhagor wedyn i ddenu’r drydedd garfan. Mi fyddai angen misoedd o waith o flaen llaw i agor llygaid a braenaru’r tir.

(Mae yna bosibiliadau eraill hefyd, heb fynd lawn mor bell. Mi fyddai mynediad am ddim i blant, er enghraifft, yn denu llawer o deuluoedd, gan gynnwys cynulleidfaoedd newydd ac, yn sicr, mi fyddai un diwrnod cwbl agored bob blwyddyn yn atynfa fawr)

Pam?

Er mwyn cael ‘yr amgylchiadau iawn’ ar gyfer Maes am ddim, mi fyddai’n rhaid meddwl yn galed am bwrpas y cynllun, am y targedi posib a’r ffordd orau o wneud llwyddiant o’r syniad.

Mi fyddai’n rhaid gweithio ymlaen llaw i gyrraedd y bobol hynny a gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol cyn cyrraedd. Mi fyddai’n rhaid ei gwneud hi mor hawdd â phosib iddyn nhw gyrraedd a sicrhau ar y Maes eu bod nhw’n deall beth sy’n digwydd ac yn ffeindio’u ffordd o gwmpas.

Mi allai hynny gynnwys wythnosau o weithgareddau i roi gwybod be ydi Eisteddfod ac ychydig o’r cefndir a hyd yn oed wersi Cymraeg elfennol am ddim i roi teimlad o’r iaith. Ar y Maes, ffilmiau cyflwyno a gwybodaeth glir am beth sy’n digwydd ymhobman, trwy appiau a phethau o’r fath.

Mi fyddai angen addasu’r Maes eto, efo mwy o lwyfannau agored, gan gynnwys mannau i gystadleuwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus roi perfformiadau byrfyfyr – heb hynny, fyddai ymwelwyr newydd ddim yn cael profiad o’r hyn ydi Eisteddfod na’r diwylliant ehangach, dim ond o ŵyl fasnachol.

Yn gymaint â dim,  mi fyddai angen gwaith cefnogi wedyn er mwyn atgyfnerthu’r effaith ac er mwyn deall be’n union sy’n gweithio orau. O wneud hyn i gyd yn drylwyr, mi fyddai potensial am gannoedd o aelodau newydd llawn o’n diwylliant ni, yn cyfrannu ac ysbrydoli.

Y rhan hawdd a rhad yn y broses ydi cynnig tocynnau am ddim.