RSS

Golwg360

MwyCau 
Owain Gwynedd

Owain Gwynedd

Dewis Y Llewod

Cyhoeddwyd Ebrill 3, 2013 gan Rygbi.

Tagiau: Y LLewod


Fe fydd Warren Gatland yn enwi ei garfan ar gyfer taith y Llewod ar ddiwedd y mis, ond yn y cyfamser mae’r dyfalu’n parhau ymysg y gwybodusion. Boi rygbi Golwg360, Owain Gwynedd, sy’n enwi’r 15 mae o’n credu ddylai ddechrau’r prawf cyntaf yn erbyn Awstralia ar 22 Mehefin.

Cymru yw Pencampwyr y Chwe Gwlad -  ac mae deud huna allan yn uchel dal i roi rhyw fath o wefr i mi. Heblaw am y 45 munud gwael yn erbyn y Gwyddelod, er dwi’n meddwl y dylai Cymru fod wedi ennill y gêm efo’r cyfleoedd a gawsom nhw beth bynnag, mi fysa Cymru’n dathlu’r ail Gamp Lawn yn olynol a’r bedwaredd mewn llai ‘na degawd.

Efallai wedyn fydda ni wedi bod yn sgwrsio bod tîm y degawd yma yn fwy llwyddiannus na’r 70au.

Erbyn hyn mae dros bythefnos wedi mynd heibio ers y gêm, neu’r sioe, rygbi orau yn hanes dyn. Ac mae’r gorfoledd gwallgof lle’r oedd pob Cymro wnaeth chwarae yn erbyn Lloegr am ddechrau i’r Llewod yn erbyn Awstralia haf yma wedi tawelu.

Felly, gyda’r holl emosiynau allan o’r system, sawl Cymro fydd yn dechrau i’r Llewod? Dyma nhîm i…

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

Sawl un wedi darogan bydd cefnwr Yr Alban, Stuart Hogg, yn hawlio’r safle ond dwi’n cael hi’n anodd iawn anwybyddu ‘Chwaraewr y Chwe Gwlad’ a chiciwr cyson o dan bwysau.

Yr adeg yma llynedd byddai Rob Kearney wedi bod yn fygythiad ond mae anafiadau wedi ei ddal yn ôl.

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

Ar ei ddydd Bowe ydi un o asgellwyr gore Ewrop, ond mae o wedi dioddef o anafiadau’r tymor yma. Os ydi o’n profi ei ffitrwydd fo fydd y ‘wildcard’.

Bydd Alex Cuthbert yn teimlo’n anlwcus gan fod o yn gallu gorffen symudiad yn well nag unrhyw chwaraewr. Ond mae ei wendidau amddiffynnol a’r diffyg sgil i drafod y bêl mewn symudiadau chwim y cefnwyr yn anfantais.

13. Brian O’Driscoll (Iwerddon)

Gyda blaenwyr a chefnwyr mor gorfforol yn y tîm mae angen rhywun efo ychydig o greadigrwydd ymysg y cefnwyr. Doedd O’Driscoll ddim ar ei ore erbyn diwedd y gystadleuaeth ond mae o’n cynnig set o sgiliau does fawr arall yn gallu.

Jonathan Davies yn sicr efo set ar yr awyren.

12.  Jamie Roberts (Cymru)

Cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr, Manu Tualagi oedd wedi hawlio’r safle gyda’i rediadau ffrwydrol a dinistriol. Yn ystod y gêm honno fe ollyngodd y bêl efo’r llinell gais yno i’w chroesi gan fethu â phasio’r bêl ddwywaith, oherwydd ei ddiffyg gallu, lle roedd yna gais yn debygol. Bydd angen cymryd pob cyfle yn Awstralia.

11. George North (Cymru)

Be all rhywun ddeud am y cawr 20 oed? Gogzilla, yr asgellwr gorau o’i fath yn y byd.

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

Cyn y Chwe Gwlad fo oedd y ffefryn am y safle ac er ei fod  wedi ei anafu am hanner y bencampwriaeth does yr un maswr arall wedi gwneud digon i’w ddisodli.

Fyddai’n synnu os na fydd Dan Bigger ar yr awyren hefyd.

9. Mike Phillips (Cymru)

Dwi ddim yn un ffans mwyaf sgiliau dosbarthu Mike, ond fe sgubodd pob rhif naw arall i’r naill ochr yn ystod y Chwe Gwlad.

1. Cian Healy (Iwerddon)

Sgrymiwr cryf a rhedwr pwerus. Wedi bod y mwyaf cyson o’r holl bropiau pen rhydd. Heblaw am y gêm yn erbyn Lloegr, tydi Gethin Jenkins heb ddisgleirio’n gyson eleni.

2. Richard Hibbard (Cymru)

Sgrymiwr a rhedwr cryf ac mae sŵn y gwrthdaro o’i daclo yn dal i atseinio yn fy nghlustiau.

3. Adam Jones (Cymru)

Prop pen-tyn gore Ewrop.

4. Joe Launchbury / Geoff Parling (Lloegr)

Roedd Launchbury wedi chwarae’n dda ar ddechrau’r gystadleuaeth tra bod  Parling wedi tyfu wrth i’r bencampwriaeth ddatblygu, gan orffen efo perfformiad gwych yn erbyn Cymru.

Gallai rhywun ddewis un o’r ddau.

5. Alun Wyn-Jones (Capten) (Cymru)

Er gwaethaf sylwadau diweddar Gatland, er mwyn bod yn gapten ar unrhyw dîm rhaid i’r person yna fod yn sicr o’i le. Ar ôl dychwelyd i’r cochion fe wnaeth Jons argraff yn syth a chodi safon y tîm i lefel arall.

6. Sean O’Brien (Iwerddon)

Anifail o ddyn sydd yn ddinistriol yn ardal y dacl ac wrth gario’r bêl. Mi fysa Dan Lydiate wedi ei wthio’n agos am y safle petai wedi bod yn holliach am y tymor. Bydd gan Chris Robshaw, Ryan Jones a Sam Warburton gyfle i fod yn rhan o’r pymtheg cyntaf.

7. Justin Tipuric (Cymru)

Dwi’n ffan anferth o Sam Warburton ac yn meddwl ei fod, yn ei gyfanrwydd, yn well chwaraewr ‘na Tipuric. Ar y llaw arall efo pump blaen anferth a rheng-ôl sy’n gallu gwneud y gwaith caib a rhaw, bydd gan Tipuric ryddid i wneud be mae o’n wneud ore – dwyn y bêl yn ardal y dacl a bod yn ddolen gyswllt effeithiol rhwng y cefnwyr a’r blaenwyr.

