Cyn Aelod Seneddol Ceredigion, Simon Thomas, sydd wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru fel eu prif ymgeisydd dros ranbarth y Canolbarth a’r Gorllewin yn etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.

Fe olynodd Cynog Dafis fel Aelod Seneddol dros Geredigion yn 2000, cyn colli’r sedd o drwch blewyn i Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005. Ers 2007 mae wedi bod yn ymgynghorydd gwleidyddol i aelodau cabinet Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Fe fydd yr unig Aelod Cynulliad sydd gan Blaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin ar hyn o bryd, Nerys Evans, yn sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn yr etholiad. O dan y system etholiadol, fe all gobeithion Simon Thomas ar y rhestr ddibynnu I raddau helaeth ar fethiant Nerys Evans i gipio’r sedd etholaeth.