“Cadwch gasineb allan o’r Senedd” – dyna yw galwad grŵp o ymgyrchwyr trawsrywiol sydd wrthi’n cynnal protest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r protestwyr dan yr argraff bod yr Aelod Cynulliad, Helen Mary Jones, yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn yr adeilad, ac felly wedi penderfynu gwrthdystio tu allan iddo.

Mae Helen Mary Jones wedi denu beirniadaeth yn y gorffennol am ei safiad ar y mater, ond mae’r ffigwr wedi mynnu nad yw’n drawsffobig.

Mi ddaeth yn Aelod Cynulliad wythnos yn union yn ôl, yn dilyn ymadawiad Simon Thomas – dyn sydd bellach yn wynebu ymchwiliad heddlu i gyhuddiadau yn ei erbyn.

“Gwrthdystio”

“Rydym yma yn gwrthdystio’r ffaith bod Helen Mary Jones bellach yn Aelod Cynulliad,” meddai Jennifer Charles, o Gynghrair Cydraddoldeb Cymru, wrth golwg360.

“Mae hi’n athrodi pobol drawsrywiol a’n lledaenu gwybodaeth ffug amdanom. Ni fyddai unrhyw groeso yn y Senedd i rywun sydd yn annog casineb hiliol.

“Felly pam croesawu rhywun sy’n annog casineb yn erbyn y gymuned LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol).”

Mae Jennifer Charles yn ategu bod y grŵp am gwrdd â Helen Mary Jones pan fydd hi’n gadael yr adeilad. Bydd y pencampwr byd-eang, Geraint Thomas, yn ymweld â’r Senedd yn ddiweddarach.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.