8. Toby Faletau (Cymru)

Ar ddechrau’r Bencampwriaeth fyswn i wedi dewis Jamie Heaslip, ond mae o’n un o’r nifer o Wyddelod â oedd yn siomedig yn ystod y Chwe Gwlad. Mae gan Ben Morgan, o’r Sgarlets gynt, gyfle da i fod ar yr awyren ac i wthio Faletau am y safle oherwydd ei allu i gario’r bêl. Ond i mi mae Faletau yn gallu gwneud pob dim sy’n ddisgwyliedig o wythwr – ac mae o’n Gymro!!!

Ydach chi’n cytuno efo Owain? Ydy’r Llewod yn berthnasol? Trafodwch isod…

Canlyniad Cymru v Yr Alban – Wythnos 4

Cyhoeddwyd Mawrth 11, 2013 gan .

Tagiau: Alban, blog, Cymru, Owain Gwynedd, Rygbi


Sam Warburton
Owain Gwynedd sy’n bwrw golwg nol ar fuddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Alban…

Diolch yn fawr iawn i’r Eidal am wneud ffafr a Chymru.

Y Bencampwriaeth

Os fydd Cymru’n curo Lloegr ddydd Sadwrn o saith pwynt fe fydd y ddwy wlad wedi ennill pedair a cholli un, a bydd y gwahaniaeth pwyntiau yn gyfartal. Os felly, fe fydd pencampwr y Chwe Gwlad 2013 yn cael eu penderfynu ar sail sawl cais sydd wedi cael eu sgorio.

Ar hyn o bryd mae Cymru wedi sgorio saith cais a Lloegr pump. Felly, fe fydd ennill y gêm o saith pwynt a pheidio gadael i Lloegr sgorio dau gais yn fwy na Chymru ar y diwrnod yn golygu bydd y Cochion yn Bencampwyr.

Cymru v Yr Alban

Unwaith eto doedd Cymru ymhell o fod ar eu gorau, ac mae rhywun yn teimlo bod y tîm yn gallu cynnig gymaint yn fwy, ond pwy sy’n poeni os ydyn nhw’n ennill? A hynny am y pumed gêm oddi cartref yn olynol a’r wythfed tro o’r naw ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

Mi oedd yr amddiffyn yn gadarn eto a tydi Cymru heb ildio cais ers yr hanner gyntaf yn erbyn y Gwyddelod.

Roedd y sgrym yn gryf ac yn gadarn ac ambell waith yn arwain at giciau cosb a phwyntiau.

Os oedd y blaenwyr wedi plesio yn yr elfen honno dros y ddwy gêm ddiwethaf yn sicr roedden nhw wedi plesio yn y chwarae agored trwy rycio’n gryf a gosod eu stamp corfforol ar y gêm. Hynny yn arwain at lwyfan cadarn i reoli pethau.

Mae’n rhaid rhoi clod enfawr i Sam Warburton am gael ei enwi yn ‘Seren y Gêm’ ac Alun Wyn-Jones am wneud argraff sylweddol. Fe wnes i alw am i’r ddau i gael eu cynnwys ac, am unwaith, dwi’n falch fy mod i wedi cael fy mhrofi’n iawn ar ôl cael fy mhrofi’n anghywir ambell waith yn ystod y gystadleuaeth.

Mae’n benderfyniad anodd i newid tîm sydd yn ennill ond fe wnaeth Rob Howley y penderfyniad dewr yna, efallai ar ôl darllen fy mlog – ond dwi’m yn meddwl rhywsut.

Ar y llaw arall mae’n rhaid gwella’r ddisgyblaeth a dwi’n siŵr fysa Shaun Edwards yn tynnu ei wallt allan petai ganddo rywfaint.

Dwi’m yn deall pam bod pawb yn rhoi’r bai ar y dyfarnwr, Craig Joubert, am ddifetha’r gêm. Y chwaraewr oedd yn troseddu ac felly mae’n rhaid derbyn y gosb. Yr unig fai ar Joubert oedd ei fod o heb roi sawl cerdyn melyn i’r ddau dîm ynghynt. Efallai fysa llif yr holl gêm wedi bod yn wahanol ac wedi effeithio Cymru yn waeth na’r Albanwyr.

Mae’r tîm wedi gwella ar nifer o elfennau yn ystod y bencampwriaeth a heb os mi fydd rhaid gwella’r ddisgyblaeth yn sylweddol.

A sôn am wella, mae rhywun yn gobeithio bod Ryan Jones heb ei anafu’n rhy ddrwg ac y bydd wedi gwella erbyn dydd Sadwrn. Mae o wedi chwarae ac arwain y garfan yn wych ac yn sicr am ddechrau yn erbyn Lloegr os yn holliach.

Yr Eidal v Cymru

Cyhoeddwyd Chwefror 25, 2013 gan Rygbi.

Tagiau: Cymru, eidal, Owain Gwynedd, Rygbi


Shane Williams
Owain Gwynedd sy’n crynhoi llwyddiant Cymru dros y penwythnos…

Wow! Am benwythnos o chwaraeon i Gymru.

  • Abertawe yn ennill Cwpan Capital One.
  • Caerdydd yn ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth i wyth pwynt.
  • Wrecsam drwodd i rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley.
  • Casnewydd a Wrecsam yn arwain y Gyngres.
  • Becky James yn Bencampwraig y Byd mewn dwy gamp ar y trac beicio a’r person cyntaf o Brydain i ennill pedair medal.
  • Cymru yn curo’r Eidal 26 – 9 i ennill pum gêm yn olynol oddi cartref yn y 6 gwlad am y tro cyntaf erioed.

Pwy fysa’n meddwl bod Cymru efo’r cyfle i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl colli i’r Gwyddelod yn y gêm gyntaf?

Ers hynna mae curo Ffrainc (16 – 6) ac wedyn Yr Eidal (26 – 9) wedi rhoi pob cyfle i gyflawni’r dasg honno ond, wrth gwrs, mae’n haws dweud na gwneud.

Rhaid curo’r Alban, sydd yn gydradd ail gyda Chymru, yn swmpus yn Murryfield er mwyn sicrhau bod y gwahaniaeth pwyntiau ddim yn rhy uchel pan fydd Lloegr yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm.

Cymru v Yr Eidal

Be sydd yna i ddeud am gêm Yr Eidal?

Mi oedd hi’n gêm ddifrifol oherwydd y tywydd, gorfod gwylio cic ar ôl cic ar ôl cic.

Roedd rhywun dim ond yn gorfod edrych ar Twitter i weld pawb yn trafod salwch y sylwebydd Andrew Cotter ar y BBC, a Jonathan Davies ac wedyn Huw Llywelyn Davies yn gorfod camu i’r adwy er mwyn achub y dydd yn fwy diddorol na’r gêm ei hun.

Y Da

Y pethau positif am  y gêm oedd bod sgrym Cymru wedi gosod ei stamp ar flaenwyr cryf a sgrym adnabyddus yr Azzurri yn enwedig ar ôl gwegian yn erbyn y Ffrancwyr.

Pan ddaeth y cyfleoedd prin i sgorio cais mi wnaeth Jonathan Davies ac Alex Cuthbert yn dda i gymryd nhw, lle yn y gorffennol mae Cymru wedi bod yn wastraffus.

Yn olaf, Leigh Halfpenny. Gem wych arall lle cafodd ei wobrwyo yn ‘seren y gêm’ ac, fel y gwnaeth Shane Williams ei ddisgrifio fo, “Mr Reliable”. Mi oedd yr amgylchiadau yn rai oedd am brofi unrhyw gefnwr i’r eithaf ac yn ffodus i Gymru fe wnaeth o ateb pob un ac yn fy marn i fydd o’n ateb gofynion y Llewod yn yr haf.

Yn sicr, o ran perfformiad cyflawn y tîm mi oedd hi’n gam ymlaen ac yn welliant.

Y Drwg

Heblaw’r ffaith bod y gêm am fod yn ddiflas cyn i’r chwiban gyntaf cael ei chwythu, yr unig beth wnaeth codi pryder i mi oedd llinell y Cochion.

Mi oedd colli’r tafliad gyntaf efo tafliad hir dros ben pawb yn y munudau cyntaf wedi gosod y dôn i be oedd am ddod. Llinell oedd o dan gryn dipyn o bwysau ac yn ei chael hi’n anodd sicrhau meddiant glan.

Yn erbyn Y Gwyddelod mi wnaeth Yr Albanwyr rheoli’r llinellau a sbwylio nifer o linellau’r Gwyddelod. Os am fod yn llwyddiannus yn erbyn yr Albanwyr ac unrhyw dîm arall mae’n rhaid bod yn sicr o’r meddiant o’r llinellau, felly fydd rhaid gwella ar yr elfen yma o chwarae.

Er mwyn gwneud hynny dwi’n teimlo bydd dewis Alun Wyn-Jones cyn Andrew Coombs o help a hyd yn oed Sam Warburton cyn Justin Tipuric. Fydd yr un olaf llai tebygol na’r cyntaf os ydi Rob Howley am gadw ffydd yn y tîm sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf.

Canlyniadau Eraill

Tîm Merched – Yr Eidal 15 – 16 Cymru

Tîm Dan 20 –  Yr Eidal 10 – 25 Cymru

Tîm Dan 18 -  Yr Eidal 8 – 41 Cymru

Y tîm dan 20 ydi’r unig dîm efo’r cyfle i gyflawni’r gamp lawn.

Yr Eidal v Cymru

Cyhoeddwyd Chwefror 22, 2013 gan .



Ein blogiwr Owain Gwynedd sy’n pwyso a mesur cyfle’r bois o ddal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad…

Does fawr i fynd nes bod Cymru am geisio cymryd yr ail gam i fod yn dîm o werth ac efallai yn y pendraw i gadw gafael ar bencampwriaeth y Chwe Gwald.

Tydi chwarae oddi cartref yn yr Eidal bell o fod yn hawdd. Mae canlyniad y Ffrancwyr yno yn atgof diweddar o hynny.

Cyfuno’r canlyniad yna gyda chanlyniadau Cymru yn Yr Eidal ers y flwyddyn 2000, y flwyddyn gafodd yr Azzurri i dderbyn i chwarae yn y Chwe Gwlad, mae’r gêm hon yn argoeli i fod yn un anodd.

Yn y gorffennol efallai fysa Cymru wedi meddwl cylchdroi’r garfan fel bod pawb yn cael amser ar y cae a chadw’r sêr mawr yn ddiogel a ffres at y gemau pwysig. Erbyn hyn tydi hynny ddim yn opsiwn.

Y boen o golli

Dim ond angen atgoffa ein huna’n o’r boen o golli yn y Stadio Flaminio, Rhufain yn 2003 (30 v 22) a 2007 (23 v 20) a hefyd y gêm gyfartal yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006 (18 v 18), sydd ei angen i weld tydi record Cymru ddim yn wych – chwarae chwech a cholli dwy oddi cartref.

Gall rhywun ddadlau bod Cymru wedi dysgu ei gwers ers y golled yn 2007 gan ei bod wedi ennill pob gem ers hynny.

Treviso wedi taro deuddeg

Ar y llaw arall mae clybiau Yr Eidal… wel, Treviso beth bynnag, wedi cryfhau ers ymuno a’r Pro 12 ac yn arwydd bod rygbi yn Yr Eidal yn cryfhau ar y lefel honno. Yn debyg i’r tîm rhyngwladol, mae Treviso wedi bod yn anodd iawn i’w curo yn yr Eidal. Mae’r Gweilch, Scarlets a’r Dreigiau wedi colli mewn gemau Pro 12 yn y Stadio Comunale di Monigo y tymor yma. Pan oedd y pwysau ar y Gweilch i ennill yno yn y Cwpan Heineken, colli oedd yr hanes. Mae yna bwysau dal i fod ar y crysau cochion i ennill y tro yma.

Er yr hwb mewn hyder o bythefnos yn ôl, fe fydd angen i Gymru fod yn wyliadwrus ac ar eu gora os maen nhw am ennill.

Absenoldeb Parisse o’n plaid ni

Un peth sydd o’u plaid ydi absenoldeb y capten Sergio Parisse, sydd wedi ei wahardd ar ôl sarhau’r dyfarnwr wrth gynrychioli ei glwb Stade Francais penwythnos ddiwethaf. I mi, fe yw’r wythwr gora yn y byd.

Dwi’n falch bod Parisse wedi ei wahardd. Fydd Yr Eidal wedi ei gwanhau a hefyd oherwydd y pla sy’n lledaenu trwy’r gêm o rygbi lle mae chwaraewyr ar bob lefel, ynghyd ar dorf, yn meddwl bod nhw’n cael cwestiynnu a dadlau â phenderfyniadau’r dyfarnwr.

Dim parch i’r dyfarnwr

Pell yn ôl yw’r dyddiau lle’r oedd chwaraewr a ffans rygbi yn gallu dweud bod nhw’n well na’u cymdogion pêl-droed oherwydd y parch sydd yn cael ei ddangos tuag at y dyfarnwr. Hen bryd bod rhywbeth yn cael ei wneud am y peth a bod esiampl wedi ei osod i bawb.

Chwalu’r Eidal

Nol at y peth pwysig, y gêm brawf, pwy sydd am ennill?

Dw i wedi dysgu fy ngwers ac i beidio gwrando ar yr ymennydd twp yna sydd gen i – yr un wnaeth ddeud bod Ffrainc am guro Cymru. Ddylwn i o hyd gwrando ar fy nghalon ac felly mae Cymru am chwalu’r Eidal…. gobeithio!!

Warburton cyn Tipuric

Cyhoeddwyd Chwefror 21, 2013 gan .

Tagiau: Justin Tipuric, rygbi cymru, Sam Warburton


Sam Warburton - fo ddylai fod yn y crys coch
Tydi colli gêm o rygbi byth hawdd. Yr holl ymarfer, paratoi, ymdrech, chwys, cleisiau ac anafiadau ac ar y diwedd be sydd i’w ddangos? Dim.

Dw I’n methu dychmygu pa mor anodd ydi colli wyth gêm yn olynol. Y tensiwn a’r pwysau mewnol naturiol o fod eisiau ennill heb sôn am orfod darllen a gwrando ar y cyfryngau yn pwyntio bys tuag at unigolion am beidio perfformio.

Heb os roedd curo’r Ffrancwyr a dod ac un o rediadau gwaethaf y tîm rhyngwladol i ben, yn rhyddhad anferthol a hwb i hyder ac ysbryd carfan Cymru. Rhywbeth fyswn i’n dychmygu oedd pob unigolyn, dim ots be oedd ei swydd gyda’r garfan, ei angen. Yn enwedig Rob Howley.

Rhaid cymeradwyo Howley, wrth enwi’r tîm i wynebu’r Eidal yn gynnar, am roi hwb ychwanegol i’r pymtheg a gychwynnodd yn erbyn Ffrainc. Gall rhywun ddychmygu’r pymtheg yna yn ymarfer gyda gwên o glust i glust am yr wythnos ddiwethaf ac yn barod i wneud popeth yn eu gallu ei ad-dalu’r ffydd sydd wedi ei ddangos ynddyn nhw.

Yn ychwanegol, mae enwi’r garfan yn fuan wedi atal y cyfryngau rhag dadlau a darogan pwy ddyle chwarae a pham. Yn naturiol mae’r chwaraewyr am weld y penawdau ac oherwydd hynny efallai am deimlo pwysau ychwanegol – megis Sam Warburton.

Warburton v Tipuric

Gan fod Warburton yn holliach ar gyfer y penwythnos, mi fyswn i wedi ei ddewis cyn Justin Tipuric.

Dw i’n gallu clywed pawb yn sgrechian bod Tipuric yn haeddu cadw’i le. Yndi, mae o wedi chwarae yn dda, a dw i wedi dweud yn y gorffennol ei fod o am chwarae rhan fawr yn ymgyrch y Cochion i ennill y Chwe Gwlad ond Warburton ydi capten Cymru ac, i fi, mae’n dal i fod yn well chwaraewr.

Mae yna ddau reswm pam bod Warburton o dan bwysau am ei safle. Y cyntaf ydi’r gystadleuaeth gan Tipuric a’r ail ydi’r safon anhygoel y mae Warburton wedi ei gosod yn y gorffennol, safon nad ydi o ddim wedi ei chyrraedd yn ddiweddar. Tydi peidio cyrraedd y safon yna ddim yn golygu ei fod o’n chwarae yn wael.

  • Sawl tacl mae o wedi ei methu? Dim un o be dwi’n cofio.
  • Sawl gwaith yn fwy mae Tipuric wedi cipio’r bêl yn ardal y dacl na Warburton yn y Chwe Gwlad? Dim.
  • Ydi o wedi cario’r bêl yn dda? Naddo, ond ddim dyna ydi ei swydd a tydi Tipuric, heblaw am ambell i rediad mewn ail hanner agored yn erbyn Iwerddon, heb wneud chwaith.
  • Ydi gore Warburton yn well na gore Tipuric? Mae hanes yn dangos ei fod.

Felly i mi mae Warburton, ar ôl nifer o anafiadau, angen rhediad o gêmau er mwyn cyrraedd yr uchelfannau unwaith eto.

Yn union fel mae Alun Wyn-Jones angen ar ôl ei anaf yntau.

Alun Wyn v Coombs

Os ydi Cymru am ennill y Chwe Gwlad mae Cymru angen ei chwaraewyr gore ar y cae a hefyd yn chwarae ar eu gore. Yn enwedig efo’r angen i guro Lloegr, sydd llawn hyder, yng  ggêm olaf o’r bencampwriaeth.

Fel Warburton, mae Alun Wyn angen amser ar y cae er mwyn codi ei ffitrwydd i’r lefel rhyngwladol a hefyd i ddarganfod y safon y mae o’n gallu ei chyrraedd.

Mae Andrew Coombs wedi gwneud llawer gwell nag oedd unrhywun yn ei ddisgwyl ac mae’n ddewis anodd gorfod ei adael allan o’r tîm. Ond Alun Wyn ydi’r ail reng gore yn y wlad a hynny ers sawl tymor. Mae rhaid rhoi pob cyfle iddo fo fod yn barod at gêm Lloegr, i fi, mi fyddai hynny wedi golygu dechrau cyn Coombs ddydd Sadwrn.

‘Gall Cymru gipio’r Chwe Gwlad o hyd’

Cyhoeddwyd Chwefror 11, 2013 gan Rygbi.

Tagiau: Chwe Gwlad, George North, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, rygbi cymru


Owain Gwynedd sy’n edrych yn ôl ar rygbi’r penwythnos, ac ymlaen at obeithion Cymru yn y bencampwriaeth.

Dwi’n casáu bod yn anghywir ond ar yr achlysur yma, pan dwi wedi darogan bod Ffrainc am ennill, dwi wrth fy modd.

Dyma ddau dîm oedd dan gryn dipyn o bwysau ar ddechrau’r gêm gan wybod os oedden nhw am golli hon roedd y freuddwyd o fod yn bencampwyr drosodd. I Gymru mae’r freuddwyd dal yn fyw.

Roedd hi’n fuddugoliaeth emosiynol a ddaeth â rhediad o wyth colled yn olynol i ben a roedd y pleser a’r rhyddhad o ennill yn glir ar wynebau’r chwaraewyr, hyfforddwyr a’r cefnogwyr triw.

Y cawr Jamie Roberts mewn dagrau yn ystod cyfweliad ar y teledu – mi oedd y balchder yn y crys coch yn glir i bawb.

Doedd y perfformiad yn bell o fod yn glasur ond y peth pwysicaf oedd ennill.

Edrych Ymlaen

Rhaid bod yn ofalus i beidio edrych rhy bell ymlaen ar ôl ennill dim ond un gêm – ond mae’n anodd peidio.

Yn dilyn buddugoliaeth Lloegr dros Iwerddon ddoe gall Lloegr, os maen nhw’n curo Ffrainc a’r Eidal, fod yn teithio i Stadiwm y Mileniwm er mwyn ceisio cyflawni’r Gamp Lawn yn rownd olaf y gemau.

Ar y llaw arall, gall Cymru, os maen nhw’n curo’r Eidal ac wedyn Yr Alban, fod yn bencampwyr gyda buddugoliaeth o nifer penodol o bwyntiau dros y Sais. Pwy oedd yn meddwl byddai hynna’n bosib ar ôl teimlo mor isel yn ystod yr wythnos ddiwethaf?

Y Presennol

Cyn rhoi’r cart rhy bell o flaen y ceffyl rhaid asesu’r perfformiad yn erbyn y Ffrancwyr ac adeiladu ar gryfderau’r perfformiad a’r hyder a fagwyd ohono.

Ar y cyfan mi oedd pob agwedd o chwarae wedi gwella mewn wythnos.

Mi oedd yr amddiffyn yn arwrol a dyna oedd sylfaen y fuddugoliaeth. Hyd yn oed os oedd y Ffrancwyr isel eu hysbryd ac yn bell o fod ar eu gorau mi oedd cadw tîm llawn talent i ddim ond chwe phwynt yn wych.

Er hynny mae yna ddigon o elfennau sydd angen eu cryfhau.

Rhaid gwella’r darnau gosod. Mi oedd y sgrym yn gwegian a’r llinell, fel yn hanesyddol, ddim yn berffaith. Rheina ydi sylfaen pob ymosod, a’r fwyaf cadarn ydyn nhw  yr haws ydi defnyddio arfau pwerus megis George North, Alex Cuthbert a Jamie Roberts.

Mae angen manteisio ar eu cryfder corfforol ond unwaith eto dim ond ymosodiadau undonog a oedd yn trio waldio’r bêl lawr gorn gwddf amddiffyn y tîm cartref oedd y dacteg a ddefnyddiwyd. Rhaid cael ychydig bach fwy o amrywiaeth  a dychymyg, lle mae’r bêl yn neud y gwaith a dim dim ond nerth bôn braich.

Os bydd Cymru yn gallu cryfhau ar yr uchod a stopio’r cam drafod bychain sydd yn lladd unrhyw fomentwm ymosodol mewn sefyllfaoedd peryglus, fel y digwyddodd yn yr ugain munud cyntaf dydd Sadwrn, fydd fawr ddim fydd Yr Eidal nac Yr Alban yn gallu gwneud i’n hatal. Wedyn geith y cart a cheffyl garlamu ymlaen i sbwylio parti Lloegr yn y gêm derfynol.

Y da, y drwg a’r…

Cyhoeddwyd Chwefror 4, 2013 gan Rygbi.


Leigh Halfpenny - chwaraewr gorau Cymru ddydd Sadwrn
Boi rygbi Golwg360, Owain Gwynedd sy’n tynnu sylw ar y da a’r drwg ym mherfformiad Cymru yn erbyn y Gwyddelod ddydd Sadwrn.

BoomBoom, BoomBoom, BoomBoom!!! Dyna’r sŵn mae nghalon i yn ei wneud ac erbyn hyn mai’n fore dydd Llun.  Wow, am gêm, yr emosiynau wedi bod dros y siop!!!

Dwi ddim yn un am ddefnyddio ystrydebau’n aml, ond roedd honna yn gêm o ddwy hanner. Cymru’n warthus yn yr hanner cyntaf ac wedyn yn wych yn yr ail.  Ar y llaw arall fysa rhywun yn gallu dadlau bod Iwerddon yn wych yn yr hanner gyntaf a ddim cystal yn yr ail.

Y gwirionedd ydi bod Cymru wedi gwneud gormod o gamgymeriadau ar ddechrau’r gêm, a hyd yn oed ar ddechrau’r ail hanner. O gyfuno hynny gyda chywirdeb llwyr y Gwyddelod,  ac roedd y cochion fwy neu lai wedi rhoi 27 pwynt  o fantais i’r ymwelwyr efo fawr mwy na hanner awr ar ôl.

Dim ots pa mor dda oedd Cymru’n chwarae tuag at y diwedd, doedd dim gobaith caneri fod tîm oedd efo cymaint o fantais ar y cae ac ar y sgôr fwrdd am ddatgymalu’n llwyr ac ildio’r fuddugoliaeth.

Rhaid rhoi clod i ymosod y Gwyddelod yn yr hanner cyntaf am gymryd pob cyfle a gynigwyd ond be oedd hyd yn oed yn fwy trawiadol oedd yr amddiffyn. Lawr i 14 dyn ar ddau achlysur ac yn gorfod cwblhau tacl ar ôl tacl am bron i hanner awr ac yna ildio dim ond 19 pwynt pan fyddai wedi gallu bod llawer mwy.

Dydd Sadwrn oedd yr wythfed gêm yn olynol i Gymru ei golli ac am y tro cyntaf yn ein hanes, pump o’r bron gartref.

Y Drwg

Rhaid i’r tîm i gyd gymryd cyfrifoldeb am y dechrau gwael ac am golli ond pe bai rhai unigolion wedi bod yn gywir efo’i sgiliau a’u penderfyniadau fe allai pethau fod wedi bod yn wahanol.

Jonathan Davies – dwi’n ffan enfawr o’r canolwr ac yn teimlo’i fod yn sicr o’i le ar daith y Llewod, ond roedd hon yn bell o fod ei gêm orau yn y crys coch. Ddwywaith wrth ymosod fe daflodd bas flêr  oedd droedfeddi tu ôl i’w darged gan ildio meddiant i’r gwrthwynebwyr. Ar ddau achlysur arall pan oedd gan Gymru ddynion ychwanegol yn y llinell ymosodol, ac yn edrych yn bendant i sgorio fe daflodd ffug-bas a chael ei daclo. Petai wedi taflu’r bas dwi’n siŵr y byddai Cymru wedi sgorio cais, os nad dwy – efallai fod y ddwy bas wyllt yn gynharach wedi taro ei hyder.

Ken Owens – pan fo amser yn mynd yn brin mae’n rhaid manteisio ar bob cyfle sy’n codi ac roedd blerwch y bachwr wrth daflu’r bêl droedfeddi dros y neidiwr gyda’r tîm rhyw ddeg medr o linell y Gwyddelod, ac yna ildio cic gosb am oedi taflu’r bêl i mewn yn nodwedd  siomedig ac yn tanlinellu blerwch y tîm i gyd ar y diwrnod.

Ian Evans – nid yn unig yr ail reng oedd yn euog am redeg i mewn i ardal y dacl efo’r dechneg anghywir. Ar sawl achlysur fe aeth o, ac eraill, i mewn i’r dacl yn uchel a’r bêl unai’n cael ei rhwygo o’u gafael neu’n cael eu dal i fyny mewn sgarmes symudol. Y canlyniad – sgrym i’r Gwyddelod. Yr elfen fwyaf siomedig oedd bod y dacteg yma yn nodweddiadol o’r ymwelwyr a dylai’r Cymry fod wedi gwybod yn well ynglŷn â sut i osgoi colli’r bêl.

Y Da

Mae’n hawdd pwyntio bys at unigolion ar ôl colli ond oherwydd y canlyniad mae’n anodd tu hwnt i glodfori’r rhai da.

Andrew Coombs – ro’n i’n un a oedd yn meddwl efallai y byddai’r ail reng wedi’i chael hi’n anodd cystadlu ar y lefel rhyngwladol, ond prin oedd y dystiolaeth yna. Hynod o weithgar ac un o’r blaenwyr a gariodd y bêl orau drwy gydol yr ornest.

Leigh Halfpenny -  i’w weld yn fwyaf cartrefol a naturiol yn safle’r cefnwr erbyn hyn. Cadarn o dan y gic uchel, rhedeg yn gryf, sgorio ceisia, cicio fel mul a ddim yn poeni beth sydd yn digwydd i’w gorff dim ond ei fod yn cwblhau’r dacl. Dwi ddim yn cofio’r un camgymeriad ganddo.

Y tîm – yr hyn gododd fy nghalon fwyaf ar ôl colli oedd cael gweld y galon a’r balchder a ddangoswyd gan bob un o chwaraewyr Cymru hyd at y funud olaf. Heb hynny ni fyddai Cymru wedi gallu brwydro ac ymladd fel y gwnaethon nhw a byddai’r Gwyddelod wedi sgorio o leiaf hanner cant o bwyntiau.

Rhaid defnyddio’r atgofion yna o’r gêm er mwyn symud ymlaen i’r gêm nesa – Ffrainc.

Cymru ar drothwy’r bencampwriaeth – barn y blogiwr

Cyhoeddwyd Chwefror 1, 2013 gan Cymru.


Owain Gwynedd
Ceiniogwerth Owain Gwynedd ar obeithion ein tîm rygbi cenedlaethol ar gychwyn y Chwe Gwlad. Mae’r blogiwr rygbi wedi cyffroi y
n l
ân!

O’r diwedd, mae’r disgwyl drosodd. Y disgwyl cyn y bu’r tîm rygbi rhyngwladol yn gallu cywiro’r iselfanau o’r chwe mis diwethaf – mae’r Chwe Gwlad wedi cyrraedd!!!

Ond cyn gallu edrych ymlaen at y gystadleuaeth ac i ddarogan sut fydd y Cochion yn gwneud mae’n anodd anwybyddu rhediad gwael Cymru a chanlyniadau’r rhanbarthau yn Ewrop.

Mae tîm Rob Howley, gan fod Warren Gatland wedi bod i ffwrdd efo’r Llewod, wedi colli’r saith gêm ddiwethaf yn olynol. Y rhediad gwaethaf o ganlyniadau ers colli deg o’r bron rhwng Tachwedd 2002 ac Awst 2003. O ganlyniad mae Cymru wedi llithro i’r 9fed safle yn rhestr detholion y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB).

Ar y lefel rhanbarthol mae darllen canlyniadau Ewrop yn fwy poenus fyth. Dim ond pum buddugoliaeth mewn 24 gêm.

Os ydi hynny ddim digon mae rhestr anafiadau Cymru yn parhau i fod yn anferthol gyda chwaraewyr allweddol megis Alun Wyn-Jones, Luke Charteris, Bradley Davies, Rhys Priestland a Dan Lydiate heb fod ar gael.

Dim syndod bod hyder y garfan a’r cefnogwyr yn isel.

Ond Cymru yw Pencampwyr y Chwe Gwlad, ar ôl cyflawni’r Gamp Lawn y llynedd, a hefyd y tîm wnaeth orffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd. Felly, mae rhywun yn gobeithio y bydd Cymru yn gallu ail gydio yn uchelfannau union flwyddyn yn ôl a dangos ‘class is permanent, form is temporary’ fel bysa’r Sais yn ddweud.

Y Cefnwyr

Mae’r dywediad yna yn wir i nifer o unigolion. Er bod y rhanbarthau yn tan berfformio ac yn colli mae nifer o chwaraewyr Cymru yn chwarae yn dda ac wedi ail ddarganfod eu safon. Yn ystadegol mae chwaraewyr megis Jamie Roberts, Jonathan Davies, Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny yn ddewis cyntaf i’r Llewod.

Wrth ychwanegu’r bythol hyderus Mike Phillips a Dan Bigger i’r rhestr yna o gefnwyr mae gan y Cochion linell ôl sydd llawn hunan gred gyda’r gallu i fygwth unrhyw dîm. Heb anghofio am Gogzilla, gall rhywun ddadlau mai Cymru sydd efo’r cefnwyr gorau ar bapur.

Rhaid nodi efallai nad yw’r maswr Bigger yn taro’r nodyn cywir i bawb. Ond rhaid cyfaddef mai fo sydd wedi chwarae yn rheolaidd ac yn gyson yn y safle hwnnw. Dw i’n teimlo bod o’n haeddu cyfle cyn James Hook, sy’n dalentog ond anwadal.

Y Blaenwyr

Beth am y pac? Tydi rhywun methu cwyno yn ormodol efo rheng flaen taith ddiwethaf y Llewod, fe ddylsa nhw fedru dal eu tir.

Yr ail reng sy’n peri pryder. Alun Wyn, Charteris a Bradley Davies ddim ar gael. Ac er i Ian Evans chwarae pob munud o’r bencampwriaeth y llynedd tydi o heb chwarae ers yr Hydref. Dim ond gobeithio ei fod o wedi gallu cadw lefel uchel o ffitrwydd. Os ddim mae’r cawr 6’7” a bron i 22 stôn Olly Khon ar y fainc. Siŵr fydd ei faint anferthol yn gallu gwneud tipyn o niwed.

Yna Andrew Coombs yn ennill ei gap cyntaf, ac yntau ond wedi symud i’r ail reng ers dechrau’r tymor. Ydi o ddigon da i’r lefel rhyngwladol? Amser a ddengys. Ac yntau’n 28 mlwydd oed, mi fysa rhywun yn tybio y byddai o wedi cael ei gyfle yn gynt.

Mae’r rheng ôl yn gorfod ymdopi heb Dan Lydiate, Chwaraewr Y Chwe Gwlad 2012. Colled anferthol. Yn ei le mae Arron Shingler wedi cael ei ddewis ynghyd â Warburton a Faletau. Rhywun sydd wedi llenwi bwlch yn wych yn y gorffennol ac sydd efallai yn rhoi gwell cydbwysedd i’r tîm nag y buasai Justin Tipuric wedi ei gynnig. Er dweud hynny mae Tipuric wedi gwneud popeth yn iawn y tymor yma ac yn haeddu cyfle yn y tîm, felly fydd o siŵr o chwarae rôl bwysig wrth i’r gystadleuaeth ddatblygu.

Er mwyn cael cyfle i guro Iwerddon a mynd ymlaen i efelychu’r gorffennol rhaid i’r pac berfformio. Yn y fan yma fydd gemau yn cael eu hennill a’u colli. Rhaid i’r pump ôl o’r wyth blaen berfformio ac ail ddarganfod eu sbarc o’r chwiban gyntaf os am fuddugoliaeth.

Pwy sydd yn mynd i ennill y  Chwe Gwald?

Yn syml, nid Yr Eidal na’r Alban.

O’r gweddill gall unrhyw un o’r pedwar ddod yn bencampwyr.

Rhaid dweud mai Ffrainc, y pedwerydd tîm ar rest detholion IRB, a Lloegr, ar ôl curo Seland Newydd yn yr Hydref, ydi’r ffefrynnau.

Ar ei dydd mae gan Iwerddon y chwaraewyr i guro unrhyw dîm yn y byd. Maen nhw i gyd yn chwarae i dimau sydd wedi bod yn llwyddiannus neu yn bencampwyr Cwpan Heineken dros y blynyddoedd diwethaf, ond ar brydiau maen nhw wedi bod yn anwadal. Byddai curo Cymru yn y gêm gyntaf yn gosod y sylfaen perffaith i’w hymgyrch.

Ond fel dw i’n ysgrifennu hyn i gyd dwi’n gwylio ‘Grand Slam 2012’ gan Eddie Butler. Doedden ni ddim i fod i guro Iwerddon yn y gêm gyntaf llynedd ac yn arbennig y Gamp Lawn. Felly, be a pwy sydd yn dweud bod rhaid i bethau fod yn wahanol y tro yma?

Dw i wedi gwirioni a chyffroi yn lân fel plentyn ar noswyl Nadolig. Mae nghalon i yn sgrechian Cymru i guro Iwerddon ac i fagu’r hyfer i ennill yr holl beth.

C’mon Cymru!!!!

Pocock yw’r perygl

Cyhoeddwyd Tachwedd 30, 2012 gan Rygbi.


David Pocock
Owain Gwynedd sy’n pwyso a mesur yr ornest yfory…

Dyma ni wedi cyrraedd gem olaf ‘Cyfres yr Hydref’. Fel oedd pawb wedi darogan ar ddechrau’r gyfres fydd gêm dydd Sadwrn yma yn un fydd rhaid ei hennill, ond am resymau hollol wahanol na’r gwreiddiol.

Mi o ni’n un â oedd yn meddwl bod y gêm hon am fod yn un lle pe bai Cymru yn ennill bydd gobaith o fod ymysg y pedair gwlad gora ac uchaf yn nhabl y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRR). Pa mor anghywir oeddwn ni!!!

Mae hon erbyn hyn yn gêm fydd rhaid i Gymru ennill er mwyn aros ymhlith yr wyth uchaf. Os colli bydd hanes Cymru mi fydd Yr Ariannin a Samoa, dau dîm sydd wedi curo Cymru yn y mis diwethaf, yn codi uwch ei phen a fydd Cymru yn llithro i’r nawfed safle yn BRR.

Mae oblygiadau hynny i obeithio’n Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn ddifrifol.

Fydd grŵp posib Cymru yn gallu cynnwys Seland Newydd a Lloegr. Un gêm, oherwydd sefyllfa bresennol Cymru a’r canlyniad diweddar, fydd yn amhosib ei ennill a fydd y llall yn anodd iawn. Felly fydd ail fyw uchelfannau’r gystadleuaeth y llynedd i weld yn bell i ffwrdd.

Fel mae carfan Cymru wedi ail-adrodd sawl gwaith wythnos yma rhaid canolbwyntio ar y gêm dydd Sadwrn yn gyntaf – Y Wallabies.

Tydi Awstralia heb golli i Gymru yr un gwaith yn y saith gêm dros y pedair blynedd diwethaf. Yn amlwg fydd y gêm hon ddim yn hawdd.

Mae Awstralia ei hunain yn mynd trwy gyfnod anodd. Colli i Ffrainc, yn amheus yn erbyn yr Eidal ond, yn lwcus i ddyfodol yr hyfforddwr Robbie Deans, crafu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr

Felly mae’r gêm yn un gall Cymru ei ennill er gwaethaf anafiadau’r tîm cartref gan fod Awstralia mewn sefyllfa debyg iawn rhan ei anafiadau a pherfformiadau nhw.

Fydd y ddau dîm yn bell o fod ar ei cryfaf a fydd y tîm fydd yn ennill yn un sydd wedi gallu ymdopi â’r holl anafiadau ora.

Un person a gall ddylanwadu’r canlyniad ac sydd wedi bod yn ddraenen yn och y Cymry yn y gorffennol ydi David Pocock. Yn dychwelyd i grys rhif saith y Wallabies ar ôl anaf mae’n angenrheidiol bod rheng-ôl Cymru yn ei gadw yn ddistaw neu bydd Pocock, sydd bron yr un mor ddylanwadol â Richie McCaw i Seland Newydd, yn ddinistriol.

Fel gwelsom ni yn erbyn Seland Newydd mae Cymru i weld wedi cymryd cam yn y ffordd cywir a gwella ei pherfformiad rhywfaint. Fydd angen cymryd cam arall ymlaen a’r gam hwnnw o’r eiliad mae’r chwiban yn cael ei chwythu.

Os rhaid i mi ddyfalu pwy sydd am ennill, dwi am ddeud Cymru. Dim ond oherwydd bod rhaid ennill ac yn y gemau mawr, megis Y Chwe Gwlad a Chwpan Y Byd, mae Cymru wedi bod eithaf da yn y fath yma o gemau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Er hynny, nes i ddyfalu bod Cymru am guro Samoa ac Yr Ariannin a dwi’n un, heblaw pan mae Cymru yn chwarae Seland Newydd, sydd byth yn betio yn ei herbyn.

Cymru i guro o drwch blewyn

Cyhoeddwyd Tachwedd 9, 2012 gan Rygbi.


Rob Howley yw hyfforddwr dros dro Cymru
Owain Gwynedd sy’n rhagweld buddugoliaeth i’r Crysau Cochion mewn gêm agos yfory…

Yn syml, mae Cymru angen curo’r Ariannin yfory a dw i’n hyderus y byddan nhw’n gwneud – o drwch blewyn.

Cwpan Rygbi’r Byd

Targed ‘Gyfres Ryngwladol Yr Hydref’ i Gymru ydi codi o’r chweched safle yn nhabl ‘Y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (BRR) a gorffen yn y bedwaredd.

Fydd gorffen yn y pedwar uchaf yn golygu bydd grŵp Cymru ar gyfer ‘Cwpan Rygbi’r Byd 2015’ , sydd yn cael ei dynnu ar Ragfyr y 3ydd, yn haws ‘na beth fuasai os fysant nhw’n gorffen tu allan i’r pedwar uchaf.

Fel mai’n sefyll ar hyn o bryd, fydd Cymru yn osgoi Seland Newydd, Awstralia a De Affrica yn ei grŵp os maen nhw yn gallu codi i’r bedwerydd safle.

Yr Ariannin yn anodd

Er mwyn cyflawni hyn mae rhaid ennill dydd Sadwrn ond fydd y dasg ddim yn hawdd.

Mae’r Ariannin wedi profi dros y misoedd diwethaf eu bod nhw yn gallu cystadlu gyda’r timau gora yn y byd ag bron iawn eu curo nhw.

Yn ei blwyddyn gyntaf yn hen gystadleuaeth ‘Y Tair Gwlad’ fe gafwyd gêm gyfartal yn erbyn De Affrica ac fe dyle nhw wedi ennill yn Awstralia oni bai am ddwy gais hwyr gan y tîm cartref. Bron â churo Awstralia – swnio’n gyfarwydd tydi!!!

Tachwedd 28ain 2008 oedd y tro diwethaf i Gymru cael unrhyw fath o lwyddiant yn erbyn cewri Hemisffer y De, â buddugoliaeth o 21 i 18 yn erbyn Awstralia oedd hynny.

Y Sgrym

Mae’r Ariannin yn adnabyddus o fod efo blaenwyr cryf iawn ac yn enwedig sgrym bwerus. Drwy fod yn gryf yn yr elfen yma mae’r Ariannin wedi sicrhau bod nhw’n gallu sicrhau meddiant ei hunain ac arafu a sbwlio meddiant y gwrthwynebwyr.

Maen nhw’n wych am hyn, a fydd rhaid i Gymru ymdopi â’r pŵer yma heb y cawr Adam Jones, un o bropiau pen-tynn gorau’r byd os nad yr un gora.

Yn camu i mewn i’r bwlch i ennill i gap gyntaf mae Aaron Jarvis o’r Gweilch. Dwi’n genfigennus o’r ffaith yna ond ddim o’r swydd sydd yn ei wynebu. Efallai’r swydd bwysicaf wythnos yma, ac os ydi o’n perfformio, ei swydd am weddill gyfres yr Hydref.

Os fydd Jarvis a gweddill blaenwyr Cymru yn gallu ymdopi yn y sgrym ac ail-gylchu meddiant o’r dacl yn gyson, a hyd yn oed yn well yn gyflym, mi fydd Cymru efo siawns da o ennill.

Y Cefnwyr

Beth sydd yn codi pryder yn fwy nag diffyg profiad Jarvis ar y lefel rhyngwladol ydi safon chwarae cefnwyr Cymru i’w rhanbarthau ar y funud.

Tydi Jamie Roberts nag Rhys Priestland wedi tanio cyn belled tymor yma. Tavis Knoyle yn ddibrofiad ar y lefel rhyngwladol ac er gwaethaf safon chwarae Leigh Halfpenny ac Alex Cuthbert, colli ydi hanes nhw yn y Gleision.

Er deud huna, os ydi Rob Howley (un o’n arwyr pan oeddwn i’n blentyn) yn ymddiried yn ei gallu nhw pwy ydw’i i ddadlau?

Fel rheol dros y ddau dymor diwethaf mae’r cefnwyr wedi chwarae yn dda ac yn fygythiad i unrhyw dim a dwi’n hyderus bod nhw’n well na chefnwyr Yr Ariannin.

Os ydi’r cefnwyr yn clicio, a gan gofio bod gennym ni Gogzilla (George North) yn y tîm, dwi’n siŵr mi fydd yno ambell i gais yn cael ei sgorio.

Sgôr Terfynol

Cymru 25 v 18 Yr Ariannin

Y Pencampwriaeth Rygbi

Hydref 7fed

Yr Ariannin 19 v 25 Awstralia

Medi 29ain

Yr Ariannin 15 v 54 Seland Newydd

Medi 15fed

Awstrala 23 v 19 Yr Ariannin

Medi 8fed

Seland Newydd 21 v 5 Yr Ariannin

Awst 25ain

Yr Ariannin 16 v 16 De Affrica

Awst 18fed

De Affrica 27 v 6 Yr Ariannin