RSS

Golwg360

MwyCau 
Dai Lingual

Dai Lingual

Y Cant Crasboeth…a’r Deg Dethol

Cyhoeddwyd Gorffennaf 22, 2013 gan .


Dyma Dai Lingual yn dathlu’r 100fed fideo wedi ei lan lwytho i’r sianel deledu newydd ar-lein sy’n dathlu diwylliant Cymru o bob math
PAN CYMRU.

O ran y nifer o fideos sydd ar sianel Pan Cymru ar youtube, mae saethu a chasglu cant fideo yn hanner cyntaf y flwyddyn eleni yn llwyddiant o ran opus mae’n rhaid.

Sut felly mae mesur ansawdd yr hyn sydd ar y sianel (yng ngeiriau youtube eu hunain) hyd yn hyn?

Yn ogystal ag edrych ar nifer yr ymweliadau (yn naturiol, ymweliad a chyfweliad Miss Alex Jones o’r ‘One Show’ sydd ar frig y rhestr yna ‘Pan’ ddaeth i’r Adran Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth), credaf taw’r llinyn mesur gorau yw hyd ymweliad y gwyliwr ar gyfartaledd.

Dyma felly’r rhestr yna, wedi ei seilio ar fideos fwyaf poblogaidd o’r gwahanol leoliadau sydd wedi eu harddangos ar y wefan:

1) El Parisa (gyda Dafydd Dobson ar gitâr) yn canu ‘Tonnau‘ yn Buffalo :

2) Dic Penderyn – Carreg Lafar yn fyw yng Nghwpwrdd Nansi.

3) Tylwyth teg yn dawnsio!

4) Ail-lawlio’r iaith -  protest Cymdeithas yr Iith, Aberystwyth

5) Gwerin Galicia, yn fyw yn y Cayo nos Lun!

6) Perfformiad clwb acwstig y Romilly (bob Nos Fawrth) ” Y ferch yn y brethyn cartref…”

7) Lloer-gan Gareth Bonello/ The Gentle Good yn The Moon Club (bydd yr Wyl Cardiffrinj Caerdydd yno eto nos Lun 21ain a nos Fawrth 22ain Hydref)

8) Y Deryn Pur gan Ser Pan Cymru #TwmpathMynIau Four Bars, Dempseys ( ar nos Iau cyntaf bob mis erbyn hyn)

9) ‘Glyn, Wyn a Phen Gwyn’ – sgwrs gyda’r cyfansoddwr Gareth Glyn

10) “Anghofiwch Tryweryn – Band y Ffug yn fyw yng Nghrymych” gyda diolch i’r trefnwyr lleol sef Mafon.

Dyna felly ddeg wedi eu dethol i chi o’r cant fideo sydd yna hyd yn hyn. Pe baech am gael cofnod gweledol a chlywedol o’ch sesiwn ceili lleol chi, croeso i chi nodi hynny isod.

Fel dwedodd yr athronydd Immanuel Kant ei hun:

“Mae ymrwymiad goleuedig i un diwylliant yn golygu ymrwymiad goleuedig i ddiwylliannau eraill”;

….gyda diolch i Sian Lloyd y Tywdd am ei llais peraidd

‘Drychwch adref am ddiwylliant felly, heb anghofio be sy mlan yng ngweddill y byd…

Yn ddigon ffodus, mae gweddill y byd (cerddorol) yn dod i Gymru cyn bo hir,

felly ni ddylai hynny fod yn rhy anodd..? Mae dyfodiad WOMEX yn prysur agosáu yn y calendr, prysuraf felly a threfniadau’r Ŵyl Ffrinj Caerdydd.  Am y tro, hwyl yr Ŵyl!

Dr Meredydd Evans

Cyhoeddwyd Gorffennaf 9, 2013 gan .

Tagiau: Dr Meredydd Evans

Bu Dai Lingual yn ddigon lwcus i gwrdd â Dr. Meredydd Evans ar ddechrau’r haf i sgwrsio am fywyd y werin bobol yng Nghymru, a’u cerddoriaeth…

Mi wn taw braint o’r mwyaf yw cael treulio amser hamddenol, braf gydag un o gewri ein diwylliant.  Dydw i ddim am draethu gormod felly, er mwyn i chi fwynhau clywed llais melfedaidd Merêd a’i feddwl arian byw ar waith.

Diolch i feistres y grefft Cerdd Dant des i gyswllt gyda Merêd eto, wedi 15 mlynedd a mwy ers imi eistedd tu ôl i ddesg yn stiwdio darlledu Radio Ceredigion yn yr Hen Orsaf, Aberystwyth yn gwrando arno ef ac Emyr Llywelyn yn olrhain ei hanes.

Mae’n adlewyrchiad o’r newidiadau ers yr adeg hynny nad oes gan Radio Ceredigion bencadlys yng nghanol tref Aberystwyth mwyach, wrth i fusnesau ddilyn y tueddiad o ailsefydlu y tu allan i’r canolbwynt cymdeithasol.

Magwyd Merêd mewn cymdeithas a oedd yn edrych ar ôl y sawl nad oeddent yn gallu edrych ar ôl eu hunain – yr enghraifft amlycaf o hyn oedd cyngherddau’r chwareli oedd yn codi arian i’r difreintiedig a methedig. Mi oedd Y Gronfa megis gwladwriaeth les gyntefig.

I ble’r aeth y gymdeithas gydweithredol yna, dwedwch?  Wrth i fusnes ar ôl busnes gau eu drysau am y tro olaf, a’r ymennydd yn ysu i ymadael am y De-ddwyrain yn ddi-baid, credaf fod y cwestiwn yna’n dod yn fwyfwy pwysig.

I ddefnyddio geiriau Emyr Llew yn ei gyflwyniad i’r rhaglen “Rhagor ‘To!”, dyn diwylliedig a chyflawn yw Meredydd Evans, ac rwyf am gloi trwy ddefnyddio dyfyniad o enau Merêd ei hun o’r un rhaglen [gyda diolch i Archif Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth] :

“Roedd y gymdeithas ei hun trwy ei adnoddau ei hun wedi gwneud ei sefydliadau ei hun i geisio cyfarfod ei anghenion ei hun.”

Ma na “Rhagor ‘To” i ddod hefyd…

Bydd y wefan www.gwylcerdddantystradfflur.wordpress.com yn cael ei ddiweddaru’n wythnosol gyda phytiau pellach o’r sgwrs (o awr a mwy!) gyda Dr.  Meredydd Evans; dilynwch hefyd ddiweddariadau twitter yr ŵyl a thrwy edrych am “Gŵyl Cerdd Dant” ar facebook.

Cofio carcharu Jamie

Cyhoeddwyd Mehefin 27, 2013 gan .

Tagiau: jamie bevan


Jamie Bevan
Wrth adolygu ei waith ffilmio hyd yn hyn i’r prosiect ‘Pan Cymru’, daeth Dai Lingual
o hyd i gyfweliad gyda Jamie Bevan yn sôn am sut newidiodd carchar ei fywyd ef, ei deulu a’i ffrindiau.

Nid fi oedd yr unig flogiwr i ysgrifennu am hanes Jamie Bevan y llynedd wrth iddo gael ei garcharu am ei safiad dros yr iaith Gymraeg, a phan gwrddais ag ef am y tro cyntaf wedi ei ryddhau, bu’n ddigon bonheddig i adael imi ffilmio ein sgwrs.

…yn ogystal â’i recordio

Cyn cyhoeddi ar y wefan Golwg360 – sy’n cael ei drafod yn ystod fy sgwrs gyda Jamie fel man trafod newydd a chyffrous i’r Cymry Cymraeg -  roeddwn yn awyddus iawn i gael ymateb gan swyddfa @comygymraeg am ddiweddariad o glywed Jamie’n sôn am y diffyg Cymraeg yn y carchardai.

Wedi imi eu holi am hyn drwy alwad ffôn ac yna eu hatgoffa ar y trydar, dyma ddywedodd llefarydd ar ran swyddfa’r Comisiynydd Iaith ddydd Mawrth:

“Mae trafodaethau’n parhau gyda NOMS [National Offender Management Service] gan obeithio y bydd eu cynllun iaith newydd yn cael ei gyhoeddi.”

Gobeithio gwnewch chi fwynhau’r clip o gerddoriaeth ar ddiwedd y fideo wrth i Jamie chwarae’n fyw yn noson Gymraeg yng Nghaerdydd – tybed a wyddoch chi pwy yw’r gwestai ar yr organ geg?  Atebwch drwy roi sylw isod!

Amser anghofio?

Cyhoeddwyd Mehefin 17, 2013 gan Roc a Phop.

Tagiau: Y Ffug


Y Ffug yn Y Babell Roc (Golwg 23 Mai 2013)
Wedi diwrnod digon difyr ar y maes, bu Dai Lingual yn ffilmio’r gig yng Nghlwb
Rygbi Crymych ar nos Wener wythnos Eisteddfod yr Urdd.

Mae tipyn o ddadlau a thrafod digon athronyddol wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar am ymadrodd gan fand o Grymych.

“Anghofiwch Dryweryn” oedd geiriau cân Y Ffug yn gig a drefnwyd gan yr hyrwyddwyr lleol mentrus Mafon, ar y cyd â Chymdeithas yr Iaith.

Dyma’r ffilm gyntaf o’r gân ‘Cariad Dosbarth Canol Cymru’ sydd ar gael i’w wylio’n gyhoeddus – tipyn o egsliwif felly, gan gofio taw cylchgrawn Golwg dorrodd y stori am y gân yn y rhifyn Eisteddfodol wrth gwrs!

Pryfocio

Mae cynnwys yr ymadrodd uchod yn tynnu sylw’n brofoclyd mewn modd sydd wedi aflonyddu rhai, cythruddo nifer ac ysbrydoli ambell un.

Amser nawr am “Anghofiwch Dryweryn?”

Cofiwch Tryweryn oedd y garreg ger Llanrhystud yn dweud yn wreiddiol wrth gwrs.  Braf gweld band arall o Orllewin Cymru yn atgoffau eu cyfoedion am ddigwyddiad nad oedd yn cael ei ddysgu gan wersi fy ysgolion lleol.

*Cydnabyddaf gefnogaeth a chymorth Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth wrth greu’r fideo, felly hefyd Mafon am y gwahoddiad a chofiwch cadw golwg ar www.sianel62.com am y ffilm sy’n cynnwys y cyfweliad yn ei hyd

ac felly hefyd y gig ei hun…

Mae pawb yn hoffi Pengwiniaid!

Cyhoeddwyd Mehefin 10, 2013 gan .

Tagiau: gareth glyn


Gareth Glyn
Dai Lingual sy’n trafod darn ffilm y bu’n gweithio arni’n ddiweddar.

Yn sgil ennill ysgoloriaeth i wella fy sgiliau teledu (y prif beth dwi wedi dod i ddeall yw nad yw hynny’n oxymoron ) yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, rwyf wedi bod yn ceisio gwneud defnydd ymarferol o hynny.

Oni bai am lansiad Gŵyl Cardiffrinj Festival Caerdydd ar #NidNosonSantesDwynwenYwHon ar 14eg o fis Chwefror, y peth cyntaf i mi ffilmio gydag offer proffesiynol oedd hwn:

Glyn, Wyn a phen gwyn from Pan Cymru on Vimeo.

SHOOT!

Mae’r arddull yn weddol drawiadol gan fod

i)          Gareth [Glyn] yn awyddus i ffilmio’r darn o’r ochr er mwyn osgoi traddodiadau’r cyfryngau – ac i raddau’r cyfryngis.

ii)         diffyg profiad gen i o roi cyfansoddiad rhoi shoot at ei gilydd.

Ein prif reswm am gwrdd ar Ddydd Gwener 15 Chwefror oedd ein brwdfrydedd i gynllunio darn o gerddoriaeth newydd i gyflwyno cardiffrinj i’r byd, sydd dal i fod yn haniaethol bosib petai’r Ŵyl yn derbyn cefnogaeth gynyddol i ategu cymorth ymarferol Cyngor y Celfyddydau. Ychydig o hwyl fyrfyfyr oedd y darn penguins felly.

Testun sgwrs y ffilm yw’r iaith ei hun, a’r ardaloedd a’r geiriau sy’n perthyn iddi yn ogystal â’r diffyg geirfa Gymraeg sydd wedi dod i’r amlwg yn yr iaith Saesneg dros yr oesoedd, sy’n wyrthiol o ystyried y nifer fawr o eiriau sydd wedi dod dros Glawdd Offa i’n hiaith ni.

Mae’n siŵr maddeuwch imi am ofyn i chi wylio’r ffilm yn hytrach na fy mod i’n ysgrifennu’r cynnwys mewn sgript slafaidd, felly bwrwch ati a chefnogwch yr Ŵyl ‘mini’ hon [Lladin?] – os nad y ffilm – trwy ddod o hyd i’r modd o bleidleisio: tybiaf bydd angen i chi fod yn bresennol yng Nghaerdydd…

Fe fydd enillydd yr adran iaith Gymraeg i’r Ŵyl Ffilmiau Bach yng Nghaerdydd yn cael ei ddatgan ar Ddydd Sul 23 Mehefin yn the Full Moon.

Dilynwch hynt a helynt y daith yno fan hyn.

A hwyl yr Ŵyl!

[Yn ymarfer yr araith ] : Cydnabyddaf a diolchaf i Gareth Glyn am ei amser a’i frwdfrydedd, Siencyn Langam am ei sgiliau golygu megis y mochyn a’r pwrs sidan chwedlonol; yn ogystal â’i adran Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth a Sara Penrhyn yno am ei chymorth ymarferol, felly hefyd Chwmni Teledu Telesgop am eu cefnogaeth hael o’r cychwyn cyntaf.

Y dyfodol – newyddion ac Ifor Bach

Cyhoeddwyd Ebrill 15, 2013 gan .

Tagiau: Clwb Ifor Bach


Dai Lingual yn mynnu bod angen clwb Cymraeg yn y brifddinas …

Brynais i bapur newydd heddiw, fel arfer ar Ddydd Sul hoff gen i’r Observer, ond roedd @garmonceiro mor negatif ynglŷn â’r cynnwys yno heddiw mai mynd at y stondin bapurau er mwyn gweld beth oedd ar gael wnes i.

Fodd bynnag doedd dim dewis difyr iawn yn yr archfarchnad sy’n cynnig Neithdar o’r nefoedd i’r Cardi, ac megis Wood-ite modern, gwympes i i’r chwith o’r Telegraph ac at y Mirror.

Yr unig reswm dros ddod â hyn i’ch sylw yw mai anaml y byddaf yn prynu papur erbyn hyn, ar y We y mae dyn yn dod o hyd i’r diweddaraf ynde? Mae prynu papur newydd megis defod amheuthun erbyn heddiw, yn weithred yr un mor annhebygol â dod o hyd i gaffi sy’n gallu gwasanaethu paned – neu ddishgled – o de teidi.

A dydi rhoi ffonau symudol yn eich esgidiau trwm dros nos ddim yn mynd i helpu iddyn nhw sychu, wsti.

Gyda llaw, nid celwydd na chrafu ydw i pan dw i’n sôn taw ar y tudalennau yma ar www.golwg360.com yr ydw i’n dod o hyd i lawer o’r newydd – via’r trydar ambell waith, megis stori Clwb Ifor…

Yn y Clwb

Cadarnhaf fy mod i wedi bod i gwrdd â Chlwb Ifor ers y newydd, ac yn fy rhith newydd @cardiffrinj byddaf yn ceisio rhoi cais at ei gilydd o ddigwyddiadau ac awgrymiadau at fudd yr adeilad yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor nesaf.

Dydw i ddim o’r farn y bydd y miloedd lawer o arian a all fod yn gronfa i’r iaith Gymraeg petai’r adeilad yn cael ei werthu yn werth fwy yn y pen draw na chanolfan yng nghalon y ddinas o dan gysgod Stadiwm y Mileniwm, ta waeth be ddywedith neb wrtha’ i – ac yng Nghaerdydd mae yna sawl barn i gael cofiwch chi.

Ta waeth, tro ein cenhedlaeth ni yw hi nawr, ac i’r rhai ohonoch sydd yn fy nabod, rhowch awgrym neu alwad neu e-bost, ac i chwi ddarllenwyr sydd wedi f’osgoi yn llwyddiannus hyd heddiw, ystyriwch chi faint o le sydd ganddoch chi yn eich bywyd i gyfranogi at Glwb Cymreig y brifddinas.

Fel dw i eisoes wedi sôn wrth neb sy’n fodlon gwrando, newidiwch chi enw’r ddinas o Gaerdydd i Berlin er enghraifft ac yn sydyn iawn gewch chi frathiad o be ddyle ddigwydd …

Dychmygwch be ddigwyddai petai adeilad maint Clwb Ifor Bach yn sydyn iawn ar gael fel canolfan celfyddydol i griw diwylliannol Berlin – a dyna lle ddylen ni fod yn anelu.  Ie, digwydd bod fydd www.womex.com yma hefyd yn yr hydref.

Pa fath o hysbyseb fyddai hi i’r byd petai Glwb Cymraeg y Brifddinas wedi cau ei drysau pan ddaw Ffair Ddiwydiannol y Byd Cerddorol i Gaerdydd? :

“Cardiffili?”

Mis Mawrtholoemew?

Mae mis Mawrth newydd fynd felly. Efallai ei bod hi’n DDYDD Mawrth yn eich byd chi hefyd; erbyn i chi gael y cyfle i dreiddio trwyddo i flogs y wefan hon – yn ogystal â’r newyddion beunyddiol.

Yn ddiweddar, daeth i sylw griw o athronyddion mwyaf Prifysgol Aberystwyth bod y homoffoni hwn yn gallu bod yn ddryslyd o bryd i’w gilydd, a doedd hi ddim yn ymddangos bod y ffaith bod y dydd a’r mis o’r un tarddiad – sef y blaned Mawrth – yn fawr o gysur i unrhywun.

Sut felly mae’r Saesneg yn osgoi’r cawlach?  Tuesday a March – hollol wahanol. Fe wna i adael hynny’n benagored i chi gael ymchwilio am ennyd, dw i’n saffach braidd yn son am Mars a Mardi yn y Ffrangeg (diweddebau gwahanol, dyna syniad I’w ystyried efallai?) a’r Almaeneg -Diens a Mars sydd ganddyn nhw greda i.

Ac efallai bod hynny’n ateb y cwestiwn : ymddengys taw’r hen ffurf Anglo-Sacsonaidd / Hen Saesneg sydd wedi goroesi yn yr iaith fain, tra’n bod ni wedi cadw at y Lladin, fel Ffrainc. Dydi hyn fawr o gysur o hyd, cofiwch.

Efallai taw ymgyrch arall sydd ei hangen, nawr bod Undeb Rygbi Cymru wedi trydar unwaith yn y Gymraeg am grempogau, a bod Radio Cardiff wedi dod o hyd i gyflwynwyr Cymraeg go iawn, mae’r amser gen i i ystyried … beth am Ddydd MAWR a Mis Mawrtholemew, er enghraifft?  Wel, mae’r awgrym yna; fel ym mhob achos arall, y bobol sy’n dewis datblygiad yr iaith, felly fe gawn ni weld beth a ddaw…

Ti a V

Cyhoeddwyd Ebrill 4, 2013 gan .


Dai Lingual sy’n trafod y defnydd cywir o ‘ti’ a ‘chi’…

Ges i lyfr ar fenthyg gan Fan y Fro a oedd arfer picio heibio’r tŷ ar Ddydd Mawrth weithiau cyn i David Cameron gael ei ddyrchafu i fod yn Brif Weinidog.  “Wyneb Doniol” oedd enw’r llyfr, i blant bach.

Y’ chi siŵr o fod yn gyfarwydd gyda’r math yma o lyfr, cyfle i wneud ystumiau i’r plentyn wrth gopïo’r wynebau yn y llyfr; oni bai bod yna hefyd stori syml (iawn) i ddilyn hefyd.  Felly mae’r plentyn (a’r rhiant pe bai’n ddysgwr/aig) yn gallu dysgu wynebau newydd mewn cyd-destun.  Go handi ynde.

Nawr mae’r wyneb “hapus” sy’n gyntaf yn ddigon hawdd wrth gwrs, wrth fod y plentyn yn y stori yn chwarae’n hwylus. Yn syth bin wedyn ‘ny, mae’r bachgen bach yn cael sioc o gwrdd ag arth; wyneb syn felly a gair go anodd i blentyn bach.

Yn grac, mae’r plentyn wrth i’r arth dwgyd y bêl; ac yn dibynnu ar eich tafodiaith mae’r wyneb “dig” yn air newydd hefyd.  Daw’r geiriau “drygionus” a “phryderus” i’r amlwg hefyd yn y gyfrol, mewn cyd-destun hawdd i ddeall ac yn rhan o stori ddigon diddorol i ddifyrru’r plentyn wrth ddysgu geirfa gyfoethog.

Beth bynnag, mae’n lyfr andros o dda i’w ddefnyddio i ddarllen i blentyn tua tair blwydd oed; ac wrth orffen y llyfr wrth gwrs sai’n credo mod i yn sbwylio’r sypreis i chi os y’ fi’n dweud taw drych sy ‘na gyda’r wyneb mwyaf doniol …“Dy wyneb di” wrth gwrs!

Ti neu chi?

Be sy hefyd yn ddiddorol i fi fel rhywun sydd wedi astudio ieithyddeg yn y gorffennol yw bod y frawddeg ola ‘na gen i yn arddangos y ddwy ffordd o gyfarch y darllenydd yn y Gymraeg,.  Dwi’n dueddol o ddefnyddio’r ffurf ffurfiol “chi” wrth ysgrifennu i unrhyw un nad ydw i’n nabod yn dda; o ganlyniad o fy addysg yng Ngorllewin Cymru mae’n siŵr (i chi!)

Yn y llyfr yma i blant, oedolyn, sef awdur y llyfr (Nicolas Sïem felly ie cyfieithiad/addasiad ydyw, ac yn un o lyfrau’r ymgyrch Booksmart dwi newydd sylwi) sy’n cyfarch y plentyn felly er nad yw hi’n nabod y darllenydd, cyrraedd y plentyn yw nod y llyfr felly dwi’n ddigon hapus i dderbyn taw’r ffurf anffurfiol “ti” yw’r ffurf gywir. Yn y cyd-destun yma ta beth, gan mai fi’n sy’n darllen y stori i fy merch.

Be dwi ddim mor hapus i weld a chlywed yw’r gorddefnydd (yn fy marn i) o’r ffurf yma yn y cyfryngau yn ddiweddar – o ddarlledwyr BBC Radio Cymru yn erfyn ar eu gwrandawyr i ffonio megis hen ffrind  – i hysbysebion lletchwith ar S4C yn gofyn beth ydw i’n ei gredu: “Beth hoffet ti wneud …” neu “Beth hoffet ti ddweud…”. Wel dim yw dim os y chi’n gofyn fel’na missus!

Sai’n siŵr beth yw tarddiad hyn, mae’n siŵr mai rhyw fath o ymchwil neu gamsyniad mai dyna sut ma dyn yn hoffi cael ei annog gan y cyfryngau, ond yr ymadrodd bach yna sy’n well ‘da fi wedi treulio amser yn nhafarndai Ceredigion ar brynhawn Sadwrn wedi’r chwaraeon. “Beth ma dyn i fod i feddwl o hyn tybed?” sy’n well gen i glywed. Neu “chi” weithie hefyd, er mwyn bod yn gwrtais yndyfe.

A ma’r dyn yma’n tybio bod y pla wedi cyrraedd y we erbyn hyn hefyd.  “Hoffet ti ysgrifennu erthygl?” gofynnodd y wefan Metastwnsh ers talwm…[Er tegwch, mae’r adborth i’r wefan honno wedi awgrymu bod “chi” yn rhy ffurfiol i’r we.]

Wel, gan bo CHI’n cynnig yndyfe! Wrth gwrs, gall y defnydd yna o ‘chi’ fod yn iawn yn y Gymraeg gan efallai bod yna sawl un y tu ôl i lenni’r wefan.  Sy’n eitha handi pan ma dyn yn sgwennu e-bost i rywun mewn sefydliad arall, er enghraifft.

Ac yn ôl y rhaglen ma dyn yn defnyddio i sgwennu rhywbeth hirach yn y Gymraeg, “Gan eich bod chi yn cynnig” dylai hynny fod hefyd! Felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth deipio hefyd.

Trafod teulu

Fel rhywun sy’n gyfarwydd a defnyddio’r ddwy iaith gyda’r teulu a pherthnasau agos a phell, weithiau dwi’n dala fy hun yn defnyddio’r Gymraeg “chi” i bobl dwi’n nabod yn ddigon da i ddefnyddio “ti”, ond efallai bod y syniad o barch mor annatod yn fy ieithwedd fel bod hynny’n aros hyd yn oed i berthnasau agos sy’n digwydd bod yn hŷn na fi (hyd yn oed ‘nhad weithiau!).  Ma’r dyn yn haeddu rywfaint o barch wrth gwrs, yn naturiol.

I ddweud y gwir o fewn teulu sai’n siŵr os yw’r “rheolau” yn newid o deulu i deulu neu be…”Ti” neu “Chi” byddai hen dadcu i chi? Ac i ti?…

Nid y Cymry’n unig sy’n straffaglu gyda’r system hynafol yma. I ddweud y gwir mae gan y rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd fersiwn o T/V , a enwir ar ôl y Ffrangeg “Tu” a “Vous” wrth gwrs.

Efallai byddai ambell un o’r sawl sy’n byw yn ein plith yn wlad hon sy’n uniaith yn honni mai anodd a lletchwith ar y naw yw’r holl system T/V yma; mond un peth arall i boeni am biti wrth geisio meistroli iaith.

Ond hoffwn i orffen drwy eich atgoffa bod meistroli iaith yn golygu meistroli cyfathrebu,ac fel y gwelir fan hyn nid hawdd yw deall popeth yn yr iaith fain chwaith…

“…when are you ever going to need a second language? Sorry, when I say you I don’t mean you personally obviously…”

Galle dyn ddadlau taw “when would one ever…” fyddai’r Saesneg cywir yn y frawddeg yna – ond prin fydda i am ddechrau a gorffen erthygl gan ddirmyg Cameron a’i griw!

Ydy’r borfa yn las?

Cyhoeddwyd Chwefror 21, 2013 gan .

Tagiau: Foucault, iaith, Raymond Williams



Mae’r darn
“Treachery of Images” / ‘Brad Delweddau’ gan Magritte yn arbennig o ddefnyddiol i gysyniad pwysig arall mewn ieithyddiaeth a strwythuriath : sef yr arwyddydd a’r arwyddiedig.

Nid pib na chetyn sydd yn y darlun ond, yn hytrach, ddelwedd sydd I fod i gynrychioli’r syniad.  Felly arwyddydd ydyw.

Y cetyn ei hun yw pib ‘Grandad’; a oedd yn byw ger y Fenni, bro magwraeth Raymond Williams.  Dyna’r arwyddiedig yn y cyfystyr yma felly.

Mae’r un peth yn wir am iaith: confensiwn sy’n pennu taw geiriau y gellid eu hyngan yw’r siapau yma ar y dudalen hon; maent yn arwyddyddion ystyr.  Yr arwyddiedig yw’r cetyn ei hun yn lolfa tad fy mam; ‘cetyn’ yw’r arwyddydd y mae’r iaith Gymraeg wedi ei ddethol i gynrychioli’r syniad yna.

Mae’r hollti yma o gysyniadau a oedd yn ganolog i waith ieithyddol Ferdinand de Saussure yn hollol arwyddocaol o strwythuriaeth; sef yr angen i ystyried pob dim yn ei gynefin; syniad hollol groes i bwysigrwydd “y testun” mewn gwacter a oedd mor gyffredin yn astudiaeth feirniadol ‘Oxbridge’ cyn yr Ail Ryfel Byd.

Efallai taw fy nghysylltiad teuluol â’r Fenni sy’n fy nenu o hyd at waith Raymond Williams, un arall o unigolion hollbwysig y maes llenyddol yn fyd-eang.

‘It’s just as often an unmitigated flow to prevent other things being said,’ oedd ei sylw ynglŷn â ffurf iaith lafar pobl Cymru.

Y peth sydd heb ei ddweud

Mae’r syniad o arwyddocâd yr hyn sydd heb gael ei drafod yn bwysig hefyd yng ngwaith Stuart Hall, ysgolhaig modern sy’n llais cadarn ar lenyddiaeth yn y byd ôl-fodern.

Mae Hall yn ceisio dehongli gwaith Foucault mewn modd cadarnhaol er mwyn wynebu rhai o’r cysyniadau mwyaf allweddol (ond mwyaf anodd i’w  ddatgymalu) mewn bywyd; megis hunaniaeth – sydd, o fy nealltwriaeth i o’i gampwaith Questions of Cultural Identity (1996), yn awgrymu ein bod yn diffinio ein hunain drwy’r hyn yr ydym yn ei wrthwynebu.

Ydy hi’n ddigonol felly i Gymry i ddilyn y patrwm yma, ac i fod yn fodlon ar beidio â bod yn Saeson?

Mae unrhyw ddiffiniad yn gallu bod yn rhy gaeth; fel mae Raymond Williams yn ysgrifennu yn ei stori fer ‘Drugs’ : “But where does the South end and the South-West begin?”

Felly hefyd lliwiau; theori digon mympwyol yw hi sut y mae’r sbectrwm lliw yn cael ei rannu i saith prif liw; pwy sydd i ddweud ble mae gwyrdd yn gorffen a glas yn dechrau?  Hynny’n arbennig o ystyried ein bod ni’r Cymry Cymraeg yn ‘gweld’ fod porfa yn ei llawn dwf yn “laswellt”.

A fyddai’r gallu hynny’n ein diffinio’r un mor hawdd â’n hiaith a’n diwylliant? Neu ai’r iaith ei hun sy’n creu ein meddylfryd?

Gwaith cartre – Cymraeg neu Saesneg?

Mae Stuart Hall o’r farn bod cymdeithas yn cael ei chreu oherwydd y pethau sydd gennym yn gyffredin (Hall, 1996 t.2), a dyna fydd nod fy mhrosiect eleni; sef creu cymuned arlein sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth a dawns traddodiadol Gymreig.

Wrth ysgrifennu’r dadansoddiad hwn, rydw i wedi sylwi fy mod i’n aml yn cyfeirio at wledydd aml eu hiaith : Magritte o Wlad Belg a thad y cysyniadau ieithyddol canolog ei hun Ferdinand de Saussure o’r Swisdir. Raymond Williams o Gymru.

Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn i mi. Yr eithriad felly yw’r Ffrancwr Foucault, unigolyn sy’n cydnabod rhwystredigaethau iaith yn ei waith, ond efallai nid gallu ein natur ddynol i ddefnyddio amlieithrwydd i oresgyn problemau cyfathrebu.

Un pwnc llosg sydd gennym yn y byd addysg yng Nghymru yw’r drafodaeth ynglŷn ag ym mha iaith y dylid cyflwyno gwaith cartref plant ysgol gynradd, lle mae’r plenty yn dod o aelwyd Saesneg.

Gall ddealltwriaeth plentyn ysgol o’i gwaith ddyfnhau a chynyddu drwy’r broses o esbonio’r gwaith mewn iaith arall, a gall rhiant wella ar ei sgiliau iaith Gymraeg yn y senario yna hefyd.

Eto mae yna densiwn; yn ddelfrydol o safbwynt addysgiadol, dylai’r gwaith cartref fod yn uniaith Gymraeg, ond o safbwynt y rhiant (ac o safbwynt croesawu dysgwyr), efallai y dylai’r gwaith cartref fod ag esboniad Saesneg – ond a fyddai hynny yn peryglu torri ar draws y cyfathrebu pwysig rhwng y plentyn a’r rhiant?

Cytunaf â David Harris sy’n ysgrifennu yn ei lyfr Society of Signs (1996) fod yna angen nawr i greu ffurf newydd o “linguistic analysis” ‘ôl-Foucaultaidd’ er mwyn mynd i’r afael â natur y ffurfiau diwylliannol sy’n tra-arglwyddiaethu heddiw, er mwyn tawelu ein diddordebau a’n pryderon i’r dyfodol (Harris 1996 t.75).

Cytunaf hefyd gyda’i hoffter o theori (ôl- ôlfodern?) Lotringer mae’n defnyddio i gloi ei gasgliadau am y thema hon yn yr un gyfrol (Harris 1996 t.81) :‘when theory completes itself…that’s when it disappears.’

Yn fy marn i, dylid cofio taw mentro i fro aml-ieithrwydd, ac nid i’r Fro Gymraeg, yw rhodd yr iaith Gymraeg i’r unigolyn ac yn sicr, o safbwynt addysgiadol, mae dwyieithrwydd ac aml-ieithrwydd felly’n gefnogol o sgiliau mewn meysydd eraill, boed hynny’n fathamategol neu gerddorol.

Wrth weithio ymhellach ar fy mhrosiect, bydd y cysyniad yma, taw aml-ieithrwydd ac nid o reidrwydd Cymreictod sy’n hollbwysig i bobloedd y byd yn cyfiawnhau’r angen masnachol i greu llwyfan aml-ieithog i’r byd am Gymru a’i diwylliant cyfoethog.

Pam y dylech chi fabwysiadu dysgwr

Cyhoeddwyd Chwefror 17, 2013 gan .

Tagiau: dysgwr, ieithyddiaeth, Noam Chomsky


Noam Chomsky (Duncan Rawlinson - CCA2.0)
Linguistics” wnes i yn y brifysgol … “English and Linguistics”. Fydden i wastad wedi rhoi’r cyfieithiad cyffredin ‘Ieithyddeg’ ar fy CV, ond nawr yn ddiweddar mae rhywbeth fel y www.geiriadur.net yn rhoi “Ieithyddiaeth”.

Mae geiriadur mawr Bruce yn dweud “ieitheg” hefyd.  Dyna yw natur dwyieithrwydd wrth gwrs – mae yna ddewis a dyn yn gweld yn syth bod trawsnewid iaith, neu gyfieithu, neu drawsieithu yn cyflwyno mwy nag un ystyr/syniad.

Diffiniad “ieithyddiaeth” yw’r astudiaeth wyddonol o iaith – ac mae’n rhannu llawer o syniadau cyffredin gyda’r ‘strwythuriaeth’ a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au trwy syniadaeth ysgolheigion megis Levi Strauss.

I ddweud y gwir, pan o’n i yn y coleg oeddwn i’n gweld rhai elfennau o ieithyddiaeth yn go anodd. Mae’n gallu bod yn eithaf sych – mae’n wyddonol, mae’n fathemategol ac mae pobol yn edrych am batrymau.

Dau gawr

Dau o gewri’r maes yw Ferdinand de Saussure a Noam Chomsky.

Mae Chomsky yn fyw o hyd ac efallai byddwch chi’n gyfarwydd â’i enw gan ei fod yn enwog iawn am fod yn wrth-Werinaethol pan oedd George W. Bush yn Arlywydd.

Fe wnaeth Saussure gyfres o ddarlithoedd ar y testun “Course of General Linguistics” , ond mae’r llyfr wedi ei seilio ar nodiadau ei fyfyrwyr – nid ef oedd yr awdur ei hun felly (dyna esiampl go gynnar o “death of the author”/ marwolaeth yr awdur, syniad yr oedd yna sôn mawr amdano yn y 70au gan Levi Strauss ac ati!) .

Dyna oedd ei waith mwyaf. Roedd yn y Ffrangeg yn wreiddiol ac mae gen i ddiddordeb yn sut mae pethau yn gallu trawsnewid o un iaith i’r llall. Felly, pan mae dyn yn edrych ar ddyfyniadau, dyma’r pethau yr ’yn ni, Gymry, yn gorfod eu hystyried :

  • pa ddyfyniadau ydw i’n mynd i’w cyfieithu?
  • pa ddyfyniadau ydw i yn mynd i’w cadw yn yr iaith wreiddiol?
  • beth ydy iaith y llyfr, gan fod ambell i waith – fel Saussure – yn y Ffrangeg yn wreiddiol ac felly wedi cael ei gyfieithu unwaith eisoes.

Ieithyddeg ac awtistiaeth

Ta waeth, dw i’n gweithio yn y maes addysg erbyn hyn, ac mae yna gysylltiad yn fy marn i rhwng y ffaith bod llawer iawn mwy o fechgyn yn cael eu nodi’n awtistig na merched.

Mae merched yn gallu bod yn awtistig, ond mae’n ymddangos ei bod hi lawer iawn yn haws i wneud diagnosis ar fachgen ar hyn o bryd – nid cyd-ddigwyddiad yw hi felly taw dynion sy’n dod i’r amlwg yn y maes ieithyddeg achos mae dynion (fel finnau i raddau) yn hoff o batrymau.

Rydym yn gweld cysur mewn patrymau mathemategol – mae hyn yn elfen o awtistiaeth ac i fi mae yna elfennau o ieithyddeg sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu creu gan rywun sydd man lleiaf ar sbectrwm awtistiaeth.

Roedd Saussure wedi troi’r pwyslais oddi ar anthropoleg a’r obsesiwn i brofi fod gan bob iaith darddiad cyffredin yn Sanskrit yr India at astudio iaith fyw, er mwyn dod o hyd i batrymau cyffredin go iawn.

Natur neu feithrin?

Mae unigolyn megis Chomsky wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn són am “generative grammar” : sydd, yn syml iawn, yn arddangos fod yna batrymau mewn nifer fawr iawn o ieithoedd, sy’n awgrymu’n gryf bod yna elfen o iaith ynom i gyd o’r groth.

Mae Ieithyddeg yn ceisio ateb (ac efallai i raddau wedi ateb) un o’r cwestiyna mawr :

  • ydy iaith yn bod yn ein hymennydd adeg ein geni,
  • neu ydy iaith yn cael ei dysgu?

Sut mae hyn yn effeithio arnon ni yng Nghymru felly?

Yn syml, yn ôl syniadau Chomsky, mae gan bob unigolyn y gallu i ddysgu iaith newydd gan fod hynny’n rhan o’n natur.

Dim esgusion felly:  ewch ati i fabwysiadu dysgwr ar-lein gan ddilyn esiampl @hywelgwynfryn a @carwyntywyn!

Neu dechreuwch ambell i sgwrs yn y Gymraeg man lleia, er mwyn ceisio profi fod gan 1 ym mhob 3 cartref yng Nghymru siaradwr Cymraeg erbyn hyn er gwaetha’r digalonni wedi’r Cyfrifiad.

Beth sydd mewn iaith?

Cyhoeddwyd Ionawr 24, 2013 gan .

Tagiau: Foucault, iaith, Raymond Williams


Raymond Williams, un o feddylwyr y gair
Un o’r llyfrau cyntaf sy’n cael eu hargymell i fyfyrwyr newydd i astudiaethau’r cyfryngau yw Media Organization and Production, gan Simon Cottle (2003, t.7), sy’n cyfeirio’r darllenwr at y syniad canlynol :Whoever owns and controls material production will also generally have control over ‘mental production”.

Mae Simon Cottle yn ysgrifennu am waith pwysig Marx ac Engels, yr Ideoleg Almaeneg (1846). Yn fyr, un o’r syniadau sy’n cael ei alw’n Farcsaidd yw bod pob cynnyrch yn cael ei effeithio gan amgylchiadau’r broses gynhyrchu.

Pan oedd yna weithlu enfawr ym Merthyr Tydfil yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg[1], cafodd yr ardal a’i chynnyrch llenyddol eu trawsnewid ac roedd yna ddewis o bapurau newydd lleol ar gael trwy’r Gymraeg.  Does dim posib creu celfyddyd mewn gwacter.

Dyfyniad arall rydw i am roi sylw iddo yw hwn gan Foucault: “In every society the production of discourse is at once controlled, selected, organised and restributed according to a certain number of procedures …” (‘The Discourse Of Language’ 1995 Language & Cultural Theory Reader )

Mae Foucault a Cottle yn gytûn fod pwy bynnag sy’n berchen ar y cyfryngau yn dylanwadu’n fawr arnyn nhw, yn union fel y dangosodd ymchwiliad Leveson y llynedd.

The Sun Wot Won It?

Enghraifft adnabyddus o’r gred hon oedd tudalen flaen The Sun ar ddiwrnod yr Etholiad yn 1992,  pan honnodd mai’r papur a enillodd yr etholiad i’r Blaid Geidwadol.[2] Rupert Murdoch a oedd yn berchen ar The Sun bryd hynny hefyd. Dyma gwestiwn sydd dal heb gael ei ateb yn gyfangwbl: faint o benderfyniadau’r papurau dyddiol sy’n cael eu cymeradwyo gan berchnogion yn hytrach na golygyddion?

Neu – yn nhermau Marcsaidd Cottle a Foucault (ac felly hefyd y Cymro di-Gymraeg Raymond Williams) :  faint o ddylanwad sydd gan berchnogion y wasg ar ei chynnyrch?

Gwelwn fod y syniadau yma am ddylanwad llwgr wedi cael eu cyflwyno ymhell cyn i unrhywun ddyfeisio’r ffôn symudol.[3]

O ddarllen gwaith Raymond Williams ar y pwnc o’r saithdegau mae’n amlwg fod cynnwys y papurau yn cael ei dargedu’n fwriadol o ran denu darllenwyr.  Yn wir, mae’n debyg y byddai papur “o ansawdd” megis The Guardian yn colli arian pe bai’n bapur “poblogaidd”; gan fod ei hysbysebwyr yn talu am griw dethol o ddarllenwyr – ni fyddai’r gost o gynhyrchu papurau ychwanegol yn cael ei dalu gan y gwerthiant newydd. [4]

Dyma sut y  mae dyfyniad Foucault yn gorffen, trwy sôn sut y mae cymdeithas yn cymedroli iaith: “…to cope with chance events, to evade its onerous ponderous awesome reality.”

Y geiriau teg

Hynny yw, un o’r rhesymau tros gyfyngu iaith yw ein bod yn hoff o gadw draw o bethau ‘anwaraidd’:  y tabŵs mawr yw rhyw, mynd i’r tŷ bach, a hyd yn oed marwolaeth ei hun.

Mae’r ffaith fy mod i’n defnyddio’r ymadrodd “mynd i’r tŷ bach” yn dangos yn glir pa mor gryf ydy’r ysfa yna i osgoi testun tabŵ : cyfeirio at ‘outhouse’ oedd yr ystyr gwreiddiol, ond does neb am ddisgrifiad mwy penodol na hynny heddiw. [5]

Dw i’n credu bod y defnydd yma o ‘eiriau teg’ neu “euphemisms” yn dangos fod pŵer iaith yn cael ei ffrwyno bob dydd ar bob lefel o gymdeithas. Sut mae hyn yn effeithio arnon ni, Gymry?

Ydy’r esiampl o geisio defnyddio’r ymadrodd “gair teg” yn rhyw fath o enghraifft o’n hawydd cryf i osgoi’r defnydd o eiriau “Saesneg”[6]?  Ac ydy hyn yn creu “tabŵ” ychwanegol i ni fel Cymry Cymraeg tybed? : Mae hyd yn oed y ffaith fod gennym iaith sy’n ffonetig[7] fel petai’n gwanhau’r iaith, gan ei fod yn caniatáu inni gynnwys unrhyw air yn ein Cymraeg ysgrifenedig; dim ond ei fod yn fwy o ‘ewffemism’ na ‘thabŵ’!

Er bod gan y Gymraeg, un o ieithoedd hynaf Ewrop, eirfa gyfoethog i ddewis ohoni, mae gan Saesneg (a Saesneg Americanaidd felly) ddwy iaith yn ddwfn yn ei gwreiddiau, sef yr Hen Almaeneg a Ffrangeg – sy’n fantais fawr wrth ddewis enwau ar bethau : e.e. mae Fisch yn haws ei yngan na poisson, felly ‘fish’ yw’r gair Saesneg.  Mae nifer ohonom yn teimlo’n lletchwith wrth fenthyg geirfa o’r Saeson a’r Americanwyr, ond dyna’n syml ydy natur iaith.  Yn nhermau Saussure, y langue sy’n hollbwysig, nid y parole.

Fel olynydd Saussure, Michel Foucault, mae gen i ddiddordeb sylweddol yn y darn o waith La trahison des images gan René Magritte[8].  Yn y ddelwedd enwog ac ysgytwol hon, ceir y geiriau “Ceci n’est pas un pipe” .

Un cyfieithiad Cymraeg posib o’r uchod byddai “Nid cetyn yw hwn”:  gosodir rhywogaeth ar enwau yn y Gymraeg yn yr un modd â Ffrangeg, a rhaid ystyried felly’r rheolau gramadegol sy’n ynghlwm â hynny.

Y drafferth yw, Saesneg yw iaith gyntaf  nifer fawr o’n dysgwyr Cymraeg ac fe gollodd hi’r arfer o osod rhywogaeth ar enwau cyffredin ar ôl i Hen Almaeneg yr Engl-Sacsoniaid gyfuno â Ffrangeg eu concerwyr.[9] Felly, mae’n gallu bod yn rhwystr i ddysgwyr o bob lefel.

Nodiadau

[1] Ceir disgrifiad pellach o Ferthyr gan Raymond Williams yn ei erthygl “The Black Domain” , adolygiad o lyfr gan Gwyn A. Williams i’r Guardian 8.6.1978.  Fersiwn drafft o’r erthygl yma o deipiadur Raymond Williams ei hun ddarllenais tra’n ymweld â Chanolfan Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe eleni.  Wnes I osgoi defnyddio’r enw ‘vacuum’ uchod, sy’n eironig braidd o gofio enw un o gyflogwyr mwyaf y dref tan yn ddiweddar, sef yr enw a drodd yn ferfenw; Hoover[-ing].

[2] Roedd y pennawd yn ymbil ar y person olaf i adael Prydain i ddiffodd y golau – pe bai’r Cymro di-Gymraeg Kinnock yn cael ei ethol yn Brif Weinidog.

[3] Mae gwrandawiadau Leveson wedi archwilio pa mor gyffredin oedd hi i ohebwyr papurau newydd Llundain dorri I mewn i negeseuon ffonau symudol.

[4] “What the Papers Don’t Say” adolygiad Raymond Williams o Newspaper Money & the Search for the Affluent Reader (Fred Hirsch & David Gordon, Hutchinson) .

[5] Er taw Gwyddeles yw fy ngwraig, yr ymadrodd “tŷ bach” mae hi’n ei ddefnyddio gyda’n plant ifanc, enghraifft ddiddorol o “lingua franca” yn cael ei defnyddio fel ‘gair teg’ [euphemism].

[6] Saesneg , neu ddylanwad Americanaidd/Hen Almaeneg/ Ffrangeg Normandie i ddweud y gwir?

[7] Mae’r gair ‘Cymraeg’ ffonetig ei hun yn enghraifft dda o air ffonetig, ac o o Gymreig-eiddio term estron er mwyn ceisio osgoi defnyddio’r term Saesneg h.y. ‘phonetic’.

[8] Unigolyn arall o Wlad Belg

[9] Defnyddiaf y term yna yn hytrach na gorchfygwyr er mwyn eglurdeb hanesyddol!