RSS

Golwg360

MwyCau 
Cyfranwyr Gwadd

Cyfranwyr Gwadd

10 eitem gerddorol i’r hosan Nadolig

Cyhoeddwyd Rhagfyr 15, 2015 gan Cyfranwyr Gwadd.


Rydan ni gyd wedi bod yn yr un twll, styc am anrheg Nadolig i frawd, chwaer, plentyn, rhiant neu ffrind. Na phoener, mae Golwg360 yma i roi help llaw i chi ac mae Marged Gwenllian wedi bod yn chwilota am syniadau anrhegion bach i lenwi hosan Nadolig y ffans cerddoriaeth gyfoes…

Ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n siŵr ei bod yn deg dweud mai’r Nadolig ydy’r cyfnod sy’n gweld y gwerthiant mwyaf o recordiau Cymraeg. Dim syndod felly bod tipyn o gynnyrch cerddorol boed yn recordiau newydd neu gynnyrch cerddorol bach eraill, yn cael eu rhyddhau cyn yr ŵyl. Dyma 10 eitem i chi ystyried ar gyfer hosan Nadolig y ffans cerddoriaeth Cymraeg cyfoes.

Feinyl 7” Yr Ods

Rhyddhaodd y band hynod boblogaidd eu sengl Ble’r Aeth Yr Haul / Hir Oes i’r Drefn i’w lawr lwytho’n ddigidol ar 9 Hydref ar label I Ka Ching, ond mae’n amhosib ceisio cyfleu sŵn feinyl yn ddigidol. Mae copïau o’r record feinyl ar gael yn Spillers Records, Palas Print, Awen Meirion, a gwefan I Ka Ching.

“Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach” – Hefin Wyn

Dyma lyfr a fyddai’n anrheg Nadolig perffaith, sy’n adrodd hynt a helynt y cymeriad mwyaf lliwgar, a’r cerddor mwyaf adnabyddus ac athrylithgar y degawdau diwethaf. Allan gan wasg Y Lolfa rŵan.

Tocyn Gwobrau’r Selar

Dyma’n sicr oedd un o uchafbwyntiau’r flwyddyn gerddorol llynedd, ac mae’n siŵr o fod cystal, os nad gwell yn 2016. Mae tocynnau newydd eu rhyddhau, ond yn prysur fynd yn barod at y digwyddiad yn Aberystwyth ym mis Chwefror, felly peidiwch â cholli cyfle!

Crys-t Candelas / Sŵnami

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am y ddau fand mwyaf blaenllaw yn y sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn hyn, ond beth am brofi’r hoffter ohonynt, na, nid drwy gael tatŵ o’ch hoff aelod, ond drwy wisgo eu crysau-t, sydd ar gael o’u gwefannau – Candelas / Sŵnami.

Beth am brynu albyms diweddaraf y ddau grŵp hefyd os nad ydynt ganddoch yn barod!

EP newydd Ysgol Sul, “Huno”

5 o ganeuon gan y band newydd ac unigryw o Landeilo, sydd wedi llwyddo i greu argraff fawr ar wrandawyr yn barod gyda chaneuon fel Aberystwyth yn y Glaw a Machlud Haul. Mae sŵn araf a thrwm i’r caneuon, sy’n eu gwneud ychydig yn wahanol a mwy mentrus o’i gymharu â bandiau cyfoes eraill Cymru ar y funud.

Llyfr cerddoriaeth “Gair yn Gnawd”

Nid yw sŵn gitârs trwm at ddant (neu glust) pawb, felly beth am ychydig o gerddoriaeth ysgafnach, gyda llyfr o drefniannau caneuon ar gyfer unawdwyr, côr a phiano o’r sioe gerdd Nadolig fodern gan Gwmni Theatr Maldwyn, Gair yn Gnawd sydd wedi’i gyhoeddi gan Recordiau Sain.

Hunangofiant Dewi Pws – “Popeth Pws”

Cyfrol sy’n cynnwys caneuon, cerddi Cymraeg a Saesneg, straeon a lluniau gan y ffigwr hynod adnabyddus a phoblogaidd. Bydd y gymysgedd o’r cynnwys difrifol a dwl yn siŵŵr o blesio’r hen a’r ifanc yn eu hosan Nadolig.

Albwm newydd Plu, “Tir a Golau”

Mae’r ddwy chwaer a brawd newydd ryddhau eu trydydd albwm, sy’n arbrofi gyda melodïau hyfryd a gwahanol haenau o fewn y caneuon i greu caneuon ysgafn ac ymlaciol tu hwnt.

Cofiwch am eu hail albwm “Holl Anifeiliaid y Goedwig” ar gyfer y plant iau hefyd. Rhywbeth i bawb!

Llyfr 100 o Ganeuon Pop, Meinir Wyn Edwards

Beth yw’r Nadolig heb ychydig o gerddoriaeth, neu lawer o gerddoriaeth? Hwn yw beibl cerddoriaeth Gymraeg sy’n ddefnyddiol ar gyfer canu carioci, corau neu ddysgu’r caneuon poblogaidd ar y piano/gitâr. Holl glasuron y sîn o’r 20 mlynedd diwethaf mewn un gyfrol! Perffaith.

Albwm lluniau “Gigs 2016”

Os am rywbeth gwreiddiol, rhowch throw away camera yn yr hosan, ac albwm lluniau gwag. Y syniad yw i’r unigolyn dynnu lluniau ar y camera o bob gig y mae’n mynd iddo yn y flwyddyn sydd i ddod, a’u rhoi yn yr albwm â’r teitl ‘Gigs 2016’. Mi fydd ganddynt gofnod o bob gig gan fod rhaid argraffu’r lluniau, a gallant wedyn edrych yn ôl ar flwyddyn wych o gerddoriaeth Gymraeg byw. Does dim mwy gwerthfawr nag atgofion yn nagoes!

‘Dŵr Coch’ Cymru’n dechrau encilio?

Cyhoeddwyd Mai 4, 2015 gan Cymru.

Tagiau: Bil Cynllunio, cymdeithas yr iaith, ympryd


Jamie Bevan
Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i’r Ympryd yn erbyn y Bil Cynllunio

Yn 2002, cafodd nifer o bobl eu calonogi’n fawr gan araith ‘dŵr coch clir’ Rhodri Morgan, oedd yn amlinellu gweledigaeth fwy adain chwith nag agenda Llafur Newydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae newid wedi bod: mae’r llanw wedi troi ac mae’r ‘dŵr coch’ wedi dechrau encilio.

Yn nadleuon teledu etholiadol diweddar yr arweinwyr, dywedodd Ed Miliband ei fod yn erbyn system tai a chynllunio sy’n gwasanaethu cwmnïau mawrion:

“… y broblem gyda’r farchnad tai … yw’r ffaith nad yw’n gweithio, achos bod gan ddatblygwyr mawrion afael haearnaidd ar y farchnad … a bydd Llywodraeth nesaf Llafur yn mynd i’r afael â hi …” - Ed Miliband, Dadl Teledu’r BBC, 16 Ebrill 2015

Bydd nifer fawr o bobl ar y chwith yng ngwledydd Prydain wedi bod yn falch o’i glywed yn dweud hynny. Tra bod yr ymgyrch etholiadol yn cael sylw pawb yn y cyfryngau, mae’n bosibl bod rhai gwleidyddion yng Nghaerdydd yn gobeithio na fydd neb yn sylwi eu bod yn gweithredu’n gwbl groes i’w eiriau gyda’i Bil Cynllunio.

Ar y 5ed o Fai, bydd pleidlais ar lawr y Cynulliad yng Nghaerdydd ar Fil Cynllunio lle mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflymu’r broses gynllunio drwy ganoli grym yn nwylo llai o bobl ar lefel ranbarthol, drwy sefydlu paneli rhanbarthol gyda nifer o’u haelodau’n rhai anetholedig.

Nid oes yr un cymal yn y Bil a fyddai’n ceisio rheoli prisiau rhent na thai er mwyn taclo tlodi ac er mwyn atal all-fudiad o bobl ifanc a rhagor o dai anfforddiadwy. Yn hytrach, maen nhw’n derbyn agenda’r datblygwyr, a’r gred mai adeiladu tai anfforddiadwy yw’r unig ffordd ymlaen. Yn ogystal, oherwydd pwysau gan ddatblygwyr mawrion, nid yw’r Llywodraeth yn fodlon sefydlu, yn unol ag argymhellion trawsbleidiol a chefnogaeth nifer ar feinciau cefn y blaid Lafur, system o asesiadau effaith iaith ar gyfer ceisiadau unigol. Dydyn nhw ddim am newid y ffordd mae targedau tai yn cael eu gosod chwaith: mae’n well ganddyn nhw ildio i’r hyn sy’n gwneud elw i’r datblygwyr yn hytrach na datblygu yn ôl anghenion lleol. Dydyn nhw ddim eisiau atal datblygiadau, megis pentrefi gwyliau ar gyfer pobl gefnog, fydd yn dod ag elw mawr i’r datblygwyr. Y Gymraeg yn erbyn elw datblygwyr yw hi, a’r datblygwyr sy’n cael ffafriaeth Llywodraeth Cymru’r Blaid Llafur. Mae’n debyg nad oes ots ganddyn nhw na fydd gan bobl leol obaith caneri o allu fforddio’r tai.

Bwriad Llywodraeth Cymru, drwy’r Bil, yw gweld penderfyniadau am ddatblygiadau tai mawrion yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol, yn hytrach na gan awdurdodau lleol. Yn wir, wrth ystyried ceisiadau, os nad yw cynghorwyr yn dilyn cyfarwyddyd eu swyddogion anetholedig, mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion gymryd y penderfyniadau oddi wrthyn nhw. Felly, bydd cynghorwyr yn cael eu cosbi am beidio â dilyn yr hyn mae swyddogion yn dweud wrthyn nhw am ei wneud. Byddech yn llygaid eich lle petaech chi’n meddwl mai dyma fyddai delfryd y datblygwyr mawrion.

Yn ein trafodaethau helaeth am y ddeddwriaeth, cafodd ei ddisgrifio gan un cyfreithiwr fel ‘siarter i ddatblygwyr’; ac mae’r croeso gwresog a roddwyd i brif ddarpariaethau’r Bil gan Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi yn adrodd cyfrolau. Mae cynigion y Bil i ganoli grym ar lefel ranbarthol, a rhoi mwy o rym yn nwylo swyddogion anetholedig yn adlewyrchu’r hyn mae’r cwmnïau mawrion wedi bod yn lobïo amdano.

Mae Naomi Luhde-Thompson o Gyfeillion y Ddaear yn cytuno gyda’r feirniadaeth honno: “Rydyn ni’n pryderu’n fawr bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddiannau preifat datblygwyr mawrion o flaen anghenion cymunedau yng Nghymru gan ddilyn newidiadau a wnaed yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf. Dyw rhoi buddiannau tymor byr o flaen anghenion hirdymor cymunedau a’r amgylchedd yng Nghymru ddim yn gynaliadwy”.

Pam mae’r Llywodraeth yn rhoi buddiannau’r farchnad a chwmnïau mawrion o flaen pobl a chymunedau felly?

Mae’n adlewyrchu tueddiad peryglus yng ngwleidyddiaeth Cymru. Does dim ond angen edrych ar y cynlluniau ar gyfer adeiladu M4 newydd – ar gost o oddeutu un biliwn o bunnau, ac yn groes i ewyllys bron pawb heblaw am Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) - er mwyn gweld yr un patrwm. Mae cynghrair rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru, busnesau mawrion a’r gwasanaeth sifil yn erbyn buddiannau cymunedau.

Mae’r system tai a chynllunio’n cael effaith fawr ar gyflwr y Gymraeg fel y mae hi ar dlodi ac ar yr amgylchedd. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, roedd cwymp arall yn nifer y cymunedau lle mae mwyafrif y trigolion yn siarad Cymraeg yn ogystal â chwymp yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n siarad Cymraeg. O ran niferoedd mae allfudo yn un o’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg, gyda’r system tai yn un o’r ffactorau sy’n effeithio ar hynny.

Dyna pam rydyn ni’n trefnu ympryd. Mae’r sefyllfa’n un ddifrifol, o’n safbwynt ni sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg, ie, ond hefyd o edrych yn wrthrychol ar sefyllfa democratiaeth, anghydraddoldeb a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud y safiad hwn er lles y cenedlaethau i ddod, ac er mwyn lleisio barn yn erbyn methiant ein gwleidyddion i herio’r farchnad rydd.

Addysg Gymraeg i bawb, neu i’r bobol ffodus yn unig?

Cyhoeddwyd Ionawr 5, 2015 gan Addysg.

Tagiau: addysg gymraeg, cymdeithas yr iaith, Ffred Ffransis


Ffred Ffransis, Cadeirydd Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn galw am sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hawl i fedru’r Gymraeg….

Yng Nghymru heddiw, mae ein system addysg ni yn creu dinasyddion eilradd. Bydd rhai, oherwydd natur eu haddysg, yn cael eu hamddifadu o sgil addysgol hanfodol oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni.

Dyna’r sefyllfa. Mae mwyafrif helaeth ein pobol ifanc yn annhebygol iawn o fedru’r Gymraeg wrth adael ysgol, ac felly ni fydd modd iddynt gyfathrebu na gweithio yn y Gymraeg, iaith a ddylai fod yn etifeddiaeth i ni i gyd.

Rwy’n ysgrifennu fel un o’r bobol hynny na chafodd y fraint o addysg cyfrwng Cymraeg ond a ddysgodd yr iaith fel oedolyn – ond eithriad prin ydw i. O’r miloedd sy’n dechrau dysgu fel oedolyn – dim ond 1% sy’n llwyddo i ddod yn rhugl. Felly, i dros dri chwarter ein plant, mae addysg yn gyfystyr â dedfryd oes o beidio gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg o dan y drefn bresennol.

Ar hyn o bryd, mae 21% o bobol ifanc Cymru yn mynd i ysgolion Cymraeg ac maen nhw’n gadael yr ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu a gweithio mewn dwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg. Ar y llaw arall, o blith y 79% o bobol ifanc ein gwlad sy’n mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg, prin iawn iawn yw’r disgyblion sy’n llwyddo i gaffael yr iaith Gymraeg drwy’r system honno.

Mae’r cyhoedd eisiau unioni’r anghyfiawnder hwnnw. Yn ôl arolwg barn a gomisiynwyd gan YouGov, mae 63% o bobl Cymru yn cytuno â ni na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl o’i etifeddiaeth a’r sgil addysgol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid yw’n deg bod y drefn bresennol yn gosod cyfran helaeth o’n disgyblion dan anfantais.

Mae’r disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn derbyn addysg Gymraeg ail iaith – maen nhw’n dysgu’r iaith fel pwnc, yn debyg i’r ffordd mae ieithoedd tramor yn cael eu haddysgu.

Mae adroddiad annibynnol gan yr Athro Sioned Davies, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi beirniadu’r gyfundrefn hon yn hallt. Wrth gyfeirio at y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion Saesneg, dywed yr adroddiad: “Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr… Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith.”

Mae rhai yn dadlau ei bod yn iawn mai dim ond rhai sy’n cael cyfle teg i ddysgu Cymraeg, y rhai sy’n ffodus yn ddaearyddol gan mai ysgol Gymraeg yw’r ysgol leol, neu sy’n ffodus yn ariannol gan fod eu rhieni yn gallu fforddio cost teithio ychwanegol, neu’n ffodus bod ganddyn nhw rieni sy’n ymwybodol bod modd cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae grwpiau rhieni, nifer fawr gyda chymorth hynod o bwysig mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, yn brwydro’n llwyddiannus mewn rhai achosion i gael lleoedd i’w plant mewn ysgolion Cymraeg.

Mae’n rhaid i ni godi’r cwestiwn - ydy’r sefyllfa hon yn iawn? A ddylai fod rhaid i rieni frwydro dros hawl eu plant i ddysgu Cymraeg? Ydy hi’n iawn bod rhai plant, oherwydd diffyg gwybodaeth eu rhieni, oherwydd lle maen nhw’n byw neu oherwydd diffyg arian yn cael eu cau allan o’r Gymraeg am weddill eu bywydau?

Rydyn ni’n ateb yn ddiamwys – dyw hi ddim yn iawn. Dyw hi ddim yn gyfiawn.

Mae’r sefyllfa hon yn cau rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig allan o nifer o gyfleoedd gwaith a diwylliannol ac etifeddiaeth gyffredin i ni i gyd, sef ein hiaith genedlaethol unigryw. Mae dogfennau polisi Llywodraeth Cymru yn datgan yn gwbl glir mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn caffael y Gymraeg.

Mae rhai, a rhai yn y Llywodraeth, yn dadlau mai mater o ddewis yw addysg Gymraeg. Rydyn ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg yn anghytuno. Rydyn ni’n credu ei bod yn hawl i bob plentyn allu gweithio a chyfathrebu yn Gymraeg – ni ddylai ddibynnu ar fympwy dewis rhieni, neu ddibynnu ar faint o arian sydd gan rywun, neu ddibynnu ar hap a damwain daearyddol.

Rydyn ni’n cytuno ag argymhellion grŵp yr Athro Sioned Davies, sef bod angen symud ar hyd un continwwm o ddysgu Cymraeg, fel bod pob plentyn yn cael o leiaf beth o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â dysgu’r iaith fel pwnc – pa ysgol bynnag mae plentyn yn ei mynychu. Er enghraifft, drwy gael gwersi technoleg gwybodaeth yn Gymraeg. O ganlyniad byddai’r term “Cymraeg ail iaith” yn cael ei ddileu.

Yn lle hynny, byddai defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, er mwyn ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; a byddai targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Mae gwersi ar gyfer sut rydyn ni’n dysgu ieithoedd eraill mewn ysgolion hefyd. Mae tystiolaeth gynyddol, yn hytrach na bod yn llyffethair, bod dwyieithrwydd yn fuddiol iawn o ran datblygiad gwybyddol unigolion a bod caffael sawl iaith yn fuddiol mewn llawer iawn o ffyrdd.

Dylen ni fod yn disgwyl i’n system addysg adeiladu ar y fantais sydd gyda ni gyda dwy iaith yn y wlad, gan ddatblygu addysg dairieithog hefyd. Gall Cymru arwain y ffordd ynghylch dysgu rhagor o ieithoedd i’n plant, a hynny i safon llawer uwch.

Os ydyn ni am i’r Gymraeg ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, mae’n rhaid i ni drawsnewid y sefyllfa bresennol fel bod y Gymraeg yn dod yn etifeddiaeth i bob un sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, nid y rhai ffodus yn unig. Os hoffech chi gefnogi’r ymgyrch, gallwch chi lofnodi’n datganiad yma: www.cymdeithas.org/addysggymraegibawb

Yr Alban yn rhoi hwb i ymgyrch Catalunya

Cyhoeddwyd Medi 18, 2014 gan Rhyngwladol.

Tagiau: annibyiaeth, Catalunya, refferendwm


Llun o'r rali
Ddydd Iau diwethaf, cymerodd bron i 2 filiwn o bobol (1.8 yn ôl ffigurau swyddogol) ran yn un o’r protestiadau mwyaf erioed yn hanes Ewrop.

Ymgasglodd bron i 2 filiwn o bobol yng nghanol dinas Barcelona er mwyn pwysleisio’u barn fod gan drigolion Catalunya yr hawl i benderfynu a ydyn nhw am aros yn rhan o Sbaen neu dorri’n rhydd a bod yn wlad annibynnol, yn union fel oedden ni 300 o flynyddoedd yn ôl.

Oherwydd dyna beth ry’n ni’n ei ddathlu ar 11 Medi; fe gofiwn ni fod Barcelona wedi’i churo ar 11 Medi, 1714 gan fyddin Philip V o Bourbon. Fe gofiwn y miloedd o drigolion Catalwnia a gafodd eu lladd wrth amddiffyn eu gwlad, a’r miloedd a gafodd eu gorfodi i ddinistrio’u cartrefi eu hunain a chael eu halltudio fel cosb am golli.

Ond ni fu farw’r mudiad annibyniaeth yng Nghatalunya serch hynny. Mi oroesodd deyrnasiad Philip V a’r canrifoedd o’i throi’n Sbaenaidd a ddilynodd. Mi oroesodd unbennaeth Franco ac erbyn hyn, mae trwch poblogaeth Catalwnia’n cefnogi annibyniaeth unwaith eto.

Galw am refferendwm

Fodd bynnag, yr unig ffordd o wybod yn sicr pa ganran o’r boblogaeth sy’n cefnogi annibyniaeth yw cynnal refferendwm. Efallai bod hyn yn ymddangos yn hawdd ac yn gyffredin o fewn sefyllfa ddemocrataidd; ni ddylai gorddi’r dyfroedd. Nid y DU mo Sbaen. Nid Canada mo Sbaen. Nid yw Sbaen yn ddemocratiaeth gyfunol. Ac er bod Sbaen yn ei galw ei hun yn un o brif bwerau gwleidyddol Ewrop, nid oes ganddi’r aeddfedrwydd gwleidyddol i ganiatâu’r math hwn o weithgarwch cynhwysfawr lle mae pawb yn gallu cymryd rhan.

Ni fydd llywodraeth Sbaen fyth yn caniatáu’r fath refferendwm gan wybod fod posibilrwydd – er yn bosibilrwydd bach – y gallai’r “Ie” ennill. Ydy Sbaen, felly, yn ddemocratiaeth go iawn? Na yw’r ateb amlwg. Ni all unrhyw wlad ei galw ei hun yn ddemocratiaeth pan fo’n gwrthod y fath hawl sylfaenol fel cynnig y bleidlais i’w thrigolion.

A fydd yr Undeb Ewropeaidd yn caniatáu’r fath amddifadedd o hawliau sifil i rai o’i thrigolion? A fydd hi’n troi ei chefn arnon ni ynteu a fydd hi’n sefyll yn gadarn a mynnu ei bod hi’n gwbl annerbyniol, yn yr unfed ganrif ar hugain, fod llywodraeth ddemocrataidd fondigrybwyll yn camdrin ac yn anwybyddu ceisiadau ei thrigolion yn y ffordd y mae llywodraeth Sbaen yn ei wneud?

Roedd dathliadau “La Diada” yn rhai di-drais. Ymhlith cefnogwyr i annibyniaeth roedd pobol o bob oed, gwreiddiau a chefndir ond fe wnaethon ni i gyd brotestio’r diwrnod hwnnw yn y gobaith o sicrhau’r hyn y bydd yr Alban wedi’i gyflawni heddiw – refferendwm.  Ond eto i gyd, mae’r pleidiau sydd yn erbyn cynnal refferendwm yn mynnu bod cefnogwyr annibyniaeth yn “hollti” cymdeithas Catalwnia.

Yr hyn sydd yn niweidio Catalunya go iawn yw gwybod fod mwy nag 80% o’i thrigolion yn dymuno pleidleisio ar Dachwedd 9, ond nad oes ganddyn nhw mo’r hawl i gynnal refferendwm gan fod Sbaen yn ofni’r canlyniad.

Fe ŵyr pawb fod llywodraeth Sbaen yn benderfynol o atal pobol Catalunya rhag pleidleisio ar Dachwedd 9, ac mae hi eisoes wedi dechrau brwydr frwnt yn erbyn y mudiad annibyniaeth trwy ymosod a phardduo’r ANC (Assemblea Nacional Catalana).

Fodd bynnag, rydym ninnau’n benderfynol o frwydro (mewn modd heddychlon) tros ein hawliau sifil a gobeithio y bydd y gymuned ryngwladol, o’r diwedd, yn ein cefnogi ni yn y modd sy’n deilwng o gorff democrataidd a heddychlon.

Berta Gelabert Vilà

Plant Neb

Cyhoeddwyd Medi 2, 2014 gan Gwasanaethau Brys.

Tagiau: Rotherham, Wynford Ellis Owen


Wynford Ellis Owen
Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, sy’n mynegi ei bryder am blant Rotherham…

A yw rhai plant yn haws eu caru nag eraill? A yw dioddefaint rhai plant yn llai derbyniol nag eraill? Os ydyn ni’n gofidio llai am rai plant nag eraill a allwn ninnau fel cymdeithas honni ein bod yn caru plant o gwbl? Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn pigo cydwybod y genedl am genhedlaeth yn dilyn y datgeliadau ofnadwy o Rotherham yr wythnos diwethaf
.

Efallai, ar ôl achosion Savile, ein bod oll mor ddideimlad am y dioddefaint y mae oedolion fel petaent yn ei achosi i blant yn rheolaidd ym Mhrydain nes na allwn bellach brosesu’r erchyllterau sy’n digwydd bob dydd.

Ond, mae’n rhaid i ni eu prosesu oherwydd, yn debyg i Savile, roedd y troseddu’n gyfrinach agored, yn digwydd o flaen llygaid yr heddlu a’r awdurdod lleol a’r unig ffactorau a rwystrodd y dioddefwyr rhag cael eu hachub oddi wrth y drwgweithredwyr oedd cefndir y dioddefwyr.

Yn Rotherham ac ar draws y sir, rydym yn sicr yn gofalu am rai plant yn fwy nag eraill. Y lluniau angylaidd o blant agored i niwed sy’n syllu allan arnom o gloriau papurau newydd tabloid, wedi eu hanfarwoli yn dilyn achos arswydus arall o gam-drin plant, Daniel Pelka, Baby P, Victoria Climbie, James Bulger – dyma’r lluniau sy’n ein poeni. Beth sy’n wahanol am y 1,400 o ddioddefwyr yn Rotherham, pam na achosodd eu dioddefaint a’u poen nhw ymatebion tebyg?

Roedd llawer o’r merched a’r bechgyn perthnasol yn blant agored i niwed, yn dod o deuluoedd di-drefn neu ddiffygiol ac roeddent wedi eu creithio’n emosiynol, eu hesgeuluso ac wedi dioddef ymosodiadau yn hir cyn i’w hymosodwyr gael eu dal. Roedd y rhain yn blant oedd yn dyheu am i rywun eu caru a gofalu amdanynt, dangos trugaredd iddynt a phrofi iddynt eu bod yn bwysig a gwerthfawr.

Condemnio

Mae’n sicr bod llawer ohonynt yn dangos pob math o agweddau ac ymddygiadau heriol, fel y mae plant a phobl ifanc yn eu harddegau’n ei wneud wrth iddynt ddelio â’r boen sydd yn eu bywydau. Mae’r ffaith yma, a’r ffaith bod eu camdrinwyr yn eu twyllo’n hawdd i gredu y gallent gael eu caru, eu gwerthfawrogi a’u hanwylo, fel petai wedi eu condemnio ym meddwl yr heddlu a’r gweithwyr cyngor oedd i fod i’w hamddiffyn nhw.

Does gan oedolion ddim yr hawl i ddewis pa blant sy’n ‘ddigon da’ i gael eu caru a pha rai sydd ddim. Ymhellach, onid y plant sy’n anodd eu cyrraedd, y rhai sy’n byw bywydau di-drefn ac sy’n llawn poen, dicter a chwerwedd yn barod ddylai gael y flaenoriaeth yn ein cymdeithas? Pa athro sy’n haeddu cael ei alw’n athro os yw’n disgwyl llond dosbarth o fyfyrwyr gradd A ac yn anwybyddu’r rheiny sy’n cael trafferthion? Pa feddyg sy’n trin y cleifion gyda salwch y gellir ei wella’n gyflym gyda phresgripsiwn ac yn anwybyddu’r gweddill?

Y ‘bwystfilod’ yn arswydus o arferol a bydol

A beth am y drwgweithredwyr? Beth wnawn ni gyda’r dynion unigryw o beryglus yma? Mae’r wythnos hon wedi bod yn gyfle i’r newyddiadurwyr sydd o blaid ‘crogi a chwipio’ (nad oedd ots ganddynt am y dioddefwr wythnos yn ôl mae’n rhaid dweud) apelio at ein cyneddfau mwyaf sylfaenol a’n dicter.

Mae’n bosib iawn bod chwalu bywyd plentyn yn anfaddeuol neu o leiaf y tu hwnt i faddeuant y mwyafrif ohonom, ond bydd codi mewn ton o ddicter yn gwneud dim i helpu eu dioddefwyr a bydd yn ein dallu i’r ffaith nad yw’r dynion a gam-driniodd, a arswydodd ac a dreisiodd cymaint o blant, yn ddim llai dynol na ni, mor ofnadwy bynnag oedd eu troseddau.

