Tagodd drymiwr y Stereophonics, Stuart Cable, ar ei gyfog ei hun ar ddiwedd sesiwn yfed tri diwrnod, clywodd cwest i’w farwolaeth heddiw.

Penderfynodd y cwest yn Aberdâr ei fod o wedi marw drwy ddamwain. Datgelwyd bod y cerddor poblogaidd wedi yfed ei hun i farwolaeth.

Roedd gan Stuart Cable, 40 oed, gymaint o alcohol yn ei waed nes ei fod o’n wenwynig.

Roedd wedi bwyta pryd parod Chineaidd adref ar ôl sesiwn yfed trwm yn ei dafarn lleol ar 6 Mehefin eleni.

Parhaodd i yfed am gyfnod wedyn ac fe gafodd ei adael yn cysgu i lawr grisiau, ar y carped, gan ei bartner a ffrind pan aethon nhw i’r gwely.

Daethpwyd o hyd iddo ar lawr ei dŷ yn Llwydcoed, Aberdâr, yn oriau man y bore canlynol.

Rhedodd ei bartner, Rachel Jones, 33 oed, oedd wedi codi, tua 5.30am, i weld a oedd yn iawn allan i’r stryd yn ei gwn nos.

Drwy gyd ddigwyddiad y person cyntaf i stopio ei gar iddi oedd cefnder y drymiwr, Aaron Cable, oedd ar ei ffordd i’r gwaith yn Sir Benfro.

Fe aeth i mewn i’r tŷ a dweud wrth ei gefnder: “Dere mlan Stu, deffra, Aaron sydd yma”.

“Gwthiodd ef ar ei gefn, golchi’r cyfog o’i geg a dechrau ceisio ei adfywio,” meddai’r Ditectif Richie Jones oedd yn rhoi tystiolaeth yn y cwest.

Galwodd Aaron Cable am ambiwlans ond doedd y parafeddygon ddim yn gallu adfywio’r drymiwr chwaith.

Ac yntau’n un o aelodau gwreiddiol y Stereophonics yn 1992, roedd Stuart Cable wedi datblygu gyrfa radio a theledu ers iddo adael y band.

Yn anterth ei yrfa – â’i ddefnydd o ddiod a chyffuriau – roedd wedi dweud nad oedd yn disgwyl gweld ei ddeugain. Fe fu farw ychydig fisoedd ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed.