RSS

Golwg360

MwyCau 
Nick Bourne

Nick Bourne

Agor y cwest ‘canibaliaeth’

Cyhoeddwyd Tachwedd 21, 2014 gan Cymru.

Tagiau: canibaliaeth, cerys yemm, Matthew Williams


Cerys Yemm (Llun Heddlu Gwent)
Fe fydd cwest i farwolaeth Cerys Yemm, a gafodd ei llofruddio mewn gweithred honedig o ganibaliaeth yn cael ei agor am 10 o’r gloch heddiw.

Y disgwyl yw mai dim ond y broses ffurfiol fydd yn digwydd heddiw ac y bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio.

Bu farw Cerys Yemm, 22, yn dilyn ymosodiad yn hostel y Sirhowy Arms yn Argoed ger Caerffili bythefnos yn ôl.

Fe fu farw’r dyn sy’n cael ei amau o’i llofruddio, Matthew Williams, 34, hefyd wedi i’r heddlu danio gwn taser ato a’i arestio.

Galw am gau’r hostel

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn ystyried bod hwn yn achos o lofruddiaeth, a bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Er eu bod nhw’n gwrthod manylu ar union natur yr ymosodiad, mae ffynonellau lleol yn dweud fod Cerys Yemm wedi dioddef anafiadau sylweddol i’w hwyneb.

Yn ôl yr adroddiadau hynny, roedd swyddogion diogelwch wedi dod o hyd i Matthew Williams yn ceisio bwyta rhannau o’r ferch ifanc.

Ers yr ymosodiad, mae trigolion yn Argoed ger Y Coed Duon wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i alw am gau’r hostel.

Y Ceidwadwyr am roi Cymru ‘yn ôl ar y llwybr cywir’

Cyhoeddwyd Ebrill 28, 2011 gan Cymru.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011


Nick Bourne - Ceidwadwyr
Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dadlau dros roi llais newydd i Gymru…

Nawr, yn fwy nag erioed – mae angen llais newydd ar Gymru. Ein gwlad ni yw’r dlotaf yn y Deyrnas Unedig, mae rhestrau aros y GIG yn cael eu hanwybyddu’n rheolaidd, ac mae perfformiad ein plant mewn darllen, gwyddoniaeth a mathemateg yn waeth nag yn Latfia, Estonia a Slofenia. Dyna beth sydd gyda ni i’w ddangos ar ôl 12 mlynedd o reolaeth gan Lafur yma, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau rhoi terfyn ar hyn.

Mae gyda ni’r bobol, y polisiau a’r ymroddiad i newid y wlad, ac ein rhoi ni yn ôl ar y llwybr cywir. Fe fydden ni’n cael gwared ar drethi busnes i bob busnes bach, a’u galluogi i fuddsoddi mewn staff a datblygu. Fe fydden ni’n creu Cyngor Partneriaeth Busnes newydd, ac yn datblygu’r strategaeth gweithgynhyrchu sydd wedi cael ei haddo ond byth wedi cael ei gyflawni gan Lafur. Gan ein bod ni’n cydnabod bod rhai cymunedau yng Nghymru angen mwy o help nag eraill i feithrin eu heconomiau, fe fydden yn cyflwyno nifer o Ardaloedd Menter ar draws y wlad. Dyma beth sydd ei angen i roi’r hwb angenrheidiol i’n heconomi ni.

Yn lle torri cyllideb y GIG o £1 biliwn dros y dair blynedd nesaf – fel y byddai Llafur yn gwneud – rydyn ni wedi ymroi i’w ddiogeli, law yn llaw â’r raddfa chwyddiant. Ni, felly, yw’r unig blaid yng Nghymru sydd wedi ymroi i gael gwared ar wastraff a buddsoddi mewn iechyd. Fe fydden ni’n creu Cronfa Cyffuriau Canser, buddsoddi mewn gwasanaethau a hospis i ddioddefwyr strôc, datblygu Cynllun Canser Cenedlaethol, a phenodi Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus – a fyddai’n canolbwyntio ar or-dewdra ac ysmygu.

I roi gwell dechreuad i’n plant mewn bywyd, fe fydden yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i athrawon, rhieni a llywodraethwyr. Trwy ariannu ysgolion yn uniongyrchol o’r Cynulliad, fe fyddem yn torri £102 miliwn mewn tâp coch a biwrocratiaeth bob blwyddyn, a rhoi’r cyfle i’r bobol sy’n nabod eu hysgolion orau i wneud penderfyniadau yn eu cylch. Fe fydden ni’n cau’r bwlch canlyniadau rhyngom ni ac ysgolion Lloegr, ac fe fydden ni yn gyrru ein plant yn eu blaen, i’w helpu i lwyddo.

Nawr, yn fwy nag erioed – mae angen llais newydd ar Gymru. Gall Ceidwadwyr Cymru roi’r llais hwnnw.

Pobol fydd yn gwneud i newid ddigwydd

Cyhoeddwyd Ebrill 20, 2010 gan .

Tagiau: Ceidwadwyr, Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, sy’n dadlau o blaid rhoi tic ym mlwch ei blaid yn yr Etholiad Cyffredinol ar 6 Mai…

Fe fydd 2010 yn flwyddyn bwysig i Gymru. Os bydd Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol ar 6 Mai, bydd modd dechrau’n syth ar y gwaith o sicrhau fod cymdeithas ac economi Cymru yn mynd yn ôl i’r cyfeiriad cywir.

Byddai’r Ceidwadwyr yn hoffi gweld economi, cymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi cael eu hadeiladu ar ymdrech, gallu a dyfeisgarwch y bobol, wedi ei gefnogi ond heb ei lesteirio gan lywodraeth.

Rydan ni am fynd i’r afael â’r sialensiau craidd y mae llywodraethau yn y gorffennol wedi methu ymdrin â nhw. Rydyn ni’n gwybod mai pobol Cymru – nid llywodraeth na gwariant mawr – fydd yn gwneud y gwahaniaeth.

Mae 13 mlynedd o Lywodraethau wedi eu harwain gan Lafur yn Llundain a Bae Caerdydd wedi methu. Cymru sydd â’r raddfa ddiweithdra uchaf mewn unrhyw genedl yn y DU. Mae 96,000 o’n plant ni yn byw mewn tlodi difrifol. Mae ein graddfa cychwyn busnes ymhlith yr isaf yn y DU.

Hyd yn oed cyn y dirwasgiad roedd Cymru yn dioddef o ddiffyg mewn gweithgarwch economaidd a degau o filoedd o bobol ifanc nad oedd ym myd addysg, mewn gwaith nac mewn hyfforddiant. Mae dal i fod angen gwelliannau mawr ar ein gwasanaeth iechyd a’n system addysg er mwyn dal i fyny efo safonau’r DU. Ac mae troseddau sy’n deillio o alcohol yn bla ar ein strydoedd.

Mae Plaid Cymru yn parhau i ymroi i Gymru annibynnol er gwaethaf byd sy’n gynyddol gyd gysylltiedig, â’r twf yng ngrym India a China. Mae gan Lafur obsesiwn am aros mewn grym ac wedi troi at greu celwyddau drwy ddweud fod y Ceidwadwyr am gael gwared â phas bws am ddim a thaliadau ynni’r gaeaf. Mae’r Ceidwadwyr wedi ymroi i dorri gwastraff mewn swyddfeydd llywodraeth, fel nad oes angen i’n trethi gynyddu. Mae Llafur hefyd wedi dod o hyd i wastraff ond am roi trethi i fyny nawr, hyd yn oed cyn taclo’r gwastraff.

Mae David Cameron wedi ei gwneud hi’n glir fod fformiwla Barnett yn agosáu at ddiwedd ei oes ac mae’r Ceidwadwyr yn cefnogi refferendwm am bwerau’r Cynulliad. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wastad wedi cefnogi symudiadau yn y Cynulliad i symud yr iaith Gymraeg ymlaen, ac i amddiffyn swyddi Cymreig a chymunedau. Ond dyw’r Ceidwadwyr ddim yn ofni bod yn uchelgeisiol am ddyfodol Cymru. Rydan ni eisiau undeb o genhedloedd mawr. Dyna pam rydan ni eisiau mwy na datganoli gwleidyddol yn unig. Mae pobol yn creu swyddi a chyfoeth i Gymru ac yn gwybod sut fath o wasanaethau cyhoeddus y maen nhw angen:

  • Ble mae’r wladwriaeth wedi methu a’i gwneud hi’n hawdd cynnal busnes a chyflogi pobol yng Nghymru, bydd y Ceidwadwyr yn esmwytho baich treth Llafur ar fusnesau, gan alluogi i bobol yrru’r adferiad economaidd.
  • Ble mae’r wladwriaeth wedi methu darparu ar gyfer pobol ifanc sydd ag ond ychydig o gymwysterau a sgiliau bywyd, mae’r Ceidwadwyr yn cynnig paru hyd at 5,000 o bobol ifanc â masnachwyr unigol yng Nghymru i ennill bywoliaeth a dysgu sgiliau ar gyfer cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Ble mae’r wladwriaeth wedi methu a mynd i’r afael â throseddu – roedd bron 10,000 yn fwy o droseddau treisgar yng Nghymru yn 2009 o’i gymharu â degawd cyn hynny – bydd y Ceidwadwyr yn lleihau byrdwn gwaith papur yr heddlu a chynorthwyo’r heddlu i daclo gwerthwyr alcohol anghyfrifol.

Y Ceidwadwyr yw’r unig blaid sy’n gwybod taw, yn y diwedd, pobol fydd yn gwneud i newid ddigwydd. Mae pobol yn dechrau teuluoedd a busnesau. Mae pobol yn gweithio’n galed yn ein Gwasanaeth Iechyd ac yn ein hysgolion. Pobol sy’n gwneud y dewisiadau sy’n effeithio’r amgylchedd. Ac rydyn ni angen pobol i ddechrau’r newid yna ar 6 Mai.