Pont Hafren – beth sydd mewn enw?

Diweddarwyd am  
Huw Webber

Huw Webber, cadeirydd Yes Cymru Colorado

Llun: Huw Webber

Yn dilyn yr helynt tros ailenwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, mae’r gwrthwynebiad i’w deimlo mor bell i ffwrdd â thalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau. Huw Webber, cadeirydd mudiad Yes Cymru Colorado, sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, sy’n rhannu ei feddyliau…

Does dim angen eich bod wedi darllen stori fer Ursula K. Le Guin, The Rule of Names, i ddeall fod symboliaeth bwerus i enwi pethau. Does ond angen i chi ofyn i rywun sydd â ffugenw Cymraeg.

Ces i fy magu yng Nghymru’r 1980au, a gadael Cymru yn 1996, gan bleidleisio gyda fy nhraed. Ar y pryd, ro’n i’n teimlo nad oedd gobaith i’r diwylliant na’r economi, ac na fyddai’r wlad yn codi ar ei thraed eto gan ei bod yn wladwriaeth gaeth ac yn economi echdynnol oedd yn cael ei rheoli er lles y “DU” ac yn enwedig de-ddwyrain Lloegr. Ac fe ges i fy narbwyllo yn ystod rhai blynyddoedd o astudio a gweithio yn Lloegr y byddai rhagfarn wrth-Gymreig yn fy nal i’n ôl yn fy ngyrfa. Do’n i ddim am aros i hynny ddigwydd.

Yna, pan bleidleisiodd Cymru o blaid ymreolaeth ac yna dros bwerau deddfu sylfaenol, fe welais i’n raddol fod gobaith ar y gorwel. Hynny yw, dechreuadau uchelgais i wella economi Cymru ac i gryfhau ei diwylliant a’i hiaith. Wedi’r cyfan, mae gwledydd eraill wedi gwneud yn well gyda llai o adnoddau, ac mae gan Gymru gryn dipyn i’w gynnig (prifysgolion gwych, cynhyrchu ynni, economi’n seiliedig ar allforion – a gwarged masnach os tynnwch chi allan y pethau dibwynt fel Trident a rhyfeloedd wedi’u harwain gan Loegr).

Uchelgais

Mae ieuenctid Cymru, wedi’r cyfan, wedi cael addysg dda ac yn aml yn gadael am nad oes gan Gymru fawr o uchelgais. Dydy sefydliad Llafur dieisiau ddim yn helpu yn hynny o beth; mae hi, neu roedd hi ond â diddordeb yng ngwleidyddiaeth San Steffan ac mewn gwneud cyn lleied â phosib i wrthsefyll heriau o du Plaid Cymru a’u tebyg.

Dychmygwch beth fyddai modd ei wneud pe bai’r economi’n cael ei hailddyfeisio a phe gallai pobol Cymru gymryd rhan mewn economi fodern heb adael. Byddai’n datrys llewyrch a’r problemau mudo diwylliannol a ieithyddol gyda’i gilydd! Mathemateg yw hyn. Dyna mae Iwerddo wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Pam na all Cymru ei wneud hefyd?

Mae YesCymru yn chwa o awyr iach y dylid ei groesawu yn yr amgylchfyd hwn oedd yn arfer bod yn stêl, ac mae wedi creu ffordd o feddwl “y tu allan i’r bocs” – ffordd o feddwl, dw i’n meddwl, fydd yn arwain at annibyniaeth yn gynt na’r disgwyl ar y cyfan. Ac er mwyn ennill refferendwm, rhaid i chi sicrhau clymblaid eang – does dim ots pa bleidiau. Y pwynt yw, a ydych chi o blaid Cymru ai peidio?

Pont Hafren

Ac yn ôl â ni, felly, at y bont. Wnaeth alltudion fel fid dim colli eu hunaniaeth wrth fynd dramor – er i fi gael hunaniaeth ychwanegol (Americanwr) dw i’n ei chysylltu ag uchelgais, cynnydd a llwyddiant economaidd. A dweud y gwir, dw i’n credu bod gen i gyfrifoldeb i helpu Cymru i ddeall y gall wella’i hun.

Nid yr enw, fel y cyfryw, yw’r broblem o safbwynt y bont (er bod hynny’n achosi rhwyg o ran yr enw sy’n cael ei gynnig) ond yn hytrach y ffordd y cafodd ei orfodi ar Gymru heb bleidlais ddemocrataidd.

Y Cymry ddylai wneud y penderfyniadau i’r Cymry oherwydd bod y bobol hynny’n gwybod beth sydd orau i Gymru.

Mae unrhyw beth arall yn drefedigol ac yn awgrymu na fydd gan Gymru’r hawl i gystadlu â gwledydd eraill er ei lles ei hun. Er enghraifft, gall Cymru gystadlu o ran llwybrau awyr – ond a fydd llywodraeth Seisnig yn caniatáu cystadleuaeth rad i Heathrow neu i Fryste? Neu a fydd asedau Cymreig fel dŵr ac ynni yn cael eu gwerthu i Loegr ac i lefydd eraill am bris economaidd er lles economi Cymru – neu a fydd eu gwerth yn cael ei drosglwyddo i’r Ddinas? Gwnewch chi y symiau.

Felly dydy ailenwi’r bont yn ddim byd ond arwydd o ddirmyg, o esgeulustod ac o waseidd-dra gan y sawl sydd ag uchelgais i reoli Cymru drwy law Alun Cairns (beth wnaeth Ysgol Ystalyfera iddo, tybed, i’w wneud e’n gymaint o Ddic Siôn Dafydd?). Gyda Brexit ar y gweill, mae’r perygl i ymreolaeth Cymru (a’r Alban) hefyd yn amlwg ac felly, ni all pobol Cymru ganiatáu’r orfodaeth hon. Rhaid protestio. Byddai unrhyw beth llai na hynny’n arwydd o ildio fod Cymru’n analluog ac yn anfodlon datrys ei phroblemau ei hun – fel y dylai – fel gwlad annibynnol.

Yn bersonol, awn i am Bont Owain Glyndŵr ond byddwn i’n fodlon derbyn dewis y Cymry – Pont Ryan, efallai…

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd