Bu farw’r Prifardd Iwan Llwyd o achosion naturiol, yn ôl cwest a gynhaliwyd yng Nghaernarfon brynhawn heddiw.

Wrth gofnodi dedfryd o farwolaeth naturiol yn achos y bardd 52 oed a ganfuwyd yn farw yn ei fflat ym Mangor ar Fai 28 eleni, nododd crwner Gogledd-Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, bod Iwan Llwyd wedi diodde’ gwaedlif o ganlyniad i friw yn ei stumog.

Roedd canlyniadau post mortem hefyd yn dangos fod niwed wedi ei wneud i’w iau o ganlyniad i yfed alcohol, roedd alcohol yn ei waed a gwaed yn ei stumog, ac mae’n debyg fod Iwan Llwyd wedi marw ers nifer o ddyddiau cyn i ffrind ddod o hyd iddo yn 46 Glanrafon, Bangor, dri mis yn ôl.

Yn ôl y crwner, gallai’r briw yn y stumog fod yn gysylltiedig ag yfed trwm, ond doedd dim modd profi hynny. Nododd y meddyg a archwiliodd y corff, bod modd i waedlif achosi marwolaeth sydyn, ddirybudd.