RSS

Golwg360

MwyCau 
Non Tudur

Non Tudur

Siom colli’r refferendwm

Cyhoeddwyd Gorffennaf 8, 2015 gan Gwleidyddiaeth.

Tagiau: Alban, Mhairi Black, Non Tudur, refferendwm ar annibyniaeth, SNP



Bu Non Tudur mewn cyfarfod yng Nghaernarfon, lle bu AS yr SNP, Mhairi Black yn sôn am ei siom o golli’r refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban ar Fedi 18 y llynedd…

“Ro’n i wir yn teimlo y buasem ni’n ei gwneud hi, jyst abowt,” meddai Mhairi Black. Ond y bleidlais ‘Na’ aeth â hi o drwch blewyn, a hynny am fod ar yr Albanwyr “ofn”, meddai.

It was horrendous. Ro’n i wedi bod yn ymgyrchu yn ardaloedd tlotaf Glasgow… Paisley. Ro’n i wedi bod dros yr Alban i gyd yn gweld tlodi ofnadwy, yn ymladd, yn trio cael annibyniaeth i’r bobol yma, y bobol reit ar waelod y gasgen oedd yn mynd i ddioddef toriadau’r Ceidwadwyr, ro’n i mas yn ymladd drostyn nhw…

“Wir i chi, roedd o’n afiach… Ar y 19eg, ro’n i’n dal i deimlo fel yna, i’r pwynt lle ro’n i’n teimlo fel gadael. Fuaswn i ddim yn gallu diodde’r Llywodraeth yma. ‘I cannae do it’. Ond ar yr 20fed , y munud y deffrais i, mi feddyliais i ‘no way’. Dw i ddim wedi ymgyrchu am dair blynedd, ddim wedi gweld y tlodi dw i wedi’i weld, ddim wedi gweld y dioddef dw i wedi’i weld, i droi fy nghefn arno. No way.”

Roedd yr SNP yn benderfynol o ganolbwyntio ar wneud ei gorau yn Etholiad Cyffredinol Prydain fis Mai eleni, meddai ond pan awgrymodd rhywun y dylai sefyll ymateb cyntaf Mhairi Black oedd ‘Ah, don’t be daft’.

‘Polisïau cadarn’

“Dechreuais i deimlo’n euog pe na bawn i’n rhoi fy enw ymlaen,” meddai wedyn gan ennyn chwerthin o’r dorf. Dywedodd yr hoffai newid y drefn fel bod pobol gyffredin fel hi ddim yn teimlo’n “daft” o feddwl am fod yn ymgeisydd gwleidyddol.

Roedd hi wedi rhyfeddu pa mor “switched on” y bu’r Albanwyr wedi’r Refferendwm. Mae’n cofio dod wyneb yn wyneb ag un boi mawr brawychus mewn ardal ddifreintiedig draddodiadol Lafur ag yntau’n brasgamu ati, yn pwyntio at ei brest gan ddweud ‘See you? I’m votin’ fer you!’ Y bobol dlotaf yma oedd y rhai mwya’ blin, meddai. “Because they realise they’ve been cheated. They realise that Gordon Brown did not give a toss about them and did not ever intend to give Scotland the powers that was promised to them. They knew they’d been lied to.

Dyna pryd y dechreuodd yr Albanwyr ddarllen maniffestos y pleidiau, meddai, i weld pa blaid oedd yn cynnig y polisïau gorau. Gobaith sy’n ennill cefnogwyr, meddai, nid negyddiaeth ac nid y gri dros annibyniaeth a enillodd yr Etholiad i’r SNP, ond eu polisïau cadarn. “What’s fantastic about Scotland,” meddai, “party politics doesn’t exist. New Labour hangers-on cannot get to grips with what happened.”

Swigen San Steffan

Ers cael ei hethol yn Aelod Seneddol, mae Mhairi Black wedi rhyfeddu bod San Steffan yn lle mor gaeedig – gyda lle trin gwallt, llyfrgell, tafarn, bwytai – sy’n golygu ei bod hi’n hawdd i wleidyddion bellhau oddi wrth y byd go-iawn. Addawodd y byddai’n rhoi’r gorau iddi unwaith y bydd hi’n dechrau teimlo’n gyffyrddus yno.

Mae gweithwyr yn Senedd San Steffan – y porthorion, gweithwyr y gegin ac ati – wedi dweud wrthi fod awyrgylch y lle wedi ei drawsnewid ers i’r SNP lanio yno. Maen nhw’n yfed yn y Sports and Social gydag Aelodau Plaid Cymru, ymhell oddi wrth stafelloedd crand y Ceidwadwyr a’r Llafurwyr – ac yn sgwrsio gyda’r staff, yn wahanol i’r hen do sydd yno.

Eglurodd ei safbwynt ar annibyniaeth, a’i dyhead am gael gwlad nad oedd yn ddibynnol ar  Fformiwla Barnett. Fe fydd cefnogwyr y Deyrnas Unedig yn ei chyhuddo hi a’r SNP o fod ag obsesiwn am annibyniaeth: “We’re obsessed with independence for a reason – because it’s the best way. I find that’s also true of Wales, to be honest,” meddai.

Gellir darllen cyfweliad Gareth Pennant gyda Mhairi Black yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

Blog Byw: Llyfr y Flwyddyn 2015

Cyhoeddwyd Mehefin 4, 2015 gan Non Tudur.


8.25 – Tessa Hadley newydd gyhoeddi mai Patrick McGuinness sydd eto yn ennill y Brif Wobr Saesneg am Other People’s Countries. Angharad Price yn cogio eu bod nhw am wario’r enillion heno, tra bod ei gŵr i ffwrdd.

Pethe’n dirwyn i ben. Ffion Dafis yn diolch i noddwyr, Galeri, y gweisg, Llenyddiaeth Cymru ac eraill am drefnu’r digwyddiad. Sian Lloyd nawr yn diolch i’r chwe beirniaid am eu gwaith trwy’r flwyddyn. “A diolch i chi… mae gweld llond theatr o ddarllenwyr brwd yn fendigedig.” Y ddwy gyflwynwraig i’w canmol am lwyddo i gyflwyno’n yn y ddwy iaith mor slic heno.

Hwyl am y tro. Bydd adroddiad llawn – a chyfweliad gyda’r enillwyr a rhai o’r beirniaid (a rhai answyddogol gobeithio) yng nghylchgrawn Golwg wythnos i heddiw.

8.20 – Y prif wobrau. Annes Glynn  a Kate Woodward, IsGadeirydd Cyngor y Celfyddydau, yn dod i’r llwyfan i gyflwyno’r wobr Gymraeg. Cyffro!

“Tynnu at benllanw blwyddyn a hanner o waith i ni’r beirniaid,” meddai Annes Glynn. “Diolch i Hywel (Griffiths) a Gareth (Potter) am y trafodaethau difyr… y prif emosiwn oedd balchder; nid balchder yn ei gwaith ni, ond balchder o sylweddoli bod  talentau arbennig ymhlith yr awduron y dyddiau yma… Mae’n werth chweil ein bod ni’n cael cyfle i ddathlu’r doniau yma mewn achlysur.”

Yr enillydd wedi gosod y bar “yn eithriadol o uchel,” meddai, ac yn ffon fesur wrth i ni ddarllen gweddill y cynnyrch. “Mi wnaeth y dawn deud ein rhyfeddu ni… ar adegau mi wnaeth y cynnwys ein hysgwyd ni… pleser arbennig gen i gyhoeddi mai enillydd teiwng iawn Llyfr y Flwyddyn 2015 yw Awst yn Anogia gan Gareth F Williams.”

Wel, am flwyddyn i Gareth F. “Diolch yn fawr iawn. Fedra i ddim diolch digon,” meddai. Cofiwch fod cyfweliad llawn gydag e yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma – wedi ei fuddugoliaeth ryfeddol am y chweched tro yng ngwobr Tir na n-Og – lle mae yn siarad am orffen triniaeth at ganser corn y gwddf. Dyn diymhongar a llenor gweithgar tu hwnt. Llongyfarchiadau mawr iddo.

8.15 – Cyhoeddi gwobr Ffeithiol Greadigol yn Saesneg. Mae Gruff Rhys yn y ras yma am American Interior - ei lyfr yn ôl troed John Evans. “It wears its considerable learning humorously,” meddai Paul Henry, sy’n traddodi. “It was a joy to read.” Llyfr arall yw Other People’s Countries ganPatrick McGuinnes. “Its stylistic qualities… perfectly paced.. for the reader to feel and think in… tender… and in places profound.”

Yr enillydd yw Patrick McGuinness am Other People’s Countries. Patrick yn methu â bod yma; mae ei wraig, yr ysgolhaig Angharad Price yn derbyn y wobr ar ei ran. Anawsterau teithio wedi ei gadw yn Rhydychen, meddai. McGuinness yn diolch i Angharad a’i blant – “it all began when my children asked for stories of my childhood, and the book is for them.” Llongyfarchiadau i Patrick McGuinness, sy’n frodor lleol o Gaernarfon bellach.

8.05 – Categori Ffeithiol Greadigol nawr. Yn y ras: Mwy na Bardd, Kate Crockett; Rhyw Flodau Rhyfel, Llyfr Gwyn Lewis; a 100 o Olygfeydd Hynod Cymru gan Dyfed Elis-Gruffydd.

Hywel Griffiths sy’n cyflwyno’r wobr. Y tair cyfrol, meddai, “o safon uchel…”. Mae llyfr Kate Crockett wedi dod â ni’r Cymry Cymraeg yn agosach at Dylan Thomas, meddai. Llyfr Dyfed Elis-Gruffydd yn “ffrwyth oes o grwydro Cymru… cyfuna wybodaeth ddaearegol gyda hanes a diwylliant mewn modd unigryw. Dyma gyfrol arhosol.”

Rhyw Flodau Rhyfel gan Llyr Gwyn Lewis yn “wahanol, yn uchelgeisiol ac yn heriol… yn siarad â’i genhedlaeth… dyma gyfrol gyffrous tu hwnt.”

Yr enillydd yw Rhyw Flodau Rhyfel gan Llyr Gwyn Lewis. Llyr yn dod i’r llwyfan yn ei siaced lwyd smart. “Mae un person yn falch iawn fy mod i’n ennill y wobr yma, sef Taid, achos mi gaiff siar go helaeth yn yr enillion…” Mae yn diolch i bawb yn y Lolfa, am ei “hiwmro” fe am ei frawddegau hirion. Diolch hefyd i Angharad Price a Sioned Puw Rowlands a wnaeth roi gryn hyder iddo yn y project. Ond y diolch pennaf i’w nain a’i daid gan na fyddai’r llyfr yn bodoli hebddyn nhw. Bu farw’r wncwl, y prif gymeriad yn y llyfr, mewn brwydr yn Palmyra sydd newydd syrthio i ddwylo ISIS. “Felly mae hi’n bwysig nad ydan ni’n anghofio,” meddai. Cymeradwyaeth wresog unwaith eto.

8pm – Categori Ffuglen Saesneg nawr. Tessa Hadley sy’n traddodi. Anodd iawn dewis rhwng “these very fine books,” meddai.

Y wobr yn mynd i Cynan Jones, o Aberaeron, am ei nofel dywyll The Dig. Cynan ddim yma ond ar wyliau yn Groeg – wedi anfon nodyn trwy ei gyhoeddwr yn Granta.

7. 50 – Gareth Potter yn dod i’r llwyfan i gyflwyno gwobr Categori Ffuglen. Cyn cyflwyno bob gwobr, fe welwn glipiau ar y mur o actorion yn darllen darnau o’r llyfrau sydd yn y categori. Ni’n cael darn bywiog o un o storiau tafodiaith ddeheuol o gyfrol Lleucu Roberts, Saith Oes Efa, ond darn reit rymus o Awst yn Anogia gan Gareth F.

Gareth Potter yn dweud bod y gwaith beirniadu “wedi arwain at sgwrsio a tipyn o ddadle.” Ei galon wedi suddo o gael Awst yn Anogia gyntaf oherwydd ei faint ond buan y cydiodd y nofel ynddo. “Nofel hanesyddol gyhyrog arall yw Y Fro Dywyll gan Jerry Hunter,” meddai Gareth Potter.

“Mae’r Stori Fer yn cael ei chynyrchioli’n anrhydeddus iawn yng nghyfrol Lleucu Roberts, Saith Oes Efa,” meddai, gan ddweud bod hon yn gategori cryf eleni.

Y llyfr buddugol yw Awst yn Anogia gan Gareth F Williams, sy’n dal ar ben y cymylau ar ôl cipio gwobr Tir na n-Og yn yr Urdd am y chweched tro!

Gareth F yn diolch i’w fam a’i dad gynta, a’i wraig Rachel a gafodd ei llusgo trwy bentrefi uchel mynyddig Creta ar gyfer ei ymchwil ar gyefr y llyfr. “Mae hi wedi chwysu chwartia, peth bach.” Diolch hefyd i Nan ac Alwyn Elis, Gwasg Gwynedd am fentro i gyhoeddi epig o nofel sy’n cael ei defnyddio i ddal drysau yn agored.

Diolch wedyn i’w dair golygyddes, Nan Elis, Marian Beech a Bethan Gwanas. “Roedd fy nghalon i’n gwaedu dros y tair,” meddai. “Mae Bethan bellach yn cael ei hadnabod fel ‘Bethan ‘you can’t see the join’ Gwanas’.” Llongyfarchiadau mawr i Gareth F Williams. Cymeradwyaeth wresog iawn iddo heno.

7.40 – Paul Henry sy’n cyflwyno gwobr categori Barddoniaeth Saesneg. Bydd Telling Tales gan Patience Agbabi fel y bydd My Family and Other Superheroes gan Jonathan Edwards yn denu darllenwyr newydd i farddoniaeth, meddai. Y trydydd yw cyfrol Tiffany Atkinson, So Many Moving Parts. “These poems cut deep into the human condition,” meddai Paul Henry am gerddi Atkinson. “Like all fine poetry, attains the universal.”

Tiffany Atkinson sy’n ennill y categori Barddoniaeth Saesneg. “I really didn’t see that coming,” meddai hi wrth dderbyn y wobr.

**

7.35 Nawr, at enillydd y Categori Barddoniaeth. Yn cyflwyno mae Annes Glynn. “Mi oedd y ffrwyth unigol yn flasus… cerddi cyhyrog sydd eto’n llwyddo i fod yn ddwys a thynes a gawson ni gan Meic Stephens yn ei gyfrol Wilia… roedd y Wenhwyseg yn canu’n hyfryd yn ein clustiau wrth ei darllen. Yn Un Stribedyn Bach gan Rhys Iorwerth… casgliad cynnil eu crefft… amrywiol o ran ystyr a naws… a greodd undod a wnaeth ein plesio ni yn fawr…. Er mai Storm ar Wyneb yr Haul yw teitl cyfrol Llyn Gwyn Lewis, cerddi mwyn sensitif sydd rhwng y cloriau…”

Gwobr y categori yn mynd i “gyfrol orffenedig gan fardd sy’n feistr ar ei gyfrwng… llais cry’ cenhedlaeth neilltuol…’

Un Stribedyn Bach gan Rhys Iorwerth sy’n mynd â hi.

**

Enillydd Gwobr y Bobol yn Saesneg yw Jonathan Edwards am ei gyfrol My Family and Other Superheroes.

7.35 – Owain Schiavone yn dweud ei bod hi’n dda gweld ambell gerddor ar y rhestrau eleni. “Sôn ydw i am Rhys Iorwerth a Llyr Gwyn Lewis” – cyfeiriad smala at las-grwpiau roc y ddau lenor, sef Quidest a Violas.

Enillydd Barn y Bobol yw Saith Oes Efa – Lleucu Roberts – enillydd y Fedal Ryddiaith 2014. Lleucu yn diolch i bobol y Lolfa am eu cefnogaeth ‘ar hyd y blynyddoedd. Diolch yn fowr i chi.’ Llongyfarchiadau mawr iddi a diolch i bawb a bleidleisiodd ar wefan golwg360.

7.30 – Ffion Dafis sy’n agor y noson, yn croesawu Band Pres Llanreggub sydd yn mynd i gyfeilio yn fyw i’r digwyddiad a chroesawu’r enillwyr i’r llwyfan. Nawr mae Sian Lloyd yn cyflwyno yn Saesneg. “Noson a hannar o’n blaenau ni” yn ôl Ffion Dafis, wrth ddweud bod 17 o awduron ar bigau’r drain heno. Beirniaid Cymraeg wedi darllen tua 50 o lyfrau a’r beirniaid Saesneg wedi darllen tua 90. Cymeradwyaeth wresog i’r 17 o lenorion.

Yn ein hatgoffa y bydd enillydd pob categori yn cael £2,000 yr un a thlws o waith llaw y gofa Angharad Pearce Jones, a’r prif enillydd yn y ddwy iaith yn cael £6,000 yn ychwanegol. Nawr at Wobr y Bobol golwg360. Owain Schiavone yn dod i’r llwyfan.

7.15 – Pethau yn cynhesu wrth i bawb ddod i mewn i’r theatr. Ymhlith yr awduron yn y cyntedd y tu allan oedd Gareth F Williams, sydd newydd ennill gwobr llyfrau plant Tir na n-Og am y chweched tro a heno yma i glywed a fydd ei nofel epig Awst yn Anogia yn mynd a hi; Jerry Hunter sydd yn y ras am ei nofel Y Fro Dywyll ond nid am ei nofel fentrus Ebargofiant; a Llyr Gwyn Lewis, sydd newydd ddychwelyd o wythnos draw yn Kiel yn yr Almaen gyda’i gyhoeddwr Lefi Gruffudd yn yr Ŵyl Nofelau Cyntaf Ewropeaidd yn hyrwyddo ei ‘gyfrol ryddiaith’ (sydd ar y Rhestr Ffeithiol Greadigol), Rhyw Flodau Rhyfel; a Rhys Iorwerth yn sefyll wrth y bar, ac ar y Rhestr am ei gyfrol hardd o gerddi, Un Stribedyn Bach.

Seren y noson efallai yw Gruff Rhys, sydd wedi dychwelyd i fro ei gynefin (wel, bron a bod) i glywed a fydd ei lyfr American Interior sydd ar Restr Fer y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg yn fuddugol.

Mae’r dorf yn tawelu. Mae hi’n 7.25pm ac yn bryd i’r sbloets ddechrau.

18:20 – Croeso un ac oll i flog byw golwg360 yn seremoni fawreddog Llyfr y Flwyddyn 2015 o Galeri Caernarfon.

Heno fe gawn glywed pwy fydd chwe enillydd y categorïau unigol yn y ddwy iaith – sef Ffuglen (nofelau neu gyfrolau storïau byrion yw’r rheiny gan amlaf), Ffeithiol Greadigol a Barddoniaeth – cyn gwybod pwy fydd dau brif enillydd y wobr yn y Gymraeg a Saesneg.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.

Hefyd bydd golwg360 yn cyflwyno’r llun hyfryd yma gan Ffion Roberts Drakley yn wobr i brif enillydd Barn y Bobol golwg360.

Pob lwc i bawb.

Adolygiad o’r Ŵyl Farddoniaeth yn Nhŷ Newydd

Cyhoeddwyd Tachwedd 29, 2013 gan .



Gwyn Thomas a Myrddin ap Dafydd yn trafod
Argraffiadau Non Tudur…

Un o sesiynau difyrra’r Ŵyl farddoniaeth Tŷ Newydd oedd y sesiwn rhwng Gwyn Thomas a Myrddin ap Dafydd ar atal y Gadair Genedlaethol eleni.

Roedd Myrddin a’i gyd-feirniaid – Gerallt Lloyd Owen a Peredur Lynch – wedi bod yn “crafu’n pennau am wythnosau” cyn penderfynu na allan nhw anwybyddu’r darnau gwannaf yng ngwaith y ddau ymgeisydd cryfa’. “Mae yna ddisgwyliad,” meddai Myrddin, a gyfaddefodd ei fod yn crynu yn ei sgidiau cyn traddodi’r feirniadaeth a siomi Pafiliwn cyfan.

Ond rhaid oedd cadw safon – byr yw seremoni, meddai, ond mae’r awdl yn para byth yn y Cyfansoddiadau. “Mae rhywun yn gorfod meddwl am y gynulleidfa sy’n mynd i ddarllen y cerddi yn ogystal,” meddai.

Roedd yn hiraethu am y 1970au a’r sesiynau trafod yn syth ar ôl seremonïau’r Gadair a’r Goron i ddal y beirniad i gyfri’. “Mae’n chwith bod y math yna o beth ddim yn digwydd mwyach.”

Beth sy’n cymell bardd i anelu at y Gadair felly? Ar ôl i fardd feistroli’r mesurau a dechrau cael hwyl mewn ymrysonau, mae’n dal i hogi’i arfau ac eisio profi’i hun felly mae anelu at y Gadair “yn uchelgais”.

Difyr iawn oedd clywed hanes sut yr aeth ati i ddechrau cynganeddu. Digwyddodd hynny yn sŵn ymrysonau yng ngheginau ffermydd Llanrwst pan oedd yn fachgen 13 oed. Roedd yna dri thîm ymryson yn Nyffryn Conwy yr adeg honno, meddai. Fe fyddai tua hanner cant o bobol yn gwasgu i mewn i’r gegin a’r beirdd yn gorfod mynd i’r llofftydd neu i’r closet i wneud eu tasgau. Gadawodd y traddodiad hwn gryn argraff ar y bardd ifanc. Dywedodd RE Jones wrtho un tro, ‘Mi ydach chi’n sylweddoli does yna’r un diwylliant arall yn gallu cynnal noson fel hon.’ Aeth y llanc i’w wely’r noson honno (roedd yn rhannu llofft gyda phedwar o frodyr) a chyfansoddi ei englyn (“gwallus!”) gyntaf erioed. Sbragiodd ei frawd wrth eu rhieni dros y bwrdd brecwast a dyna selio tynged y bardd yn yr union fan. Fe gafodd lyfr o gynganeddion yn anrheg. Yn y byd mawr tu allan, meddai, roedd Cymdeithas yr Iaith yn protestio a gweiddi am gadw iaith, ac roedd y bardd ifanc am “gadw” y traddodiad gwerin hwyliog a deallusol hwnnw.

Fe gafodd ei ysbrydoli i gystadlu ar ôl darllen awdl fuddugol Idris Reynolds yn Llanrwst 1989 ar y testun ‘Taith’ lle gofynnai’r Prifardd ‘A oes mab ym Morlas mwy?’ (yr awdl yn cyfeirio at ganu Llywarch Hen a’r henwr yn colli 24 mab mewn brwydr, sy’n symbol am dranc yr iaith). Roedd Myrddin newydd gael mab ac “Ro’n i eisiau dweud ‘oes’,” meddai. Dechreuodd ar ei awdl fuddugol ‘Gwythiennau’ yr wythnos honno.

Yr ysbrydoliaeth arall arno oedd cywyddau beirdd fel Tilsley a oedd barddoni am bethau gwledig diriaethol yn hytrach na’r hen gywyddau diwinyddol. “Dw i’n tueddu i hoffi’r math yna o ganu’n uniongyrchol,” meddai.

Un awgrym sydd gan Myrddin ap Dafydd i gywion-brifeirdd – yw darllen awdlau eraill mewn hen Gyfansoddiadau. Ond mae hi’n anoddach ffeindio eich llais eich hun mewn canu caeth na chanu rhydd, meddai.

“Mae rhywun yn tueddu i sgwennu i genhedlaeth hŷn na chi… rydach chi’n sgwennu yng nghyd-destun y parch yna. Dach chi eisio clywed nhw’n parchu eich gwaith. Yna rydach chi’n sgwennu i genhedlaeth eich hun, yna i genhedlaeth iau na chi. Dyna pryd ydach chi’n dod o hyd i’ch llais.”

Dylid nodi cyfraniad bywiog a helaeth Gwyn Thomas yn y sgwrs, yn gallu procio a symud y sgwrs ymlaen yn ei ffordd ddeheuig ei hun, gyda help sawl stori ffraeth am ryw fardd cocos neu’i gilydd. Roedd yn ddigrif iawn yn sôn am y bobol “syrffedus” yna sy’n cynganeddu pawb a phopeth. Fe gawson ni ambell berl o gymhariaeth gan Gwyn Thomas – “mae ambell awdl fatha olwynion sgwâr o ran eu cynghanedd,” meddai.

Dyna’r broblem yn Ninbych eleni felly, gormod o olwynion sgwâr.

***

Guto Dafydd oedd yn traddodi darlith yr ŵyl eleni, ac fe gyflwynodd ei ymchwil ar waith ei arwr, y diweddar Iwan Llwyd yn dwt ac yn ystyrlon.

Daeth â’r dyn yn fyw – ei gryfderau a’i wendidau. Bardd disgleiriaf ei oes, yn ôl yr ysgolhaig ifanc (ymddiheurodd yn gwrtais i Myrddin ap Dafydd a Dafydd John Pritchard a oedd yn y gynulleidfa ar ôl y sylw yma).

Dechreuodd yn y dyddiau diniwed hynny pan oedd Iwan Llwyd yn fyfyriwr yn byw mewn tŷ blêr yn Aberystwyth gyda glas-lenorion fel Emyr Lewis a Wil Garn (Wiliam Owen Roberts). Fe fuodd e a Wil Garn yn rhwystredig gyda’r hen drefn ysgolheigaidd o ddysgu’r traddodiad barddol. Er i’r ddau sgrifennu erthyglau yn lambastio’r gorbwyslais ar y Cynfeirdd a Beirdd yr Uchelwyr, eglurodd Guto Dafydd y byddai’r traddodiad yma yn arwyddbost i Iwan ar ei deithiau drwy’i oes. Roedd yn fardd a oedd yn “reslo â’r traddodiad” ond yn hoffi delwedd y clerwr ac roedd teithiau’n apelio ato. “Roedd nabod ei wlad yn hanfodol iddo,” meddai, “yn gwybod bod y beirdd wedi teithio o’i flaen.”

Y daith a wnaeth gyda Twm Morys i America yn 1998 oedd y daith fwya’ ryfeddol fuodd o dan bennau dau fardd Cymraeg erioed,” yn ôl Guto Dafydd. Eglurodd ei fod wedi “ymuniaethu” â’r teithiwr talog TH Parry-Williams, ond hefyd fawrion yr UDA – Neil Young, a Bob Dylan a’i Subterranean Homesick Blues.

Eglurodd sut y mae’r bardd yn ei gerdd ‘Harley Davidson’ yn cymharu gweithwyr ffatri’r cwmni motobeics enwog gyda’r Cymry a adeiladodd y cestyll Seisnig – gan felly gymharu grym ymerodraethol America a’r bonedd Seisnig.

Dangosodd drwy ei deithiau barddol, ei golofnau yn Barddas a’i ran mewn grwpiau fel Steve Eaves a Geraint Lovgreen bod ganddo grwsâd i “boblogeiddio barddoniaeth.”

Roedd yn ddyn pobol “nid dyn rhai pobol”, fel y dywedodd Llion Jones amdano.

Fe’i darluniodd nid yn unig fel bardd taith ond yn fardd a oedd yn ‘teithio amser’ – yn camu’n ôl drwy hanes at feirdd y llysoedd. Fe deithiodd Gymru yn ol traed y Cynfeirdd. Eu rhwystrau nhw oedd eira a thywydd garw; rhwystrau Iwan Llwyd rownd Cymru oedd lorïau Mansel Davies. Bu farw Iwan Llwyd fis Mai 2010 yn 52 oed.

***

Un o uchafbwyntiau eraill y diwrnod oedd darlithiau byrion Llyr Gwyn Lewis a Gruffudd Antur – y naill ar gerddi amlieithog ac agweddau deublyg y bardd T Gwynn Jones; a’r llall ar arferion yr hen ysgolion barddol. Da iawn gweld bod Twm Morys yn recordio’r sgyrsiau yma ar ei feicroffon hei-tec, felly disgwyliwn eu gweld yn eu cyfanrwydd efallai rhwng cloriau Barddas yn fuan.

Sesiwn gerddorol braf oedd un Gwyneth Glyn yn olrhain ei thaith gyda Tauseef Akhtar o’r India yn rhan o’r deuawd Ghazalaw. Eglurodd hi gyda chymorth Aneirin Karadog beth oedd traddodiad y canu serch ‘ghazals’ – sy’n cael ei ynganu rhywbeth tebyg i ‘chysls.’ Ac fe gafodd 11 ohonon ni gopi o’r EP Ghazalaw – alawon gwerin Cymraeg ymhleth â’r hen alawon Indiaidd – ar CD, mewn cwdyn brethyn smart a oedd wedi’i wnïo â llaw gan Gwyneth ei hun. Ydi, mae hi’n aml-dalentog.

Bargen o brynhawn am £12.

Campwaith Cerys

Cyhoeddwyd Hydref 24, 2013 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: Cerys Matthews, WOMEX


Cerys Matthews
Non Tudur fu yn noson agoriadol Womex…

Roedd cael eistedd dwy sedd y tu ôl i’r bonheddwr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn noson agoriadol Womex o dan arweinyddiaeth Cerys Matthews yn brofiad i’w drysori.

Braf oedd gweld y ddau yn gwrando’n astud ar y modd yr oedd Cerys a’i chriw yn dehongli holl hanes cerddoriaeth Cymru – o bastynu a cherdd dant i gorau meibion, yn amlwg wrth eu boddau ac yn cymeradwyo’n frwd.

Yn ei hanerchiad cyn y gyngerdd, fe dalodd trefnydd Womex yng Nghymru, Eluned Haf o Cerdd Cymru, deyrnged dwymgalon i’r ddau. Hebddyn nhw, meddai, fuasen ni ddim yn canu’r caneuon y byddwn yn eu clywed heno.

Dechreuodd y sioe gyda Twm Morys yn camu ar lwyfan o dan lifolau coch gyda’i bastwn yn datgan yr awdl ‘Bwrw Iddi’,  gyda Gorwel Roberts, Gwyn Jones (Maffia) yn rhyfelgan y llu yn galw ar Ddewi Sant i’w cynnal yn ysbrydol ac yn rhagweld y gelanedd fawr. Yn ôl pob tebyg, daeth ryw drefnydd cerddorol o’r Fenni at Twm ddiwedd y noson a dweud taw dyna ei hoff ran o’r sioe gyfan, a buasai llawer yn cytuno.

Mae Cerys i’w chanmol yn fawr am ymdrechu mor galed i geisio adlewyrchu’r traddodiad cerddorol yng Nghymru mewn ychydig dros awr, yn y fath le crand. Doedd hi ddim yn dasg hawdd, mi w’ranta.

Ond rhoddodd le a pharch mawr i’r canu Cymraeg, yn dewis hen alawon a oedd â stori yn perthyn iddyn nhw. Roedd ei deuawd hi a Gwenan Gibbard ar y delyn ‘Oes Gafr Eto?’ yn rhagorol ac yn rhoi syniad o’r hwyl sy’n perthyn ynom ni’r Cymry, rywle, a’r gân aredig ‘Gyrru’r Ychen’.

Roedd Gwenan Gibbard yn gampus yn canu cerdd dant – geiriau ‘Cenedl’ gan Gerallt Lloyd Owen ar alaw Traeth Lafan Gareth Mitford Williams, ac yna alaw ysgafn ‘Noson Aflawen’ gyda Cerys.

Noson Cerys oedd hi; hi oedd yn mynnu sylw a hithau ar lwyfan ac yn perfformio trwy gydol y sioe bron. Hi oedd  y codwr canu, os mynnwch chi. Aeth â hi yn afieithus trwy alawon fel ‘Wrth Fynd efo Deio i Dywyn’, ‘Migldi Magldi’ a ‘Sosban Fach’ yn ei harddull Americana sionc.

Ond i mi, yr eitemau a oedd yn sefyll ben ac ysgwydd uwch y lleill oedd gan yr arbenigwyr, fel dehongliad Delyth ac Angharad Jenkins o ‘Glyn Tawe’, yn gyfeiliant i hen ffilmiau archif o gantorion a beirdd gwlad, a gwerinwyr yn codi cân (ac ambell i Shirley Bassey a Tom Jones); Gwenan Gibbard yn canu ‘Cenedl’ gan Gerallt Lloyd Owen ar gerdd dant; a Robin Huw Bowen a Rhiain Bebb ar eu telynau teires, gyda ffilm fendigedig ar y wal o hanes y delyn yng Nghymru, yn dangos Nansi Richards Telynores Maldwyn wrth ei thelyn, Sian James ifanc yn bwrw’i phrentisiaeth, a chrefftwr yn saernïo telyn fach gyda chetyn yn ei geg.

Cafodd Cerys hyd i’r ffilmiau ar ôl tyrchu trwy archifau Sain Ffagan ac, meddai yn ffraeth, “from all these television stations  we have in Wales”, sylw a ddenodd gryn chwerthin o’r dorf. Ac  Arfon Gwilym, Sioned Webb a Sian James yn canu dwy garol Plygain – ‘Llygoden yn y Felin’ ac ‘Ar Gyfer Heddiw’r Bore’ – yn benigamp. Dyna pryd roeddwn yn eistedd lan yn fy sedd, a’m calon yn chwyddo.

Roedd yna lawer o ganmol gan y Cymry yn enwedig i berfformiadau swynol Georgia Ruth – ar ‘Ar Ben Waun Tredegar’ ac yn arbennig ar ‘Gyrru’r Ychen’ – lle’r oedd y sŵn harmoneiddio a’r datblygiad rhythmig yn un cyfoes iawn. Roedd eraill o’r sin werin yma wrth eu bodd o weld y Dawnswyr Nantgarw yn cael brwydr ar lwyfan gyda dawnswyr Bale Cymru – honno’n ‘first’!

Ond tybed a oedd yn rhaid i’r merched wisgo dillad fel yr hen gardiau post ystrydebol yna, gyda betgwn a het uchel? Ystrydeb yn wir, efallai fel cân gyntaf Côr Meibion Treorci, ‘Men of Harlech’ – er nad oedd dwywaith eu bod nhw’n drawiadol i gloi’r gyngerdd.

Mae Cerys yn arweinydd cyngerdd penigamp, does dim dwywaith amdani.  Ymysg y sylwadau a glywais am y gyngerdd yn y derbyniad wedyn oedd ei bod yn gyngerdd ‘proffesiynol’, ‘cenedlaetholgar’, a bod yna ‘lot fawr o Gerys’!

Efallai bod y noson ychydig yn rhy dwt a thaclus a threfnedig, fel ein bod yn desbret i geisio profi pwy ydyn ni a chyfoeth ein treftadaeth – ond beth arall fedren ni ei wneud? Dywedodd rheolwr cerddorol o India wrtha’ i wedi’r gyngerdd  nad oes dim byd o’i le ar fod yn orbroffesiynol lle mae miwsig yn y cwestiwn.

Ac, fel y dywedodd merch ifanc o’r Ffindir wrtha i drannoeth, o leia’ mae ‘na bobol drwy’r byd bellach yn gwybod ryw ychydig bach am draddodiadau cerddorol ein gwlad.

Adar amryliw Womex

Cyhoeddwyd Hydref 24, 2013 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: Caerdydd, WOMEX


Dyma argraffiadau cychwynnol Non Tudur o’r gynhadledd Cerddoriaeth Byd, Womex 2013 yn y Motorpoint Arena, Caerdydd …

Lle difyr yw Womex. Lle difyr tu hwnt.

Peth rhyfedd yw’r busnes ‘gwerin’ neu ‘draddodiadol’ yma – gwreiddyn bob sgwrs yw’r wlad a’i thraddodiadau,  ond buan y byddwch yn troi at ddiwylliant cyfoes y wlad honno, ei phobol ifanc a’r dylanwadau allanol sydd arnyn nhw, a pha fath o ddelwedd sydd gan y wlad a llwyddiant ei cherddorion dramor ac yn eu gwlad ei hunain.

Mae bob un ohonon nhw’n rhannu rhywbeth â’r Cymry – gan y bydd pawb yn siarad gyda balchder am unrhyw artist sydd wedi ‘ei gwneud hi’ dramor. Dywedodd un ferch o wlad y Basg wrtha i yn syth bod un o’u hartistiaid wedi perfformio gyda Madonna. Ond nid hynny yw’r peth difyrra’, ond eu hafiaith am gerddoriaeth a’u diwylliannau yn gyffredinol.

Mae yna rai sy’n fwy profiadol na’i gilydd am y busnes cynadledda rhyngwladol yma. Mae rhai yn hen lawiau ar Womex, yn sôn am eu rhaglenni dyddiol, yn aml yn drefnwyr gwyliau neu reolwyr labeli. Mae gan bawb gerdyn busnes.

Un o’r rhai cynta’ i mi eu cyfweld ar gyfer cylchgrawn Golwg oedd cyfarwyddwr cynhadledd gerddorol o Gatalunya, Mercat de Música, sy’n rhedeg ers chwarter canrif. Cerddor profiadol sy’n hen law ar drafod cerddoriaeth Catalunya, a’r her sy’n wynebu grwpiau sy’n canu yn eu mamiaith yn hytrach na iaith y wlad fawr drws nesaf, a’r drysau sy’n agored iddyn nhw trwy’r byd.

Roedd ganddo ffordd wych o hybu diwylliant eu gwlad a rhywbeth y dylai’r Cymry fod yn ei wneud yn sicr – dau CD gyda chelfwaith cyfoes, trawiadol – y naill yn dweud WORLD MUSIC from CATALONIA 2013, a’r llall yn dweud POP ROCK from CATALONIA 2013. Mae Sain i’w canmol ar eu holl gasgliadau gwych o fiwsig traddodiadol a chyfoes Cymru – ond mae hyn yn syniad da ac eglur i’r rheiny a fydd yn mynd â Chymru i’r Womex nesaf. Ar yr un World Music roedd y rhan fwya’ o artistiaid Catalaneg, wrth gwrs.

Siaradais gyda rheolwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd – un fenyw o  India (o gwmni Earth Sync), dyn a oedd yn hybu cerddoriaeth Prince Edward Island yng Nghanada a dynes smart o Ffrainc (o ŵyl Nantes), a’u Saesneg yn ddilychwin hollol. Sgwrs ddifyr iawn wedyn gyda merch ifanc o’r Ffindir a oedd yn mentro i Womex am y tro cyntaf – myfyrwraig oedd hi, yn astudio treftadaeth ddiwylliannol ond yn rheoli dau grŵp offerynnol cyfoes, ac yn llawn brwdfrydedd dros grwpiau fel wyliau a cherddoriaeth ei gwlad.

Yr un difyrra’ ei sgwrs efallai oedd cerddor o Tanzania – Mzungu Kichaa. Espen Sorensen yw ei enw iawn – cafodd ei eni yn Nenmarc  ond ei fagu yn Nhansanïa gan rieni a oedd yn gweithio yn y maes Datblygu Rhyngwladol. Dysgodd Swahili ac ar ôl ceisio gwneud pob math o gerddoriaeth gorllewinol trodd yn ôl i’w iaith fabwysiedig, Swahili ac mae yn cael bri ar ganu yn y traddodiad hwnnw. A’i gyfaill, Journey Ramadhani, hefyd o Nhansanïa a oedd wrth ei fodd â fersiwn Côr Meibion Treorci o’r gân Zulu ‘Senzenina’ yn y gyngerdd agoriadol. “The important thing alwas is that music can bring us together,” meddai wrtha i. “Now we have something that connects us.”

A dyn parod iawn ei farn o Fudapest, a fu’n rhannol gyfrifol am drefnu noson agoriadol Hwngari. Bu’n byw yn Aberystwyth am ddeng mlynedd, ond gorfod gadael Cymru, meddai, gan na lwyddodd i gael swydd yma. Roedd yn gwybod un gân Gymraeg ar ei go’ ond nid oedd yn medru’r Gymraeg. Sut yr aeth i fod yn arbenigwr ar gerddoriaeth Hwngari ymhen ychydig flynyddoedd, dyn yn unig a ŵyr.

Lle busnes yw Womex, ond ie, un o’r llefydd difyrraf yn y byd mae’n siŵr i rywun sydd â chariad at gerddoriaeth ac at ddiwylliannau ac ieithoedd cynhenid. Ac maen nhw i gyd wedi dod i Gymru y tro yma. Mae’n lle i bobol wneud cysylltiadau ag eraill sy’n gweithio yn yr un diwydiant â nhw, i erfyn am gig mewn gŵyl dramor i’w hartistiaid, a lle i ysgwyd llaw tra’n estyn CD gyda’r llaw arall.

‘Mae meibion hen Walia heb golli eu cân…’

Cyhoeddwyd Hydref 18, 2013 gan Cerddoriaeth.

Tagiau: canu gwerin



Non Tudur fu’n gweld gwerinwyr hen a newydd wrthi’n y Galeri neithiwr…

Mae Angharad Jenkins wedi gwneud strocen.

Ei syniad uchelgeisiol hi – swyddog brwd y mudiad gwerin Trac – yw 10 Mewn Bws, cynllun sydd wedi bod yn mudferwi ers blwyddyn gron. Deg cerddor gwerin ifanc yn dod at ei gilydd i drin a thrafod hen alawon Cymraeg. A’r wythnos yma fe gawn ni weld ffrwyth eu llafur – a phrynu’r CD – wrth iddyn nhw fynd ar daith drwy Gymru.

Torf fach a ddaeth i noson agoriadol y daith yng Nghaernarfon (on’d yw hi’n hen bryd i selogion nosweithiau cerddorol gydnabod bod canu gwerin yn fath digon parchus ar gerddoriaeth?). Ond fe dybiwn i fod pob-un-wan-jac o’r dorf honno yn cytuno bod arbrawf Angharad wedi bod yn llwyddiant digamsyniol. Mae’n llawer mwy nag arbrawf.

Os yw cyfran bitw o bwrs y wlad yn mynd tuag at brojectau cerddorol, dylai hi fynd i gynlluniau fel 10 Mewn Bws. Roedd y noson yn becyn addysg, yn adloniant, ac yn ysbrydoliaeth mewn un. Yr unig fan gwan – os dyna beth oedd e – oedd bod eisiau iddyn nhw fod yn fwy hyderus ac ymlacio gan eu bod fel arall yn gwbl ddi-fai. Ond roedd eu gwyleidd-dra yn dra hoffus ac mae’n siŵr eu bod ar binnau ar y noson agoriadol. Yn sicr, roedden nhw wedi’u synnu pan safodd y dorf i gymeradwyo ar y diwedd.

Mewn erthygl yn Golwg, Hydref 3, dywedodd Angharad Jenkins taw’r peth anoddaf oedd dewis y deg cerddor ifanc gogyfer y project. Dywedodd hynny eto wrthyf i yn llawn cynnwrf ar ôl y gig, a’i bod yn falch ei bod wedi cyflogi rhywun PR i’w helpu i gribinio’r wlad yn iawn am y deg cerddor dawnus yma. Ie, diolch byth.

Roedd y noson yn chwa o awyr iach. Na, nid chwa ond corwynt. Cyn mynd roeddwn ychydig yn gyndyn i glywed noson o’r hen alawon wedi eu moderneiddio. Mae rhywun wedi diflasu ar y sŵn gwerin gyfoes Seisnig ei naws – er mor safonol y gall fod – sydd wedi treiddio i bob ffidil a llais yr ochr yma o Glawdd Offa, o dan ddylanwad trwm y sin nu-folk a gwyliau poblogaidd fel y Greenman.

Nid dyna a gafwyd. Daeth yn amlwg bod yma ddyfeisgarwch ond hefyd barch o’r mwyaf at y traddodiad gwerin a’r hen benillion gwych yna am gariad, am deulu a gwaith, am fywyd. Mae’r deg yn offerynnwr dawnus yn gyntaf oll – dyna gnewyllyn y peth – ac o ddifrif am eu crefft. Mae hi’n amlwg eu bod wedi dysgu ac elwa o’r wythnos ymchwil a’r trafodaethau gydag arbenigwyr fel fel Roy Saer ac Arfon Gwilym; ac felly hefyd y cyfnodau yn Nhŷ Newydd yn rhannu syniadau a sŵn.

Wrth gwrs, dyw pawb ddim yn gyfarwydd â’r hen alawon, y plygain a Chalennig. Dyna Craig Chapman, y trwmpedwr o Aberdâr, a oedd yn wybodus am fandiau pres a chorau meibion ond yn gwybod fawr ddim am y traddodiad gwerin. Ar y pegwn arall, mae’r ffliwtydd Huw Evans sy’n gallu cyfansoddi caneuon gwerin yn union fel y real thing - dyna bert oedd ei gân ‘Blodau Aberdyfi’ am fachgen a oedd yn gorfod gadael y pentref i gael gwaith ac yna’n clywed bod ei gariad wedi priodi dyn arall.



Dysg a Dawn

Hanner cyfrinach 10 Mewn Bws yw bod enwau’r cerddorion yma yn anghyfarwydd. Cymerwch chi Leon Ruscitto, er enghraifft. Am tua hanner cynta’r set, sylwon ni fawr ddim arno yng nghefn llwyfan, dim ond sylwi ar gorun o gwrls du ar y dryms. Ac yna daeth ei dro ynte. Y gân a ddewisodd oedd ‘Y Gaseg Ddu’ ar ôl iddo fod yn tyrchu trwy archifau gwerthfawr Sain Ffagan yng nghwmni’r enwog Roy Saer – y dyn a fuodd ar dramp am ddegawdau yn recordio’r Cymry yn canu’r hen alawon. I Leon, drymiwr sydd wedi perfformio gydag Alexandra Burke a Steps, mae’r gân syml yma yn mynd yn ôl i wreiddiau’r traddodiad. Mae Leon yn iawn. Mae’r gân am dranc yr hen gaseg druan (‘Fe drigodd yr hen gaseg a’i chalon oedd fel dwy’) yn f’atgoffa o’r gân yr arferai fy nhad ganu i mi, ‘Yr Asyn a Fu Farw (Wrth Gario’r Glo i’r Fflint)’. Daeth ryw lwmp i ’ngwddw yn gwrando arno fe a’r naw cerddor arall yn cyd-ganu hen benillion y pridd.

Ond nid nostalja sydd ar waith. Mae pob un o’r deg yn rhoi eu stamp cyfoes eu hunain ar gân o’u dewis nhw, a’r lleill yn cyfeilio neu’n harmoneiddio. Mor swynol oedd y llif yn nwylo Francesca Simmons! A’r soddgrwth a sŵn drwm yn dirgrynu yn gyfeiliant perffaith i lais Ellen Jordan yn canu penillion Tom Davies am y diboblogi ar yr Epynt.

Yn wreiddiol roedd Craig Chapman wedi meddwl cyfansoddi cân i Garadog, sef Griffith Rhys Jones, yr arweinydd corau sydd wedi ei anfarwoli gyda cherflun yn Aberdâr. Ond ar ôl dod i Dŷ Newydd, daeth i nabod Lleuwen Steffan (a oedd yn rhan o’r cynllun yn wreiddiol ond yn methu â bod ar y daith) a chyfarfod â’i mab bach un oed, Caradog. Dyma fe’n dechrau meddwl pa argraff roedd yr holl stŵr yn ei gael ar blentyn bach – y deg cerddor a’u holl offerynnau – a chyfansoddodd gân offerynnol yn dychmygu hynny. A dyna’r naw arall yn ymuno ag e i chwarae cân freuddwydiol, lawen, yn union fel darlun plentyn bach.

Dyna Gwen Mairi Yorke wedyn: Albanes o St Andrews sy’n siarad Cymraeg (ei mam yn dod o Faesycrugiau ger Llanllwni) ac wedi astudio yn Academi Cerdd a Drama yr Alban ac yn dysgu yn Ysgol Aeleg Glasgow.  Trwy gydol y gyngerdd, roedd hi’n sefyll mewn sodlau tal arian yn chwarae’r delyn fach ar stôl. Ei chân hi oedd ‘Pant Corlan yr Wyn’, fersiwn swynol gyda ffliwt a lleisiau yn gyfeiliant.

Yr un mwyaf cyfarwydd i mi oedd Gwilym Bowen Rhys, lleisydd gwritgoch y Bandana a Plu. Serch hynny, efallai taw fe yw’r eithriad y tro yma, yn berfformiwr â gradd dobsarth cyntaf o’r Sin Roc Gymraeg tra bod nifer o’r lleill yn offerynwyr profiadol. Ond mae ei angerdd a’i awydd i ddysgu am y traddodiad gwerin yn amlwg ac roedd yn dda ei gael e yna. Agorodd y gyngerdd gyda’i fersiwn afieithus o ‘Bachgen Ifanc Ydwyf’ (cân a ganodd Meredydd Evans yn y 1950au) sydd eisoes yn hit ar Radio Cymru. Roedd yn gosod naws y gyngerdd ac yn datgan taw ymdriniaeth ddeallus o’r traddodiad gwerin Cymraeg oedd yn ein disgwyl nid ailbobiad eildwym. Gwilym oedd yn cloi’r set hefyd, gyda fersiwn o gân Plygain ‘Deffrwch Benteulu’, mewn arddull a oedd yn f’atgoffa o’r ‘Godfather of Rap’ Gil Scott Heron!

Yr uchafbwynt i mi oedd fersiwn Mari Morgan o ‘Alawon fy Ngwlad’. Twyllodrus oedd delwedd ddiniwed y gantores (a feiolinydd), yn ei ffrog fach lliw blodau menyn a’r band blodau yn ei gwallt. Roedd ganddi feistrolaeth lwyr, a chyfeiliant swynol telyn, mandolin a llif (perfformiad anhygoel gan Francesca Simmons) yn gweddu i’r dim. A’r geiriau yn dweud y cyfan: ‘Mae meibion hen Walia heb golli eu cân… Boed telyn ac awen mewn llwyddiant a bri.’

Dywedodd Arfon Gwilym ei hun ar ôl y gig: “mae pob un ohonon ni wedi dysgu heno.” Fe fydd hoelion wyth y traddodiad wedi’u hysbrydoli gan ddulliau deheuig y criw o ddehongli’r alawon. Ac mi wnes innau sôn ar Twitter y dylai’r ysgolion ddysgu am ein traddodiadau gwerin yn rhan o’r cwricwlwm addysg. Am y tro, mae hi’n ddigon bod yma ddeg cerddor ifanc yn mynd adre’n eu holau i Glasgow, i Aberdâr, i Langollen, ac i Langammarch gyda stôr o wybodaeth newydd am y traddodiad gwerthfawr yma.

* Taith 10 Mewn Bws

Gwener, Hydref 18 – Y Drwm, Aberystwyth

Sadwrn, Hydref 19 – Llangammarch, Powys

Sul, Hydref 20 – Chapter Caerdydd (Gŵyl Sŵn)

***

A gair i gloi am syrpreis arall y noson. I agor y gyngerdd fe gafwyd perfformiad arbennig o dda gan Triawd – grŵp gwerin y ffidlwyr gwych Stephen Rees a Huw Roberts, a mab Huw, Sion Roberts, ar y gitâr. Dyna i chi fachgen dawnus – a golygus tu hwnt, fel ei dad! – sy’n siŵr iawn o fynd ymhell. Fe gawson ein tywys ar wib trwy rai o’n  halawon hyfrytaf, ac roedd fersiwn Huw o ‘Llais Ned Pugh’ yn odidog o werinol. Newydd wneud ei DGAU mae Sion ei fab. Gwell iddyn nhw fynd i’r stiwdio recordio yn fuan, cyn i Sion gael ei gipio gan gerddorfeydd gwerin ym mhellafoedd byd sy’n talu yn llawer rhy dda.

Y Theatr Gen am roi braw i Steddfodwyr?

Cyhoeddwyd Mehefin 28, 2013 gan Non Tudur.


Arwel Gruffydd yn holi Roos van Geffen ar ôl y perfformiad
Gohebydd Celfyddydau Golwg, Non Tudur, a’i hargraffiadau o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru. 

‘Un o’r profiadau sy’n siwr o roi ysgytwad i Steddfodwyr Dinbych eleni yw cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol.

Yn sicr, fydd sawl un erioed wedi gweld sioe debyg i Rhwydo /Vangst o’r blaen.

Ai dyna union fwriad yr arbrofwr, yr heriwr Arwel Gruffydd – Cyfarwyddwr Artistig y cwmni – tybed? Ac mae’r sioe yn cael ei chynnig yn rhad ac am ddim – dim esgus felly i osgoi’r sioe awr-o-hyd arbrofol, ddeallusol, a gwahanol yma.

Roedd sawl un yn gegrwth ar ôl bod yn gweld y cynhyrchiad mewn sied las ar y lawnt fowlio gyferbyn â safle hen Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yr wythnos yma, ar wahoddiad Pontio.

Merch o’r Iseldiroedd, Roos Van Geffen, yw dyfeisydd y sioe, a’r sgript yn seiliedig ar ei chyfweliadau byr gyda dinasyddion Ewrop a Phrydain – gan gynnwys Caerdydd, Bangor a Dinbych – am eu dyheadau a’u hofnau pennaf. Dyna’r blyrb yn y deunydd hyrwyddo – ond mae’r hyn sy’n eich wynebu y tu mewn i’r cwt glas yn gwbl annisgwyl.

Roedd Arwel Gruffydd wedi ei gweld yng ngŵyl ddrama Oerol yn Fryslân, ac wedi meddwl y byddai’n rhwydd ei throsi i’r Gymraeg, ac yn sioe gorfforol, gysyniadol o fath nas gwelir yn aml yng Nghymru.

Mae rhes o deipiaduron yn eich croesawu ar gyrraedd y cwt glas – a gwahoddiad i deipio ar ddarn o bapur eich dyhead a’ch ofn pennaf, ynghyd â’ch oedran, eich gwaith, ac enw’r dref. Yna mi roddir clustffôn i rai sydd am gael cyfieithiad Saesneg neu Iseldireg, cyn i bawb gamu i’r cwt.

Does fawr o bwynt rhoi amlinelliad o ‘blot’ y sioe, rhag sbwylio antur emosiynol y perfformiad sy’n eich aros y tu mewn. Ond mi ddylid dweud bod y ddau berfformiwr sy’n cynnal y digwydd yn ardderchog; un wedi ei hyfforddi yn y byd meimio, a’r llall yn ddawnsiwr. Sioe Ewropeaidd yw hi, yn ddiamau, a’r sgript fer, onest wedi ei chyfieithu gan neb llai na’r nofelydd Angharad Price, a’i llefaru gan yr actores Leisa Mererid.

Roedd yna rai yn meddwl bod y sioe – sy’n symud yn hypnotig o araf ac â chyffyrddiadau tywyll iawn yn perthyn iddi – yn ymwneud â marwolaeth a bywyd newydd; eraill ei fod yn ymdrin â grym iachaol cariad. Fe bwysleisiodd Roos Van Geffen i’r gynulleidfa ar ôl y sioe ym Mangor ei bod yn awyddus i bobol ymateb fel y dymunan nhw.

Os fentrwch chi y tu mewn i’r sied las ar Faes y Steddfod yn Ninbych, byddwch amyneddgar, a byddwch yn barod am sioc.

* Rhwydo / Vangst (Theatr Genedlaethol Cymru)

Yr Hen Lawnt Fowlio, Pontio, Bangor, Mehefin 26 – 29; Canolfan Mileniwm Cymru, Gorffennaf 3 – 6; Amgueddfa’r Glannau, Abertawe, Gorffennaf 25 – 27; Eisteddfod Genedlaethol, Dinbych, Awst 3 – 7

Merched Iwerddon a Brigitte Bardot

Cyhoeddwyd Mai 28, 2013 gan .

Tagiau: Gwyl y Gelli, Non Tudur


Edna O'Brien, Gwyl y Gelli Llun: Non Tudur
Un o’r enwau mawr ar faes y Gelli ddydd Sul cynta’r ŵyl oedd y nofelydd o Iwerddon, Edna O’Brien – a greodd stŵr yn y 1960au ar ôl iddi gyhoeddi ei nofel, Country Girls.

Roedd hi yno yn sgwrsio am ei chofiant, Country Girl: A Memoir, gyda’i golygydd o wasg Faber.

Cafodd fagwraeth Gatholig lem ac roedd cefn gwlad Iwerddon yn ystod y 1930au a’r 1940au “yn lle Duwiol ac annuwiol,” meddai, lle’r oedd popeth yn bechadurus. “I desired Christ on the Cross – now that’s not very healthy, is it?” dywedodd. Ond fe fu iddi elwa o gyfoeth byd natur ei chymdeithas a’r diwylliant chwedleua, meddai – “I was blessed and unblessed.” Does nunlle ar y ddaear cyn hardded ag Iwerddon, dywedodd hi.

Yn Nulyn, fe gafodd y ferch ifanc flas ar ryddid, ac ar awduron fel James Joyce – roedd hi’n cario ei waith gyda hi ym mhobman. Yn nechrau’r 1950au dechreuodd sgrifennu colofnau i gyfnodolion, yn rhoi sylw i ffasiwn a sibrydion y ddinas – a thynnodd sylw gweisg a golygyddion. Sgrifennodd ei llyfr cyntaf Country Girls mewn tair wythnos.

Dihangodd i Lundain wedi i’r llyfr gael ei wahardd o Iwerddon oherwydd natur rywiol y llyfr – dywedodd wrth dorf y Gelli fel y bu i’w phostfeistres leol ddweud wrth ei thad y dylai hi gael ei chicio trwy’r dref yn noeth. Llosgwyd dau gopi ohono. Ond fe fu’r llyfr yn llwyddiant trwy’r byd am gyfleu poenau a meddyliau merched ifanc mor gelfydd.

Priododd yn ifanc – yn erbyn dymuniadau ei rhieni. Fuodd hi ddim yn briodas hapus, meddai. “I’d bring the children from school, and write, write, write” er gwaetha’ sylwadau ei gŵr awdurdodol, nad oedd o’r farn y gallai hi sgrifennu.

Soniodd – ar ofyn yr holwr – am y partïon mawr y byddai yn ei chynnal yn ei thŷ yn Llundain bob nos Sadwrn – gan ddenu mawrion yr oes fel Richard Burton, Sean Connery, Judy Garland (“not very happy”) a Lee Marvin (“always drunk”).

Soniodd am y trip LSD a gafodd unwaith a barodd tua 14 awr. Trodd at ei holwr, yr asiant o Faber, a dweud, ‘you’d know; you’ve taken it’ – roedd ei wyneb yn bictiwr, a’r un lliw yn union â bitrwt. Fe erfynnodd ar y dorf i beidio â thrydar rhag ofn i’w fam glywed. Rhy hwyr. Ond dw i’n siŵr iddo faddau ar unwaith wrth yr awdur osgeiddig, 82 oed.

Roedd hi’n braf iawn iawn cael dod i roi sgwrs yn y Gelli ar ddiwrnod braf o Fai, meddai (“it is more than nice – it is thrilling”, ond nid dyna yw sgrifennu, meddai. “It is a transaction from one part of myself to another part of myself… the thing I can never succeed in doing, but will always keep trying.”

Llenyddiaeth yw bywyd, meddai, er ei fod yn rhywbeth sydd bellach ar gyrion cymdeithas – “the world is full of noise… the solitude to read is getting harder and harder.”

***


Gwyl y Gelli Llun: Non Tudur
To be a novelist is the greatest job in the world”.

Dyna eiriau Howard Jacobson, un o enillwyr gwobr y Booker, tua diwedd ei ddarlith ar Jane Austen brynhawn Sul. Dyn deallus sy’n traddodi mewn modd yr un mor ffraeth a’r un mor ddoeth â’i nofelau. Ei fwriad oedd tanlinellu faint o ryw – a faint o gyfoesedd – sydd ynghudd yn nofelau Austen a pharch mawr yr awdur at wir gariad. Dywedodd am y nofel Persuasion: “There are a-throbs a-plenty.”

Gofynnodd un dyn yn y dorf – os ydych chi’n dweud bod llyfrau’r hen Jane mor drymlwythog o ryw – pam eich bod chi yn y gorffennol wedi beirniadu’r olygfa eiconig honno o Mr Darcy (yr actor Colin Firth) yn wlyb diferu yn dod allan o’r llyn ar yr addasiad teledu?

I think she’d think of it as absurd,” dywedodd, gan ennyn bwio mawr gan ran fwyaf o ferched yn y dorf.

***


Terence Stamp yng Ngwyl y Gelli Llun: Non Tudur
I gloi nos Sul, daeth torf fach i wrando ar un o sêr eiconig byd ffilm y 1960au – Terence Stamp. I lawer o bobol, fel yw General Zod, y dihiryn yn Superman 3. Ond i’r gwybodusion roedd un o actorion mwya’ golygus a cŵl y 1960au, gyda’r prif rannau mewn ffilmiau fel Billy Budd, Poor Cow ac fel y milwr diedifar Sergeant Troy yn addasiad enwog John Schlesinger o nofel Thomas Hardy, Far From the Madding Crowd.

Mae wedi actio mewn tua 60 o ffilmiau. Yn anffodus, roedd yn ychwanegiad hwyr i raglen y Gelli – ac ar wib yno cyn hedfan i Galiffornia ddydd Llun – a’r babell ond yn hanner llawn. Ond roedd yna fonllef gynnes o gymeradwyaeth iddo – a’r edmygaeth ohono yn amlwg. Eisteddodd ar y llwyfan yn droednoeth – adlais efallai o’r ffaith iddo fod yn byw mewn ashram yn India ar ôl mudo o Loegr yn niwedd y 1960au tan ddiwedd y 1979au wedi i’r rhannau mawr ddechrau diflannu.

Dyna lle y calliodd a dadebru o fyd gwyllt enwogrwydd, meddai, a dysgu sut i fyw yn iawn – a hynny sy’n gyfrifol am y ffaith ei fod yn dal i actio heddiw. Edrychai’n iach fel cneuen, ac yn llawer iau na’i 74 o flynyddoedd.

Cawson ni stori flasus – am hanes ei blind date gyda Brigitte Bardot ym Mharis – heb ddatgelu a wnaethon nhw gysgu gyda’i gilydd ai peidio.

Gofynnais ar ran Golwg beth oedd ei farn eu bod nhw’n ail-wneud Far From the Madding Crowd. Syllodd yn fud am ennyd – arwydd efallai nad oedd yn ymwybodol o’r ffaith honno – ac ateb nad yw e eto wedi dod i’r arfer a rhywun arall yn portreadu General Zod!

Ond dywedodd mai clasur yn ddi-os yw Far From the Madding Crowd – hoff ffilm ei fam, digwydd bod. Ac roedd yn bleser cael gweithio ar y pryd gyda’r Julie Christie ifanc, a oedd yn “ravishing”. Ond doedd y ffilmio ddim yn gyfnod hapus iddo – doedd y cyfarwyddwr John Schlesinger ddim yn edmygydd ohono, meddai.

Roedd gwell gan y cyfarwyddwr hoyw fechgyn cyhyrog blond, meddai, a byddai yn ddiystyriol ohono ar y set – “he was really sadistic with me, thinking back,” meddai. Ond fe wnaeth hynny iddo actio yn well. Mae hynny yn dangos yn y ffilm; mae hi wirionedd yn glasur. Ni fydd yr un fersiwn newydd gystal – mae hynny yn garantîd.

Dyna un o bleserau mawr y Gelli – cwrdd â’ch arwyr. Weithiau, nid dadrithiad yw cael eu cyfarfod, ond gwireddu breuddwyd.

Yr haul yn gwenu yn y Gelli

Cyhoeddwyd Mai 25, 2013 gan Llên.


Y torfeydd yn mwynhau'r tywydd braf yng Ngwyl y Gelli brynhawn ddoe
Mae rhywbeth wedi newid yn yr ŵyl eleni. Roedd hi’n teimlo yn llawnach na’r arfer. Ddydd Sadwrn, roedd yr haul yn tywynnu ar y maes ar gyrion tref y Gelli a’r pebyll yn annioddefol o boeth ar brydiau. Ai’r tywydd braf oedd yn gyfrifol am y tyrfeydd?

Dw i ddim yn siwr. Maen nhw wedi symud pethau rownd rywfaint – nid yw’r llecyn glas lle mae pobol yn gorweddian reit o flaen y fynedfa mwyach, ond draw yn fwy i’r chwith, gyda phabell Tapas Espana newydd a chorneli coffi newydd o’i gwmpas. Mae fel petai yn llai rywsut, gyda rhagor o lecynnau a chorneli bach i blant segura neu ddarllen ar fîn-bags gwyrdd. Mae’r lle yn bertach, ond roedd e’n teimlo yn brysurach – a’r newid rownd sy’n gyfrifol am hynny am wn i.

Ac mae plant yn darllen yn y Gelli. Roedd yna fachgen tua 7 oed yn eistedd reit y tu allan i’r toiledau yn yr haul yn darllen nofel, gyda’i docyn gwyn yn ddalen yn symud i lawr y llinellau.

Yr un dorf – ddosbarth canol Seisnig gan fwyaf – sydd yma o hyd. Mae yna heidiau o fois Mumford & Sons-aidd ifanc gyda’u siacedi brethyn gwirion; merched ifanc yn eu fforgiau haf a’u welis a la Kate Moss; dynion talsyth, mawr yn gwisgo sanau melyn a loafers piws; menywod canol oed mewn teits pinc llachar. A Guto Harri yn eu canol, mewn siaced ddu suede.

Ond teimlaf eleni bod yna fwy o blant, fel bod yr ŵyl wedi sylweddoli bod rhaid paratoi ar gyfer y y thirtysomethings a’r fortysomethings sy’n heidio i’r ŵyl gyda’u babanod a’u plantos. Mae pobol yn cael plant yn hŷn; ond mae’r bobol yna yn dal eisiau mynd i wrando ar Germaine Greer neu George Monbiot yn traethu. Mae yna ragor o lecynnau syml a deniadol ar gyfer plant eleni, i wneud y profiad yn haws i’r rhieni. Fel yr awgrymodd Bethan Mair yn Golwg wrth ymateb i Dasglu Leighton Andrews ar Ein Hoff Brifwyl yn ddiweddar, mae eisiau i’r Eisteddfod Genedlaethol sylweddoli hyn hefyd.

Mae yna un babell â’i hochrau’n agored yn y Gelli a’i llond hi o fêls gwair, a phlant yn neidio lan a lawr yn chwarae dwli arnyn nhw. Bêls! Mae digon o rheiny yng Nghymru i lenwi pafiliwn.

O ran y siaradwyr – mae’r ŵyl yn dal i roi pwyslais ar faterion gwyrdd, amgylcheddol, ar ynni adnewyddol a byd natur a gwyddoniaeth. Heddiw, ddydd Sadwrn, fe fuodd Emyr Roberts, pennaeth newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn sgwrsio am y corff newydd; Carwyn Jones yn trafod y Ddeddf Gynaladwyedd; a ddydd Llun fe fydd Alun Davies yn son am her i amaethwyr Cymru.

A digrif oedd clywed bod pobol wedi camgymryd Alun Davies, Gweinidog Amaeth Cymru am Alan Davies, yr actor a’r dyn teli, a phob un tocyn wedi ei werthu yn gynnar. Ddim yn ddrwg i gyd felly.

Roedd y babell fawr o dan ei sang yn gwrando ar yr hanesydd Anne Applebaum brynhawn Sadwrn yn son am ei llyfr, Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe 1944 – 1956. Americanes sydd yn briod â Gweinidog Tramor Gwlad Pwyl ac a oedd yn ohebydd yng ngorllewin Ewrop yn 1989. Roedd hi’n siarad fel melin bupur a’r cannoedd yn gwrando’n astud arni.

Drueni mai yn y babell fach – y Starlight Stage – roedd yr Athro Tony Brown o brifysgol Bangor yn traddodi ei ddarlith ar gasgliad newydd o waith RS Thomas, The Uncollected Poems (Bloodaxe), y mae wedi’i olygu ar y cyd â’r darlithydd Cymraeg, Jason Walford Davies. Roedd y ddarlith yn wibdaith difyr a theimladwy trwy fywyd a datblygiad gyrfa farddol RS – ac angerdd y darlithydd at y bardd-bregethwr yn amlwg. Dywedodd Tony Brown wrtha i wedi’r ddarlith eu bod yn lwcus o gael “eu troed i mewn drwy’r drws” yng ngwyl y Gelli, a bod Llenyddiaeth Cymru wedi bod o gymorth o ran hynny. Ymddengys nad yw’r literati Saesneg yn dal ddim yn llwyr werthfawrogi mawredd RS Thomas, er bod y diddordeb o dramor yn tyfu bob dydd, yn ôl yr academydd. Byddai’n werth i bawb geisio mynd i weld yr arddangosfa yng Nghanolfan Astudiaeth RS Thomas ym mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd.

Yn ôl i’r Gelli ddydd Sul – ac edrych ymlaen at wrando ar y seren ffilm o’r 60au,Terence Stamp. Eisiau gwybod beth yw ei ymateb i’r ffaith eu bod nhw’n ailwneud Far From the Madding Crowd, yn seiliedig ar nofel enwog Thomas Hardy, eto. Roedd yn actio yn y ffilm wreiddiol gan John Schlesinger gyda Julie Christie ac Alan Bates.

Drama gonfensiynol am ryw yn plesio

Cyhoeddwyd Mawrth 6, 2013 gan Cymru.

Tagiau: David Mamet, Drama, Dyled Eileen, Non Tudur, Sexual Perversity in Chicago


Llun: Gwefan Living Pictures
Non Tudur sy’n adolygu drama David Mamet,
Sexual Perversity in Chicago…

Echdoe, cefais un o’r nosweithiau brafiaf erioed yn y theatr. Drama gyfoes, ag iddi blot ac actio da, sgript ddeheuig, a digon o athronyddu am y cyflwr dynol i droelli cogiau’r meddwl am sawl diwrnod.

Digwydd bod, roedd y dramodydd dan sylw wedi ennill gwobr Pulitzer ac Oscar am ei waith sgrifennu i’r theatr ac i fyd ffilm. Enw David Mamet oedd wedi denu, nid yr enw brawychus o risqué, Sexual Perversity in Chicago – er rhaid cyfaddef bod hwnnw wedi codi chwilfrydedd. Wrth sgwrsio ag un o’r actorion ar ôl y cynhyrchiad, dywedodd efallai bod enw’r ddrama hon yn cadw ambell un draw.

Cwmni bach Cymreig Living Pictures (ar y cyd â Cegin Productions) sy’n gyfrifol am addasu drama David Mamet o 1976. Cwmni un o gyfarwyddwyr amlycaf Cymru, Elen Bowman, a’i gŵr, y Gwyddel Robert Bowman, yw Living Pictures.

Robert ei hun sy’n chwarae un o’r pedwar cymeriad, Bernie – ryw hwrdd o ddiotwr boliog, sy’n dwyn y sioe (er gwaetha’r olygfa ofnadwy o letchwith honno lle mae’n cyflawni gweithred aflednais).

Comedi tywyll yw hi, ychydig dros awr o hyd, wedi’i gosod yn Chicago yn y 1970au, yn edrych ar berthnasau rhwng ffrindiau a’u hymdrechion anobeithiol i ddod o hyd i gymar. Mae dadleuon a straeon digri’ Bernie am ferched yn codi gwên drwy’r ddrama, ond wrth gwrs mae’r jôcs ‘diniwed’ yma am fronnau a ‘snatch’ yn ymylu ar y truenus a’r peryglus – ac yn ein hatgoffa bod agweddau fel hyn yn dal i fodoli heddiw, a phornograffi yn llawer haws i’w gaffael nag yn ’76.

Yn anffodus, mae Bernie â’i gulni yn dylanwadu’n drwm ar ei fêt di-niw o’r gwaith, Danny (Ioannis Sholto) sy’n ceisio’i orau glas i gynnal perthynas â Deborah, darluniwr deallus a phert. Oddi wrth Deborah y daeth un o linellau gorau’r ddrama, i’r ffraeo rhyngddi hi a Danny boethi, a mynd y tu hwnt i reolaeth: ‘You’re trying to understand women and I’m confusing you with information! What are you feeling? Tell me what you’re feeling. Jerk.’

Rhaid canmol y ddwy actores – Lizzie Rogan fel Deborah a Claire Cage fel Joan, yr athrawes arswydus o chwerw – am eu perfformiadau.

Weithiau, jest weithiau, mae hi’n beth braf ofnadwy cael gwylio drama draddodiadol ‘go iawn’, strêt – heb drapîs na thafluniad nag iPad yn agos, er mor ddiog y bo hynny mewn ffordd. Mae hi’n bwysig i ni wthio ffiniau o ran cyfrwng y theatr, ac i’r gynulleidfa brofi gwefr newydd, ond weithiau mae eisiau i ni glywed gwaith lle mae’r geiriau yn gwneud yr acrobatics ac nid y cynhyrchu.

Mae sgript dda yn gallu gwneud yr ymdrech i fentro ar noson oer i’r theatr yr un mor foddhaus â darllen chwip o nofel gyhyrog o flaen y tân adre.

A’r prif  beth yr oedd rhywun yn ei feddwl oedd ymhle mae dramodwyr geiriol da fel Mamet yn y Gymraeg, heddiw? Brysied y Dafydd James nesaf.

Braf yw clywed canmol cynnar ar gyfer Dyled Eileen – drama Angharad Tomos ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru i gofio am aberth fawr Eileen Beasley dros yr iaith, a ddechreuodd ar ei thaith yn Llanelli nos Fawrth. Rhian Morgan sy’n chwarae rhan Eileen Beasley, ‘mam gweithredu uniongyrchol.’

Roedd yna rai oedd yn credu y dylai cynhyrchiad diwethaf y Theatr Genedlaethol – Y Bont – fod wedi bod yn ddrama “go iawn” gonfensiynol ei ffurf, ond eto wedi’u plesio gan fentergarwch Arwel Gruffydd a’r criw ar y diwrnod.

Mae Dyled Eileen yn gyfle i’r rheiny ohonoch sydd am ddychwelyd i glydwch theatr gonfensiynol am y tro, ac eistedd lawr am awr neu ddwy mewn tywyllwch, a chanolbwyntio ar eiriau a syniadau.

  • Mae Sexual Perversity in Chicago yn y Ffwrnes Llanelli nos Iau, Mawrth 7
  • Taith Dyled Eileen:

06 Mawrth 2013 Canolfan Celfyddydau Pontardawe

01792 863722

07 Mawrth 2013 Theatr y Gromlech, Crymych

01239 831455

08 Mawrth 2013 Theatr Felinfach, Ceredigion

01570 470697

11 Mawrth 2013 Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

01978 315050

12 Mawrth 2013 Neuadd Dwyfor, Pwllheli

01758 704088

13 Mawrth 2013 Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

01745 812349

14 Mawrth 2013 Galeri Caernarfon

01286 685222

18 Mawrth 2013 Gartholwg, Pentre’r Eglwys

01443 219589

19 Mawrth 2013 Theatr Soar, Merthyr Tudful

01685 722176

20 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 8pm

21 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 1:30pm & 8pm

22 Mawrth 2013 Sherman Cymru Caerdydd

029 2064 6900 8pm