Gruff Lewis (Llun o wefan tim Madison Genesis)
Mae ras feics gynta’r flwyddyn, y ‘Tour Down Under’, wedi dechrau yng ngwres Awstralia – ac mae beiciwr sy’n hanu o Geredigion yn gobeithio bod yn cynrychioli Cymru yn y wlad honno yn 2018.

Un o uchelgeisiau Gruffudd Lewis o Dal-y-bont yw cynrychioli Cymru yn Gemau’r Gymanwlad mis Ebrill nesa’ ar y Gold Coast.

Mae’r beiciwr a’r sylwebydd o Geredigion yn aelod o dîm Madison Genesis ac yn seiclo yn nhrydedd reng y byd seiclo. Yng ngwledydd Prydain ac yn Ewrop y mae’r tîm yn cystadlu, a bydd eu ras gynta’ dramor mis Mawrth yn y ‘Tour de Normandie’.

Hyfforddi 

Er mwyn cadw’n ffit dros y gaea’, mae Gruff Lewis wedi bod yn cystadlu mewn rasys traws-seiclo o Dal-y-bont i Gaernarfon, heb sn am ei amser ar y turbo trainer gartre’. Mae Gruff Lewis yn 29 oed, ac mae ei flynyddoedd gorau o’i flaen.

“Mae llawer i’w ddweud am brofiad, rŵan dw i’n meddwl fy mod mewn cyflwr da,” meddai wrth golwg360. “Rwy’n teimlo’n gryf, a dw i wedi bod yn rhoi llawer o oriau i mewn ar y beic. Mae’r rasys traws-seiclo yn galed ond yn fwynhad, ac yn ffordd dda o gadw fy ffitrwydd.

“Mi fydda’ i’n mynd dramor i gamp ymarfer ganol mis Chwefror, bydd y tîm yn ein dadansoddi ni, a bydd gwersyll ymarfer arall  ar y pumed o Fawrth, ar ôl lansiad swyddogol y tîm ar y pedwerydd. Bydd yr ail camp ymarfer yn rhoi syniad da o ffitrwydd a safon pawb yn y tîm.”

Pwy ydi Madison Genesis?

Mae tîm Madison yn cael ei adnabod fel un sy’n rhoi llwyfan i ddatblygu beicwyr talentog. Maen nhw’n disgwyl i’r tîm ymddwyn yn broffesiynol o ddydd i ddydd, ond dyw ennill ddim yn bob dim. Ac eto, mae angen iddyn nhw ennill rasys…

Mae Gruff Lewis yn cael ei adnabod fel beiciwr dawnus, ac mae wedi datblygu ers ymuno a thîm Madison i wisgo crys beiciwr gorau gwledydd Prydain yn y ‘Tour de Yorkshire’ a  gorffen yn seithfed yn GP Chorley.

Ond, targed y Cardi yw’r Gemau Gymanwlad yn  Awstralia 2018.

“Rwy’n teimlo’n gryf, ac fe fyddai gwisgo crys Cymru yn y Gemau yn cyflawni fy uchelgais,” meddai.

Mae Gruff Lewis yn enwi Bwlch y Groes ger Dinas Mawddwy fel un o’r elltydd caletaf i’w dringo yn y byd. A’i hoff le i seiclo? Mynyddoedd y Pyrenees.