Y ffaith olaf yma mae’n debyg yw’r ffaith fwyaf anghyfforddus, arswydus a thrallodus ohonyn nhw i gyd, a dyma pam rydym yn ceisio troi’r drwgweithredwyr yn bethau ‘eraill’, a’u disgrifio fel ‘bwystfilod’. Wel, yn drist iawn, mae’r bwystfilod yma’n arswydus o arferol a bydol ac, os na fyddwn yn ceisio ymgysylltu â nhw fel bodau dynol ar ryw lefel, fyddwn ni’n dysgu dim o’r stori ofnadwy yma.

Wrth gwrs, dylent gael eu cosbi gan y gyfraith a’u cadw ymhell oddi wrth blant am flynyddoedd lawer, ond os ydym fel cymdeithas bob amser yn taflu ein dwylo i’r awyr ac yn wylofain am y dioddefwyr, ac yna’n difenwi a chasáu’r troseddwyr, rydym yn ein heithrio ein hunain yn daclus oddi wrth unrhyw werthuso trwyadl.

Rydym oll yn cyfrannu at gymdeithas mewn ffyrdd pitw bychan sy’n creu’r sefyllfaoedd yma o bryd i’w gilydd felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, atebolrwydd ac euogrwydd ar y cyd am dynged cymaint o ferched a bechgyn ifanc yn Rotherham.

Rydym oll yn cyfranogi mewn cymdeithas sydd, mewn gwirionedd, eisiau sgubo gwireddau anghyfforddus o dan y carped a, thrwy wneud hynny, rydym yn helpu i barhau’r gamdriniaeth ac yn methu gwneud y peth iawn dros ei dioddefwyr.

Wynford Ellis Owen yw Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd
info@welshcouncil.org.uk neu wynfordellisowen@hotmail.co.uk
www.livingroom-cardiff.com

Rasys newydd i Fformiwla Un

Cyhoeddwyd Gorffennaf 26, 2014 gan Chwaraeon Eraill.

Tagiau: fformiwla un


Phil Kynaston sydd wedi bod yn ystyried newyddion rasys newydd Pencampwriaeth y Byd F1 ac yn ystyried eu heffaith ar ddyfodol y gystadleuaeth.

Yn y dyddiau diwethaf fe gafwyd cadarnhad y bydd Fformiwla 1 yn dychwelyd i’r Autodromo Hermanos Rodriguez ym Mecsico i rasio am y tro cyntaf ers 1992. Fe ddatgelwyd hefyd fod cytundeb wedi ei arwyddo i gynnal ras ar strydoedd Baku, Azerbaijan o 2016 ymlaen.

Mae hi o hyd yn gyffrous pan mae F1 yn ymweld â gwledydd newydd, ond faint o rasys sydd yn ormod, a pha sicrhad sydd yna y bydd y rasys yn rai llwyddiannus?

Ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, mae trefnwyr yn yr UDA wedi ceisio trefnu bod ras o gwmpas strydoedd New Jersey yn ymuno â’r calendr fel ail ras Americanaidd. Hefyd mae India yn gobeithio y bydd trac Buddh yn ailymuno’r tymor nesaf ar ôl i’r ras gael ei ollwng eleni. Yn ogystal â hynny, mae yna sôn am ddychwelyd i Ffrainc rywbryd yn y dyfodol.

Hyd yn oed heb ras Corea, sydd yn edrych yn annhebyg o gael ei ailsefydlu, mae hynny yn gadael pum trac yn ceisio cael lle ar y calendr yn y ddwy flynedd nesaf.

Gydag 19 ras ar galendr 2014 (20 yw’r record yn 2012), ydyn nhw yn mynd i barhau i adio rasys i’r calendr? Mae yna reol yn dweud bod rhaid cael pob tîm yn unfrydol i gytuno os yw’r calendr am fynd dros 20 ras, a gyda’r holl oriau a theithio oddi cartref mae’r mecanwyr yn enwedig yn gorfod gwneud, dydw i ddim yn gweld hynny’n opsiwn realistig.

Hefyd, hyd yn oed i gefnogwyr brwd, does dim ond nifer pendant o benwythnosau y byddent yn fodlon rhoi drosodd i’r gamp!

Ta-ta i Monza a Spa?

Yr opsiwn arall yw colli rasys cyfredol. Bydd y puryddion, sydd wedi gwylio safbwynt F1 yn symud fwyfwy i’r Dwyrain, yn gyndyn o golli mwy o rasys Ewropeaidd, gan mai dim ond yn ddiweddar mae Silverstone i’w weld yn ddiogel ar ôl blynyddoedd o fygythiad

Mae clasur fel Spa wedi disgyn o’r calendr ar fwy nag un achlysur yn y pymtheg mlynedd ddiwethaf, a Bernie Ecclestone yn dweud yn ddiweddar bod dyfodol Grand Prix yr Eidal ym Monza yn y fantol.

Sydd yn dod a mi yn ôl at rasys megis India a Chorea. Dydi’r rhain ddim wedi bod yn rasys llawn cefnogwyr yn yr eisteddleoedd, felly mae’n peri gofid i mi fod F1 yn mynd i wlad heb hanes chwaraeon modur fel Azerbaijan.

Gyda dau yrrwr o Fecsico yn y pac eleni fodd bynnag mae’n debyg fod cefnogaeth yn y wlad honno ar y llaw arall wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar.

Efallai mai dyna yw’r ateb, bod rhaid cael ryw fath o feini prawf o ran cefnogaeth yn ogystal â gadael i’r arian siarad, cyn cael yr hawl i gynnal ras.

Dw i’n amau’n gryf a fydd pob un o’r ras o’r pump a soniais amdanynt ar y calendr ymhen blwyddyn a hanner, felly fydd na ddim 24 ras yn 2016 (diolch byth!).

Ond mae’n rhaid darganfod rhyw gydbwysedd rhwng arian, hanes, cefnogaeth leol a hyd y calendr i sicrhau bod pob ras yn y dyfodol yn un poblogaidd a fydd yn cael ei chroesawu gan y trigolion lleol yn ogystal â’r gwylwyr o flaen eu setiau teledu.

Bwlch rhwng Rosberg a Hamilton yn cynyddu

Cyhoeddwyd Mehefin 24, 2014 gan Chwaraeon Eraill.

Tagiau: F1, Lewis Hamilton, Nico Rosberg, Phil Kynaston


Lewis Hamilton Llun: Gaz Maz
Phil Kynaston sydd yn crynhoi hanes y penwythnos…

Mae’r bwlch rhwng Nico Rosberg a’i gyd-yrrwr Mercedes, Lewis Hamilton wedi cynyddu ar ôl i’r gyrrwr o’r Almaen guro Hamilton yn Grand Prix Awstria dros y penwythnos.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod Rosberg yn parhau â’i record o orffen yn y ddau safle uchaf ym mhob ras y tymor hwn, mewn tymor ble mae Mercedes i’w weld yn gryfach na’i gwrthwynebwyr er i Williams berfformio’n dda yn y rhagbrawf.

Y rhagbrawf

Ar ymweliad cyntaf F1 ag Awstria ers 2003, ar drac sydd rŵan wedi ei enwi’n Red Bull Ring (ar ôl i’r cwmni diodydd ei brynu), nid oedd y cwrs yn rhy glên i’w berchnogion wrth i yrwyr Red Bull siomi yn y rhagbrawf.

Enillydd Canada, Daniel Ricciardo, oedd y gorau o’r ddau wrth iddo gipio pumed safle ar y grid. Roedd hwn yn well na’i gyd-yrrwr, Sebastian Vettel a fethodd i gyrraedd Q3 wrth iddo orffen yn y 13eg safle.

Cafwyd elfen o karma tuag at ddiwedd y sesiwn olaf wrth i Hamilton droelli’i gar ac achosi fflag felen a wnaeth orfodi Rosberg i arafu ac felly methu cystadlu ar gyfer y safle cyntaf ar y grid ac yn dechrau’r ras yn drydydd.

Serch hynny, ei gyd-yrrwr oedd i’w weld wedi’i effeithio gan y fflag felen. Doedd Hamilton heb osod amser ac felly’n dechrau’r ras yn y nawfed safle.

Am y tro cyntaf yn 2014, nid yn unig oedd yr un car Mercedes ar y blaen, ond roedd y rhes flaen wedi’i gymryd gan dîm arall – Williams. Y gyrrwr o Frasil Felipe Massa oedd ar y blaen gyda’i gyd-yrrwr, Valteri Bottas, wrth ei ochr.

Embaras Red Bull

Ar ôl ei rhagbrawf siomedig, fe ddechreuodd Hamilton yn wych wrth iddo basio pedwar car yn y ddau gornel agoriadol ac roedd yn bedwerydd erbyn diwedd y lap cyntaf tu ôl i Rosberg.

I ychwanegu at gyffro agoriadol y ras, fe ddechreuodd Vettel yn wael. Cymaint felly bod hi’n ymddangos bod ei ras ar ben – erbyn i’w gar ddod nôl yn fyw roedd Vettel lap cyfan y tu ôl i bawb.

Nid am y tro cyntaf y tymor yma, cafwyd ansicrwydd strategaeth o fewn tîm Williams wrth iddynt beidio ag ymateb i Mercedes yn pitio’u ceir nhw. Erbyn i Massa a Bottas bitio, roeddynt wedi disgyn tu ôl y ddau Mercedes a Sergio Perez.

Gyrrwr Toro Rosso, Daniil Kvyat, oedd y cyntaf i ymddeol wrth i hongiad y car dorri. Vettel oedd yr ail ar ôl i’r tîm benderfynu nad oedd pwynt iddo barhau a’r ras a rhoi straen ar rannau o’r uned bŵer gyda’r gyrrwr lap tu ôl i bawb. Yn anochel, mi fydd yna gosbau grid iddo yn hwyrach yn y tymor.

I gwblhau embaras Red Bull, Jean-Eric Vergne oedd y trydydd i ymddeol o’r ras gyda phroblemau brêc.

Nico Rosberg gipiodd ei drydedd fuddugoliaeth y tymor hwn wrth iddo ennill y ras dim ond 1.9 eiliad o flaen Hamilton. Bottas gymerodd y trydydd safle ar ôl iddo gael y gorau o’i gyd-yrrwr Massa.

Er i Hamilton wneud yn dda i ddringo i’r ail safle ar ôl rhagbrawf siomedig, mae o rŵan 29 pwynt tu ôl i’w gyd-yrrwr yn y ras am y bencampwriaeth. Bydd rhaid iddo gychwyn rhediad cryf o fuddugoliaethau yn y rasys nesaf i ddal lan gyda Rosberg.

O leiaf bydd gan Hamilton gefnogaeth y dorf gartref yn ras nesaf y tymor wrth i F1 ymweld â Silverstone.

Gorymdeithio dros y Gatalaneg

Cyhoeddwyd Mehefin 17, 2014 gan Iaith.

Tagiau: Addysg, Emyr Gruffydd, y Gatalaneg


Emyr Gruffydd, sy’n byw yn Barcelona, sy’n trafod yr ymdrechion i ddiogelu addysg Gatalaneg….

Cynhaliwyd gorymdaith gan blatfform “Som Escola” (Ni yw’r Ysgol) i gefnogi parhad a datblygiad addysg trwy gyfrwng y Gatalaneg ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn  ôl  yr heddlu roedd tua 25,000 o bobl yno, gyda’r trefnwyr yn honni bod dros 100,000 yn bresennol. Cynhelir y brotest ar adeg ddifrifol yn hanes addysg trwy gyfrwng y Gatalaneg, gan fod llywodraeth Sbaen wedi pasio cyfraith newydd  i ddiwygio’r system addysg drwy rwystro dysgu rhai pynciau trwy gyfrwng ieithoedd fel Catalaneg, Basgeg a Galisieg.

Gan fod addysg wedi’i ddatganoli i lywodraethau’r ‘Comunitats Autònomes’, neu ranbarthau a chenhedloedd gwahanol y wladwriaeth, mae llywodraeth Sbaen yn ymyrryd yn anghyfreithlon er mwyn gwthio eu hagenda gwleidyddol ar ddisgyblion ysgol.

Defnyddir y Gatalaneg mewn 3 tiriogaeth yn y Wladwriaeth Sbaenaidd (Catalunya, Gwlad Falensia ac Ynysoedd y Balearig) ac mewn rhan o un arall (La Franja d’Aragó). Mae polisïau iaith y tair tiriogaeth yn dra gwahanol. Darperir addysg gynradd ac uwchradd yng Nghatalwnia yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gatalaneg, gyda thua 60% o ddarlithoedd mewn prifysgolion  hefyd trwy gyfrwng y Gatalaneg.

Er hynny, yn ddiweddar fe orchmynnodd uwch-lys Catalwnia bod rhaid i bob ysgol lle mae teulu un plentyn yn unig yn gofyn am addysg trwy gyfrwng y Sbaeneg ddysgu o leiaf 25% o’r dosbarthiadau drwy gyfrwng yr iaith honno. Dim ond 5 teulu sydd wedi gofyn am hyn trwy’r wlad gyfan, ond golyga hyn bod y dosbarth cyfan wedyn yn gorfod astudio trwy gyfrwng y Sbaeneg er mwyn yr un teulu hwnnw. Amser a ddengys os bydd yr ysgolion yn cymryd sylw o’r gorchymyn, ond hyd yn hyn, gwrthod dysgu trwy’r Sbaeneg y mae nifer o’r athrawon a effeithiwyd.

‘Polisïau andwyol’

Yng Ngwlad Falensia (El País Valencià) system digon tebyg i Gymru sydd mewn grym. Y PP, sef y blaid geidwadol, sydd wedi bod mewn grym yma ers cryn amser, ac mae eu polisïau wedi cael effaith andwyol ar y Gatalaneg yn y diriogaeth. System ddwy ffrwd yw system addysg Falensia, gyda phlant y ffrwd Sbaeneg yn derbyn ychydig oriau’r wythnos yn unig o Gatalaneg (neu Falensianeg fel y’i gelwir yn lleol). Prin y gellir dweud eu bod yn rhugl eu Catalaneg wedi gadel ysgol.

Gwrthodwyd dros 30,000 o blant y flwyddyn hon mewn i’r ffrwd Gatalaneg oherwydd diffyg lle, a dydy’r llywodraeth ranbarthol ddim yn gwneud dim am y sefyllfa. Rhyw 45% o boblogaeth y diriogaeth sy’n siarad y Gatalaneg, gyda’r iaith ar ei chryfed yng Nghanol y rhanbarth, ac ar ei waned yn ninas Alacant (Alicante). Mae’r canran yn prysur edwino, diolch i bolisïau’r llywodraeth, sydd newydd gau dwy sianel radio a sianel deledu oedd yn darlledu trwy gyfrwng y Gatalaneg, yn ogystal â rhwystro signal Catalunya Ràdio a TV3, teledu Catalunya, rhag cyrraedd y diriogaeth.

‘Gwanhau’

System debyg i Gatalwnia sydd gan Ynysoedd y Balearig (Mallorca, Menorca, Eivissa a Formentera) sef trochi plant yn y Gatalaneg. Yn ddiweddar, fodd bynnag, pasiodd llywodraeth yr ynysoedd ddeddf i ddiwygio’r system addysg, gan adael traean y gwersi yn Sbaeneg, traean yn y Gatalaneg a thraean yn Saesneg. Byddai hyn yn gwanhau’r model presennol ac yn ychwanegu at y tebygolrwydd na fydd nifer o blant yr ynysoedd yn rhugl eu Catalaneg mewn blynyddoedd i ddod. Ddoe, fe orffennodd Jaume Sastre, athro o Mallorca, ympryd o 40 diwrnod i geisio perswadio llywodraeth geidwadol yr ynysoedd i beidio â newid y sustem bresennol o drochi. Cafodd Jaume a’i frwydr floedd o gefnogaeth yn y rali ar ddiwedd y brotest ar ddydd Sadwrn, a gwelwyd nifer yn gwisgo crysau-T gwyrdd penodol i gefnogi streic hir athrawon yr Ynysoedd.

Dengys y fath brotest bod cymdeithas sifil hynod o gref yng Nghatalwnia, un a eginodd yn ystod unbennaeth Franco a dechreuodd fwrw ei gwreiddiau yn nyddiau anodd y newid i ddemocratiaeth yn y saithdegau. Er bod y sefyllfa yn dra gwahanol yn nhiriogaethau eraill y Gatalaneg, mae mudiadau yn medru ysbrydoli pobl fel y dangosodd protest enfawr dros yr iaith yn Palma (Mallorca) ym mis Medi.

‘Gwawd’

Yn bennaf, mae’n gwbl amlwg nad oes ofn gan gymdeithas sifil na phleidiau gwleidyddol i awgrymu mesurau radical i amddiffyn yr iaith ac i sicrhau bod pob person yn cael y cyfle i’w dysgu. Er gwaethaf y bygythiadau presennol tuag at y Gatalaneg, mae’n eglur nad yw’r iaith yn destun sbort neu wawd fel y gall fod yng Nghymru. Prin y gellir dychmygu rhaglen drafod ar radio cyhoeddus Catalwnia neu Mallorca yn gofyn a ydy’r Gatalaneg yn merwino clustiau rhywun neu a ddylai gwyliau diwylliannol fod yn ddwyieithog er mwyn peidio brifo teimladau pobl nad sy’n rhugl yn yr iaith.

Mae’n hen bryd i ni hefyd ddechrau sefyll i fyny yn erbyn ymosodiadau di-sail ar y Gymraeg ac amddiffyn yr iaith fel elfen hanfodol o’n cenedl sy’n berchen i bob dinesydd Cymreig.

Etape Eryri ar y tandem

Cyhoeddwyd Mehefin 16, 2014 gan Chwaraeon Eraill.

Tagiau: etape eryri, Gwenllian Elias


Gwenllian a Huw ar ddechrau'r ras
Roedd Gwenllian Elias yn un o’r 1,300 o seiclwyr fu’n cymryd rhan yn ras seiclo Etape Eryri ddydd Sul. Dyma ei hargraffiadau hi o’r profiad ar y tandem gyda’i chariad…

Falle nad oedd hi’r syniad gorau ges i ‘rioed i seiclo Etape Eryri heb ddigon o ymarfer. Ond 103 o filltiroedd, 2,300 metr o ddringo, naw awr o bedlo a sawl brechdan gaws yn ddiweddarach, dw i dal yn fyw. Jysd iawn.

Mae fy nghariad, Huw, wrth ei fodd yn seiclo a fo wnaeth ennyn y diddordeb ynof i yn y lle cyntaf. Mae ganddom ni feic tandem hefyd, ac wedi bod ar wyliau arno i Annecy i wylio’r Tour de France y llynedd, ac yn mynd i’r Eidal hefo fo eleni. Felly dyma ni’n penderfynu cofrestru ar gyfer y llwybr mwyaf o’r tri yn ras yr Etape – yn meddwl ein bod ni’n rêl bois ar ôl cwblhau’r llwybr canolig y llynedd.

Ar ôl llond bol o uwd, fe gyrhaeddom ni Faes Caernarfon am ‘chydig wedi saith y bore. Roedd y lle wedi ei drawsnewid yn syrcas lliwgar o stondinau a phawb yn eu siorts tynn yn ysu am gael cychwyn. Mae’r tandem wastad yn creu rhyw fath o ymateb gan bobol – boed o’n wên neu’n ddryswch llwyr – felly ar ôl mensh gan y sylwebwyr dros y meicroffon, dyma ni’n cychwyn tuag at Benygroes a Thalysarn.


Mynydd Y Garn
Fe ddechreuodd yr haul sbecian drwy’r cymylau am tua 8:30yb ac fe gawsom ni fwynhau cip o gopa mynydd Y Garn, oedd yn edrych fel crochan yn ffrwtian ar ben coelcerth gyda’r niwl oddi tano.

Draw at Rhyd Ddu a Beddgelert ac wedyn gweithio’n ffordd at Lanfrothen a Maentwrog. Roedd yr allt nesa’ i fyny at Llan Ffestiniog yn lladdfa. Yr haul tanboeth wedi penderfynu nad oeddem ni’n haeddu cael concro’r allt yn hawdd.

Wrth agosáu at y top, fe welsom ni’r arwydd oeddem ni wedi bod yn disgwyl amdano – gorsaf fwyd. Roedd ‘na lot o seiclwyr o gwmpas, felly dyma ddechrau poeni na fyddai yna digon o fwyd i bawb. Wnes i anelu am un o’r ochr o’r bwrdd bwyd a Huw y cariad am y llall, wedyn cyfarfod yn y canol a chyfnewid brechdanau caws am orennau a bara brith. Da ydi’r tandem yn hynny o ystyr.

Lawr allt…

Ymlaen a ni dros y topiau am Drawsfynydd a’r Bala a dyma pryd wnes i ddechrau cwestiynu pam nad oeddwn i adra wrth y bwrdd bwyd yn bwyta cinio dydd Sul. Ond dal i fynd wnaethom ni – yn gymysgedd o chwys, eli haul, gwybed, a chaws.

Roedd ‘na bobol leol wedi gwirfoddoli i sefyll ar gorneli yn arwain ac annog y cystadleuwyr, a wir yr,  yn ogystal â’r bobol brechdanau, roedden nhw’n arwyr. Wedi bod yno ers oriau man y bore, ac yn dal i gefnogi  ac yn wen o glust i glust. Dw i ond yn gobeithio eu bod nhw’n sylweddoli faint roedden ni’n eu gwerthfawrogi.

Fel oeddem ni’n agosáu at Betws y Coed, fe benderfynom ni fod yn rhaid cael hoe fach arall a choffi’r un i baratoi at y bryn olaf…Pen y Pass. Wrth seiclo tuag at yr allt ar droed Yr Wyddfa, roeddwn i wir yn meddwl na fuasai nghoesau i yn gallu fy nghario i fyny i’r top ac y byddai Huw yn edrych fel tipyn o ffŵl yn reidio’r tandem ar ei ben ei hun. Ond trwy ryw wyrth (anogaeth gan Huw wrth iddo ganu can Tŷ ar y Mynydd, Maharishi) fe roeddem ni ar dop Pen y Pass a hefo mymryn o egni ar ôl i ddathlu gyda high-five eitha’ pathetig. Am adra rŵan.

