RSS

Golwg360

MwyCau 
Alun Rhys Chivers

Alun Rhys Chivers

Dyer, Baston a’r ffrae fawr gyda Neil Taylor

Cyhoeddwyd Medi 15, 2016 gan Pêl-droed.


Ar drothwy’r gêm yn erbyn Southampton yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul, fe fu rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin yn ateb cwestiynau’r wasg yn Stadiwm Liberty ddydd Iau.

Ymhlith y prif bynciau trafod roedd y newyddion fod Nathan Dyer yn cael llawdriniaeth ar ei ffêr fydd yn ei gadw allan o’r gêm am hyd at ddeufis, y gêm gyfartal yn erbyn Chelsea, problemau ffitrwydd yr ymosodwr newydd Borja Baston a gostiodd £15.5 miliwn ar ddechrau’r tymor, diffyg goliau’r ymosodwr newydd arall Fernando Llorente ac wythnos brysur i’r garfan wrth iddyn nhw baratoi am dair gêm o fewn wythnos.

Anaf Nathan Dyer i’w ffêr

Fe benderfynon ni ddatrys y broblem gyda llawdriniaeth ddydd Llun nesaf, ac mae’n bosib y bydd angen deufis arno fe i wella. Dyna’r sefyllfa ar hyn o bryd. Dyma’r anaf fwyaf hyd yn hyn, ond mae’n digwydd. Mae’n well datrys y sefyllfa’n llwyr.

Tactegau yn erbyn Chelsea

Dw i’n hoffi chwarae gyda thri amddiffynnwr mewn rhes o bump. Dw i wedi gweld rheolwyr eraill yn ei defnyddio. Fe wnes i chwarae am nifer o flynyddoedd yn yr Eidal gyda’r siâp yma. Ond mae meddylfryd yn bwysicach na safle’r chwaraewyr. Yn fy meddwl i, dw i’n hoffi chwarae yn y modd yma. Dw i wastad yn chwarae mewn modd ymosodol. Os ydych chi’n gweld bod gwrthwynebwyr yn gryfach, mae’n anodd. Dw i’n credu ein bod ni wedi chwarae’n iawn cyn y gôl sgoriodd Chelsea. Ar ôl y gôl, fe chwaraeon ni gyda rhai gwendidau. Penderfynais i newid pethau. Ry’n ni’n gweithio bob wythnos ac yn trio safleoedd a siâp newydd. Rhaid i reolwr cyfoes allu dysgu pob siâp i’w dîm. Yr hyn wnes i ddeall ar ôl 30 munud oedd fod angen ymateb ac fe wnes i benderfynu newid y tactegau.

Y tymor diwethaf, fe wnes i ddysgu fy nhîm i chwarae gyda phump amddiffynnwr wrth ymarfer. Mae gyda fi lot o gemau y tu ôl i fi gan fod fy ngyrfa wedi bod yn un hir. Fe wnes i ddechrau gyda 4-4-2 ond wedyn fe wnes i newid i’r 4-2-3-1 oherwydd ro’n i’n deall bod rhaid i fy nhîm chwarae gyda rhif 9 a rhif 10. Pan o’n i yn Udinese, roedden nhw’n chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda 4-3-3 a do’n i ddim yn gallu ei newid e. Dw i’n ymarfer i chwarae mewn amryw ffyrdd. Dydy e ddim yn broblem i fi. Gallwn ni chwarae yn y siâp yma, oherwydd mae gyda ni’r nodweddion cywir.

Y ffrae gyda Neil Taylor ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar y cae yn erbyn Chelsea

Fe wnes i siarad â fe ar y fainc ar ôl ei eilyddio, ac wedyn yn yr ystafell newid o flaen y chwaraewyr eraill. Fe wnes i siarad o flaen pawb yng nghynhadledd y wasg. I fi, does dim problem bellach. Mae gyda ni dair gêm hollbwysig yn y cyfnod yma. Mae’n bosib y bydd e neu chwaraewyr eraill yn cael cyfle i chwarae. Fe ddywedais i beth oedd angen ei ddweud wrtho fe. Dw i am ddweud nad oedd yn benderfyniad hawdd i fi. Dw i wedi anghofio am y peth, mae’r broblem wedi mynd, i fi ac i Neil. Dydy e ddim yn hawdd i reolwr wneud newidiadau cyn hanner amser.

Ydy’r amddiffynnwr newydd, Alfie Mawson yn barod i chwarae?

Na, falle, dw i ddim yn gwybod. Mae e ar gael i chwarae yn y cyfnod hwn ond rhaid i fi ddod i’w nabod e’n well oherwydd mae e newydd gyrraedd. Mae’n bwysig dod i’w nabod e.

Pryd fydd Borja Baston yn barod i chwarae?

Mae e’n ymarfer gyda ni. Gobeithio y bydd e’n barod ddydd Sul neu ddydd Mercher. Rwy am ei weld e’n ymarfer yn ddwys a gyda hyder. Gobeithio y bydd e mewn cyflwr da cyn gynted â phosib oherwydd mae ei angen e arnon ni. Mae e’n chwaraewr da ond mae’n bwysig nad ydyn ni’n ei ruthro fe yn y cyfnod hwn. Ry’n ni wedi bod yn aros am amser hir hebddo fe ond mae e bron â bod yn barod.

Pryd fydd Fernando Llorente yn sgorio gôl i Abertawe?

Dyma’i dro cyntaf e yn yr Uwch Gynghrair. Mae e’n chwaraewr cryf i’r tîm, mae ei gymorth e’n bwysig iawn. Dw i’n sicr y bydd e’n gwella ein ffordd o chwarae. Fydd hi ddim yn broblem iddo fe gael dechrau sgorio.

Perfformiadau’r tîm y tymor hwn

Mae Southampton yn dîm da. Rhaid i ni fod yn barod i frwydro oherwydd yn y gynghrair hon, brwydro yw’r peth pwysicaf wythnos ar ôl wythnos. Mae ansawdd y chwaraewyr yn bwysig iawn.

Rhaid i ni wella. Gallwn ni chwarae’n well, gyda mwy o hyder, yn gyflymach, yn fwy dwys ac yn fwy ymosodol. Dw i’n gweithio tuag at hynny. Rhaid i’r tîm wella, ac fe all wella. Os ydyn ni’n chwarae’n well, bydd mwy o gyfleoedd gyda ni i sgorio – Fernando neu Borja. Pan gyrhaeddais i, roedd rhaid i fi addasu i’r sefyllfa – cynghrair newydd, clwb newydd, chwaraewyr newydd, cefnogwyr newydd. Roedd yn bwysig deall llawer o bethau.

Ry’n ni newydd ddechrau tymor newydd a fy swydd yw gwneud i’r chwaraewyr ddeall fy ffordd o feddwl am bêl-droed. Dw i’n gweithio tuag at hyn. Ond mae gyda fi berthynas dda gyda’r chwaraewyr. Byddwn i’n hoffi pe bawn i’n siarad Saesneg yn well. Dydy fy nghyfathrebu ddim yn wych, ond dw i’n gwella. Rhaid i’n hagwedd ni fod yn iawn ym mhob gêm. Yn y gynghrair hon, gallwn ni wneud yn well. Mae pob gêm yn 50-50 cyn y gic gyntaf. Dw i’n hoffi hyfforddi fy chwaraewyr, fy nhîm i chwarae’n fwy ymosodol ac yn fwy cyflym a dw i’n gweithio ar hyn.

Mae gan Abertawe dair gêm mewn wythnos yr wythnos nesaf. A fydd angen gorffwys rhai chwaraewyr?

Mae angen mwy o chwaraewyr arnon ni sy’n barod i chwarae. Dydy hi ddim yn bosib chwarae tair gêm gyda’r un chwaraewyr. Mae angen chwaraewyr eraill sy’n barod i chwarae a dangos eu rhinweddau i fi. Dw i’n credu bod rhaid i’r chwaraewyr fod yn barod am ddwy neu dair cystadleuaeth, does dim gwahaniaeth rhwng yr Uwch Gynghrair a Chwpan y Gynghrair. Ry’n ni’n canolbwyntio nawr ar Southampton. Dydy cael Man City allan o’r het ddim yn lwcus i ni ond dyna’r sefyllfa ry’n ni ynddi a rhaid i ni chwarae’n dda yn erbyn Man City yn y gwpan a’r Uwch Gynghrair.

Yr ‘Italian Job’: Darganfod aur neu’r drysau ar fin ffrwydro?

Cyhoeddwyd Medi 9, 2016 gan Alun Rhys Chivers.

Tagiau: Chelsea, Franceso Guidolin


Alun Rhys Chivers yn edrych ymlaen at yr her fawr sy’n wynebu Abertawe wrth iddyn nhw herio cewri Chelsea ddydd Sul…

Dim ond unwaith yn ei yrfa fel rheolwr y mae Francesco Guidolin wedi llwyddo i guro un o dimau Antonio Conte. A phan fydd y ddau Eidalwr, y naill yn rheolwr ar Abertawe a’r llall ar Chelsea, yn mynd ben-ben ddydd Sul, fe fydd angen ‘Italian Job’ o’r mwyaf ar Guidolin a’i dîm.

Yn y ffilm, sy’n serennu Michael Caine, roedd angen i’w gymeriad Charlie Croker a’i griw o ladron gasglu bariau o aur oddi ar y bws cyn iddo gwympo dros y dibyn.

Tra bod Conte wedi arwain ei dîm newydd i dair buddugoliaeth allan o dair yn yr Uwch Gynghrair mor belled, tri phwynt yn unig sydd gan yr Elyrch hyd yn hyn yn nhymor llawn cyntaf Guidolin wrth y llyw.

