RSS

Golwg360

MwyCau 
Dylan Jones-Evans

Dylan Jones-Evans

Bangor: iaith a safon byd – dim angen dewis

Cyhoeddwyd Chwefror 15, 2010 gan .

Tagiau: Addysg, Cymraeg, prifysgol bangor

Yr economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans, yn mynegi ei siom am benderfyniad ei hen brifysgol … ac yn cynnig ateb arall.


Efo pwerau newydd tros yr iaith Gymraeg ar fin cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n eironig bod Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd raid i’w His-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg.

Mae hyn yn dilyn cynnig i gau pum adran sydd ymhlith y rhai mwya’ Cymraeg o ran cynnwys.

Tra bydd rhai sy’n drwglicio’r iaith yn dweud bod angen penodi’r person gorau ar gyfer y swydd, waeth beth fo’u gallu i siarad yr iaith, mae hynny’n anwybyddu’r ffaith bod Prifysgol Bangor yn ‘grud i’r iaith’, yn enwedig trwy ei rhagoriaeth mewn dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn gyfleus, mae hefyd yn anghofio bod Bangor yn rhan o un o’r ychydig siroedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobol a lle mae’n iaith bob dydd i lawer o gyrff lleol.

Mae gan Fangor gyfartaledd uchel o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith – ffigwr sy’n siŵr o gynyddu pan fydd ffioedd dysgu’n codi – ac mae tua 40% o’r holl fyfyrwyr yng Nghymru sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny ym Mangor.

Mae’r sefydliad felly mewn safle unigryw – safle a fyddai fel rheol yn cael ei ystyried wrth benodi prif weithredwr newydd. Byddai disgwyl i’r Brifysgol ddweud bod gallu yn y Gymraeg yn amod dymunol, os nad hanfodol, o’r swydd.

Pryder

All dyn ddim ond dyfalu bod y Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad yma oherwydd pryder na all ddatblygu’n sefydliad o safon byd os oes ganddo ymrwymiad cryf i’r iaith Gymraeg?

Os felly, mae’n amlwg nad ydyn nhw ddim wedi edrych ar lwyddiant diweddar Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Gaillimh (Galway) sydd yn un o ardaloedd Gwyddeleg y Gaeltacht.

Yn wahanol i Fangor, mae gan NUI Galway gyfrifoldeb statudol i gyflogi aelodau o staff sy’n gymwys i ddysgu trwy gyfrwng yr Wyddeleg, cyn belled â’u bod hefyd yn gymwys ym mhob ffordd arall.

Yn ail, mae wedi ymrwymo i ddatblygu campws dwyieithog trwy gynnig y math o amgylchfyd ffisegol a chymdeithasol a fydd yn cyflawni hynny.

Yn olaf, mae’n cynnig cyrsiau trwy gyfrwng yr Wyddeleg yng Nghyfadrannau’r Celfyddydau, y Gwyddorau a Masnach ac mae llawer o’r gwaith gweinyddol trwy’r Wyddeleg.

Iaith a llwyddiant yn bosib


A ydy’r ymrwymiad cryf yna i’r iaith Wyddeleg wedi gwanhau enw da Gailimh ar draws y byd?

I’r gwrthwyneb. Mae Gaillimh yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am fod yn ganolfan amlwg sy’n arwain y byd o ran ymchwil i dechnoleg y rhyngrwyd, gwyddoniaeth fiofeddygol, newid yn yr amgylchedd a pholisi cymdeithasol.

Mae hefyd yn cynhyrchu mwy o batentau a sgîl-gwmnïau nag unrhyw brifysgol Wyddelig arall, gan ddenu mwy na 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol bob blwyddyn.

O ganlyniad, cafodd NUI Galway ei dewis yn Brifysgol Wyddelig y Flwyddyn 2009-10 yn y Sunday Times.

Felly, i brifysgol sydd mewn rhanbarth gyda threftadaeth gyfoethog o ran iaith, mae’n glir y gall rhagoriaeth ac ymrwymiad cryf i’r iaith leol fynd law yn llaw.

A finnau’n gyn athro ym Mangor, rydw i, fel sawl un arall, yn siomedig mai ei nod ar hyn o bryd – yn ôl pob golwg – yw troi yn gopi carbon o brifysgol Seisnig gyffredin.

Oni fyddai’n trawsnewid pethau pe bai’r brifysgol yn lle hynny’n creu gweledigaeth o sefydliad academaidd Cymreig yn yr 21fed ganrif sydd, fel Gaillimh, wedi ei wreiddio yn ei gymdeithas leol ond sydd ag uchelgais byd-eang, yn enwedig o gofio bod y Gymraeg ar ei chryfa’ ers degawdau?

A gallai lansio’r weledigaeth honno trwy benodi arweinydd sydd, yn ogystal â deall pwysigrwydd ymchwil a dysgu o safon byd, hefyd yn gallu ymwneud yn uniongyrchol â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, dau beth a ddylai fod yn sylfaen i brifysgol fel Bangor.