Un peth nad oeddwn i’n disgwyl oedd y byddai’r daith yn emosiynol. Ond ar ôl gweld fy nheulu yn gweiddi a chlapio ar y Maes yng Nghaernarfon wrth i ni gyrraedd yn ôl, mi wnes i orfod gwneud fy ngorau i ddal y dagrau nol. A dw i ddim yn berson gor-emosiynol.

Dathlu gyda noson o fwyta bwyd Chinese ac yfed gwin wnaethom ni – rhywbeth nad ydy hogia’r Tour de France yn ei wneud dw i’n siŵr.

Dw i wedi gorfod dod a chlustog i’r gwaith hefo fi heddiw, ac mae hi’n cymryd tair gwaith yn fwy i mi gerdded i fyny’r grisiau. Ond roedd Etape Eryri, heb os, yn un o’r pethau gorau (a’r anoddaf) i mi erioed ei wneud. Os ydach chi’n mwynhau bod ar eich beic, bachwch y cyfle i fod yn rhan o un o ddigwyddiadau gorau’r wlad y flwyddyn nesaf – wnewch chi ddim difaru.

Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – y ffordd ymlaen


Rhaid cael trefn cynllunio sydd yn cydnabod y Gymraeg fel rhan annatod o’n hamgylchedd byw, meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg…


Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei hymateb i “Ddrafft Bil Cynllunio” Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r drafft yma yn cyfeirio o gwbl at y Gymraeg.  Os na newidir y drafft yma ni fydd modd gwrthod na chaniatau datblygiad oherwydd yr effaith ar y Gymraeg.

Yn sgîl cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion, Aelodau Cynulliad o bob plaid, swyddogion cynllunio a chynghorwyr rydym wedi penderfynu bod angen dangos i’n gwleidyddion beth sydd yn bosib.

Felly ym mis Mawrth cyhoeddodd y Gymdeithas “Bil Eiddo a Chynllunio er Budd
Cymunedau (Cymru).”

Dogfen ddrafft yw hon ac rydym wrthi’n cynnal cyfarfodydd ymgynghorol led-led
Cymru i gael ‘barn y bobl’ ar yr hyn rydym yn argymell. Ochr yn ochr gyda’r
gwaith “cyfansoddiadol” yma mae’r ymgyrchu yn parhau o ganlyniad i fethiant
llwyr Llywodraeth Cymru i ymateb yn ystyrlon i’r dirywiad yn nifer y cymunedau
lle mae’r Gymraeg yn brif iaith. Beth yw pwrpas cynnal cynadleddau a chyhoeddi
adroddiadau oni weithredir ar yr argymhellion?

Heb os nac onibai rydym wedi rhoi digon o gyfle i’r Llywodraeth i ddangos eu bod
o ddifri. Fodd bynnag, yr hyn a chawsom yw datganiadau tila yn ail-adrodd yr hyn
sydd eisoes ar y gweill ac sydd yn hollol annigonol – ac yn arbennig felly ym
maes cynllunio.

Nid oes pwrpas i Nodyn Cynghorol Technegol (TAN) 20, sef y canllaw cynllunio ar y Gymraeg, os nad oes modd gweithredu ar yr argymhellion ac os nad oes grym statudol wrth gefn yr argymhellion.

Er mwyn atal y lleihad yn nifer y cymunedau Cymraeg a symud at sicrhau mwy o
gymunedau lle y gall pobl fyw yn Gymraeg rhaid cael trefn cynllunio sydd yn
cydnabod y Gymraeg fel rhan annatod o’n hamgylchedd byw.

Fel y nodir yn ein “Bil Eiddo a Chynllunio,” rhaid diwygio Adran 70 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i nodi rheidrwydd ar geisiadau cynllunio sy’n berthnasol i dir yng
Nghymru gynnwys yr angen i ddiogelu statws swyddogol y Gymraeg a diogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol ym maes cynllunio ym mhob rhan o Gymru. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru dylai’r Gymraeg allu fod yn brif ystyriaeth mewn penderfyniadau cynllunio. Fel rhan o’r ymgyrch i ddiwygio’r drefn cynllunio yng Nghymru ac i hyrwyddo’r “Bil Eiddo a Chynllunio” byddwn yn galw ar bobl yn Nghymru i gefnogi’r 5 egwyddor creiddiol i’r Bil, sef:

1. Datgan mai pwrpas y system gynllunio yw rheoli tir mewn ffordd sy’n
gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg

2. Asesu anghenion lleol fel man cychwyn a sylfaen pendant i gynlluniau
datblygu, yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau
poblogaeth cenedlaethol

3. Sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu

4. Rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr ystyried y Gymraeg wrth dderbyn neu wrthod
cynlluniau, drwy wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol

5. Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, y mae cymunedau yn gallu apelio iddo

Mae’r galwadau hyn eisoes wedi derbyn cefnogaeth nifer o fudiadau ac unigolion
blaenllaw megis Cyfeillion y Ddaear a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gallai
unigolion ddatgan eu cefnogaeth i’n galwadau drwy fynd i
http://cymdeithas.org/galwadcynllunio

Ymhellach rydym yn galw ar awdurdodau lleol yn mhob rhan o Gymru i gyhoeddi
“Cynllun Gweithredu Cymraeg”, neu “Adroddiad Pwnc ar y Gymraeg”. Nid oes angen
caniatad Llywodraeth Cymru i wneud hyn – mae gan yr awdurdodau lleol y grym
eisoes i gynnal dadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg fel iaith cymunedol ac i
argymell camau i ddiogelu ac i ddatblygu’r Gymraeg.

Calonogol iawn yw gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn Sir Gâr gyda’r Cyngor yn
mabwysiadu argymhellion y gweithgor ar y Gymraeg yn y sir.

Dyma enghraifft o awdurdod sydd wedi dangos parodrwydd i gymryd canlyniadau’r cyfrifiad a’u cyfrifoldeb mewn perthynas â’r Gymraeg o ddifri. Ein gwaith nawr fel mudiad yw sicrhau bod amserlen yn cael ei rhoi yn ei lle er mwyn gweithredu’r
argymhellion.

Yn anffodus nid yw’r hyn a argymhellir gan Gyngor Sir Gâr ym maes tai a chynllunio am lwyddo oherwydd nad oes grym statudol i’r Gymraeg ym maes cynllunio. Fel y dywedodd Prif Swyddog Cynllunio Cymru, Rosemary Thomas, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ychydig fisoedd yn ôl, nid oes hawl gwrthod datblygiad (neu yn wir caniatáu datblygiad) ar sail effaith ar y Gymraeg o fewn y drefn bresennol.

Rhaid i hyn newid os yw’r Gymraeg i barhau fel iaith y gymuned. Rhaid cael Bil Cynllunio sydd yn berthnasol i Gymru ac i’r Gymraeg. Dyma frwydr S4C y byd cynllunio. Ni allwn ganiatau i’r sefyllfa bresennol barhau.

Toni Schiavone yw cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg