Is-gadeirydd clwb criced Morgannwg yw’r diweddara’ i adael y sir ac mae’n bwriadu mynd â’i nawdd ariannol gydag ef.

Neithiwr, roedd Nigel Roberts, wedi ceisio troi’r drol ar Gadeirydd y clwb ar ôl cyfres o benderfyniadau dadleuol, ond fe aeth y bleidlais yn ei erbyn.

Mae’r cyfan yn codi o weithredoedd y Cadeirydd, Paul Russell, yn disodli Cyfarwyddwr Criced a Chapten y sir, Matthew Maynard a James Dalrymple.

Mewn cyfarfod o bwyllgor Morgannwg, fe fethodd perchennog cwmni adeiladu Paramount gyda chynllun i ddisodli’r Cadeirydd a dod â Maynard yn ôl i hyfforddi’r tîm cynta’ a Dalrymple yn ôl yn chwaraewr.

Ymddiswyddo

O ganlyniad, mae wedi ymddiswyddo ac mae’n dweud y bydd yn chwilio am ffyrdd o ddod â nawdd Paramount i ben ar unwaith – a nhw yw prif noddwyr y sir.

Mae’n flin oherwydd bod penderfyniadau wedi’u gwneud heb ymgynghori gydag ef na gweddill y pwyllgor.

Heddiw, fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi ystyried ymddiswyddo wythnosau’n ôl ond ei fod eisiau rhoi cyfle arall i’r sir. Roedd hefyd yn honni bod Paul Russell ar un adeg yn cefnogi ei gynllun.

Roedd Maynard, Dalrymple a Llywydd y clwb, Peter Walker, i gyd wedi ymddiswyddo cyn hyn.

Llun: Stadiwm Swalec, cartref Morgannwg