Gyda Guidolin yn wynebu dyfodol ansicr cyn arwyddo cytundeb newydd ddiwedd y tymor diwethaf, roedd adroddiadau fod ganddo ddiddordeb yn swydd rheolwr yr Eidal yn lle Conte, a arweiniodd ei dîm i wyth olaf Ewro 2016. Roedd hefyd yn cael ei gysylltu â’r swydd yn 2014 cyn i Conte gael ei benodi.

Ond mae’r ddau bellach yn canfod eu hunain yn mynd ben-ben am y nawfed tro erioed wrth i Chelsea, sy’n un o’r ffefrynnau i ennill yr Uwch Gynghrair ar ôl tymor siomedig yn 2015-16. Mae’r Llundeinwyr yn gydradd gyntaf gyda Man City a Man U, tra bod yr Elyrch yn bedwerydd ar ddeg.

Guidolin v Conte – hyd yn hyn

10/11/2008: Parma (Guidolin) 1 Bari (Conte) 1
4/4/2009: Bari (Conte) 0 Parma (Guidolin) 2
25/10/2009: Atalanta (Conte) 3 Parma (Guidolin) 1
21/12/2011: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 0
28/1/2012: Juventus (Conte) 2 Udinese (Guidolin) 1
19/1/2013: Juventus (Conte) 4 Udinese (Guidolin) 0
1/12/2013: Juventus (Conte) 1 Udinese (Guidolin) 0
14/4/2014: Udinese (Guidolin) 0 Juventus (Conte) 2

11/9/2016: Abertawe (Guidolin) ? Chelsea (Conte) ?

Y cast

Roedd yr Elyrch wedi colli eu capten Ashley Williams, Andre Ayew a Bafetimbi Gomis cyn i’r ffenest drosglwyddo gau, a doedd gan Guidolin fawr o ddylanwad wrth benderfynu pwy fyddai’n eu disodli. Alfie Mawson, amddiffynnwr 22 oed o Barnsley sy’n llenwi esgidiau’r capten. Ond mae Guidolin, a gyfaddefodd ar y pryd nad oedd e wedi clywed am Mawson, wedi dweud ei fod e “bron yn barod” am yr her o chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair. Ond mae’r amddiffyn wedi ildio pum gôl mewn tair gêm, gan sgorio dwy gôl yn unig – a’r chwaraewr canol cae Leroy Fer wedi sgorio’r ddwy. Yn absenoldeb sgoriwr yn rheng flaen y cae, roedd sicrhau gwasanaeth amddiffynnwr profiadol yn bwysicach fyth i atal y goliau ben arall y cae. Amheus gen i bydd Abertawe’n gallu ‘parcio’r bws’.

Mae Borja Baston, a gostiodd £15.5 miliwn – sy’n record i’r clwb – yn dal i geisio profi ei ffitrwydd ar ôl cyrraedd o Atletico Madrid, ac mae’n debygol y bydd e ar y fainc ddydd Sul. Fernando Llorente yw’r ymosodwr arall sydd bellach ar lyfrau Abertawe. Roedd e’n aelod o garfan Sbaen yng Nghwpan y Byd 2010 ac Ewro 2012, ond dydy e ddim eto wedi edrych fel chwaraewr rhyngwladol yn ei dair gêm i Abertawe.

Ennill – neu colli’r plot?

Dyna ddigon am y ‘Spanish Job’. Yn ôl at y plot dan sylw. Ym mharc Crystal Palace y cafodd golygfa enwocaf ‘The Italian Job’ – y car yn ffrwydro –  ei ffilmio. Mae’r parc wyth milltir i ffwrdd o stadiwm Chelsea yn Stamford Bridge.

Fe orffennodd y ffilm oedd yn serennu Michael Caine ar ymyl dibyn. Wnaethon ni byth ddod i wybod beth oedd “great idea” ei gymeriad Charlie Croker. Ar ddechrau cyfnod pan fydd yr Elyrch yn wynebu Southampton, Arsenal, Man City a Lerpwl rhwng nawr a chanol mis Hydref, mae tymor Abertawe’n mynd yn nes ac yn nes at y dibyn. Wrth wynebu Chelsea ddydd Sul, mae angen “syniad gwych” ar Guidolin i achub y sefyllfa.

Hen bryd i Guidolin brofi ei hun

Cyhoeddwyd Awst 13, 2016 gan Alun Rhys Chivers.


Francesco Guidolin yn wynebu'r wasg am y tro cynta'r tymor hwn

Ar drothwy tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair, mae gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers yn dweud bod rhaid i Francesco Guidolin brofi ei hun yn ei dymor llawn cyntaf yn rheolwr ar Abertawe…

Rheolwr ar ei gyfnod prawf oedd Francesco Guidolin, i bob pwrpas, y tymor diwethaf. Fe ddaeth yr Eidalwr i Abertawe dan gwmwl ar ôl i un o hoelion wyth a ffefrynnau’r Liberty, Garry Monk golli ei swydd. Roedd yr Elyrch, bryd hynny, yn ddeunawfed yn yr Uwch Gynghrair ac yn hwylio’n nes ac yn nes at y gwynt gyda phob gêm âi heibio.

Fe lywiodd Guidolin y tîm i’r lan unwaith eto erbyn mis Mai. Fe gafodd gytundeb newydd i aros yn barhaol ac mae ei waith o osod ei stamp ei hun ar y garfan eisoes wedi dechrau, gydag arwyddo Fernando Llorente, Borja Baston, Martin van Hoorn, Tyler Reid a Mark Birighitti dros y misoedd diwethaf.

Ond mae tymor siomedig yr Elyrch yn 2015-16 wedi costio’n ddrud iddyn nhw. All neb cwestiynu ymroddiad na llwyddiant y cadeirydd Huw Jenkins yn stori Abertawe dros y degawd diwethaf. Ond roedd y cyfnod cyn penodi Guidolin ym mis Ionawr mewn perygl o droi’n ffars.

Collodd Monk ei swydd ar Ragfyr 9, 2015. Trodd Abertawe eu sylw wedyn at Marcelo Bielsa – neu ‘El Loco’, y Dyn Gwallgof. Rheolwr Sevilla, Jorge Sampaoli, wedyn yn cael ei gysylltu â’r swydd hefyd. Ac wedyn un arall, ac un arall, ac un arall. Roedd yr ochenaid o ryddhad o du’r Liberty yn groch wedyn pan ddaeth cadarnhad fod y tîm, am y tro o leiaf, yn nwylo Alan Curtis – un sydd wedi ennill statws eilun yn y ddinas dros ddegawdau lu. Ond ateb dros dro yn unig fyddai troi at y gŵr y mae’n well ganddo fod yn rhif dau nag yn arwain y sioe.

Ynghanol hyn oll, fe ddaeth cadarnhad fod Guidolin ar ei ffordd i’r Liberty fel rhyw Feseia fyddai’n gallu gwyrdroi’r sefyllfa ar unwaith – ac yn ôl â Curtis i’r cysgodion unwaith eto. Roedd modd cydymdeimlo â Guidolin i ryw raddau. Roedd ganddo fe chwe mis i’w brofi ei hun. Y teimlad yn gyffredinol yw ei fod e wedi llwyddo i wneud hynny, ond rhaid iddo fe fynd gam ymhellach y tymor hwn. Ei dîm e fydd ar y cae y tymor hwn, ei staff e fydd ar yr ymylon, a’i syniadau fe fydd, gobeithio, yn arwain at dymor tipyn mwy llewyrchus yn 2016-17.

Roedd y sioc o golli ei gapten Ashley Williams i Everton mor agos at ddechrau’r tymor yn dal i’w weld ar ei wyneb ddydd Iau, wrth iddo wynebu’r wasg ar drothwy’r gêm gyntaf yn Burnley. Mae Abertawe’n sicr wedi dioddef yn sgil llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 dros yr haf. Fe ddioddefon nhw ergyd ddwbl o golli’r cyfle i arwyddo Joe Allen – ond stori arall yw honno.

Does ond gobeithio na fydd y golled ar ôl Williams i’w theimlo o hyd ar gae Turf Moor am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn. Bydd ei absenoldeb yn sicr yn ergyd i amddiffyn yr Elyrch. Ond fel mae Guidolin ei hun wedi bod yn awyddus i’w ddangos, mae mwy o ddyfnder yn y garfan eleni na’r llynedd. Fe ddaeth Martin van Hoorn i mewn o Ajax dros yr haf, ac fe allai alw ar Jordi Amat i lenwi’r bwlch am y tro – er, dw i ddim yn ei weld yn olynydd parhaol i Williams, fel wnes i awgrymu’r adeg yma’r llynedd. Mae ymadawiad ‘Ash’ yn golygu hefyd y bydd mwy o bwysau ar ei bartner Federico Fernandez yng nghanol yr amddiffyn. Kyle Bartley ddaeth i’r adwy ddechrau’r tymor diwethaf, ond mae hwnnw bellach ar fenthyg yn Leeds.

Os yw dyfodol yr amddiffyn – yn y tymor byr, beth bynnag – yn sigledig, yna mae’r dyfodol ymhlith yr ymosod yn edrych dipyn yn fwy cadarn erbyn hyn. Mae’r Elyrch wedi’i chael yn anodd ers 18 mis i ddod o hyd i ymosodwr fyddai’n gallu llenwi esgidiau Wilfried Bony. Wnaeth Bafetimbi Gomis ddim tanio tan yn gymharol hwyr, mae Alberto Paloschi wedi mynd a dod o fewn dim o dro ac mae Gylfi Sigurdsson ar ei ben ei hun yn y rheng flaen wedi dangos mai chwaraewr canol cae ymosodol yw e, yn hytrach na blaenwr sy’n gallu chwarae ar ei ben ei hun. Ac mae colli Andre Ayew yn golygu bod yr Elyrch wedi colli rhywun sy’n gallu cyfrannu at y cyfanswm goliau.

Mae Guidolin, o’r diwedd, wedi awgrymu y gallai ddewis dau ymosodwr ar ffurf 4-4-2 neu 3-5-2. Dydy un blaenwr ar ei ben ei hun – boed Bony neu Gomis neu Paloschi – ddim wedi dwyn ffrwyth. Ond gydag arwyddo Fernando Llorente a Borja Baston, fe ddaeth gwawr newydd ar y Liberty. Mae Guidolin yn cyfaddef nad yw’n gwybod fawr ddim am Baston, ond mae’r ffaith e fod e wedi costio £15.5 miliwn – sy’n record i’r Elyrch – yn awgrymu bod gan y clwb dipyn o feddwl o gyn-ymosodwr Atletico Madrid. Mae’r ffaith fod Abertawe’n denu chwaraewyr o glybiau mor nodedig yn adrodd cyfrolau hefyd.

Pe baech chi’n gwrando ar y gwybodusion dros y dyddiau diwethaf, fe daerech chi ei bod hi ar ben ar Abertawe. Mae’r rhan fwyaf yn darogan tymor diflas i’r Cymry, a rhai – fel Jamie Carragher – hyd yn oed yn mynd mor bell ag awgrymu cwymp o’r Uwch Gynghrair. Ond mae cyfle bellach yn yr ‘Oes Ôl-Ash’ i brofi y gall y clwb symud ymlaen – fe wnaethpwyd hynny ar ôl cyfnod Monk wrth y llyw, ac mae’n bosib gwneud hynny eto. Mae Guidolin wedi cael amser i ail-adeiladu’r garfan – mae’r gwaith hwnnw’n parhau. Mae’n bryd nawr i’r chwaraewyr dorchi’u llewys.

FIDEO: Cyfarwyddwr yn edrych ymlaen at sgrinio ffilm mewn gŵyl

Cyhoeddwyd Mai 10, 2016 gan Y Sgrîn.


Cengiz Dervis a Samira Mohamed Ali yn y ffilm 'By Any Name'
Mae prif weithredwr cwmni ffilm annibynnol yn Abertawe wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “llawn cyffro” ar drothwy dangosiad o’r ffilm ‘By Any Name’ yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin nos Fawrth.

Bydd y ffilm, sy’n addasiad o nofel yr awdures leol Katherine John, yn cael ei dangos yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli ar ail noson yr ŵyl.

Mae’r nofel eisoes wedi ymddangos ar frig rhestr y gwerthwyr gorau mewn pump o wledydd.

Euros Jones-Evans, prif weithredwr cwmni Tanabi, yw cyfarwyddwr y ffilm a gafodd ei ffilmio yn Abertawe a’r cyffiniau.

Mae’r ffilm bellach yn cael ei marchnata gan gwmni Marie Adler yn Hollywood.

Y ffilm

Mae ‘By Any Name’ yn serennu’r actores o Gastell-nedd Samira Mohamed Ali, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad benywaidd Dr Elizabeth Santer.

Mae Samira eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth am ei pherfformiad, gan ddod i’r brig yng nghategori’r Actores Orau yng ngwobrau Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru ym mis Chwefror.

Cengiz Dervis, sy’n chwarae rhan y prif gymeriad gwrywaidd John West.

Enillodd y ffilm wobr y Ffilm Hir Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru hefyd.

Caiff John West ei ddarganfod yn gwaedu wrth iddo redeg drwy Fannau Brycheiniog, ac mae’n ymddangos ei fod yn ffoi rhag yr heddlu a’r lluoedd arfog.

Ond ai terfysgwr go iawn ydyw, neu a yw’n ddarn mewn gêm o wyddbwyll gwleidyddol?

Prosiect annibynnol

Cafodd ‘By Any Name’ ei chreu fel rhan o brosiect annibynnol gan ddefnyddio lleoliadau yn Abertawe a Bannau Brycheiniog.

Cafodd ei ffilmio dros gyfnod o 16 niwrnod, ac roedd gan y gymuned leol ran bwysig i’w chwarae yn y broses ffilmio.

Dywedodd Euros Jones-Evans: ”Be o’n i’n trio’i greu oedd prosiect, er fod o’n prosiect bach ac yn annibynnol, heb gymorth gan neb arall. Popeth dan ni wedi gwneud, ‘dan ni wedi’i wneud o’n hunain.

“Mae’n bwysig iawn rhoi brand at ei gilydd sy’n gallu cael ei weld ar y llwyfan rhyngwladol.

“O ran y sgrinio, byd tua 150-200 o bobol yn dod a gobeithio bo nhw’n gallu mwynhau’r ffilm. Bydd ‘na rai pethau hwyrach na fyddan nhw’n rhy hoff ohonyn nhw ond ar y cyfan, mae’n ffilm y bydd pobol yn ei mwynhau.”

Y dyfodol

Mae gan gwmni Tanabi bump o brosiectau y byddan nhw’n gweithio arnyn nhw yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys prosiect dwyieithog tebyg i ‘Y Gwyll/Hinterland’, a phrosiect Cymraeg.

Ychwanegodd Euros Jones-Evans: “Mae’r pelen eira ‘di dechra’. Mae gynnon ni bump ffilm arall di trefnu dros y ddwy flynedd nesa.

“Bydd y rheiny eto’n cael eu ffilmio yn yr ardal yma o gwmpas Abertawe – bydd ‘na un falle yng ngogledd Cymru hefyd – so o ran y ‘slate’ o ffilmiau, dan ni’n gweld y momentwm yn dechre a ‘dan ni’n delio dipyn efo India ar y funud i ddenu prosiectau.

“Aethon ni draw â DVDs miwsig ryw ddwy neu dair blynedd yn ôl i ffilm eitha’ mawr yn Bollywood. Mae Samira Mohamed Ali yn delio efo’r ochr yna.

“Dan ni’n edrych i ddod â’r prosiect cyntaf hwyrach ym mis Medi neu Hydref, a dod â ffilm eitha’ mawr yma.

“Dan ni’n keen iawn i ddatblygu sgiliau ac i’r tîm i droi pethau rownd yn eitha’ sydyn. Dan ni’n teimlo bo ni’n gallu bod yn wahanol i bobol eraill.”

Bydd ‘By Any Name’, sydd wedi’i henwebu am wobr yng nghategori’r Ffilm Nodwedd Orau, yn cael ei dangos am 7.30pm nos Fawrth, ar ôl dangosiad o ffilm arall gan Tanabi, ‘Locked Up’ (6pm) sydd hefyd yn serennu Samira Mohamed Ali ac sydd wedi’i henwebu ar gyfer gwobr yng nghategori’r Ffilm Fer Orau.

Gallwch ddarllen rhagor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon. 

Stori: Alun Rhys Chivers

Ysgrifennydd Cymru’n canmol cynllun criced ar lawr gwlad


Roedd Alun Cairns a Jane Hutt yng Nghlwb Criced Y Fro yng Nghorntwn ddydd Sadwrn
Roedd Ysgrifennydd Cymru ac Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns yng Nghlwb Criced Y Fro yng Nghorntwn ddydd Sadwrn ar gyfer lansiad cynllun criced ar lawr gwlad.

Menter Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yw Cricket Force, a’i nod yw gwella cyfleusterau ac adnoddau clybiau criced lleol drwy Gymru a Lloegr.

Cafodd Clwb Criced Y Fro ei sefydlu yn 2004 wrth i dri thîm lleol uno, sef Southerndown, Ewenni a Chorntwn, a hynny am fod diffyg chwaraewyr yn yr ardal.

Mae’r clwb bellach yn chwarae yn Adran 3 Cynghrair Morgannwg a Sir Fynwy, ac mae ganddyn nhw ddau dîm i oedolion a phedwar tîm iau.

Cafodd adnoddau’r clwb eu datblygu fel bod modd iddyn nhw gynnal gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Fel rhan o gynllun Cricket Force, fe fu aelodau’r clwb a gwirfoddolwyr yn paratoi’r cae a’r cyfleusterau ar gyfer y tymor newydd, a chafodd cynllun 2020 y clwb ei lansio gerbron Ysgrifennydd Cymru a’r Aelod Seneddol lleol, Alun Cairns a’r Gweinidog Cyllid ac Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt.

Ymhlith y tasgau a gafodd eu cyflawni roedd paentio’r pafiliwn, torri’r glaswellt, ac adeiladu a phaentio ffensys a seddau.

Cafodd y clwb gefnogaeth Clwb Criced Morgannwg, Criced Cymru, Tesco a nifer o gwmnïau adeiladu a garddio lleol.

Y Cynllun 

Diben Cynllun 2020 Clwb Criced Y Fro yw creu canolfan ragoriaeth yng Nghorntwn, a chael cydnabyddiaeth fel lleoliad chwaraeon o’r radd flaenaf at ddefnydd y gymuned leol.

Cynllun pum mlynedd yw hwn, ac mae’r clwb eisoes wedi dechrau gweithio ar eu hamcanion ar gyfer y flwyddyn gyntaf, sef codi cyfleuster ymarfer, prynu cawell fatio, trwsio sgriniau a’r blwch sgorio a phrynu gorchudd newydd.

Mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys codi cyfleuster ymarfer dan do.

Cynllun ‘hanfodol’

Ar ddiwrnod lansio’r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod Cricket Force yn “hanfodol” ar gyfer datblygiad criced ar lawr gwlad yng Nghymru.

Roedd dros 100 o glybiau o Gymru wedi cofrestru ar gyfer y diwrnod.

“Cafodd Cricket Force ei sefydlu gan yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) ryw bymtheg mlynedd yn ôl a dw i’n credu ei bod yn un o’r mentrau pwysicaf gafodd ei sefydlu ganddyn nhw erioed.

“Pan feddyliwch chi fod mwy na 2,000 o glybiau wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad eleni, ac oddeutu 100 ohonyn nhw yng Nghymru, mae’n fenter wych er mwyn sicrhau bod criced yn parhau’n fywiog ar lawr gwlad.

“Mae gweld cynifer o wirfoddolwyr, cynifer o’r gymuned leol yn cymryd rhan yn eu clwb criced cymunedol yn galonogol iawn.”

Clwb Criced Y Fro

Roedd Hugh Morris hefyd yn llawn canmoliaeth i Glwb Criced Y Fro a’u hymdrechion ar ddiwrnod Cricket Force.

Ychwanegodd: “Mae’n amlwg bod yna bobol angerddol ac uchelgeisiol ynghlwm wrth Glwb Criced Y Fro.

“Dw i’n eu hedmygu nhw’n fawr. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych. Mae ganddyn nhw weledigaeth glir iawn o ran lle maen nhw am i’r clwb fynd a sut maen nhw am wneud hynny.

“O ran y gymuned leol, galla i sicrhau iddyn nhw fod ganddyn nhw glwb criced bywiog iawn yn eu cymuned a byddwn i’n eu hannog nhw i ymuno ac i fod yn rhan ohono fe.”

Stori: Alun Rhys Chivers

Penodi Robert Croft ac Alan Jones ‘yn rhan o weledigaeth Gymreig Morgannwg’

Cyhoeddwyd Ebrill 2, 2016 gan Criced.

Tagiau: Alan Jones, Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris


Fe fu newidiadau mawr yng Nghlwb Criced Morgannwg dros y gaeaf, gyda phenodi’r cyn-droellwr Robert Croft yn Brif Hyfforddwr, y cyn-wicedwr a Phrif Hyfforddwr Adrian Shaw yn is-hyfforddwr a’r cyn-Brif Hyfforddwr Alan Jones yn Llywydd y sir. Blwyddyn siomedig i Forgannwg oedd 2015 ond fel yr eglura’r Prif Weithredwr, Hugh Morris wrth ohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers, mae digon i fod yn obeithiol yn ei gylch yn 2016…

Hugh, mae penodi Robert Croft yn Brif Hyfforddwr ac ychwanegu Adrian Shaw at y tîm hyfforddi’n cryfhau’r ymdeimlad o Gymreictod yn y clwb, on’d yw e…

Mae hynny’n bwysig iawn. Mae ein gweledigaeth ar gyfer y clwb yn syml iawn, sef gwneud Cymru’n falch o’r hyn ry’n ni’n ei wneud ar y cae ac oddi ar y cae. Alla i ddim meddwl am ddau Gymro a dau gyn-gricedwr Morgannwg mwy balch na Robert Croft ac Adrian Shaw. Yn amlwg, Robert yw’r Prif Hyfforddwr. Mae’n swydd gyffrous iawn a heriol iawn. Ond mae ganddo fe’r nodweddion ar ei chyfer. Ac yntau’n gyn-chwaraewr Morgannwg, mae ganddo fe wybodaeth drylwyr am y gêm. Chwaraeodd e’n broffesiynol am oddeutu 23 o flynyddoedd. Chwaraeodd e ar y lefel uchaf felly mae e’n gwybod beth yw’r gofynion. Yn amlwg, dyw e ddim wedi cael llawer iawn o brofiad fel hyfforddwr ond fe gafodd e gryn brofiad eisoes fel is-hyfforddwr am sawl blwyddyn. Mae e wedi treulio peth amser gyda thîm criced Lloegr hefyd, a dw i’n credu bod ganddo fe weledigaeth glir o le mae e am i’r tîm fynd, a dw i’n credu y bydd y chwaraewyr yn ymateb i hynny.

O’r hyn welsoch chi hyd yn hyn, pwy sydd wedi creu argraff arnoch chi?

Mae ymroddiad y chwaraewyr yn gyffredinol wedi creu argraff arna’i, rhaid i fi ddweud. Bydd hynny’n cael ei brofi, yn ôl yr arfer, pan fyddwn ni’n dechrau chwarae. Mae yna awyrgylch fywiog dda o amgylch y tîm. Dw i o’r farn fod Jacques Rudolph [y capten] yn rhywun sy’n arwain drwy esiampl. Fe fydd eraill yn sefyll ochr yn ochr â fe ac eraill yn ei ddilyn e. Mae gyda ni grŵp da o chwaraewyr hŷn. Cafodd Michael Hogan aeaf rhyfeddol unwaith eto yn Awstralia. Roedd e ymhlith y tri uchaf o ran y nifer o wicedi gipiodd e yn y Sheffield Shield unwaith eto. Fe fydd Colin Ingram yn awyddus i adeiladu ar yr hyn a gyflawnodd e haf diwethaf. Ac mae’n wych cael croesawu nifer o wynebau newydd hefyd. Mae Craig Meschede yn ymuno â ni’n barhaol. Mae Nick Selman yn fatiwr agoriadol ifanc sydd â photensial sylweddol. Ac mae Timm van der Gugten yn fowliwr cyflym 25 oed. Yma, fe all e fowlio’n gyflym. Roedd hon yn adran yr oedden ni’n awyddus i’w chryfhau ac ry’n ni’n credu bod gan Timm y nodweddion i wneud hynny.

Fe all y chwaraewyr profiadol gynnig cymorth ychwanegol i’r to iau o gricedwyr o Gymru, wrth gwrs…

Yn sicr. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cynnal hunaniaeth Gymreig tîm Morgannwg. Does dim amheuaeth am hynny. Mae’n galonogol fod cynifer o chwaraewyr ifainc yn dod trwy ein system ni.  Fe welson ni dros y 12 mis diwethaf fod David Lloyd wedi chwarae cryn dipyn o griced i’r tîm cyntaf. Mae Andrew Salter eisoes wedi chwarae tipyn o gemau i’r tîm cyntaf. Mae Aneurin Donald yn un sydd â chryn dipyn o botensial. Ac mae Ruaidhri Smith yn gorffen astudio yn y brifysgol haf yma ac ry’n ni o’r farn fod ganddo yntau gryn dalent. Mae yna grŵp o lanciau 17 a 18 oed yn dod drwodd hefyd. Dw i’n credu bod ganddyn nhw ddyfodol disglair hefyd. Mae pump o’r chwaraewyr hynny yn nhîm rhanbarthol Gorllewin Cymru ac yn nhîm dan 17 yr ECB. Ry’n ni’n credu bod gyda ni gricedwyr ifainc da yn dod drwodd. Fe allai gymryd sawl blwyddyn i un neu ddau ohonyn nhw ymsefydlu o ystyried eu hoedran. Os oes yna fylchau yn ein carfan ar hyn o bryd sydd angen eu llenwi, yna fe fyddwn ni’n eu llenwi nhw.

Fe wnaethoch chi arwyddo enw mawr ar gyfer y T20, sef Shaun Tait wrth iddo ddychweld i Forgannwg am hanner y gystadleuaeth. Pa ddylanwad ydych chi’n gobeithio y bydd e’n ei gael?

Dylanwad sylweddol iawn, gobeithio. Mae e’n bowlio’n dda ar hyn o bryd. Fe ddychwelodd e i garfan T20 Awstralia ar ddechrau’r flwyddyn. Mae’n cael ei adnabod fel un o fowlwyr cyflyma’r byd. Fe welson ni’r llynedd pan chwaraeodd e dros Swydd Essex ei fod e wedi chwalu ein prif fatwyr ar ddau achlysur. Mae ganddo fe’r gallu i wneud hynny. Fe fydd e’n ychwanegu’r sglein sydd ei angen ar ein tîm ni. Mae e wir yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Forgannwg. Fe wnaeth e fwynhau ei gyfnod yng Nghymru yn 2010 pan chwaraeodd e droson ni’r tro diwethaf.

Beth yw’r diweddaraf am arwyddo chwaraewr tramor arall ar gyfer hanner cynta’r T20?

Ry’n ni’n weithgar o hyd wrth geisio dod o hyd i chwaraewr tramor arall ar gyfer y saith gêm gyntaf. Mae Shaun [Tait] ar gael ar gyfer yr ail set o saith gêm. Ar gyfer rhan gynta’r tymor, ry’n ni’n trafod telerau gyda chwaraewr arall ac yn gobeithio cau pen y mwdwl ar y trafodaethau hynny yn yr wythnosau i ddod, a chyhoeddi’n gynnar yn y tymor fod gyda ni chwaraewr newydd.

Ai batiwr neu fowliwr fydd y chwaraewr newydd hwnnw?

Dw i ddim am ddatgelu gormod! Ond fe alla i ddweud ei fod e’n rhywun ry’n ni’n teimlo sy’n ychwanegu gwerthu at ein tîm.

A’r ychwanegiad diweddaraf at y clwb, wrth gwrs, yw’r Llywydd newydd, Alan Jones…

Rwy wrth fy modd fod Alan wedi derbyn y gwahoddiad i ddod yn Llywydd y clwb. Fe fu ei ragflaenydd David Morgan yn y rôl am bedair blynedd. Fe wnaeth e’n wych. Mae David wedi cyflawni bron popeth sy’n bosib i weinyddwr yn y byd criced. Mae yna esgidiau mawr i’w llenwi, ac alla i ddim meddwl am unrhyw un gwell i lenwi’r esgidiau hynny nag Alan Jones. Fe yw’r batiwr gorau gafodd Morgannwg erioed. Ni fydd ei recordiau sydd heb gael eu torri fyth yn cael eu torri. Fydd neb yn mynd heibio 40,000 o rediadau i’r sir. Mae ei ymroddiad dros gyfnod mor hir fel chwaraewr, hyfforddwr a mentor i gynifer ohonon ni wedi bod yn sylweddol iawn. Mae cael dyn o statws Alan Jones yn Llywydd ar Glwb Criced Morgannwg yn wych i’r clwb, a dw i’n gwybod y bydd e’n gwneud gwaith gwych.

O feddwl am yr amryw gystadlaethau, beth yw eich gobeithion ar gyfer y tymor?

Adeiladu ar y cynnydd wnaethon ni y llynedd. Ro’n i’n credu ein bod ni wedi chwarae criced da yn ystod hanner cynta’r tymor. Ro’n i’n credu bod ein diffyg niferoedd ac adnaboddau’n amlwg yn ystod ail hanner y tymor. Roedd hi’n frwydr erbyn hynny ond roedd yn ddealladwy gan ein bod ni fwy neu lai’n defnyddio tri bowliwr cyflym, ac roedd yn anodd iawn arnyn nhw. Ro’n i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn arbennig o dda i chwarae am dymor cyfan. Daethon ni’n bedwerydd y llynedd [yn y Bencampwriaeth], sy’n un o’n safleoedd uchaf ni dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae angen i ni wella ar hynny. Ein huchelgais yn amlwg fydd ceisio cael dyrchafiad ond fe fydd yn dipyn o her. Dim ond un tîm fydd yn cael dyrchafiad eleni. Bydd rhaid i ni chwarae criced da i wneud hynny. Ac o ran criced gyda’r bêl wen, mae gyda ni garfan gytbwys dda ar gyfer y gemau 50 pelawd. Cawson ni ein cosbi dipyn y llynedd a wnaeth hynny ddim ein helpu ni wrth i ni geisio cymhwyso. Ond dw i’n credu y byddwn ni’n gystadleuol yn y fformat hwnnw a dw i’n gyffro i gyd am y T20. Mae hi wedi cael ei symud fel ei bod ychydig yn hwyrach yn yr haf ac mae’r rhan fwyaf o’n gemau ym mis Mehefin a Gorffennaf, sy’n dda iawn i ni dw i’n meddwl. Gobeithio y bydd hi’n braf ac y bydd criced da yn y Swalec SSE.

Ac mae’r clwb mewn sefyllfa gryfach yn ariannol bellach hefyd…

Un peth ry’n ni wedi canolbwyntio’n fawr arno dros y ddwy flynedd diwethaf yw ein sefyllfa ariannol. Diolch i’r trafodaethau gawson ni gyda’n credydwyr, cafodd 70% o’n dyledion eu dileu. Ry’n ni’n teimlo bod y ddyled sy’n weddill yn llawer iawn haws i’w rheoli nag o’r blaen. Byddai’n braf cael y Lludw yng Nghaerdydd bob blwyddyn ond dy’n ni ddim yn mynd i wneud hynny. Yn ariannol, fe wnaethon ni’n dda drwy’r Lludw y llynedd. Gweithiodd y staff yn eithriadol o galed, gan gyflwyno tipyn o sioe ac fe gawson ni ein gwobrwyo’n ariannol. Dim ond dau ddiwrnod o griced rhyngwladol sydd gyda ni eleni, felly bydd ein hincwm yn llai o lawer, felly bydd angen i ni gadw trefn ar ein cyllideb.

Diolch am y sgwrs, a phob dymuniad da ar gyfer y tymor i ddod.

Cyfres y Lludw: Diweddglo cyffrous ar y gorwel

Cyhoeddwyd Gorffennaf 11, 2015 gan Alun Rhys Chivers.

Tagiau: Cyfres y Lludw


Peth digon anarferol yw sôn am ddiweddglo cyffrous ar bedwerydd diwrnod prawf criced sydd i fod i bara pum niwrnod, ond dyna’r sefyllfa yn y Swalec SSE yn y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw.

Gallai buddugoliaeth yng Nghaerdydd osod y seiliau ar gyfer gweddill y gyfres i’r naill dîm a’r llall, ond mae Awstralia’n gwybod fod rhaid iddyn nhw greu hanes er mwyn rhoi eu hunain ar y droed flaen.

Pe baen nhw’n llwyddo i sgorio’r 412 rhediad sydd eu hangen i ennill, fe fydden nhw’n torri’r record am y cyfanswm uchaf sydd erioed wedi cael ei gwrso yn hanes Cyfres y Lludw – a’r trydydd cyfanswm uchaf yn hanes gemau prawf. Byddai’n dipyn o gamp i guro ymdrechion Bradman a’i dîm i gyrraedd 404 yn Headingley yn 1948. Mae treigl amser yn golygu mai dau yn unig o’r tîm hwnnw sy’n dal ar dir y byw heddiw.

Er bod llygaid y byd yn anochel yn mynd i fod ar ymdrechion Awstralia dros y deuddydd nesaf, mae Lloegr dan bwysau hefyd gan fod rhaid iddyn nhw ennill y gyfres er mwyn adennill y Lludw – dydy cyfres gyfartal yn dda i ddim. Pwy feiddiodd ddweud fod criced yn gêm ddiflas?!

Os oedd Awstralia’n teimlo’r pwysau ddoe, mae’n sicr eu bod nhw’n teimlo’n well eu byd heddiw ar ôl clywed y digyffelyb Geoffrey Boycott yn dweud nad oes ganddyn nhw obaith caneri o gyrraedd y nod. Os oedd angen hwb ar Awstralia, dyna’i roi iddyn nhw mewn un frawddeg fach ffwrdd-â-hi.

Mae’r dasg sy’n wynebu Lloegr yn syml – cipio deg wiced. Mae Awstralia eisoes wedi awgrymu na fyddan nhw’n rhuthro i gyrraedd y nod. Wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw 180 o belawdau dros y deuddydd nesaf i sgorio’r rhediadau. Fel dywedodd y troellwr Nathan Lyon, does dim pwyntiau bonws am gyfradd sgorio gyflym. Ond rhaid dweud hefyd fod cipio wicedi cynnar yn hanfodol i Loegr – mae gan yr Awstraliaid ddawn am fod yn amyneddgar a gwasgu eu gwrthwynebwyr mewn brwydrau dros gyfnod hir o amser.

Co ni off!

Fawr o Gymraeg…

Cyhoeddwyd Gorffennaf 8, 2015 gan Alun Rhys Chivers.


Capten Awstralia, Michael Clarke (Llun: PA)
Does dim angen gradd mewn seicoleg i ddeall diben y dacteg fyd-enwog ar y maes chwarae sy’n cael ei alw’n ‘sledging’. Gweithred eiriol ymosodol yw hi sy’n gorfodi’ch gwrthwynebydd i golli ffocws. Mae’n cael ei chysylltu’n bennaf â’r byd criced, ac mae’n un o’r tactegau seicolegol hynaf sy’n cael ei defnyddio hyd heddiw.

Un o’r bowlwyr ffyrnicaf yn hanes criced yw cyn-fowliwr cyflym Awstralia, Dennis Lillee, sy’n mantesio ar y cyfle yn ei hunangofiant ‘Menace’ [Headline, 2003] i grisialu pwysigrwydd ochr seicolegol criced, yn enwedig i chwaraewyr ifainc:

“…There were two games going on out there, a mind game as well as a physical game of cricket, and you must never let anyone dominate you. The tough survive and the weak do not.”

Ar drothwy Cyfres y Lludw, mae Awstralia eisoes wedi awgrymu bod batiwr ifanc Lloegr a Swydd Durham, Ben Stokes yn debygol o gael ei dargedu am ei fod yn un o’r chwaraewyr mwyaf di-brofiad yn y garfan.

Ond mae Stokes yn barod am yr her, ac mae’n bosib y bydd ganddo fe ambell air i’w ddweud wrth y gwrthwynebwyr drachefn.

“Dw i’n bendant yn disgwyl ambell ffrae allan ar y cae,” meddai.

“Dw i ddim yn mynd i chwilio amdanyn nhw, a dw i ddim yn mynd allan o’m ffordd i achosi ffrae, ond os daw rhywun atoch chi ar y cae ym merw’r eiliad ac os yw’r adrenalin yn pwmpio, does neb yn y garfan hon yn mynd i encilio.

“Mae gyda ni i gyd ein ffyrdd o ymdrin ag e. Mae rhai o’r bois yn cerdded i ffwrdd heb fynd ynghlwm wrtho fe, ond fe fydda i’n edrych i mewn i’w llygaid nhw, fwy na thebyg, a dweud rhywbeth wrthyn nhw.”

Hiwmor a ffraethineb

Y nod i unrhyw ‘slejar’ gwerth ei halen yw gwneud sylw cofiadwy a ffraeth. Ond gall y dechneg fod yn ddi-hiwmor, gan ymylu ar fod yn ffiaidd ar adegau – does ond angen gofyn i fowliwr cyflym Lloegr, Jimmy Anderson. Cafodd Anderson addewid gan gapten Awstralia, Michael Clarke mewn cyfres flaenorol y byddai’r bowliwr cyflym Mitchell Johnson yn ceisio torri ei fraich. Mae Clarke wedi ymddiheuro erbyn hyn – am gael ei glywed ar y teledu ac am regi, yn hytrach nag am y bygythiad

Ac os y’ch chi’n credu bod Clarke a’i dîm wedi meddalu erbyn hyn, meddyliwch eto! Wrth i Gyfres y Lludw ddechrau yng Nghaerdydd ddydd Mercher (Gorffennaf 8), mae Awstralia’n dweud eu bod nhw’n barod i ddefnyddio’r dacteg unwaith eto.

Yr Awstraliaid hwythau, mae’n debyg, ddyfeisiodd y grefft, a’r gair ei hun yn deillio o rym geiriau, wrth fynd â ‘sledgehammer’ trosiadol at rywun. Mae hyd yn oed Lillee yntau wedi cyfaddef fod y weithred wedi mynd yn rhy bell yn yr oes sydd ohoni.

Bellach, mae’r weithred – a rhai o’r enghreifftiau enwocaf – yn rhan o chwedloniaeth criced. Dyma ddetholiad o’r sgyrsiau honedig gorau yn hanes criced – ‘honedig’ yw’r gair allweddol mewn rhai achosion, cofiwch!

1. Merv Hughes wrth Graham Gooch:

Roedd Gooch yn ei chael hi’n anodd taro’r bêl oddi ar y llain, ac roedd yr Awstraliad ffyrnig yn barod i gynnig gair o anogaeth iddo:

Would you like me to bowl a piano and see if you can play that.”

2. Merv Hughes a Javed Miandad.

Dydy’r grefft ddim yn unigryw i Gyfres y Lludw a’r berthynas danllyd rhwng Lloegr yn Awstralia yn unig, fel mae’r sgwrs ganlynol rhwng bowliwr Awstralia a batiwr Pacistan yn dangos.

Javed Miandad: “Merv you are a big, fat bus conductor.

Merv Hughes (ar ôl cipio wiced Javed): “Tickets please!”

3. Merv Hughes wrth Robin Smith.
Dyma drydydd ymddangosiad Hughes yn y rhestr, sy’n dyst i’r ffaith fod ganddo fe ddawn eiriol, yn ogystal â bod yn un o fowlwyr gorau’i gyfnod. Wrth i fatiwr Lloegr, Robin Smith gael trafferth taro’r bêl, pwy gynigiodd air o gyngor ond Hughes yntau:

“If you turn the bat over, you’ll get the instructions mate.”

4. Viv Richards a Greg Thomas.
Fe ddigwydd fy hoff enghraifft mewn gornest sirol rhwng Morgannwg a Gwlad yr Haf yn 1986 – a gallaf led-ddilysu’r stori gan fod Richards ei hun wedi cynnwys yr hanes yn ei hunangofiant. Roedd y Cymro Cymraeg Greg Thomas yn bowlio at Richards, un o fawrion India’r Gorllewin.

O weld rhwystredigaeth Richards wrth fethu taro’r bêl, aeth Thomas ato a cheisio disgrifio’r union bêl honno i’w wrthwynebydd:

“It’s red, round and weighs about five ounces, in case you were wondering.”

Gyda hynny, fe laniodd y bêl yn afon Taf, a Richards gafodd y gair olaf:

“Greg, you know what it looks like, now go and find it”.

Syrcas y wasg

Y cyfryngau, ar y cyfan, sy’n cael y bai am godi’r enghreifftiau yma bob tro fyddwn ni ar drothwy Cyfres y Lludw. Ond fe fyddai’r byd criced lawer tlotach – a diflas – hebddyn nhw.

Ymateb digon difater ddaeth gan yr Awstraliad Shaun Marsh, cyn-fatiwr agoriadol Morgannwg, yn ddiweddar pan ofynnodd y wasg iddo am ei farn am y dacteg.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig i ni fynd allan a dangos ein bod yn ymosodol a gosod ein stamp ar y gêm – dyna’r ffordd Awstralaidd.

“Mae’n Gyfres y Lludw a dw i’n siŵr y bydd ‘sledging’ gan y ddau dîm, ond dw i hefyd yn siŵr y bydd o fewn ffiniau ysbryd y gêm.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan gapten Awstralia, Michael Clarke, a ddywedodd y byddai’r ‘sgwrs’ ar y cae “o fewn ysbryd y gêm”.

Un sy’n benderfynol, meddai, o sicrhau nad yw ei dîm yn sarhau’r gwrthwynebwyr yn ormodol yw capten Lloegr, Alastair Cook, sy’n gobeithio ail-greu ysbryd y gyfres ddiweddar rhwng Lloegr a Seland Newydd.

Fawr o Gymraeg

Ond mae wicedwr Awstralia, Brad Haddin yn amau bwriad Lloegr. Ac mae’n ymddangos bod ganddo fe reswm da am hynny. Mae bowliwr cyflym Lloegr, Stuart Broad wedi cwestiynu doethineb yr ymwelwyr wrth geisio troi’r chwaraewr amryddawn Steve Smith yn fatiwr rhif tri. Ymgais ar droi ei law at ‘sledging’ ar drothwy’r gyfres, efallai?

Dywedodd Broad fod gweld Smith yn batio’n drydydd yn “fantais” i Loegr, a bod angen “techneg dynn iawn” i allu cyflawni’r rôl yn effeithiol.

Ychwanegodd Broad: “Mae hi i fyny i ni, fel bowlwyr agoriadol, i gael wiced gynnar a’i gael e’n batio gynnar yn erbyn y bêl newydd, gan nad yw e wedi cael fawr o lwyddiant yn Lloegr.

“Pan chwaraeodd e yn y gyfres yn 2013, fe gafodd e ganred ar gae’r Oval ar lain fflat.”

Mae ymateb Broad wedi synnu Haddin.

“Un wythnos, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am gael ‘sledging’, nawr maen nhw’n anelu’r ‘sledging’ at Steve yn barod.

“Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch y Lludw. Tan fod y belen gyntaf yn cael ei bowlio yng Nghaerdydd, fe fydd hyn yn cael ei drafod.”

Wrth ymateb i’r awgrym fod tîm Awstralia’n heneiddio, dywedodd Haddin: “Mae’n rhaid i ni ofyn i’r hyfforddwyr falu ein bwyd weithiau gan ein bod ni’n hen, ond fel’na mae.”

Os yw gwers Gymraeg (dadleuol) y Saeson yng ngŵyl Tafwyl y penwythnos diwethaf yn llwyddiannus, mae’n bosib y gallwn ni edrych ymlaen at ambell air o Gymraeg ar gae’r Swalec dros yr wythnos nesaf. Does ond gobeithio na chaiff yr Awstraliaid wybod am y Rhegiadur yn y cyfamser!

Awstralia yng Nghymru

Cyhoeddwyd Gorffennaf 6, 2015 gan Alun Rhys Chivers.

Tagiau: Cyfres y Lludw


Awst 4, 2014. Dydd Llun Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Dim gêm gan Forgannwg, felly bant â fi i’r Maes yn Llanelli. Rhaglen swyddogol y Brifwyl yn disodli’r Cricketers’ Who’s Who yn fy llaw, a chriced yn cael ei symud i gefn fy meddwl… am rywfaint o leiaf! Wrth ddrws y pafiliwn, digwyddais weld un o’m darlithwyr o’m dyddiau coleg – un yr oeddwn fwy na thebyg wedi cael mwy o sgyrsiau ag e am griced nag yr oeddwn wedi’u cael am lenyddiaeth Gymraeg! “Hanner can mlynedd i heddiw,” meddai, “ro’n i yn Sain Helen yn gwylio Morgannwg yn curo Awstralia.” Pe bai Morgannwg wedi bod yn herio’r Awstraliaid yn ystod wythnos gyntaf mis Awst y llynedd, y pafiliwn criced – nid y pafiliwn pinc – fyddai fy newis innau hefyd.

Yn 1964, roedd sylw’r rhai a ddewisodd fynd i’r Eisteddfod wedi’i rannu rhwng y Brifwyl ym Mharc Singleton a’r criced dafliad carreg i ffwrdd yn Sain Helen. Cymaint oedd y cyffro nes bod setiau teledu o amgylch y Maes er mwyn i Eisteddfodwyr fwynhau’r gêm yn ogystal â’r arlwy arferol o gerdd a chân. Daeth y ddau fyd at ei gilydd pan oedd toriad yn y gêm ar y Saboth. Cafodd y ddau dîm eu cyflwyno i’r gynulleidfa yn y pafiliwn ar noswyl ail ddiwrnod y gêm.

Byddai cael gwylio gornest o’r fath yn cyffroi’r cefnogwr ynof fi; cyflawni uchelgais fyddai cael gohebu arni. A’m dychymyg wedi tanio, ystyriais sut y byddwn i, pe bawn i’n gohebu’r diwrnod hwnnw, wedi disgrifio buddugoliaeth hanesyddol Morgannwg yn 1964.

Pa mor wahanol fyddai’r profiad o ohebu yn Gymraeg ar ornest ddau ddegawd cyn i fi gael fy ngeni, tybed? Doedd y rhyngrwyd ddim yn bod bryd hynny, heb sôn am wefan www.golwg360.cymru na’i hadran griced. Dim Twitter, chwaith, i gyflymu’r broses o ledaenu newyddion.

Y wasg yng Nghymru

Roedd Cymru 1964 yn wahanol iawn – yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol – i Gymru hanner canrif yn ddiweddarach. Dyna flwyddyn penodi Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru a sefydlu BBC Cymru. Yn ddiddorol, honno hefyd oedd y flwyddyn pan safodd cyn-gapten Lloegr, Ted Dexter, yn ymgeisydd Ceidwadol dros dde-ddwyrain Caerdydd yn erbyn Jim Callaghan yn yr etholiad cyffredinol. Sbardunwyd Dexter i droi at wleidyddiaeth yn dilyn siom Lloegr yng Nghyfres y Lludw y flwyddyn honno.

Roedd y wasg yn 1964 yn sicr yn wahanol yn ei hagwedd at chwaraeon. Mor gynnar â 1926, fe dynnodd y llenor a sylfaenydd Plaid Cymru, Saunders Lewis, sylw at y gwahaniaethau rhwng cyhoeddiadau Cymru a Lloegr. Roedd papurau Lloegr wedi rhoi cryn sylw i’r “ornest cricket [sic] rhwng Lloegr ac Awstralia” ym mis Awst 1926, ond “fe lenwir y papurau Cymraeg y mis hwn gan nifer o feirniadaethau hir a helaeth a manwl ar ni wn i ba sawl cystadleuaeth eisteddfod mewn barddoniaeth a rhyddiaith a chanu a chyfansoddi”.

Roedd newyddiaduraeth chwaraeon wedi dechrau datblygu yn Saesneg cyn dechrau’r ugeinfed ganrif. Ond, gan fod y wasg Gymraeg wedi’i gwrieddio yn y Gymraeg ac Anghydffurfiaeth – dwy o brif beuoedd yr hunaniaeth Gymraeg – fe deimlai’r angen i amddiffyn ei darllenwyr rhag dylanwadau estron, yn enwedig pan fyddai pau newydd yn ymddangos, megis chwaraeon.

Cyn y 1960au, roedd papurau Cymraeg wedi dechrau rhoi sylw i chwaraeon, gydag Eic Davies ac eraill yn defnyddio termau a fathwyd yn wreiddiol ar gyfer y radio yn yr 1930au. Ond rygbi a phêl-droed, i raddau llai, ac nid criced, a gâi’r sylw ar y cyfan. Prin iawn oedd y termau Cymraeg safonol a fyddai ar gael ar gof a chadw i’r gohebydd criced yn 1964. Câi termau llafar eu defnyddio, ond prin oedd y termau ysgrifenedig.

Roedd rhai termau yn y gyfrol chwaraeon ffeithiol gyntaf un yn y Gymraeg, ‘Crysau Cochion’ (gol. Howard Lloyd, 1958), a nifer hefyd, er yn dafodieithol, yn y gyfrol o straeon byrion ‘Cap Wil Tomos a Storïau Eraill’ gan Islwyn Williams rai blynyddoedd ynghynt yn 1946.

Cysoni termau chwaraeon

Ni ddaeth y gyfrol ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’, llyfr poced defnyddiol o dermau chwaraeon, tan 1965. Er ei fod yn gyfyng, ymgais oedd hwn i gywain yr holl dermau chwaraeon cyfoes rhwng dau glawr. Ond doedd dim cysondeb o gymharu â’r termau achlysurol mewn geiriaduron blaenorol. Dyma rai enghreifftiau:

‘Batting crease’

Yn ôl y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’, ‘cris batio’ oedd yn cael ei ddefnyddio, er mai ‘llinell fato’ oedd y term yn y Geiriadur Mawr yn 1958.

‘To declare’

Nid tan fersiwn 1968 y cafwyd y term ‘cau batiad’ yn y Geiriadur Mawr ar gyfer ‘to declare’ – ‘declario’ a geid yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’.

Diffyg termau

Roedd rhai termau yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ nad oedd geiriau Cymraeg ar eu cyfer o gwbl, er enghraifft ‘full toss’. Enghraifft arall o fwlch yn y ddarpariaeth oedd y ffaith mai’r term ‘sbin’ oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y dull o fowlio a doedd dim sôn bryd hynny am y ‘troellwr’.

Termau’n amrywio

‘Ceidwad-wiced’ a ymddangosai yn y Geiriadur Mawr yn 1958 ar gyfer ‘wicket-keeper’. Erbyn 1965, ‘wicedwr’ oedd y term yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ ac fe gafodd hwnnw’i fabwysiadu gan y Geiriadur Mawr yn fersiwn 1968.

Un o’r termau a amrywiai fwyaf oedd ‘umpire’. ‘Canolwr’, ‘rheolwr’ a ‘dyfarnwr’ yw’r tri therm yn y Geiriadur Mawr yn 1958, er mai ‘canolwr’ neu ‘dyn canol’ yn unig oedd yn y Geiriadur Newydd yn 1953. Erbyn i’r ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ ymddangos yn 1965, ‘dyfarnwr’ yn unig a geid, a hwn yw’r term a oroesodd hyd heddiw, wrth gwrs.

Y fuddugoliaeth trwy lygaid y papurau

O gofio hyn oll, es i ati i bori trwy’r archifau i ddod o hyd i hynny o adroddiadau a allwn am lwyddiant Morgannwg ym mis Awst 1964. O ran y Gymraeg, canolbwyntiais ar ddau gyhoeddiad amlwg, Y Cymro a’r Faner. Siom oedd darganfod nad oedd yr un o’r papurau Cymraeg wedi rhoi yr un gair o sylw i’r ornest – dim rhagflas, dim adroddiad, dim un ystadegyn. Fe ganolbwyntiai’r ddau ar Eisteddfod Genedlaethol Abertawe’n bennaf – ychydig iawn o newid a fu yn agwedd y papurau ers sylwadau Saunders Lewis yn 1926.

Nid tan i fi droi at y papurau dyddiol Saesneg eu hiaith yng Nghymru y ces i flas go iawn o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 1964.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod, paentiodd Ron Griffiths, gohebydd criced y South Wales Evening Post, ddarlun o’r hyn a ddigwyddai ar y cae mewn amryw erthyglau – ‘Crash Go The Wickets Again’ (Awst 3, tudalen 8), ‘Seesaw Tilts Back to Welshmen’ (Awst 4, tudalen 16) ac yn olaf, ‘Truly, their finest hour’ (Awst 5, tudalen 8), sef darlun o’r dathliadau wrth i Forgannwg gipio’r fuddugoliaeth.

Darlun digon tebyg sydd gan JGB Thomas yn y Western Mail dros gyfnod o dridiau hefyd. Cawn flas o’r chwarae mewn amryw o erthyglau, megis ‘Aussies will fight to keep record’ (Awst 3, tudalen 14) a ‘Caught on a Turner’ (Awst 3, tudalen 14). Ar Awst 3, fe ddisgrifiodd y “tension as all-embracing as the final moments of a rugby international”, a gwelwn ar unwaith y pwys cenedlaethol oedd ar griced. Ar Awst 4, cawn ddisgrifiad arall sy’n gosod y fuddugoliaeth arfaethedig yng nghategori digwyddiadau cenedlaethol pwysig fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe ddywed, “If Shepherd and Pressdee can bowl Glamorgan to victory, then I am sure the good folk of Swansea will attempt to borrow the Crown and the Chair from the neighbouring National Eisteddfod pavilion to honour them with pride”. Drannoeth y fuddugoliaeth, dywedodd Phil Treseder yn ei bennawd, ‘Welshmen were just like Tigers’, wrth i JBG Thomas ychwanegu’r erthygl ‘Shepherd and Pressdee make a dream come true’. Yn honno, ceir ychydig eiriau o Gymraeg, wrth i’r is-bennawd ddatgan ‘Ymlaen Morgannwg – this was your finest cricketing hour’.

O am gael neidio i mewn i’r tardis a chael gohebu yn Gymraeg ar griced yn ystod yr wythnos honno yn 1964 – ond ganddefnyddio’r eirfa a’r dechnoleg sydd ar gael i ni heddiw. Pe cawn i’r fraint o ohebu ar fuddugoliaeth Morgannwg yn 1964, ond gan ddefnyddio adnoddau cyfoes, dyma flas o’r hyn a ddywedwn:

Buddugoliaeth hanesyddol i Forgannwg

Enillodd Morgannwg y dafl a phenderfynu batio’n gyntaf, a’i chael hi’n anodd ar lain sy’n helpu’r troellwyr yn draddodiadol. Llithrodd Morgannwg i 156-8 cyn i Don Shepherd gamu i’r llain a tharo 24 wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 197.

Ossie Wheatle a Tony Cordle a agorodd y bowlio i Forgannwg gan roi pwysau ar y batwyr agoriadol o’r cychwyn cyntaf. Wrth i’r troellwyr Shepherd a Jim Pressdee ddisodli’r bowlwyr cyflym, buan yr oedd yr Awstraliaid yn 21-5 ac yna’n 39-6, y naill fowliwr wedi cipio dwy wiced a’r llall wedi cipio pedair.

Daeth ychydig o achubiaeth i’r ymwelwyr wrth i Tom Veivers daro hanner canred, gan gynnwys chwech chwech, ond cafodd Awstralia eu bowlio allan am 101, a Morgannwg wedi sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 96. Gorffennodd Shepherd y batiad gyda ffigurau bowlio o 4-22, tra bod Pressdee wedi cipio 6-58.

Cyfanswm o 172 a gafodd Morgannwg yn eu hail fatiad, gan osod nod o 269 i’r ymwelwyr i ennill.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd yr Awstraliaid wedi cyrraedd 75-1, wedi iddyn nhw golli wiced eu capten Bobby Simpson, a oedd wedi’i ddal gan Peter Walker oddi ar fowlio Shepherd am 32. Cyn pen dim, roedd Awstralia’n 92-4 wrth i’r troellwyr fanteisio ar y tywydd a’r llain unwaith eto. Gobaith olaf yr ymwelwyr oedd Bill Lawry ac fe darodd yn ôl wrth aros wrth y llain am nifer o oriau, wedi’i gefnogi gan Veivers. Ond buan y collodd hwnnw ei wiced wrth fatio mewn ffordd ymosodol, wedi’i fowlio gan Pressdee wrth i’r cyfanswm gyrraedd 169.

Wedi pump awr o fatio a 64 o rediadau wedi’u hychwanegu at y cyfanswm, daeth batiad Lawry i ben, y batiwr llaw chwith yn taro pelen lac i ddwylo Alan Rees oedd yn maesu yn safle’r canol-wiced. Roedd angen 62 o rediadau ar yr ymwelwyr o hyd ac roedd eu gobeithion o sicrhau’r fuddugoliaeth yn dechrau pylu.

Cipiwyd y pedair wiced olaf am 25 o rediadau wrth i Shepherd a Pressdee gipio dwy wiced yr un. Dechreuodd y dathliadau go iawn yn seiniau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedi i’r batiwr olaf gael ei ddal gan y wicedwr Eifion Jones oddi ar fowlio Pressdee, a Morgannwg yn fuddugol o 37 o rediadau.

Ar ddiwedd yr ornest, mae’n siŵr yr anelwn am y pafiliwn i chwilio am Alan neu Eifion Jones i gael recordio clip byr i’w gyhoeddi ar y We.

(Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ym mlwyddlyfr Clwb Criced Morgannwg yn 2015)

Salman Butt? Dim diolch

Cyhoeddwyd Ebrill 17, 2015 gan Criced.

Tagiau: Criced, salman butt



Bydd criced ar ei hennill o beidio â chaniatáu i dwyllwr ddychwelyd, meddai Alun Rhys Chivers…

Ymateb ydw i yma i ddarn blog gan olygydd chwaraeon ITV, Steve Scott, sy’n dadlau y dylid croesawu cyn-gapten Pacistan, Salman Butt, yn ôl i’r byd criced yn dilyn gwaharddiad am drefnu canlyniadau gemau.

Dyma ychydig o gyd-destun cyn i fi fynd dim pellach.

Roedd Butt yn un o dri o gricedwyr Pacistan – ynghyd â Mohammad Aamir a Mohammad Asif – a gafodd eu carcharu yn 2011 yn dilyn ymchwiliad gan y News of the World.

Roedden nhw’n euog o drefnu canlyniadau gemau ar daith i Loegr yn 2010. Cafodd Butt ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar, gan gwblhau hanner ei ddedfryd yng ngharchar Caergaint cyn cael ei ryddhau. Cafodd Asif ac Amir eu dedfrydu i gyfnodau byrrach dan glo.

O fewn y byd criced, cafodd Butt ei wahardd am ddeng mlynedd – a phump o’r rheini wedi’u gohirio. Cafodd Asif ei wahardd am saith mlynedd (dwy o’r rheini wedi’u gohirio), tra bod Amir wedi’i wahardd am bum mlynedd.

O blith y tri, Amir yw’r unig un yr oedd ei waharddiad wedi’i leihau, a hynny wedi iddo gytuno i gydymffurfio ag ymchwiliad gan uned taclo twyll y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).

Amir oedd yr unig un o’r tri oedd wedi cyfaddef ei ran yn y sgandal ar unwaith. Daeth cyfaddefiadau Butt ac Asif ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Pan gafodd y tri eu carcharu, roedd Asif yn 28, Butt yn 27 ac Amir yn 19.

‘Prynedigaeth’

Y pwynt cyntaf a wna Scott yw bod Butt yn chwilio am ‘redemption’, nid ‘sympathy’. Gadewch i ni edrych ar dair ystyr bosib ‘redemption’ yn ôl y geiriadur. Yn y lle cyntaf:

-        “The action of saving or being saved from sin, error, or evil.”

Mae’r ystyr yma’n awgrymu bod rhyw ddrwg ar waith (fe ddown at hynny maes o law) a bod angen i’r sawl sy’n ildio i’r drwg gael ei achub.

Arhoswn yma gyda’r ddau ddiffiniad mwyaf elfennol, ac efallai’r rhai mwyaf eironig.

-        “The action of regaining or gaining possession of something in exchange for payment, or clearing a debt.”

-        “The action of buying one’s freedom.”

Y ‘possession’ yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, yw ei yrfa ryngwladol a’i statws fel un sy’n cynrychioli’i wlad ar y cae criced.

Y ‘payment’, wrth gwrs, oedd wedi’i arwain i gyflawni’r drosedd yn y lle cyntaf.

Pe bai Bwrdd Criced Pacistan yn rhoi eu sêl bendith i Butt ddychwelyd i’r garfan, byddai Butt yn ddyledus iddyn nhw. Dim ond trwy brofi ei hunan unwaith eto y byddai’r ddyled yn cael ei “chlirio”.

Ond dyma’r pwynt sylfaenol – dydy cysyniad prynedigaeth ddim yn bodoli yng nghrefydd y Mwslim.

Ceisio maddeuant yw’r nod, a sicrwydd na fydd y sawl sydd wedi pechu yn ailadrodd y weithred. Yn ôl Scott, fe ddaw maddeuant o ymadfer, sy’n cynnwys lledaenu’r neges fod trefnu canlyniadau’n demtasiwn y dylid ei hosgoi. Ie, ond maddeuant nid prynedigaeth.

Yn ôl Scott, “Butt was depicted as the enforcer and blamed for coercing young fast bowling talent Amir to enacting his money-making scheme”.

Mae Scott yn dweud hynny mewn modd sy’n ceisio amddiffyn Butt rhag y fath ddarlun ohono. Fe allwch ddehongli’r frawddeg mewn un o ddwy ffordd i gyd-fynd â’ch barn eich hunan.

Yn sicr fel capten, roedd gan Butt ddylanwad dros ei chwaraewyr, yn enwedig y rhai ifanc oedd yn awyddus i greu argraff ar eu cyd-chwaraewyr. Gyda’r dylanwad hwnnw, fed ddaw cyfrifoldeb. Roedd gweithredoedd Butt yn gyfystyr â cham-ddefnyddio’r cyfrifoldeb hwnnw.

‘Cydymdeimlad’

O ddweud mai ceisio ‘prynedigaeth’ ac nid ‘cydymdeimlad’ y mae’r cyn-gapten, fe aiff Scott ymlaen i awgrymu pam y dylen ni gydymdeimlo â Butt.

Roedd Butt, meddai Scott, yn euog o wneud “terrible choice”. Fe gostiodd y penderfyniad ofnadwy hwnnw’n ddrud iddo, meddai:

Today, former teammates and opponents are earning hundreds of thousands of pounds for a few weeks work in the Indian Premier League while Butt is scraping by and counting each day as he nears an unlikely return to cricket.”

Braint i’r lleiafrif yw cael chwarae mewn cystadlaethau ariannol llewyrchus fel yr IPL. Mae’r sawl sy’n chwarae’r gêm i’r safon uchaf o fewn y rheolau a’r moesau yn haeddu’r clod a’r bri – a’r arian o ran hynny.

Dydy rhywun sy’n diystyru’r rheolau er mwyn buddiant personol ddim yn haeddu llewyrch.

Dywed Scott fod Butt yn “llawn edifeirwch”, ond ei fod yn gyndyn iawn o fynd i fanylder am yr hyn ddigwyddodd yn 2010. Os felly, sut allwn fod yn sicr ei fod yn “llawn edifeirwch”?

Y cyfan mae Butt wedi gwneud hyd yn hyn yw dweud y pethau cywir er mwyn adennill ei le yn y tîm cenedlaethol. Un peth o blaid Butt yw ei fod, serch hynny, wedi cynnig ymddiheuriad i’w genedl am yr embaras a achosodd i’w deulu a’i ffrindiau.

Mazher Mahmood – y ‘Fake Sheikh’

Whatever happened, that should not go on in the future generations and what we need to tell them is avoid shortcuts in life and if you get approached by people who provoke you in to getting into something that is not right.

– EX-PAKISTAN CAPTAIN SALMAN BUTT

Mae Scott yn tynnu sylw yma at y defnydd o’r gair ‘provoke’. Y ‘prociwr’ y cyfeiria Butt ato uchod, ym marn Scott, yw Mazhar Mahmood.

Newyddiadurwr o’r News of the World oedd Mahmood ar y pryd, ac fe oedd wedi darganfod a datgelu’r twyll ariannol. Mae Scott yn awgrymu fod Butt rywsut wedi cael ei dwyllo gan Mahmood – ond dw i ddim yn derbyn hynny.

Os oedd unrhyw un yn euog o dwyllo Butt, yna ei asiant, Mazher Majeed oedd hwnnw. Majeed oedd wedi trefnu’r cyfan, ac fe gafwyd yntau hefyd yn euog a’i garcharu ar ddiwedd yr achos llys.

Roedd erlyn y tri chricedwr yn ddibynnol ar dystiolaeth y newyddiadurwr Mahmood. Bellach, fe wyddwn fod Mahmood wedi’i amau o ddweud celwydd yn y llys yn ystod achos arall yn ymwneud â’r gantores Tulisa Contostavlos. Yn naturiol, mae amheuon bellach ynghylch ei dystiolaeth yn achos y tri chricedwr.

Dywed Scott: “A different version of events may emerge at a later date and may, or may not, paint Butt in a better light. The appeals to the Criminal Cases Review Commission are based on the Fake Sheikh’s credibility as a prosecution witness.”

Peth peryglus fyddai defnyddio’r un ffon fesur er mwyn penderfynu a ddylai cricedwr sydd wedi derbyn gwaharddiad gael dychwelyd i’r maes chwarae.

Awgryma Scott y gallai Butt fanteisio maes o law ar gwymp y ‘Fake Sheikh’. O ddarllen hynny mewn ffordd wahanol, fe ddown yn ôl at ‘waredigaeth’ – h.y. fe fydd Butt yn ceisio prynu ei ryddid unwaith ac am byth ac mae’n bosib y gallai dderbyn iawndal pe bai’n dod i hynny.

I gloi, mae Scott yn gofyn “Would cricket welcome him back?”. Mae’r awdur yntau’n cyfaddef fod ‘croesawu’ yn air rhy gryf. Ond mae’n dadlau ar yr un pryd mai ffolineb fyddai cau Butt allan er nad oes lle i’r rhai sy’n twyllo.

Daeth cadarnhad ddydd Iau fod Bwrdd Criced Pacistan yn paratoi i bledio achos Butt gyda’r Bwrdd Criced Rhyngwladol (ICC) – amser a ddengys a fydd y cais hwnnw’n llwyddo.

I fi, nid ffolineb fyddai cau Butt allan ond yn hytrach, synnwyr cyffredin. Mae’r ICC wedi cymryd camau breision i geisio glanhau criced. Mae digon o chwaraewyr sy’n barod i lenwi ei esgidiau.

Ym mhob gêm, mae enillydd a chollwr. Criced fyddai’n ennill o golli Butt.